Beirdd y Berwyn 1700-1750/Y Ddwy Ffordd Hynod
| ← Gwrandewch fy mryd | Beirdd y Berwyn 1700-1750 golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Dydd y Farn → |
Y DDWY FFORDD HYNOD.
Tôn—Y GALON DROM."
POB cowir un sy'n caru i enaid,
Yr hyn sydd orchwyl llwyr angenrhaid,
Arhoed i wrando ar diriondeb,
Bur iaith union, heb wrthwyneb;
Y rhai diwyd a wrandawant,
Mor 'wyllysgar, heini, glaiar, hyn a glowant;
Ond nef ac uffern, barn ac ange,
Nid yw er hynny yn meddalu mo'n meddylie.
Mae y rhain bedwar peth rhyfeddol
O byncie'r grefydd Gristionogol,
Pethe di-newidiol ydynt,
A Gair Duw yn gwirio am danynt;
I dri o'r rhain drwy wewyr hynod,
Yr a bydol a'r dirasol du ar isod,
Iddi hefyd yn dra hyfion.
Drwy wir heddwch yr a, cofiwch, y rhai cyfion.
Ange a barn sy i'r aniwolion,
Hefyd hyn a gaiff y cyfion,
Ond i'r nef nid a'r anufudd,
A'r da i gwestiwn na'r di-gystudd;
Y dyn drwg i'r tân tragwyddol,
A'r da i grefydd a ledia'n ufudd i wlad nefol;
Ac am y ddau fath hyn yn bendant
Deuda i'r moddion, medd y doethion, yr ymdeithiant.
Taith pechodau sydd ychydig,
Yn fer gas, yn frau ac ysig,
Munud awr o bleser cnawdol,
A chwedi hynny yfory 'n farwol;
Duw, mor yngwrth y daw'r ange,
Brenin ydi, yn dechre nodi dychryniade;
Y dyn a'i gwelo heb dynnu i golyn,
Ni bydd i hwnnw obeth darfod na byth derfyn.
Cynta peth a wneiff yr ange,
Fo dry'r afradlon draw i'r frawdle,
I dderbyn barn yn ol i weithred.
Ac och i lawer, gwae fi i chlywed,—
"Dos oddiwrthyf i, aniwiol,
I'r tân fflamie draw, a godde yn dragwyddol."
Y rhain yw geirie Crist, mae'n eglur,
Gwae i'r dyn hwnnw pan glywo'i fwrw, garw yw'r gwewyr.
Uffern fydd i le fo'n drydydd,
Gerwin ofid, gwae'r anufudd,
Yr hwn sydd lyn o dân a brwmstan,
A da henwodd Duw fo'i hunan;
Crist a'i geilw fel hynyma,
Geirie gerwin, nod hyll a chethin, "t'wyllwch eitha";
Ac eto i'w alw 'n henw hynod,
Llyn o dân dyfnfaith, medd Duw eilwaith, a diwaelod.
Nid ydi rhain ond rhai o'r henwe,
I ddeall pen ne ddull y poene;
Gan i ddyfned, gwae nid ofniff,
A gwae Ddeifas a'i goddefiff;
Chwi welwch ddiwedd y dyn ofer,
A'r damnedig, a'i fâr blysig am fyr bleser;
Eto deuwn at y diwiol,
Ar fyr eirie i ystyrio'r grisie grasol.
Mae Duw yn addo estyn dyddie
Y dyn a gadwo i ddiddan ddeddfe,
Ac eilweth mae Sant Pol yn galw
I farwolaeth yn fawr elw;
Ni bydd ange i hwn yn ddychryn,
Ond llawen gennad o'i ddisgwyliad a'i ddwys golyn.
Duw a'i gyrrodd e'n deg ara
I nol anwylyd i'r newyddfyd o wir noddfa.
Pan ddêl i wyneb pur i ympirio,
Crist fel hyn a ddywed wrtho,—
"Fendigedig blentyn graslon,
Dosi dario i'r deyrnas dirion."
Ni chlybu clust, ni welodd llyged,
Nid aeth i'r galon, dda naws dirion, ddyn i'w ystyried,
Y fath hyfrydwch heb dranc arno,
Sydd yn y deyrnas, wir aur addas, a roir iddo.
Dyna gyfle bur, i'w aros,
Ond gair Duw yw'r gore 'n dangos
Am ddwy ffordd, dau fath ar bobol,
A'i diweddiad yn dueddol;
Os wyt ti ddyn, gan hynny ystyria
Y ddwy ffordd hynod sydd dros amod Duw â'r oes yma;
Einioes ger dy fron, ac ange,
Yn wahanol, da was dethol, dewis dithe.
Na ato Dduw i ti na minne
Yn ddwys yngwrth ddewis ange,
Dewis uffern yn lle'r nefoedd,
Nid eill a'i gwnelo obeithio bythoedd;
Dyma'r geirie, mae'n debygol,
Ar oer galon sy ar warth dynion anghrediniol,—
Cynhygiwyd inni y nefoedd uchod,
Gwae ni am hynny, i diystyrru, i gwerthu, a'i gwrthod."
Gwerthu y nefoedd fendigedig,
A phwy a'i gwnae, fel Esau flysig?
A phwy ni ymry i drechu i drachwant
Er cael nefol fuddiol feddiant?
A phwy ond ynfyd na ddewise
Wasneuthu'n fynych i ddewr lanwych Dduw ar linie?
A phwy adawe i'r byd i hudo,
Na'r cnawd aflan gida Satan i'w dywys eto?
Duw a'n gwnelo ni 'n synhwyrol,
Gida Mair i gyd-ymorol
Am ran na ddygir byth oddiarnom,
Mawr yw hyn er marw ohonom;
Arglwydd, tywallt i'n calonne,
Bob un beunydd, fwyfwy dedwydd fyfyrdode;
A Duw frenin y brenhinoedd,
Dwg ni i fyny i fynwes Iesu i fyw'n oes oesoedd.
—MORUS ROBERTS a'i cant.
