Neidio i'r cynnwys

Beirdd y Berwyn 1700-1750/Rhagymadrodd

Oddi ar Wicidestun
Beirdd y Berwyn 1700-1750 Beirdd y Berwyn 1700-1750


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Cynhwysiad


Rhagymadrodd.

LLENORION Cymru nid oes odid gyfnod mor dywyll a hanner cyntaf y ganrif cyn y ddiweddaf. Pa feirdd oedd yn canu rhwng Huw Morus a Goronwy Owen? Beth genid rhwng carol olaf Huw Morus, tua 1700, ac emynnau cyntaf Williams Pant y Celyn, tua 1750? Nid ydys i ddisgwyl dim arwrol iawn mewn barddoniaeth, oherwydd cyfnod o orffwys rhwng dau chwyldroad ar fywyd oedd. Yr oedd llanw'r chwyldroad Puritanaidd wedi treio, yr oedd llanw'r Diwygiad Methodistaidd heb ddechreu dod i mewn. Adeg dawel ddigynnwrf oedd, adeg distyll y don. Eto, pan oedd ton awen fel pe'n farw ar y traeth, heb wybod pa un ai ymlaen ai yn ol yr ai, y mae adlais yn y distawrwydd ei hun,—adlais hiraethlawn am y bywyd a fu; adlais proffwydol am llanw oedd i ddod.

Meddyliais mai derbyniol fyddai cyfrolau i ddangos am beth y cenid yng ngwahanol rannau Cymru yn ystod y cyfnod hwn. Daw cyfrol o waith beirdd Arfon, beirdd Mon, beirdd Hiraethog, beirdd Ceredigion, beirdd Dyffryn Tywi, beirdd Dyfed, beirdd Morgannwg, ac eraill. I ddechreu wele waith beirdd y Berwyn, beirdd y wlad o fynyddoedd meithion unig rhwng Dyfrdwy a Hafren, y rhai y saif y Bala, Llanfyllin, Llanrhaiadr, Rhiwabon, Llangollen a Chorwen ar eu hymylon. Ceir yn y beirdd hyn lawer adlais of Huw Morus, ac ambell linell i'n hadgofio mai yr un mynyddoedd oedd i adseinio cân Ann Griffiths, Huw Derfel, a Cheiriog.

Feallai nad wyf yn feirniad digon anibynnol ar y caneuon hyn. Clywais eu canu, gan hen Gymry glân sydd erbyn hyn ym mro distawrwydd, gyda'r pethau cyntaf wyf yn gofio. Y maent yn diflannu o gof y genhedlaeth hon, y mae'r ysgrifau yn melynu'n llwch yn anghof hen gist mewn aml gartref,—ond wele lais iddynt unwaith eto.

O leiaf, danghosant am beth yr oedd Cymru, —neu odrau'r Berwyn beth bynnag,—yn meddwl yn ystod hanner canrif o orffwys ac o barotoad. Y carol Nadolig, y gân serch, y gân hela, cân yr ofer a'r edifeiriol, cân am auaf caled a haf hoff, —dywedant wrthym am gartrefi gynt, ac nid wyf yn sicr na chymer llawer meddwl gwylaidd hwy'n gymdeithion pur a thirion eto. Y mae'r wlad lle y cenid hwy gynt wedi newid llawer ers tair cenhedlaeth neu bedair. Byddaf yn crwydro dros fryniau unig y Berwyn, ac y maent yn dod yn fwy unig o yd, y fawnog yn segur ar yr ochr, y pabwyr yn cael heddwch yn y gors, noddfa'r bugail yn ddiddefnydd, yr hafoty'n adfeilio yng nghysgod ynn ac ysgaw. Y mae'r bobl wedi symud i'r gweithydd prysur, ac wedi troi cefn ar yr aradr, y rhaw fawn, y bladur, a'r ffust. Ond meiddiaf anfon y caneuon hyn, fu'n diddanu yr hen gartrefi gwledig, ar ol y crwydriaid, gan ddisgwyl y cânt hwy a'u plant yn eu hodlau rywfaint o swyn yr hen amseroedd tawel pell.

Mae'r caneuon oll ond dwy wedi eu codi o lawysgrif hŷn na 1750. Gwelir fod llafar gwlad a gramadeg yn ymryson â'u gilydd ynddynt.

Dymunaf ddiolch yn gynnes am gynhorthwy i Myrddin Fardd, Chwilog; J. Gwenogfryn Evans, M.A., D. Lit., Rhydychen; Miss Davies, Pant, Llan ym Mawddwy; William Jones, y Tanhouse, Llanfyllin; R. H. Evans Arosfa, Llanrhaiadr ym Mochnant; William Davies, Aber Rhiwlech, Llan ym Mawddwy; Prif Lyfrgellydd Llyfrgell Rydd Abertawe; a Glan Cymerig, y Bala.

OWEN M. EDWARDS.

Llanuwchllyn, Rhagfyr 25, 1902.

"Pan fo rhyfel yn y byd,
Godrau Berwyn gwyn eu byd."
HEN DDYWEDIAD.

Nodiadau

[golygu]