Bil y Gymraeg ac Addysg/Rhan 1
| ← Bil y Gymraeg ac Addysg | Bil y Gymraeg ac Addysg gan Senedd Cymru |
Rhan 2 → |
Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)
[FEL Y'I PASIWYD]
Deddf gan Senedd Cymru i hybu a hwyluso defnyddo'r Gymraeg, gan gynnwys drwy bennu targed i gynyddu nifer y siaradwyr i 1 miliwn, o leiaf, erbyn 2050, drwy osod lefelau cyfeirio cyffredin i ddisgrifio gallu, drwy ddarparu ar gyfer fframwaith cenedlaethol a chynlluniau strategol lleol ar gyfer gwella addysg Gymraeg, drwy gyflwyno system o gategoreiddio'r addysg Gymraeg a ddarperir gan ysgolion, drwy bennu nodau dysgu Cymraeg i ysgolion anelu atynt drwy gynlluniau cyflawni addysg Gymraeg, a thrwy sefydlu Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol fel corff statudol i gefnogi dysgu Cymraeg gydol oes.
Gan ei fod wedi ei basio gan Senedd Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Fawrhydi, deddfir fel a ganlyn:
RHAN 1
HYBU A HWYLUSO DEFNYDD O'R GYMRAEG
1Targedau strategaeth y Gymraeg: o leiaf miliwn o siaradwyr a chynnydd mewn defnydd
(1) Rhaid i'r strategaeth ar hybu a hwyluso defnydd o'r Gymraeg a fabwysiedir gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) ("strategaeth y Gymraeg")—
(a) cynnwys y targed o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg sydd yng Nghymru i 1 miliwn, o leiaf, erbyn 2050;
(b) pennu targedau ar gyfer cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yng Nghymru, gan gynnwys—
(i) defnydd yn y gweithle; (ii) defnydd yn gymdeithasol;
(c) pennu targedau ar gyfer addysgu'r Gymraeg ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys mewn perthynas ag—
(i) cynyddu nifer y disgyblion o oedran ysgol gorfodol sy'n cael addysg mewn ysgolion categori "Prif Iaith – Cymraeg";
(ii) cynyddu nifer yr ysgolion categori "Prif Iaith - Cymraeg";
(iii) cynyddu swm yr addysg Gymraeg a ddarperir mewn ysgolion categori "Dwy Iaith" a chategori "Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg";
(d) pennu targedau ar gyfer cynyddu nifer y bobl sy'n dysgu Cymraeg;
(e) cynnwys y camau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd i annog trosglwyddo'r Gymraeg—
(i) yn y cartref,
(ii) rhwng y cenedlaethau, a
(iii) yn y gymuned;
(f) cynnwys y camau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd i annog cynnydd mewn defnydd digidol o'r Gymraeg;
(g) pennu meini prawf i fesur y cynnydd sy'n angenrheidiol i gyflawni'r targedau.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adran (1) (c) er mwyn diwygio'r targedau y mae'n ofynnol i'r strategaeth eu pennu, ychwanegu targedau neu eu dileu.
(3) Wrth nodi eu cynigion ar gyfer hybu'r Gymraeg a hwyluso'r defnydd ohoni yn strategaeth y Gymraeg yn unol ag adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried y targedau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(a) i (d).
(4) Rhaid i'r cynllun a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 78(9) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 gynnwys disgrifiad o'r camau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd er mwyn cyfrannu at gyflawni'r targedau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(a) a (b) (a gweler Rhan 4 mewn cysylltiad â'r targedau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(c) a (d)).
(5) Yn adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006—
(a) yn is-adran (1), yn lle "("the Welsh language strategy")", mewnosoder "to be known as "the Welsh language strategy" or "strategaeth y Gymraeg"";
(b) ar ôl is-adran (1), mewnosoder—
"(1A) See Part 1 of the Welsh Language and Education (Wales) Act 2025 (asc []) (referred to in Welsh as Deddf y Gymraeg ac Addysg (cymru) 2025 (dsc [])) for further requirements relating to the Welsh language strategy.";
(c) yn is-adran (5), yn lle "consult such" rhodder "consult the Welsh Language Commissioner and such other";
(d) ar ôl is-adran (10) mewnosoder—
"(11) In subsection (5), the reference to the "Welsh Language Commissioner" means the commissioner appointed under section 2 of the Welsh Language (Wales) Measure 2011 (nawm 1) (referred to in Welsh as Mesur y Gymraeg (cymru) 2011 (mccc 1))."
(6) Yn y Rhan hon—
(a) ystyr "addysg Gymraeg" yw—
(i) addysgu'r Gymraeg, a
(ii) addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg, mewn ysgol a gynhelir, yn ystod sesiynau ysgol, i ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol;
(b) mae cyfeiriadau at gategorïau ysgol "Prif Iaith—Cymraeg", "Dwy Iaith" a "Prif Iaith–Saesneg, rhannol Gymraeg" i'w darllen yn unol â Rhan 3.
2Adrodd ar y targedau yn strategaeth y Gymraeg
(1) O leiaf unwaith pob 5 mlynedd, rhaid i Weinidogion Cymru gynnwys yn yr adroddiad a gyhoeddir o dan adran 78(8) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ddadansoddiad o sefyllfa'r Gymraeg yng Nghymru gan gynnwys—
(a) asesiad o nifer, a chyfrifiad o ganran, y siaradwyr Cymraeg sydd yn ardal pob awdurdod lleol, gan gynnwys drwy gyfeiriad at eu hoedran;
(b) asesiad o nifer y disgyblion o oedran ysgol gorfodol yn ardal pob awdurdod lleol sy'n cael addysg mewn ysgolion categori "Prif Iaith – Cymraeg", a chyfrifiad o'r nifer hwnnw fel canran o'r disgyblion o oedran ysgol gorfodol sy'n cael addysg mewn ysgolion a gynhelir yn yr ardal;
(c) mewn perthynas ag ysgolion arbennig cymunedol—
(i) asesiad o nifer y disgyblion o oedran ysgol gorfodol yn ardal pob awdurdod lleol sy'n cael addysg mewn ysgolion arbennig cymunedol sy'n darparu swm o addysg Gymraeg sy'n cyfateb i'r swm o addysg Gymraeg a ddarperir gan ysgolion categori "Prif Iaith – Cymraeg", a
(ii) cyfrifiad o'r nifer hwnnw fel canran o'r disgyblion o oedran ysgol gorfodol sy'n cael addysg mewn ysgolion arbennig cymunedol yn yr ardal;
(d) asesiad o'r defnydd o'r Gymraeg yng Nghymru;
(e) asesiad o'r tebygolrwydd y bydd y targedau y cyfeirir atynt yn adran 1(1)(a) i (d) yn cael eu cyflawni drwy gyfeirio at y meini prawf a bennir gan y strategaeth;
(f) gwybodaeth am y newid, yn ystod y cyfnod ers yr asesiad blaenorol, yn nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg yn ardal pob awdurdod lleol.
(2) Os yw Gweinidogion Cymru yn dod i'r casgliad nad yw targed yn debygol o gael ei gyflawni, rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Senedd Cymru, a chyhoeddi, datganiad.
(3) Rhaid gosod a chyhoeddi'r datganiad cyn diwedd y cyfnod o 6 mis sy'n dechrau â'r dyddiad y gosodir yr adroddiad sy'n cynnwys y dadansoddiad y cyfeirir ato yn is-adran (1) gerbron Senedd Cymru (o dan adran 78(8) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006).
(4) Rhaid i'r datganiad—
(a) esbonio pam nad yw'r targed yn debygol o gael ei gyflawni, a
(b) nodi'r camau pellach y mae Gweinidogion Cymru wedi eu cymryd, neu'r camau y maent yn bwriadu eu cymryd, i gyflawni'r targed.
3Cyfrifo nifer y siaradwyr Cymraeg
(1) At ddibenion adrannau 1 a 2, mae nifer y siaradwyr Cymraeg i'w gyfrifo ar sail data a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, ond wrth gyfrifo nifer y siaradwyr rhaid ystyried unrhyw ddata perthnasol sy'n deillio o gyfrifiad a gynhelir yn unol â Deddf Cyfrifiad 1920 (p. 41).
(2) At ddibenion adrannau 1 a 2, mae pa un a yw person yn siaradwr Cymraeg i'w benderfynu—
(a) o ran personau sy'n 17 oed a throsodd, ar sail hunanasesiad;
(b) o ran plant sydd o dan 17 oed, ar sail hunanasesiad neu asesiad rhiant neu ofalwr y plentyn.
(3) O ran plant sydd o dan 17 oed, caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
(a) pennu dull o benderfynu pa un a yw person yn siaradwr Cymraeg at ddibenion adrannau 1 a 2, a
(b) pennu a yw'r dull hwnnw i'w ddefnyddio yn ogystal â'r asesiadau y cyfeirir atynt yn is-adran (2)(b) neu yn lle'r asesiadau hynny.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi canllawiau ar asesiadau o dan is-adran (2)(a) a (b).
(5) Wrth lunio canllawiau o dan is-adran (4), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i'r Cod a lunnir o dan adran 6.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y rhoddir ystyriaeth i'r canllawiau a gyhoeddir o dan is-adran (4)—
(a) wrth i'r data y cyfeirir atynt yn is-adran (1) gael eu casglu, a
(b) wrth i'r asesiadau y cyfeirir atynt yn is-adran (2)(a) a (b) gael eu cyflawni.
4Adolygu safonau'r Gymraeg
(1) Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu'r safonau a bennir o dan adran 26 o Fesur y Gymraeg (cymru) 2011 (mccc 1) gyda golwg ar benderfynu a oes angen diwygio—
(a) un neu ragor o'r safonau sy'n ymwneud â gwella neu asesu sgiliau'r gweithlu o ran y Gymraeg er mwyn—
(i) hwyluso cyflawni targed a bennir o dan y Rhan hon, neu
(ii) adlewyrchu'r Cod ar ddisgrifio gallu yn y Gymraeg a lunnir gan Weinidogion Cymru o dan adran 6;
(b) unneu ragoro safonauhybu'rGymraegermwynhwyluso cyflawni targeda bennir o dan y Rhan hon.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg yn rhan o'r adolygiad yn is-adran (1);
(b) cwblhau'r adolygiad o fewn y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau â'r diwrnod ar ôl cyhoeddi'r Cod o dan adran 7 am y tro cyntaf.