Beirdd y Berwyn 1700-1750/Ymbil Serchog
| ← Cynhwysiad | Beirdd y Berwyn 1700-1750 golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Gwrandewch fy mryd → |
BEIRDD Y BERWYN.
YMBIL SERCHOG.
Tôn—"CONSYMSIWN."
WAWR hoew-wedd loew-wedd liw,
Hoff reiol deg i ffriw,
Dy gofio di ai gwiw
I ddyn sy a'i friw'n i fron?
"Fy nghofio i a gewch chwi'n rhad,
Os hynny wnai leshad,
Pa beth yw 'ch briw a'ch brad,
I gael gwellhad yn llon?"
Tydi a'm bwriodd i, dyna'r braw,
Ganwyll gwyredd, luniedd law,
Fun dda drwsiad oddi draw,
'Rwy'n druan iawn fy ngwedd.
Gyrru mab a geirie'n awr
Yn glafa un i glwy fo fawr!
Nid eill fy ngwedd, na dull fy ngwawr,
Mo'ch bwrw i lawr i'ch bedd."
Ti a'm bwri i ffwrdd o'r byd,
Lliw eira brafia o bryd,
Fy ngwaith i'n celu cy'd
Fy mhennyd aeth a'm hoes.
"Er clywed mwy na rhi
Och trwm achwynion chwi,
Difater ydwyf fi
Y byddwch lysdi o'ch loes."
Hawdd i'r iach gynghori'r cla,
Er maint i boen, i ddiodde'n dda,
A dweyd, er blined fo i bla,
Mai mendio a wna'n y man.
"Pe'd faech chwi'n gla, caech gen i gwyn,
Mi a'ch gwela'n sionca a dewra ar dwyn,
A'ch corff yn iachus foddus fwyn
I rodio llwyn a llan."
'Rwy'n 'mddangos felly'n d'wydd,
Fy mod i'n llon mewn llwydd,
Rhag son o rai di-swydd
A marcio'n rhwydd ar hyn.
"Chwi gawsoch esgus dda,
Eich coelio'n wir ni wna,
Mae'ch gair mor oer a'r ia,
Ne gaenen o eira gwyn."
Ti goeli, meinir, yn y man,
Fy mod i 'n diodde cur, lliw'r can,
A phan ddelo cry a gwan
I'm rhoi 'n y llan yn llu.
"Prudd yw gweled priddo gŵr
Ifanc mwyn a sytha yn siwr,
Mi wylaf finne ddagre o ddwr
Ar ol y carwr cu."
Fy llygaid i sy'n llawn,
Llwyr goelia hyn, lliw'r gwawn,
Diystyrwch sydd dost iawn,
O Dduw, na bawn o'r byd.
"Diystyr nid wyf fi,
Na choeglyd, wrthych chwi,
Rhoi ymadel ffarwel ffri
I chwi mewn bri mae'n bryd."
Ni chanai ffarwel iti, clyw,
Mwyna meinwen, yn fy myw,
Nychu 'r wy, bun wych o ryw,
Angyles yw fy nghwyn.
"Ymrowch i ddiodde hyd eitha'r nod,
Dan eich clwy, fel dyna'ch clod,
Ac oni fendiwch cyn troi'r rhod,
Mi brifia i fod yn fwyn."
Ych mwynder, llawnder lles,
I flysio'n wir a wnes,
Er hyn nid ydw i nes
Na chawn a geres gynt.
Cymerwch galon gre,
A threiwch lan a thre,
Mae dynes dan y ne
I chwithe 'n rhywle ar hynt."
Nid oes yr un eill help i mi,
Netia dynes, ond tydi,
Ti ellesit help i 'nghalon i
Cyn iddi dorri ar dir.
"Cyn torri ffyddlon galon gu,
Mae'n rhaid bod cur a dolur du,
A phoen ar rywun, a phwy na ymry
Pan welo hynny'n hir?"
Ffarwel, nid ydw i ond un,
Gwawr hoew-wedd loew-wedd lun,
Oes dim am einioes dyn
Os daw ymofyn mwy?
"Ni ddichon, moddion maith,
Y lana, yr hoewa 'i hiaith,
Fyrhau mo'ch dyddie a'ch taith,
Na'i hestyn chwaith yn hwy."
Dweyd fy nghwynion heb fod nes,
Hoew gennad, hynny a ges,
Yn llwyr i ti, lliw eira a'r tes,
Bun gynnes deg i gwên;
I mi yn y man mewn llan mae lle,
Yn rhwydd iawn gri rho 'ngweddi gre
Yn daer yn wir ar un Duw'r ne,
I ti rwy'n madde.Amen.
MORUS ROBERTS[1] a'i cant.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Y mae Morris ab Rhobert yn un o feirdd a meddylwyr mwyaf dyddorol y cyfnod hwn. Y mae'n ddolen gydiol rhwng y Diwygiad Puritanaidd a'r Diwygiad Methodistaidd. Cafodd ei feddyliau gan Buritaniaid rhan gyntaf yr ail ganrif ar bymtheg, daethant wedyn yn gynhyrhad ac yn gysur i weithwyr cynharaf y Diwygiad Cymreig.Bu farw yn 1723. Saer oedd wrth ei grefft; ac y mae awrlais celfydd o'i waith eto 'n mynd ym Mhant Saer, Llanuwchllyn, cartref rhai o'i ddisgynyddion. Yn yr un lle mae Beibl Dr. Parry y dywedir iddo fod yn eiddo iddo ef.Ysgrifennodd lyfr gweddol helaeth, sef "Cyngor i'r Cymry." Cyhoeddwyd y llyfr yn 1793. yn Nhrefecca, gan William Thomas, gweinidog yr Anibynwyr yn y Bala, trwy gydsyniad fy mrodyr yr Ymneillduwyr a'r Methodistiaid." "Уг oedd yr awdwr yn byw yn y Bala," ebe W. Thomas, "ac mewn amser blin, cyn i'r diwygiad diweddaf dorri allan yn Nghymru; efe a ddioddefodd lawer o ddirmyg er mwyn Crist, a hir gystudd corph cyn ei farwolaeth; ac yn y dyddiau hynny yr ysgrifennodd ef y traethawd canlynol; eithr ei gopi cyntaf o hono a dorrwyd yn ddrylliau gan gyfreithiwr oedd yn byw yn y dre, fel y gorfu arno ei ail ysgrifennu, ac yntau yn nesau i angeu. Ei ddiben pennaf yn ysgrifennu ydoedd i gynghori ei blant i ymofyn am iechydwriaeth i'w heneidiau, ac i amcanu bod yn fendith i'w gydwladwyr ar ol ei farwolaeth."Flynyddoedd wedi hynny, priododd un o'i blant, sef Margaret Morris, John Evans o'r Bala.Mae peth o waith prydyddol Morris ab Rhobert wedi ei gyhoeddi, ar ddiwedd! "Cyngor i'r Cymry," ac yn y "Blodeugerdd." Argraffwyd ei Gywydd Llyn Tegid, yn cyfflybu tonne'r llyn i dragwyddoldeb" yn 1748 ac yn 1770.