Beirdd y Berwyn 1700-1750/Ymwared y Cymro
| ← Mawl goruchel | Beirdd y Berwyn 1700-1750 golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Gogoniant i'n Prynwr → |
YMWARED Y CYMRO.
Tôn—NEITHIWR AC ECHINOS."
BRENIN nef a daear hefyd,
Pur i allu, y pia'r hollfyd,
Sy'n rheoli pob creadur
Mewn doethineb wrth i natur;
Creawdwr, byd ni wnaed hebddo,
Ac nid oes dim yn ddiarth iddo;
Iawn eto iddo ordeinio i rai anwyl
Yn angylion a dynion drwy ordeiniad.
Dŵr, a thir, a haul, a lleuad,
Wrth drefniad i archiad a'i orchwyl.
A ninne yden bechaduried.
Rhywyr y gwelwn, rhy war-galed;
O eisie gwneuthur i orchmynion,
A chyd-gofio i archiad cyfion,
Fo roes arnom gosbedigeth
Fel tad yn cosbi i blant anhoweth;
Mae lle inni o dystiolaeth dost wylo
Yn bod tan law rheolwr creulon,
Ac yn bleser i'n gelynion,
Mae y rhwyme blin tostion yn tystio.
Fo ddarfu i Israel ddigio'r Arglwydd,
A hynny a'u taflodd nhw i bwynt aflwydd,

Ac yno bydd llancie 'n yn gweld ni o bell." Tud. 52.
Yn rhwym dan ddwylo'r Babilonied,
Nes cael gan 'r Arglwydd ail ymwared;
Ac felly ninne dan ddwylo 'r Saeson,
Ac er bod mewn tristwch creulon
Pen fynno 'r Tad cyfion fe'n cofia,
Y fo a'n gwnaiff ni eto 'n rhyddion,
Y fo iacheiff y cleisie trymion,
Er cael dan law estron drahaustra.
Nid oes inni, er maint yw'n gwradwydd,
Ond rhoi'n hyder ar yr Arglwydd ;
Er bod rhydit dyn gwenwynig,
Traws a chadarn, tros ychydig,
Crist a ddichon drefnu eto
Inni frenin gwych o Gymro
I 'smwytho ar yn heiddo mewn heddwch;
Amen, amen, bid gwir y geirie,
Ni wyr neb ond Crist a'i wyrthie,
Pa bryd y daw dyddie dedwyddwch.
—ELLIS CADWALADR.