Beirdd y Berwyn 1700-1750/Susan Evan
| ← Carol Haf 1724 | Beirdd y Berwyn 1700-1750 golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Gofyn Hugan → |
SUSAN EVAN.
Tôn—IECHYD O GYLCH."
HYD atoch, da i rhyw,
Sy gain S ag U,
Gore benyw, a gara i beunydd,
S ag A ag N,
Gynnes walches wen,
Hardd wenithen haelwen hylwydd,
E ag U drachefen
Yw henw'r fanwl feinwen,
A ag N, winwydden weddol,
Derbyniwch hyn, lloer burlan,
I'ch cofio, fwyngu feingan,
Cywir degan caredigol.
Mae'ch hardd lendid chwi
Yn awr o'm blaen i,
Fel goleuni 'r haul olwynog;
Ne ail i'r Fenws wen
Yn ddrych uwch y mhen,
Hoew-wen dwysen, ar hin desog;
A'ch peredd lais caredig
Fel nefol foesol fiwsig
Ne gloch ystig yn y nghlustie;
Fel diddan organ eurgerdd,
O lusgiad mwyn melodedd,
Ne ryw bencerdd cywrain byncie.
Mae'ch glân wisgiad hardd
Fel gwyn flode gardd,
Y fun ddianardd, fwyn ddaioni,
A'ch dau lygad líon
A wna friw i'r fron
A fo yn awchus ffyddlon ichwi;
A minne'n 'nynnu o gariad
Wrth weld ych glân bortreiad
Fwyn olygiad, fenyw liwgar,
'Rwy'n meddwl ffordd y rhodies
Na weles mo'ch cydmares,
Waredd ddiwies, ar y ddaear.
Y dydd y cefes i
Weld ych gwawr chwi
Yn gu landeg bwysi glendid,
Fe ddaeth cariad pur
Fel saeth o ddur
Yn chwerw i'm plagio â chur o'ch plegid;
A chwedi cael drwy burder
Wrando peth o'ch mwynder,
'Roedd ych geirie per yn peri
I'm fagu cur anesmwyth,
O'ch herwydd, dwysen lawnffrwyth,
Uchel adwyth, a chaledi.
Ych glendid chwi a wnaeth.
Mewn merthyr cur caeth
A mwya aleth imi oedd weled
Ych pryd, main i hael,
Heb fod, bun ddi-wael,
Mo'r gobeth imi ych cael, wych gowled;
Nid all y doeth bysygwr,
Er daed yw i synwyr,
I mendio nolur wneyd un eli;
Dydi ydi'r meddyg gore,
Dydi ydi'r seren ole,
Hwyr a bore sy yn peri.
Chwiliwch chwi 'ch bron,
Y phisig sydd yn hon,
I esmwytho ar boene 'nwyfron beunydd;
Ffrwyth cariad clau
All fy esmwythau
Gyda dagre o garedigrwydd;
A gochel dithe wrando
Rhai ffeilsion sydd i'th rwystro
I gywiro ffyddlon gariad,
Rhai sydd a meddwl diffeth,
Ni ron i neb ganmolieth,
Mewn hyll farieth mae'i holl fwriad.
Dydi all, drwy hedd,
Fy rhwystro i'm bedd,
Er gwaetha i ffoledd o wagedd eger;
Os byddi di yn glau,
A Duw yn caniatau
Ni allwn fynd yn dau drwy fwynder;
Ymglymu drwy ffyddlondeb
I fyw mewn mwyn diriondeb,
Dan wyneb da lawenydd;
Ac yno cawn ni'n ffyddlon
Drwy 'wyllys Duw a'i foddion
Fyw 'n un galon efo 'n gilydd.
—ELLIS CADWALADER.