Neidio i'r cynnwys

Bil y Gymraeg ac Addysg (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Bil y Gymraeg ac Addysg (testun cyfansawdd)

gan Senedd Cymru

I'w darllen adran wrth adran gweler Bil y Gymraeg ac Addysg
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Bil y Gymraeg ac Addysg
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Cyfraith Cymru
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Senedd Cymru
ar Wicipedia

Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)


DOGFENNAU SY'N MYND GYDA'R BIL
Caiff Nodiadau Esboniadol a Memorandwm Esboniadol eu hargraffu ar wahân.


Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)
[FEL Y'I PASIWYD]

CYNNWYS

RHAN 1
HYBU A HWYLUSO DEFNYDD O'R GYMRAEG

1Targedau strategaeth y Gymraeg: o leiaf miliwn o siaradwyr a chynnydd mewn defnydd

2Adrodd ar y targedau yn strategaeth y Gymraeg

3Cyfrifo nifer y siaradwyr Cymraeg

4Adolygu safonau'r Gymraeg

RHAN 2

DISGRIFIO GALLU YN Y GYMRAEG

5Mathau o ddefnyddiwr Cymraeg a lefelau cyfeirio cyffredin

6Cod i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg

7Cyhoeddi ac adolygu'r Cod

RHAN 3
ADDYSG GYMRAEG
Cyflwyniad

8Trosolwg a dehongli

Categorïau iaith ysgolion

9Categorïau iaith ysgolion

10Isafswm o ddarpariaeth addysg Gymraeg ar gyfer pob categori iaith

11Y nodau dysgu Cymraeg ar gyfer pob categori iaith

12Asesu cynnydd tuag at gyflawni nodau dysgu Cymraeg

13Rheoliadau ar gategorïau iaith ysgolion

Cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg

14Cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg ysgolion

15Cymeradwyo cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg

16Adolygu a diwygio cynllun cyflawni addysg Gymraeg

17Diwygio cynllun cyflawni addysg Gymraeg er mwyn newid categori iaith ysgol

18Isafswm o addysg Gymraeg: esemptiad dros dro

GB/17/24

19Isafswm o addysg Gymraeg: esemptiad pellach

Ysgolion arbennig

20Ysgolion arbennig cymunedol: cynlluniau a dynodi categori iaith

Ysgolion meithrin a gynhelir

21Cynlluniau cyflawni addysg feithrin Gymraeg

Cofrestr

22Cofrestr categorïau iaith ysgolion

Addysg drochi hwyr

23Addysg drochi hwyr yn y Gymraeg


RHAN 4
CYNLLUNIO ADDYSG GYMRAEG A DYSGU CYMRAEG
Y Fframwaith Cenedlaethol

24Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg

25Y Fframwaith Cenedlaethol: darpariaeth bellach ar y gweithlu addysg

26Gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol

27Fframwaith Cenedlaethol: darpariaeth bellach am gynnwys, adolygu a diwygio

28Ymgynghori a chyhoeddi’r Fframwaith Cenedlaethol

29Adrodd ar y Fframwaith Cenedlaethol

Cynlluniau lleol

30Cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg

31Cyfnod cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg

32Cymeradwyo cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg

33Cyhoeddi a gweithredu cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg

34Adolygu a diwygio cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg

35Rheoliadau

36Diwygio Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

Cyffredinol

37Dehongli

RHAN 5
YR ATHROFA DYSGU CYMRAEG GENEDLAETHOL

38Yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Amcan a swyddogaethau’r Athrofa Dysgu Cymraeg


39Hwyluso a chefnogi dysgu Cymraeg gydol oes

40Swyddogaethau ychwanegol

41Hybu cyfle cyfartal

42Hybu arloesedd a gwelliant parhaus

43Hybu cydlafurio mewn perthynas â dysgu Cymraeg

44Hybu cydlynu mewn perthynas â dysgu Cymraeg

45Cymhwyso safonau’r Gymraeg

Cyffredinol

46Cynllun strategol

47Adroddiad blynyddol

RHAN 6
CYFFREDINOL

48Cyfarwyddydau a chanllawiau

49Diddymu darpariaethau yn Neddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

50Y Deddfau Addysg

51Dehongli

52Cyhoeddi

53Anfon dogfennau

54Rheoliadau o dan y Ddeddf hon

55Darpariaeth ganlyniadol a darpariaeth drosiannol etc.

56Dod i rym

57Enw byr

Atodlen 1 - Mathau o Ddefnyddiwr Cymraeg a Lefelau Cyfeirio Cyffredin

Atodlen 2 - Yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)
[FEL Y'I PASIWYD]

Deddf gan Senedd Cymru i hybu a hwyluso defnyddo'r Gymraeg, gan gynnwys drwy bennu targed i gynyddu nifer y siaradwyr i 1 miliwn, o leiaf, erbyn 2050, drwy osod lefelau cyfeirio cyffredin i ddisgrifio gallu, drwy ddarparu ar gyfer fframwaith cenedlaethol a chynlluniau strategol lleol ar gyfer gwella addysg Gymraeg, drwy gyflwyno system o gategoreiddio'r addysg Gymraeg a ddarperir gan ysgolion, drwy bennu nodau dysgu Cymraeg i ysgolion anelu atynt drwy gynlluniau cyflawni addysg Gymraeg, a thrwy sefydlu Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol fel corff statudol i gefnogi dysgu Cymraeg gydol oes.

Gan ei fod wedi ei basio gan Senedd Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Fawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

RHAN 1
HYBU A HWYLUSO DEFNYDD O'R GYMRAEG

1Targedau strategaeth y Gymraeg: o leiaf miliwn o siaradwyr a chynnydd mewn defnydd

(1) Rhaid i'r strategaeth ar hybu a hwyluso defnydd o'r Gymraeg a fabwysiedir gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) ("strategaeth y Gymraeg")—

(a) cynnwys y targed o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg sydd yng Nghymru i 1 miliwn, o leiaf, erbyn 2050;

(b) pennu targedau ar gyfer cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yng Nghymru, gan gynnwys—

(i) defnydd yn y gweithle; (ii) defnydd yn gymdeithasol;

(c) pennu targedau ar gyfer addysgu'r Gymraeg ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys mewn perthynas ag—

(i) cynyddu nifer y disgyblion o oedran ysgol gorfodol sy'n cael addysg mewn ysgolion categori "Prif Iaith – Cymraeg";

(ii) cynyddu nifer yr ysgolion categori "Prif Iaith - Cymraeg";

(iii) cynyddu swm yr addysg Gymraeg a ddarperir mewn ysgolion categori "Dwy Iaith" a chategori "Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg";

(d) pennu targedau ar gyfer cynyddu nifer y bobl sy'n dysgu Cymraeg;

(e) cynnwys y camau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd i annog trosglwyddo'r Gymraeg—

(i) yn y cartref,

(ii) rhwng y cenedlaethau, a

(iii) yn y gymuned;

(f) cynnwys y camau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd i annog cynnydd mewn defnydd digidol o'r Gymraeg;

(g) pennu meini prawf i fesur y cynnydd sy'n angenrheidiol i gyflawni'r targedau.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adran (1) (c) er mwyn diwygio'r targedau y mae'n ofynnol i'r strategaeth eu pennu, ychwanegu targedau neu eu dileu.

(3) Wrth nodi eu cynigion ar gyfer hybu'r Gymraeg a hwyluso'r defnydd ohoni yn strategaeth y Gymraeg yn unol ag adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried y targedau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(a) i (d).

(4) Rhaid i'r cynllun a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 78(9) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 gynnwys disgrifiad o'r camau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd er mwyn cyfrannu at gyflawni'r targedau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(a) a (b) (a gweler Rhan 4 mewn cysylltiad â'r targedau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(c) a (d)).

(5) Yn adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006—

(a) yn is-adran (1), yn lle "("the Welsh language strategy")", mewnosoder "to be known as "the Welsh language strategy" or "strategaeth y Gymraeg"";

(b) ar ôl is-adran (1), mewnosoder—

"(1A) See Part 1 of the Welsh Language and Education (Wales) Act 2025 (asc []) (referred to in Welsh as Deddf y Gymraeg ac Addysg (cymru) 2025 (dsc [])) for further requirements relating to the Welsh language strategy.";

(c) yn is-adran (5), yn lle "consult such" rhodder "consult the Welsh Language Commissioner and such other";

(d) ar ôl is-adran (10) mewnosoder—

"(11) In subsection (5), the reference to the "Welsh Language Commissioner" means the commissioner appointed under section 2 of the Welsh Language (Wales) Measure 2011 (nawm 1) (referred to in Welsh as Mesur y Gymraeg (cymru) 2011 (mccc 1))."

(6) Yn y Rhan hon—

(a) ystyr "addysg Gymraeg" yw—

(i) addysgu'r Gymraeg, a

(ii) addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg, mewn ysgol a gynhelir, yn ystod sesiynau ysgol, i ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol;

(b) mae cyfeiriadau at gategorïau ysgol "Prif Iaith—Cymraeg", "Dwy Iaith" a "Prif Iaith–Saesneg, rhannol Gymraeg" i'w darllen yn unol â Rhan 3.

2Adrodd ar y targedau yn strategaeth y Gymraeg

(1) O leiaf unwaith pob 5 mlynedd, rhaid i Weinidogion Cymru gynnwys yn yr adroddiad a gyhoeddir o dan adran 78(8) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ddadansoddiad o sefyllfa'r Gymraeg yng Nghymru gan gynnwys—

(a) asesiad o nifer, a chyfrifiad o ganran, y siaradwyr Cymraeg sydd yn ardal pob awdurdod lleol, gan gynnwys drwy gyfeiriad at eu hoedran;

(b) asesiad o nifer y disgyblion o oedran ysgol gorfodol yn ardal pob awdurdod lleol sy'n cael addysg mewn ysgolion categori "Prif Iaith – Cymraeg", a chyfrifiad o'r nifer hwnnw fel canran o'r disgyblion o oedran ysgol gorfodol sy'n cael addysg mewn ysgolion a gynhelir yn yr ardal;

(c) mewn perthynas ag ysgolion arbennig cymunedol—

(i) asesiad o nifer y disgyblion o oedran ysgol gorfodol yn ardal pob awdurdod lleol sy'n cael addysg mewn ysgolion arbennig cymunedol sy'n darparu swm o addysg Gymraeg sy'n cyfateb i'r swm o addysg Gymraeg a ddarperir gan ysgolion categori "Prif Iaith – Cymraeg", a

(ii) cyfrifiad o'r nifer hwnnw fel canran o'r disgyblion o oedran ysgol gorfodol sy'n cael addysg mewn ysgolion arbennig cymunedol yn yr ardal;

(d) asesiad o'r defnydd o'r Gymraeg yng Nghymru;

(e) asesiad o'r tebygolrwydd y bydd y targedau y cyfeirir atynt yn adran 1(1)(a) i (d) yn cael eu cyflawni drwy gyfeirio at y meini prawf a bennir gan y strategaeth;

(f) gwybodaeth am y newid, yn ystod y cyfnod ers yr asesiad blaenorol, yn nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg yn ardal pob awdurdod lleol.

(2) Os yw Gweinidogion Cymru yn dod i'r casgliad nad yw targed yn debygol o gael ei gyflawni, rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Senedd Cymru, a chyhoeddi, datganiad.

(3) Rhaid gosod a chyhoeddi'r datganiad cyn diwedd y cyfnod o 6 mis sy'n dechrau â'r dyddiad y gosodir yr adroddiad sy'n cynnwys y dadansoddiad y cyfeirir ato yn is-adran (1) gerbron Senedd Cymru (o dan adran 78(8) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006).

(4) Rhaid i'r datganiad—

(a) esbonio pam nad yw'r targed yn debygol o gael ei gyflawni, a

(b) nodi'r camau pellach y mae Gweinidogion Cymru wedi eu cymryd, neu'r camau y maent yn bwriadu eu cymryd, i gyflawni'r targed.

3Cyfrifo nifer y siaradwyr Cymraeg

(1) At ddibenion adrannau 1 a 2, mae nifer y siaradwyr Cymraeg i'w gyfrifo ar sail data a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, ond wrth gyfrifo nifer y siaradwyr rhaid ystyried unrhyw ddata perthnasol sy'n deillio o gyfrifiad a gynhelir yn unol â Deddf Cyfrifiad 1920 (p. 41).

(2) At ddibenion adrannau 1 a 2, mae pa un a yw person yn siaradwr Cymraeg i'w benderfynu—

(a) o ran personau sy'n 17 oed a throsodd, ar sail hunanasesiad;

(b) o ran plant sydd o dan 17 oed, ar sail hunanasesiad neu asesiad rhiant neu ofalwr y plentyn.

(3) O ran plant sydd o dan 17 oed, caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a) pennu dull o benderfynu pa un a yw person yn siaradwr Cymraeg at ddibenion adrannau 1 a 2, a

(b) pennu a yw'r dull hwnnw i'w ddefnyddio yn ogystal â'r asesiadau y cyfeirir atynt yn is-adran (2)(b) neu yn lle'r asesiadau hynny.

(4) Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi canllawiau ar asesiadau o dan is-adran (2)(a) a (b).

(5) Wrth lunio canllawiau o dan is-adran (4), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i'r Cod a lunnir o dan adran 6.

(6) Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y rhoddir ystyriaeth i'r canllawiau a gyhoeddir o dan is-adran (4)—

(a) wrth i'r data y cyfeirir atynt yn is-adran (1) gael eu casglu, a

(b) wrth i'r asesiadau y cyfeirir atynt yn is-adran (2)(a) a (b) gael eu cyflawni.

4Adolygu safonau'r Gymraeg

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu'r safonau a bennir o dan adran 26 o Fesur y Gymraeg (cymru) 2011 (mccc 1) gyda golwg ar benderfynu a oes angen diwygio—

(a) un neu ragor o'r safonau sy'n ymwneud â gwella neu asesu sgiliau'r gweithlu o ran y Gymraeg er mwyn—

(i) hwyluso cyflawni targed a bennir o dan y Rhan hon, neu

(ii) adlewyrchu'r Cod ar ddisgrifio gallu yn y Gymraeg a lunnir gan Weinidogion Cymru o dan adran 6;

(b) unneu ragoro safonauhybu'rGymraegermwynhwyluso cyflawni targeda bennir o dan y Rhan hon.

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a) ymgynghori â Chomisiynydd y Gymraeg yn rhan o'r adolygiad yn is-adran (1);

(b) cwblhau'r adolygiad o fewn y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau â'r diwrnod ar ôl cyhoeddi'r Cod o dan adran 7 am y tro cyntaf.

RHAN 2
DISGRIFIO GALLU YN Y GYMRAEG

5Mathau o ddefnyddiwr Cymraeg a lefelau cyfeirio cyffredin

(1) Yn unol â'r Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd, mae'r Tabl yn Atodlen 1 yn pennu—

(a) mathau o ddefnyddiwr Cymraeg (sef defnyddiwr Cymraeg sylfaenol, defnyddiwr Cymraeg annibynnol, a defnyddiwr Cymraeg hyfedr), a

(b) lefelau cyfeirio cyffredin ar gyfer disgrifio gallu y mathau hynny o ddefnyddiwr Cymraeg, a disgrifiad o nodweddion cyffredinol pob lefel.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio'r Tabl yn Atodlen 1.

(3) Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer yn is-adran (2) oni bai bodangen gwneud hynny mewn ymateb i newid a wneir i'r Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd.


(4) Yn y Rhan hon, ystyr y "Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd" yw'r fframwaith a gyhoeddir gan Gyngor Ewrop, fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd, a gynhwysir yn y ddogfen "Common European Framework of Reference for Languages: Learning, teaching, assessment (2001)", ac a ddisgrifir ymhellach neu a ddiweddarwyd—

(a) yn y ddogfen "Council of Europe (2020), Common European Framework of Reference for Languages: Learning, teaching, assessment - Companion volume", neu

(b) mewn unrhyw ddogfen gyffelyb a gyhoeddir gan Gyngor Ewrop.

6Cod i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru lunio Cod ar ddisgrifio gallu yn y Gymraeg sy'n seiliedig ar y Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd.

(2) Rhaid i'r Cod—

(a) esbonio sut i ddefnyddio'r lefelau cyfeirio cyffredin a nodir yn y Tabl yn Atodlen 1, a

(b) disgrifio nodweddion penodol, er enghraifft deall iaith lafar neu ysgrifenedig neu'r gallu i ryngweithio ar lafar, pob lefel cyfeirio gyffredin.

(3) Caiff y Cod hefyd gynnwys unrhyw beth arall sy'n gysylltiedig â disgrifio gallu yn y Gymraeg.

7Cyhoeddi ac adolygu'r Cod

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a) cyhoeddi'r Cod sydd mewn grym am y tro;

(b) adolygu'r Cod o bryd i'w gilydd, a chânt ei ddiwygio fel y bo'n briodol.

(2) Cyn cyhoeddi'r Cod, neu'r Cod fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy'n briodol yn eu barn hwy.

RHAN 3
ADDYSG GYMRAEG

Cyflwyniad

8Trosolwg a dehongli

(1) Mae'r Rhan hon—

(a) yn gwneud darpariaeth ynghylch dynodi categori iaith i bob ysgol (gweler adrannau 9 i 13), ac, yn unol â hynny, ynghylch—

(i) y swm o addysg Gymraeg sydd i'w ddarparu yn yr ysgol, a

(ii) nod dysgu Cymraeg yr ysgol;

(b) yn ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol gael cynllun cyflawni addysg Gymraeg (gweler adrannau 14 i 19) sy'n nodi (ymhlith pethau eraill) sut y mae'r ysgol yn bwriadu cyflawni ei nod dysgu Cymraeg;


(c) yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol gynnal a chyhoeddi cofrestr o gategori iaith pob ysgol yn ei ardal (gweler adran 22);

(d) yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol hybu addysg drochi hwyr yn y Gymraeg (gweler adran 23).

(2) At ddibenion y Rhan hon—

(a) ystyr "addysg Gymraeg" yw—

(i) addysgu'r Gymraeg, a

(ii) addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg,

mewn ysgol, yn ystod sesiynau ysgol, i ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol;

(b) ystyr "addysg feithrin Gymraeg" yw—

(i) addysgu'r Gymraeg, a

(ii) addysg drwy gyfrwng y Gymraeg

mewn ysgol neu ysgol feithrin a gynhelir, yn ystod sesiynau ysgol, i ddisgyblion sydd o dan oedran ysgol gorfodol;

(c) mae cyfeiriadau at "ysgol" yn golygu ysgol a gynhelir sydd â disgyblion o oedran ysgol gorfodol.

Categorïau iaith ysgolion

9Categorïau iaith ysgolion

(1) Dynodir categori iaith i bob ysgol, yn unol â'r Rhan hon, sy'n penderfynu—

(a) yn unol ag adran 10, yr isafswm o addysg Gymraeg a ddarperir yn yr ysgol, a

(b) nod dysgu Cymraeg yr ysgol (gweler adran 11).

(2) Y categorïau iaith yw—

(a) y categori "Prif Iaith—Cymraeg";

(b) y categori "Dwy Iaith";

(c) y categori "Prif Iaith—Saesneg, rhannol Gymraeg".

(3) Caniateir dynodi mwy nag un categori iaith ar gyfer ysgol a chaiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth mewn perthynas ag ysgol o'r fath, gan gynnwys darpariaeth sy'n cymhwyso'r Rhan hon gydag addasiadau.

(4) Nid yw is-adran (1) yn gymwys i ysgol arbennig gymunedol (ond gweler adran 20).

10Isafswm o ddarpariaeth addysg Gymraeg ar gyfer pob categori iaith

(1) Mae is-adran (2) yn nodi'r isafswm o addysg Gymraeg ar gyfer pob categori iaith, fel canran o'r addysg a hyfforddiant a ddarperir dros flwyddyn ysgol yn ystodsesiynau ysgol ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol.

(2) Yr isafswm yw—

(a) 80% ar gyfer y categori "Prif Iaith—Cymraeg";

(b) 50% ar gyfer y categori "Dwy Iaith";

(c) 10% ar gyfer y categori "Prif Iaith—Saesneg, rhannol Gymraeg".

(3) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adran (2) er mwyn newid yr isafswm ar gyfer unrhyw gategori iaith, ond ni chaniateir i'r isafswm fod yn llai na 80% ar gyfer y categori "Prif Iaith—Cymraeg", 50% ar gyfer y categori "Dwy Iaith", a 10% ar gyfer y categori "Prif Iaith—Saesneg, rhannol Gymraeg".

(4) Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu a ydynt am arfer y pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (3) mewn perthynas â'r categori "Prif Iaith— Saesneg, rhannol Gymraeg" o fewn y cyfnod o 5 mlynedd sy'n dechrau drannoeth y diwrnod y daw'r adran hon i rym, ac wedi hynny, o fewn pob cyfnod o 5 mlynedd sy'n dilyn eu penderfyniad diweddaraf.

(5) Wrth benderfynu a ydynt am arfer y pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ystyried effaith debygol yr isafsymiau ar gyflawni'r targedau a bennir gan strategaeth y Gymraeg yn unol ag adran 1.

(6) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol sicrhau bod yr ysgol yn darparu'r isafswm o addysg Gymraeg, o leiaf, ar gyfer y categori iaith a ddynodir i'r ysgol ymhob un o'r blynyddoedd ysgol y mae cynllun cyflawni addysg Gymraeg i gael effaith ar ei chyfer (gweler adrannau 14(3) a 15(5)).

11Y nodau dysgu Cymraeg ar gyfer pob categori iaith

(1) Y nod dysgu Cymraeg ar gyfer ysgolion categori "Prif Iaith – Cymraeg" yw bod disgyblion, erbyn iddynt beidio â bod o oedran ysgol gorfodol, yn ddefnyddwyr Cymraeg hyfedr (hynny yw, yn cyrraedd lefel cyfeirio gyffredin C1 neu C2), o leiaf.

(2) Y nod dysgu Cymraeg ar gyfer ysgolion categori "Dwy Iaith" yw bod disgyblion, erbyn iddynt beidio â bod o oedran ysgol gorfodol—

(a) yn ddefnyddwyr Cymraeg annibynnol (hynny yw, yn cyrraedd lefel cyfeirio gyffredin B1 neu B2) o leiaf, fel nod cychwynnol;

(b) wedi hynny, mewn perthynas â grŵp blwyddyn mewn blwyddyn ysgol a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, a'r grwpiau blwyddyn sy'n dilyn—

(i) yn ddefnyddwyr Cymraeg annibynnol (hynny yw, yn cyrraedd lefel cyfeirio gyffredin B1 neu B2) o leiaf, a

(ii) yn cyrraedd lefel cyfeirio gyffredin B2, o leiaf, o ran rhyngweithio llafar.

(3) Y nod dysgu Cymraeg ar gyfer ysgolion categori "Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg" yw bod disgyblion, erbyn iddynt beidio â bod o oedran ysgol gorfodol—

(a) yn ddefnyddwyr Cymraeg sylfaenol (hynny yw, yn cyrraedd lefel cyfeirio gyffredin A1 neu A2) o leiaf, fel nod cychwynnol;

(b) wedi hynny, mewn perthynas â grŵp blwyddyn mewn blwyddyn ysgol a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, a'r grwpiau blwyddyn sy'n dilyn tan i'r nod ym mharagraff (c) ddod yn gymwys, yn ddefnyddwyr Cymraeg annibynnol (hynny yw, yn cyrraedd lefel cyfeirio gyffredin B1 neu B2) o leiaf;

(c) wedi hynny, mewn perthynas â grŵp blwyddyn mewn blwyddyn ysgol a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, a'r grwpiau blwyddyn sy'n dilyn—

(i) yn ddefnyddwyr Cymraeg annibynnol (hynny yw, yn cyrraedd lefel cyfeirio gyffredin B1 neu B2) o leiaf, a

(ii) yn cyrraedd lefel cyfeirio gyffredin B2, o leiaf, o ran rhyngweithio llafar.

(4) Mewn perthynas â'r nodau dysgu Cymraeg ar gyfer ysgol gynradd, tybir bod disgyblion yr ysgol yn parhau ag addysg mewn ysgolion o'r un categori iaith hyd nes iddynt beidio â bod o oedran ysgol gorfodol.

(5) Wrth ystyried y blynyddoedd ysgol a'r grwpiau blwyddyn sydd i'w pennu mewn rheoliadau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i effaith debygol y nodau dysgu ar gyflawni'r targedau a bennir gan strategaeth y Gymraeg yn unol ag adran 1.

(6) Yn yr adran hon—

mae i "lefel cyfeirio gyffredin B2 o ran rhyngweithio llafar" ("B2 common reference level for oral interaction") yr ystyr a roddir—

(i) yn y Tabl yn Atodlen 1, gan yr ail frawddeg yn y golofn "Nodweddion cyffredinol" ar gyfer lefel cyfeirio gyffredin B2, i'r graddau y mae'n gymwys i ryngweithio llafar, a

(ii) gan unrhyw ddarpariaeth bellach ynghylch y lefel cyfeirio gyffredin honno, a rhyngweithio llafar, yn y Cod a lunnir o dan adran 6;

ystyr "grŵp blwyddyn" ("year group") yw grŵp o ddisgyblion mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran.

12Asesu cynnydd tuag at gyflawni nodau dysgu Cymraeg

(1) Caiff trefniadau asesu a wneir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau o dan adran 56 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (dsc 4) wneud darpariaeth at ddiben sicrhau cynnydd disgyblion tuag at gyflawni nod dysgu Cymraeg ysgol.

(2) At y diben hwn, caiff y trefniadau asesu (ymysg pethau eraill)—

(a) cyfeirio at fath o ddefnyddiwr Cymraeg neu lefel cyfeirio gyffredin a nodir yn y Tabl yn Atodlen 1;

(b) cyfeirio at y Cod a lunnir o dan adran 6;

(c) gwneud darpariaeth wahanol mewn perthynas â disgyblion sy'n mynychu ysgol categori "Prif Iaith Saesneg—rhannol Gymraeg" sydd ag esemptiad dros dro o'r gofyniad i ddarparu'r isafswm o addysg Gymraeg o dan adran 18 neu 19.

(3) Yn adran 7 (cod cynnydd) o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (dsc 4), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

"(1A) Wrth lunio'r Cod Cynnydd o dan is-adran(1), a'i gadw o dan adolygiad o dan is-adran (4), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i'r nodau dysgu Cymraeg a osodir gan adran 11 o Ddeddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 (dsc [ ])."

13Rheoliadau ar gategorïau iaith ysgolion

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach am gategorïau iaith ysgolion.

Cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg

14Cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg ysgolion

(1) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol lunio cynllun cyflawni mewn perthynas â'r Gymraeg ("cynllun cyflawni addysg Gymraeg")—

(a) sy'n nodi categori iaith ar gyfer yr ysgol (gan ystyried y swm o addysg Gymraeg a ddarperir ar y pryd gan yr ysgol);

(b) sy'n nodi'r swm o addysg Gymraeg a ddarperir gan yr ysgol ar yr adeg y llunnir y cynllun cyflawni;

(c) sy'n esbonio sut y bydd y corff llywodraethu yn sicrhau bod yr ysgol yn cyflawni'r ddyletswydd o dan adran 10(6) (darparu'r swm o addysg Gymraeg a bennir ar gyfer categori iaith yr ysgol);

(d) sy'n nodi'r camau y bydd y corff llywodraethu yn eu cymryd i hybu addysg drochi hwyr yn unol ag adran 23(3);

(e) sy'n nodi cynigion y corff llywodraethu—

(i) ar y swm o addysg Gymraeg y bwriedir ei ddarparu yn yr ysgol yn ystod y cyfnod y mae'r cynllun cyflawni yn cael effaith, a

(ii) ar gynnal y swm hwnnw o addysg Gymraeg, a chynyddu'r swm pan fo hynny'n rhesymol ymarferol;

(f) sy'n nodi, os yw'r ysgol yn darparu addysg i ddisgyblion sydd o dan oedran ysgol gorfodol—

(i) y swm o addysg feithrin Gymraeg a ddarperir ar yr adeg y llunnir y cynllun cyflawni;

(ii) cynigion y corff llywodraethu ar y swm o addysg feithrin Gymraeg y bwriedir ei ddarparu yn ystod y cyfnod y mae'r cynllun cyflawni yn cael effaith amdano;

(iii) cynigion y corff llywodraethu ar gynnal y swm hwnnw o addysg feithrin Gymraeg, a chynyddu'r swm pan fo hynny'n rhesymol ymarferol;

(g) sy'n nodi cynigion y corff llywodraethu, at ddiben cyflawni nod dysgu Cymraeg yr ysgol, ar sut y bydd yn—

(i) hybu ethos a diwylliant Cymraeg o fewn yr ysgol;

(ii) hybu defnydd o'r Gymraeg o fewn yr ysgol;

(iii) hwyluso gwelliant parhaus yn addysg Gymraeg yr ysgol;

(h) sy'n nodi, os yw'r ysgol yn ysgol categori "Prif Iaith – Cymraeg" neu "Dwy Iaith", gynigion y corff llywodraethu ar sut y bydd yn cynorthwyo rhieni nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg hyderus—

(i) i gefnogi dysgu eu plant;

(ii) i gefnogi cyfraniad eu plant at ethos a diwylliant Cymraeg yr ysgol;

(i) sy'n nodi cynigion y corff llywodraethu ar gyfer paratoi am y newid, os yw'n bwriadu cynyddu'r swm o addysg Gymraeg a ddarperir gan yr ysgol gyda golwg ar newid ei chategori iaith (gweler adran 17).

(2) Wrth lunio'r cynllun cyflawni addysg Gymraeg, rhaid i gorff llywodraethu'r ysgol—

(a) rhoi sylw i gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol (gweler adran 30);

(b) ymgynghori â'r canlynol—

(i) pennaeth yr ysgol (os nad yw'r person hwnnw yn aelod o'r corff llywodraethu);

(ii) disgyblion cofrestredig yr ysgol;

(iii) rhieni'r disgyblion cofrestredig;

(iv) staff yr ysgol;

(v) yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol;

(vi) unrhyw bersonau eraillabennir mewn rheoliadau gan Weinidogion Cymru.

(3) Mae pob cynllun cyflawni addysg Gymraeg yn cael effaith am gyfnod o dair blwyddyn ysgol, ac mae—

(a) cyfnod y cynllun cyflawni cyntaf yn dechrau â'r flwyddyn ysgol a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, a

(b) cyfnod pob cynllun cyflawni dilynol yn dechrau â'r flwyddyn ysgol sy'n dechrau yn union ar ôl i'r cynllun cyflawni blaenorol ddod i ben.

(4) Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a) diwygio hyd y cyfnod y mae cynllun cyflawni addysg Gymraeg yn cael effaith amdano;

(b) gwneud darpariaeth am ffurf a chynnwys cynllun cyflawni.

(5) Nid yw'r adran hon yn gymwys i ysgol arbennig gymunedol (ond gweler adran 20).

15Cymeradwyo cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg

(1) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol gyflwyno drafft o'r cynllun cyflawni addysg Gymraeg a lunnir o dan adran 14 i'r awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol.

(2) Rhaid cyflwyno'rdrafft o leiaf 9mis cyn dechrau'rcyfnody mae'rcynllun cyflawniaddysg Gymraeg i gael effaith amdano.

(3) Wrth gyflwyno'r drafft, rhaid i'r corff llywodraethu ddarparu crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd yn unol ag adran 14(2)(b).

(4) Caiff yr awdurdod lleol—

(a) cymeradwyo'r cynllun cyflawni addysg Gymraeg fel y'i cyflwynwyd (gan gynnwys y categori iaith a bennir ynddo), (b) cymeradwyo'r cynllun cyflawni ag addasiadau y cytunwyd arnynt â chorff llywodraethu'r ysgol, neu

(c) gwrthod y cynllun cyflawni a rhoi cyfarwyddyd i'r corff llywodraethu i ailystyried y cynllun cyflawni.

(5) Effaith cymeradwyo cynllun cyflawni addysg Gymraeg ysgol o dan is-adran (4)(a) neu (b) yw dynodi'r categori iaith a nodir yn y cynllun cyflawni fel categori iaith yr ysgol.

(6) Os yw awdurdod lleol yn gwrthod drafft o'r cynllun cyflawni addysg Gymraeg, rhaid i'r cyfarwyddyd o dan is-adran (4)(c)—

(a) rhoi rhesymau dros y penderfyniad;

(b) pennu erbyn pryd y mae rhaid i'r corff llywodraethu gyflwyno drafft pellach o'r cynllun cyflawni i'r awdurdod lleol.

(7) Mae is-adrannau (4) i (6) yn gymwys i gynllun cyflawni addysg Gymraeg drafft a gyflwynir gan gorff llywodraethu ysgol mewn ymateb i gyfarwyddydo dan is-adran (4)(c) yn yr un modd ag y maent yn gymwys i ddrafft a gyflwynir o dan is-adran (1).

(8) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol gyhoeddi'r cynllun cyflawni addysg Gymraeg a gymeradwyir.

(9) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol gymrydpob camrhesymoli weithredu'r cynigion a nodir yn rhinwedd adran 14(1)(e), (f), (g), (h) ac (i) yn y cynllun cyflawni addysg Gymraeg a gymeradwyir.

16Adolygu a diwygio cynllun cyflawni addysg Gymraeg

(1) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol adolygu ei gynllun cyflawni addysg Gymraeg o leiaf unwaith cyn diwedd y cyfnod y mae'r cynllun cyflawni yn cael effaith amdano.

(2) Caiff corff llywodraethu ysgol ddiwygio cynllun cyflawni addysg Gymraeg yn unol â'r adran hon (ond gweler adran 17 am ddarpariaeth bellach os yw'r corff llywodraethu yn bwriadu newid categori iaith yr ysgol).

(3) Wrth adolygu neu ddiwygio'r cynllun cyflawni addysg Gymraeg, rhaid i gorff llywodraethu'r ysgol roi sylw i gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol (gweler adran 30).

(4) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol gyflwyno drafft o gynllun cyflawni addysg Gymraeg diwygiedig yr ysgol i'r awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol.

(5) Wrth gyflwyno'r drafft, rhaid i'r corff llywodraethu ddarparu crynodeb o'r diwygiadau a gynigir a'r rhesymau drostynt.

(6) Caiff yr awdurdod lleol—

(a) cymeradwyo'r cynllun cyflawni addysg Gymraeg diwygiedig fel y'i cyflwynwyd,

(b) cymeradwyo'r cynllun cyflawni diwygiedig ag addasiadau y cytunwyd arnynt â'r corff llywodraethu, neu

(c) gwrthod y cynllun cyflawni diwygiedig a rhoi cyfarwyddyd i'r corff llywodraethu i ailystyried.

(7) Os yw awdurdod lleol yn gwrthod cynllun cyflawni addysg Gymraeg diwygiedig, o ran y cyfarwyddyd o dan is-adran (6)(c)—

(a) rhaid iddo rhoi rhesymau dros y penderfyniad;

(b) rhaid iddo bennu erbyn pryd y mae rhaid i gorff llywodraethu'r ysgol—

(i) cyflwyno drafft pellach o'r cynllun cyflawni i'r awdurdod lleol, neu

(ii) hysbysu'r awdurdod lleol nad yw bellach yn cynnig diwygio ei gynllun cyflawni;

(c) caiff ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu'r ysgol ymgynghori â'r personau a restrir yn adran 14(2)(b) os nad oes ymgynghoriad o'r fath wedi digwydd.

(8) Mae is-adrannau (5) i (7) yn gymwys i gynllun cyflawni addysg Gymraeg diwygiedig a gyflwynir mewn ymateb i gyfarwyddyd o dan is-adran (c) yn yr un modd ag y maent yn gymwys i gynllun cyflawni diwygiedig a gyflwynir o dan is-adran (4).

(9) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol—

(a) cyhoeddi'r cynllun cyflawni addysg Gymraeg a gymeradwyir, fel y'i diwygiwyd;

(b) cymryd pob cam rhesymol i weithredu'r cynigion a nodir yn rhinwedd adran 14(1)(e), (f), (g), (h) ac (i)yn y cynllun cyflawni addysg Gymraeg a gymeradwyir, fel y'i diwygiwyd.

17Diwygio cynllun cyflawni addysg Gymraeg er mwyn newid categori iaith ysgol

(1) Mae'r adran hon yn gymwys pan fo corff llywodraethu ysgol yn cynnig diwygio cynllun cyflawni addysg Gymraeg yr ysgol at ddiben newid categori iaith yr ysgol.

(2) Ni chaniateir newid categori iaith ysgol—

(a) o gategori "Dwy Iaith" i gategori "Prif Iaith–Saesneg, rhannol Gymraeg";

(b) o gategori "Prif Iaith–Cymraeg" i gategori "Dwy Iaith" neu gategori "Prif Iaith–Saesneg, rhannol Gymraeg".

(3) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol ymgynghori â'r personau a restrir yn adran 14(2)(b) cyn cyflwyno cynllun cyflawni diwygiedig drafft i'r awdurdod lleol o dan adran 16(4).

18Isafswm o addysg Gymraeg: esemptiad dros dro

(1) Mae'r adran hon yn gymwys pan fo corff llywodraethu ysgol—

(a) yn llunio neu'n diwygio cynllun cyflawni addysg Gymraeg cyntaf yr ysgol, a

(b) o'r farn nad yw'n rhesymol ymarferol i'r ysgol ddarparu'r isafswm o addysg Gymraeg sy'n ofynnol ar gyfer ysgol categori iaith "Prif Iaith — Saesneg, rhannol Gymraeg" (gweler adran 10(2)(c)).

(2) Rhaid i gynllun cyflawni addysg Gymraeg drafft yr ysgol a gyflwynir i'r awdurdod lleol o dan adran 15(1) neu 16(4) nodi—

(a) y rhesymau pam, ym marn corff llywodraethu'r ysgol, nad yw'n rhesymol ymarferol i'r ysgol ddarparu'r isafswm o addysg Gymraeg;

(b) cynigion y corff llywodraethu ar gyfer sicrhau y gall yr ysgol ddarparu'r isafswm o addysg Gymraeg (o leiaf);

(c) erbyn pa ddyddiad y bydd y cynigion y cyfeirir atynt ym mharagraff (b) wedi cael eu gweithredu, dyddiad sydd heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o dair blynedd y mae'r cynllun cyflawni yn cael effaith amdano;

(d) gwybodaeth am y gefnogaeth y mae ei hangen ym marn y corff llywodraethu er mwyn galluogi'r ysgol i ddarparu'r isafswm o addysg Gymraeg.

(3) Os yw'r awdurdod lleol (yn unol ag adran 15 neu 16) yn cymeradwyo cynllun cyflawni addysg Gymraeg ar gyfer ysgol sy'n nodi'r materion y cyfeirir atynt yn is-adran (2)—

(a) mae corff llywodraethu'r ysgol wedi'i esemptio rhag y gofyniad i ddarparu'r isafswm o addysg Gymraeg tan ddiwedd y cyfnod o dair blynedd y mae'r cynllun cyflawni cyntaf yn cael effaith amdano;

(b) bernir mai'r categori iaith "Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg" a ddynodir yn gategori iaith yr ysgol ar gyfer y cyfnod hwnnw;

(c) rhaid i'r corff llywodraethu gymryd pob cam rhesymol i weithredu'r cynigion a nodir yn y cynllun cyflawni yn unol ag is-adran (2)(b) erbyn y dyddiad a nodir yn unol ag is-adran (2)(c).

19Isafswm o addysg Gymraeg: esemptiad pellach

(1) Mae'r adran hon yn gymwys pan fo corff llywodraethu ysgol sydd wedi ei hesemptio yn unol ag adran 18(3)(a)—

(a) yn llunio ail gynllun cyflawni addysg Gymraeg yr ysgol, a

(b) yn parhau o'r farn nad yw'n rhesymol ymarferol i'r ysgol ddarparu'r isafswm o addysg Gymraeg ar gyfer ysgol categori iaith "Prif Iaith— Saesneg, rhannol Gymraeg".

(2) Rhaid i'r ail gynllun cyflawni addysg Gymraeg a gyflwynir i'r awdurdod lleol o dan adran 15(1) nodi —

(a) pam na chafodd y cynigion y cyfeirir atynt yn adran 18(2)

(b) eu gweithredu, neu pam nad oedd y cynigion hynny wedi llwyddo;

(b) pam, ym marn y corff llywodraethu, nad yw'n rhesymol ymarferol o hyd i'r ysgol ddarparu'r isafswm o addysg Gymraeg;

(c) cynigion pellach y corff llywodraethu ar gyfer sicrhau y gall yr ysgol ddarparu'r isafswm o addysg Gymraeg (o leiaf);

(d) erbyn pa ddyddiad y bydd y cynigion y cyfeirir atynt ym mharagraff (c) wedi eu gweithredu, dyddiad sydd heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o dair blynedd y mae'r cynllun cyflawni drafft yn cael effaith amdano;

(e) gwybodaeth am y gefnogaeth y mae ei hangen ym marn y corff llywodraethu er mwyn i'r ysgol allu darparu'r isafswm o addysg Gymraeg.

(3) Os yw'r awdurdod lleol (yn unol ag adran 15) yn cymeradwyo cynllun cyflawni addysg Gymraeg ar gyfer ysgol sy'n nodi'r materion y cyfeirir atynt yn is-adran (2)—

(a) mae corff llywodraethu'r ysgol wedi ei esemptio rhag y gofyniad i ddarparu'r isafswm o addysg Gymraeg tan y dyddiad a nodir yn y cynllun cyflawni yn unol ag is-adran (2)(d);

(b) bernir mai'r categori iaith "Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg" a ddynodir yn gategori iaith yr ysgol tan y dyddiad a nodir yn y cynllun cyflawni yn unol ag is-adran (2)(d);

(c) rhaid i gorff llywodraethu'r ysgol gymryd pob cam rhesymol i weithredu'r cynigion a nodir yn y cynllun cyflawni yn unol ag is-adran (2)(c), erbyn y dyddiad a nodir yn unol ag is-adran (2)(d);

(d) rhaid i'r awdurdod lleol ddarparu'r canlynol i Weinidogion Cymru—

(i) y rhesymau pam y mae cynllun cyflawni yr ysgol wedi ei gymeradwyo;

(ii) gwybodaeth am unrhyw gefnogaeth sydd wedi ei chynnig i gorff llywodraethu'r ysgol.

Ysgolion arbennig

20Ysgolion arbennig cymunedol: cynlluniau a dynodi categori iaith

(1) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol arbennig gymunedol lunio cynllun mewn perthynas â'r Gymraeg ("cynllun cyflawni addysg Gymraeg ysgol arbennig gymunedol") sy'n nodi—

(a) y swm o addysg Gymraeg a ddarperir gan yr ysgol;

(b) os yw'r ysgol yn darparu addysg i ddisgyblion sydd o dan oedran ysgol gorfodol, y swm o addysg feithrin Gymraeg a ddarperir;

(c) cynigion y corff llywodraethu ar sut y bydd—

(i) yn hybu ethos a diwylliant Cymraeg o fewn yr ysgol;

(ii) yn hybu defnydd o'r Gymraeg o fewn yr ysgol;

(d) os yw'r ysgol yn darparu swm o addysg Gymraeg neu addysg feithrin Gymraeg sy'n cyfateb i'r swm o addysg Gymraeg a ddarperir mewn ysgol categori "Prif Iaith – Cymraeg" neu "Dwy Iaith", gynigion y corff llywodraethu ar sut y bydd yn cynorthwyo rhieni nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg hyderus—

(i) i gefnogi dysgu eu plant;

(ii) i gefnogi cyfraniad eu plant at ethos a diwylliant Cymraeg yr ysgol.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach cynlluniau cyflawni addysg Gymraeg ysgol arbennig gymunedol, gan gynnwys ynghylch—

(a) hyd ac amseriad cynllun;

(b) ymgynghori ar gynllun;

(c) cymeradwyo cynllun;

(d) adolygu a diwygio cynllun.

(3) Ni ddynodir categori iaith i ysgol arbennig gymunedol yn unol â'r Rhan hon, oni bai bod corff llywodraethu'r ysgol yn dymuno i gategori iaith gael ei ddynodi ("dynodiad gwirfoddol").

(4) Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth mewn perthynas â dynodiad gwirfoddol, gan gynnwys darpariaeth sy'n cymhwyso'r Rhan hon gydag addasiadau.

Ysgolion meithrin a gynhelir

21Cynlluniau cyflawni addysg feithrin Gymraeg

(1) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol feithrin a gynhelir lunio cynllun mewn perthynas â'r Gymraeg ("cynllun cyflawni addysg feithrin Gymraeg") sy'n nodi—

(a) y swm o addysg feithrin Gymraeg a ddarperir gan yr ysgol feithrin;

(b) cynigion y corff llywodraethu—

(i) ar y swm o addysg feithrin Gymraeg y bwriedir ei ddarparu yn ystod y cyfnod y mae'r cynllun cyflawni addysg feithrin Gymraeg yn cael effaith amdano, a

(ii) ar gynnal y swm hwnnw o addysg feithrin Gymraeg, a chynyddu'rswm pan fo hynny'n rhesymol ymarferol;

(c) cynigion y corff llywodraethu ar sut y bydd yn—

(i) hybu ethos a diwylliant Cymraeg o fewn yr ysgol feithrin;

(ii) hybu defnydd o'r Gymraeg o fewn yr ysgol feithrin;

(d) os yw'r ysgol feithrin yn darparu swm o addysg feithrin Gymraeg sy'n cyfateb i'r swm o addysg Gymraeg a ddarperir mewn ysgol categori "Prif Iaith —Cymraeg" neu "Dwy Iaith", gynigion y corff llywodraethu arsut y bydd yn cynorthwyo rhieni nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg hyderus—

(i) i gefnogi dysgu eu plant;

(ii) i gefnogi cyfraniad eu plant at ethos a diwylliant Cymraeg yr ysgol feithrin.

(2) Wrth lunio'r cynllun cyflawni addysg feithrin Gymraeg rhaid i'r corff llywodraethu roi sylw i gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol feithrin (gweler adran 30).

(3) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach ynghylch cynlluniau cyflawni addysg feithrin Gymraeg, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a) hyd ac amseriad cynllun;

(b) ymgynghori ar gynllun;

(c) cymeradwyo cynllun;

(d) adolygu a diwygio cynllun.

Cofrestr

22Cofrestr categorïau iaith ysgolion

(1) Rhaid i awdurdod lleol gynnal a chyhoeddi cofrestr sy'n cynnwys y materion canlynol—

(a) categori iaith pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod, fel a nodir yng nghynllun cyflawni addysg Gymraeg yr ysgol a gymeradwywyd o dan adran 15 neu 16;

(b) cofnod o bob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod sydd wedi ei hesemptio dros dro, o dan adran 18 neu 19, rhag y gofyniad i ddarparu'r isafswm o addysg Gymraeg, a'r dyddiad y daw'r esemptiad i ben;

(c) categori iaith arfaethedig ysgolion yn ei ardal y gwneir cynigion ar eu cyfer o dan adran 41 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (dccc 1) (Cynigion i sefydlu ysgolion prif ffrwd);

(d) categori iaith arfaethedig ysgolion arfaethedig nad ydynt wedi eu cynnwys yn y gofrestro dan baragraff

(c) ond sydd oddisgrifiada nodir mewn rheoliadaua wneir o dan is-adran (3).

(2) Yn adran 41 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (dccc 1), ar ôl is-adran (2), mewnosoder—

"(3) Gweler adran22(1)o Ddeddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 (dsc[ ]) am ddarpariaeth ynghylch cofrestr o gategorïau iaith arfaethedig ysgolion y gwnaed cynigion yn eu cylch o dan yr adran hon."

(3) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach am gofrestr a gynhelir o dan is-adran (1) mewn cysylltiad ag—

(a) y materion sydd i'w cynnwys yn y gofrestr;

(b) ffurf y gofrestr;

(c) sut a phryd i gyhoeddi'r gofrestr.

Addysg drochi hwyr

23Addysg drochi hwyr yn y Gymraeg

(1) Yn yr adran hon, ystyr "addysg drochi hwyr" yw addysg ddwys yn y Gymraeg—

(a) ar gyfer plant o oedran ysgol gorfodol sy'n 7 oed o leiaf ac sy'n mynychu neu yn dymuno mynychu ysgol categori "Prif Iaith—Cymraeg" neu ysgol categori "Dwy Iaith", a

(b) sy'n trochi plant yn y Gymraeg er mwyn eu galluogi i elwa'n llawn o addysg mewn ysgol categori "Prif Iaith—Cymraeg" neu ysgol categori "Dwy Iaith".

(2) Rhaid i bob awdurdod lleol—

(a) annog cynnydd yn y galw yn ei ardal am addysg drochi hwyr a chynnydd mewn cyfranogiad ynddi;

(b) gwneud trefniadau i ddarparu gwybodaeth a chyngor i'r personau canlynol ynghylch yr addysg drochi hwyr sydd ar gael yn ei ardal—

(i) plant o oedran ysgol gorfodol yn ei ardal,

(ii) rhieni plant yn ei ardal,

(iii) plant sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol ond sy'n byw y tu allan i'w ardal,

(iv) cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod, a

(v) unrhyw bersonau eraill y mae'n eu hystyried yn briodol;

(c) cymryd pob cam rhesymol i ddarparu addysg drochi hwyr sy'n ateb y galw amdani yn ei ardal.

(3) Pan fo corff llywodraethu ysgol wedi cael gwybodaeth (yn rhinwedd is-adran (2)(b)(iv)) am yr addysg drochi hwyr sydd ar gael yn ardal yr awdurdod lleol y mae'r ysgol wedi ei lleoli ynddi, rhaid iddo gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod disgyblion yr ysgol a'u rhieni yn ymwybodol—

(a) o'r addysg sydd ar gael, a

(b) sut i gael mynediad at yr addysg honno.

(4) Gweler hefyd adran 14(1)(d) mewn cysylltiad â gwneud darpariaeth ynghylch addysg drochi hwyr yng nghynlluniau cyflawni addysg Gymraeg ysgolion.

RHAN 4
CYNLLUNIO ADDYSG GYMRAEG A DYSGU Cymraeg

Y Fframwaith Cenedlaethol

24Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru lunio fframwaith ("Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg"), sy'n nodi sut y bydd Gweinidogion Cymru yn gweithredu cynigion strategaeth y Gymraeg mewn perthynas ag—

(a) addysg Gymraeg,

(b) darpariaeth Gymraeg mewn addysg drydyddol,

(c) dysgu Cymraeg gydol oes, a

(d) caffael y Gymraeg.

(2) Yn y Rhan hon mae unrhyw gyfeiriad at "strategaeth y Gymraeg" yn gyfeiriad at y strategaeth ar hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg a fabwysiedir gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (a gweler adran 1 am yr hyn y mae rhaid ei gynnwys yn y strategaeth).

(3) Rhaid i'r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg nodi, yn benodol, y camau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu cymryd i hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg drwy—

(a) cynyddu'r swm o addysg Gymraeg a ddarperir;

(b) gwella'r ddarpariaeth o addysgu'r Gymraeg;


(c) hybu addysg Gymraeg mewn ysgolion categori "Prif Iaith— Cymraeg", er mwyn cynyddu nifer y disgyblion sy'n mynychu'r ysgolion hynny;

(d) annog dilyniant o ran addysgu'r Gymraeg ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg rhwng—

(i) addysg feithrin ac addysg ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol,

(ii) ysgolion cynradd a gynhelir ac ysgolion uwchradd a gynhelir, a

(iii) addysg ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol ac addysg drydyddol.

(4) Rhaid i'r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg nodi, yn benodol, y camau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu cymryd i ddarparu cyfleoedd ar gyfer personau o bob oed yng Nghymru i ddysgu Cymraeg ac i gynnal a gwella eu gallu yn y Gymraeg a'u defnydd ohoni, gan gynnwys, ond heb eu cyfyngu i'r canlynol—

(a) drwy ofal plant i'r rheini sydd o dan oedran ysgol gorfodol;

(b) drwy addysg feithrin;

(c) drwy addysg drydyddol;

(d) yn y gweithle ac yn y gymuned.

(5) Rhaid i'r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg hefyd osod targedau ar awdurdodau lleol sy'n adlewyrchu unrhyw darged cenedlaethol yn strategaeth y Gymraeg a bennir o dan adran 1(1)(c).

(6) Rhaid i'r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg gynnwys—

(a) asesiad o'r addysg Gymraeg a ddarperir ar y pryd ymhob awdurdod lleol;

(b) dadansoddiad o'r swm o addysg Gymraeg y mae ei angen ymhob awdurdod lleol er mwyn cyflawni unrhyw darged a osodir.

(7) Caiff y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg osod targedau pellach sydd i'w cyflawni gan awdurdodau lleol at ddiben gweithredu'r Fframwaith Cenedlaethol yn ardal pob awdurdod lleol.

(8) Caiff y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg hefyd osod targedau ar yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol (gweler Rhan 5) sy'n adlewyrchu unrhyw darged yn strategaeth y Gymraeg yn ymwneud â chefnogi pobl i ddysgu Cymraeg a hwyluso'u cynnydd, gan gynnwys targedau—

(a) i gynyddu nifer y bobl sydd dros oedran ysgol gorfodol sy'n dysgu Cymraeg;

(b) i wella gallu yn y Gymraeg ymhlith pobl sydd dros oedran ysgol gorfodol sy'n dysgu Cymraeg (drwy gyfeirio at y Cod a lunnir gan Weinidogion Cymru o dan adran 6).

(9) Caiff y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol, ar gyfer achosion gwahanol, neu ar gyfer awdurdodau lleol gwahanol.

(10) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio is-adrannau (3) i (8) er mwyn diwygio'r hyn y mae'n ofynnol ei gynnwys yn y Fframwaith Cenedlaethol, neu y caniateir ei gynnwys ynddo.

(11) Yn is-adran (1)(b), ystyr "darpariaeth Gymraeg mewn addysg drydyddol" yw—

(a) addysgu'r Gymraeg mewn addysg drydyddol yng Nghymru, a

(b) addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru.

25Y Fframwaith Cenedlaethol: darpariaeth bellach ar y gweithlu addysg

(1) Rhaid i'r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg nodi'r camau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod hyfforddiant, datblygiad proffesiynol a chefnogaeth ar gael ar gyfer ymarferwyr addysg yng Nghymru at ddiben gwella gallu yn y Gymraeg (drwy gyfeirio at y Cod a lunnir gan Weinidogion Cymru o dan adran 6).

(2) Rhaid i'r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg hefyd—

(a) cynnwys asesiad o nifer yr ymarferwyr addysg y mae ei angen ymhob awdurdod lleol at ddibenion cyflawni unrhyw darged a osodir o dan adran 24(5) a (7), a

(b) nodi'r camau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu cymryd, ar sail yr asesiad hwnnw, er mwyn sicrhau bod nifer yr ymarferwyr addysg sy'n gweithio yng Nghymru yn ateb y galw.

26Gweithredu'r Fframwaith Cenedlaethol

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd pob cam rhesymol i weithredu'r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg.

(2) Rhaid i bob awdurdod lleol—

(a) cymryd pob cam rhesymol i gyflawni targedau a osodir gan y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg mewn perthynas â'i ardal;

(b) ar gais Gweinidogion Cymru, ddarparu unrhyw wybodaeth sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru er mwyn—

(i) eu galluogi i gyflawni'r hyn sy'n ofynnol o dan adran 24(6) ac adran 25(2)(a); (ii) pennu targedau o dan adran 24(5), neu adran 24(7).

27Fframwaith Cenedlaethol: darpariaeth bellach am gynnwys, adolygu a diwygio

(1) Wrth lunio neu ddiwygio'r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg, rhaid i Weinidogion Cymru nodi'r camau y maent yn bwriadu eu cymryd, yn unol ag adran 24(3) a (4) ac adran 25, dros gyfnodau o 10 mlynedd.

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn diwedd pob cyfnod o 5 mlynedd, adolygu a diwygio'r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg er mwyn diweddaru'r camau hynny.

(3) Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd, cyn diwedd pob cyfnod o 5 mlynedd, adolygu'r targedau a osodir gan y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg yn unol ag adran 24(5) a (8) a gosod targedau newydd os ydynt o'r farn bodangen gwneud hynny.

(4) Caiff Gweinidogion Cymru o bryd i'w gilydd—

(a) diwygio'r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg, gan gynnwys ei ddiwygio er mwyn—

(i) addasu cam sy'n bodoli eisoes heb newid y cyfnod y mae'n gymwys iddo;

(ii) ychwanegu cam y maent yn bwriadu ei gymryd dros weddill y cyfnod y mae camau eraill y Fframwaith Cenedlaethol yn gymwys iddo;

(iii) dileu cam;

(b) llunio Fframwaith Cenedlaethol newydd (a gellir cyflawni gofynion is-adran (2) a (3) drwy wneud hynny).

(5) Pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg, mae adrannau 26 ac 28(1) a (2) yn gymwys fel y maent yn gymwys i lunio'r Fframwaith Cenedlaethol.

(6) O ran y cyfnod o 5 mlynedd yn is-adrannau (2) a (3)—

(a) mae'r cyfnod cyntaf yn dechrau ar y diwrnod y gosodir y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg gerbron Senedd Cymru am y tro cyntaf, a

(b) mae pob cyfnod dilynol yn dechrau drannoeth y diwrnod y mae'r cyfnod 5 mlynedd blaenorol yn dod i ben.

(7) Mae is-adran (6) yn gymwys i Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg newydd fel y mae'n gymwys i'r Fframwaith Cenedlaethol cyntaf.

28Ymgynghori a chyhoeddi'r Fframwaith Cenedlaethol

(1) Wrth lunio'r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r canlynol—

(a) pob awdurdod lleol;

(b) yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol (gweler Rhan 5);

(c) Comisiynydd y Gymraeg;

(d) Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;

(e) y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil;

(f) y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (rhif y cwmni 07550507);

(g) unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a) cyhoeddi'r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg;

(b) gosod y Fframwaith Cenedlaethol gerbron Senedd Cymru.

(3) Rhaid i Weinidogion Cymru osod y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg cyntaf gerbron Senedd Cymru o dan is-adran (2)(b) cyn 31 Gorffennaf 2028.

29Adrodd ar y Fframwaith Cenedlaethol

(1) Rhaid i'r adroddiad blynyddol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 78(8) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 gynnwys gwybodaeth am weithredu'r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg.

(2) Rhaid i'r cynllun blynyddol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 78(9) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 nodi sut y byddant yn gweithredu'r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg.

Cynlluniau lleol

30Cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg

(1) Rhaid i bob awdurdod lleol lunio cynllun ("cynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg") sy'n nodi sut y bydd yr awdurdod lleol—

(a) yn hybu a hwyluso, yn ei ardal—

(i) addysg Gymraeg, a

(ii) defnydd o'r Gymraeg mewn ysgolion;

(b) yn cyflawni'r ddyletswydd a osodir arno o dan adran 26(2)(a) (Cymryd pob cam rhesymol i gyflawni'r targedau a osodir gan Weinidogion Cymru yn y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg).

(2) Rhaid i gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg hefyd, i'r graddau y mae rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn gwneud hynny'n ofynnol, nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau addysg i hybu a hwyluso—

(a) addysgu'r Gymraeg, a

(b) addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg, mewn perthynas â phlant o oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn ddisgyblion mewn ysgolion.

(3) Rhaid i gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg nodi, yn benodol, y camau y bydd yr awdurdod lleol yn eu cymryd—

(a) i arfer ei swyddogaethau addysg—

(i) er mwyn gwella'r ddarpariaeth o addysg Gymraeg yn ei ardal,

(ii) er mwyn gwella'r broses o gynllunio darpariaeth addysg Gymraeg yn ei ardal,

(iii) er mwyn cynyddu nifer y disgyblion o oedran ysgol gorfodol sy'n cael addysg mewn ysgolion categori "Prif Iaith— Cymraeg" yn ei ardal,

(iv) er mwyn cynyddu nifer yr ysgolion categori "Prif Iaith— Cymraeg" yn ei ardal, a

(v) er mwyn sicrhau bod digon o ymarferwyr addysg yn gweithio yn ei ardal, at ddiben cyflawni targedau a osodir arno yn rhinwedd adran 24(5);

(b) i hybu a darparu gwybodaeth am yr addysg Gymraeg a ddarperir mewn ysgolion categori "Prif Iaith—Cymraeg" yn ei ardal;

(c) i gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 23 mewn cysylltiad ag addysg drochi hwyr yn ei ardal;

(d) i hwyluso dilyniant o ran addysgu'r Gymraeg ac addysg drwy gyfrwng y Gymraeg rhwng—

(i) addysg feithrin ac addysg ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol,

(ii) ysgolion cynradd a gynhelir ac ysgolion uwchradd a gynhelir, a

(iii) addysg ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gorfodol ac addysg drydyddol.

(4) Rhaid i gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg hefyd gynnwys—

(a) gwybodaeth am yr ymarferwyr addysg sy'n gweithio yn ardal yr awdurdod lleol;

(b) adroddiad ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r cynllun blaenorol (yn achos pob cynllun ac eithrio'r un cyntaf).

(5) Wrth lunio ei gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg, rhaid i'r awdurdod lleol—

(a) rhoi sylw i'r Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg;

(b) ymgynghori ar ddrafft o'r cynllun â'r canlynol—

(i) ei awdurdodau lleol cyfagos;

(ii) pennaeth pob ysgol a phennaeth pob ysgol feithrin a gynhelir y mae'n eu cynnal;

(iii) corff llywodraethu pob ysgol a chorff llywodraethu pob ysgol feithrin a gynhelir y mae'n eu cynnal;

(iv) pennaeth pob sefydliad addysg bellach yn ei ardal;

(v) mewn perthynas ag unrhyw ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol yn ei ardal, y person sy'n penodi'r llywodraethwyr sefydledig, ac os yw'r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol;

(vi) Prif Arolygydd ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru;

(vii) yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol;

(viii) Comisiynydd y Gymraeg;

(ix) y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil;

(x) Mudiad Meithrin Cyf (rhif y cwmni 02164058);

(xi) personau a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

31Cyfnod cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg

(1) Mae pob cynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg yn cael effaith am gyfnod o 5 mlynedd, ac mae—

(a) y cyfnod cyntaf o 5 mlynedd yn dechrau ar ddyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, a

(b) pob cyfnod o 5 mlynedd sy'n dilyn yn dechrau drannoeth y diwrnod y mae'r cyfnod 5 mlynedd blaenorol yn dod i ben.

(2) Ond rhaid i bob cynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg nodi'r camau y mae awdurdod lleol yn bwriadu eu cymryd yn unol ag adran 30(3) dros gyfnod o 10 mlynedd.

32Cymeradwyo cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg

(1) Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno ei gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg i Weinidogion Cymru ar ffurf drafft.

(2) Wrth gyflwyno'r cynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg ar ffurf drafft, rhaid i'r awdurdod lleol ddarparu crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a wnaed o dan adran 30(5)(b), ac ymateb yr awdurdod lleol i'r ymgynghoriad hwnnw.

(3) Mewn perthynas â chynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg a gyflwynir ar ffurf drafft o dan is-adran (1), caiff Gweinidogion Cymru— (a) cymeradwyo'r cynllun,

(b) cymeradwyo'r cynllun ag addasiadau y cytunwyd arnynt â'r awdurdod lleol, neu

(c) gwrthod y cynllun a rhoi cyfarwyddyd i'r awdurdod lleol i ailystyried y cynllun.

(4) Os yw Gweinidogion Cymru yn gwrthod cynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg ar ffurf drafft a gyflwynir o dan is-adran (1), rhaid i'r cyfarwyddyd—

(a) rhoi rhesymau dros y penderfyniad;

(b) pennu erbyn pryd y mae'n ofynnol i'r awdurdod lleol gyflwyno drafft pellach o'r cynllun i Weinidogion Cymru.

(5) Mae is-adrannau (3) a (4) yn gymwys i ddrafft pellach fel y maent yn gymwys i ddrafft a gyflwynir o dan is-adran (1).

33Cyhoeddi a gweithredu cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg

(1) Rhaid i awdurdod lleol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'w gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg gael ei gymeradwyo, ei gyhoeddi a'i anfon—

(a) at gorff llywodraethu pob ysgol a chorff llywodraethu pob ysgol feithrin a gynhelir y mae'n eu cynnal;

(b) at bennaeth pob sefydliad addysg bellach yn ei ardal;

(c) mewn perthynas ag unrhyw ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol yn ei ardal—

(i) at y person sy'n penodi'r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii) os yw'r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, at y corff crefyddol priodol.

(2) Rhaid i awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i weithredu ei gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg a gymeradwyir.

34Adolygu a diwygio cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg

(1) Rhaid i awdurdod lleol adolygu ei gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg yn gyson, a'i ddiwygio os yw o'r farn ei bod yn briodol gwneud hynny.

(2) Mae is-adran (3) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried—

(a) bod awdurdod lleol yn annhebygol o gyflawni targed sy'n gymwys iddo yn y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg, a

(b) bod angen diwygio cynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg yr awdurdod lleol yn unol â hynny.

(3) Pan fo'r is-adran hon yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i awdurdod lleol—

(a) yn nodi eu bod yn ystyried bod awdurdod lleol yn annhebygol o gyflawni targed sy'n gymwys iddo yn y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg;

(b) yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol ystyried diwygio ei gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg.

(4) Pan fo awdurdod lleol yn cael cyfarwyddyd o dan is-adran (3) ond yn penderfynu peidio â diwygio ei gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg, rhaid i'r awdurdod lleol roi rhesymau i Weinidogion Cymru dros beidio â gwneud hynny.

(5) Pan fo awdurdod lleol yn penderfynu diwygio ei gynllun strategol lleol Cymraeg mewn addysg o dan is-adran (1) neu mewn ymateb i gyfarwyddyd o dan is-adran (3), rhaid iddo gyflwyno cynllun diwygiedig i Weinidogion Cymru ar ffurf drafft.

(6) Mae adrannau 30 i 33 a gweddill yr adran hon yn gymwys i gynllun diwygiedig yn yr un modd ag y maent yn gymwys i'r cynllun gwreiddiol.

35Rheoliadau

(1) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach mewn perthynas â chynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol—

(a) ffurf a chynnwys cynllun;

(b) amseriad llunio cynllun;

(c) y broses ymgynghori wrth lunio cynllun drafft;

(d) gweithdrefn cymeradwyo cynllun;

(e) sut a phryd i gyhoeddi cynllun;

(f) adrodd ar weithredu'r cynllun.

(2) Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) hefyd wneud darpariaeth i alluogi dau neu ragor o awdurdodau lleol i lunio cynllun lleol strategol Cymraeg mewn addysg ar y cyd, a chaiff unrhyw reoliadau o'r fath wneud darpariaeth sy'n cymhwyso adrannau 30 i 34 gydag addasiadau at y diben hwnnw.

36Diwygio Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

(1) Mae Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (dccc 1) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Hepgorer Rhan 4 (Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg). (3) Yn adran 1 (trosolwg) hepgorer is-adrannau (13) a (14).

Cyffredinol

37Dehongli

Yn y Rhan hon—

(a) ystyr "addysg Gymraeg" yw—

(i) addysgu'r Gymraeg, a

(ii) addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg, mewn ysgol, yn ystod sesiynau ysgol, i ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol;

(b) mae cyfeiriadau at "ysgol" yn gyfeiriadau at ysgol a gynhelir sydd â disgyblion o oedran ysgol gorfodol;

(c) ystyr "addysg feithrin" yw addysg amser llawn neu ran-amser sy'n addas i blant nad ydynt wedi cyrraedd oedran ysgol gorfodol (pa un a'i darperir mewn ysgolion neu mewn lleoliadau eraill);

(d) ystyr "gofal plant" yw unrhyw ffurf ar ofal neu weithgaredd o dan oruchwyliaeth ar gyfer plentyn, ac eithrio—

(i) gofal a ddarperir ar gyfer plentyn gan riant, perthynas neu riant maeth i'r plentyn,

(ii) addysg (neu unrhyw weithgaredd arall o dan oruchwyliaeth) a ddarperir gan ysgol yn ystod oriau ysgol ar gyfer disgybl cofrestredig, neu

(iii) unrhyw ffurf ar ofal iechyd ar gyfer plentyn;

(e) mae cyfeiriadau at gategorïau iaith "Prif Iaith - Cymraeg", "Dwy Iaith" a "Prif Iaith— Saesneg, rhannol Gymraeg" i'w darllen yn unol â Rhan 3;

(f) "ymarferydd addysg" yw—

(i) athro neu athrawes ysgol fewn yr ystyr a roddi'i "school teacher" yn adran 122 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32), a

(ii) gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol o fewn yr ystyr a roddir gan Atodlen 2 i Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (dccc 5);

(g) ystyr "llywodraethwr sefydledig" mewn perthynas ag ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, yw person a benodwyd yn llywodraethwr sefydledig yn unol â rheoliadau o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32).

RHAN 5
YR ATHROFA DYSGU CYMRAEG GENEDLAETHOL

38Yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol

(1) Sefydlir yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol fel corff corfforedig.

(2) Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at yr "Athrofa Dysgu Cymraeg" yn gyfeiriadau at y corff hwnnw.

(3) Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch yr Athrofa Dysgu Cymraeg.

Amcan a swyddogaethau'r Athrofa Dysgu Cymraeg

39Hwyluso a chefnogi dysgu Cymraeg gydol oes

(1) Amcan yr Athrofa Dysgu Cymraeg yw cefnogi pobl i ddysgu Cymraeg, a hwyluso'u cynnydd, fel bod rhagor o bobl (o bob oedran) yn dysgu'r iaith.

(2) Er mwyn cyflawni'r amcan hwn, rhaid i'r Athrofa Dysgu Cymraeg—

(a) rhoi cyfeiriad ac arweiniad strategol i ddarparwyr dysgu Cymraeg;

(b) darparu, neu hwyluso darpariaeth, deunyddiau dysgu Cymraeg;

(c) cynllunio ar gyfer datblygu'r gweithlu addysg at ddiben gwella dulliau addysgu'r Gymraeg;

(d) gwneud trefniadau i ddarparu cyfleoedd i ddysgu Cymraeg—


(i) i'r gweithlu addysg,

(ii) yn y gweithle, a

(iii) i bobl sydd dros oedran ysgol gorfodol;

(e)gwneud trefniadau i wella lefelau gallu yn y Gymraeg—

(i) ymysg y gweithlu addysg,

(ii) yn y gweithle, a

(iii) ymysg dysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol;

(f) dylunio a datblygu darpariaethdysguCymraeg i ddysgwyrsydddrosoedran ysgol gorfodol, neu hwyluso gwaith dylunio a datblygu o'r fath;

(g) datblygu a chynnal cwricwlwm cenedlaethol dysgu Cymraeg ar gyfer dysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol;

(h) casglu a chyhoeddi data, o leiaf unwaith bob 12 mis, ar ddysgwyr Cymraeg sydd dros oedran ysgol gorfodol.

(3) Wrth arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (2)(c), (d)(i) ac (e)(i), rhaid i'r Athrofa Dysgu Cymraeg roi sylw i'r asesiad sydd yn y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg yn rhinwedd adran 25(2)(a) (asesiad o nifer yr ymarferwyr addysg y mae ei angen mewn awdurdodau lleol).

(4) Caiff yr Athrofa Dysgu Cymraeg hefyd—

(a) cydlynu a chomisiynu ymchwil ar addysgu neu ddysgu Cymraeg;

(b) rhoi cyngor i unrhyw berson ar addysgu neu ddysgu Cymraeg;

(c) rhoi cymorth ariannol i unrhyw berson mewn perthynas ag addysgu neu ddysgu Cymraeg;

(d) gwneud unrhyw beth arall sy'n gysylltiedig â chefnogi pobl i ddysgu Cymraeg a hwyluso'u cynnydd, os yw'n ystyried bod hynny'n briodol er mwyn cyflawni targed a osodir gan y Fframwaith Cenedlaethol ar Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg o dan adran 24(8).

(5) At ddiben diwallu gwahanol anghenion pobl sydd dros oedran ysgol gorfodol ac sy'n dysgu (neu sy'n dymuno dysgu) Cymraeg, rhaid i'r ddarpariaeth dysgu Cymraeg a ddylunnir ac a ddatblygir yn unol ag is-adran (2)(f)—

(a) cynnwys amrywiaeth o lefelau a gweithgareddau dysgu;

(b) cynnwys amrywiaeth o leoliadau dysgu a dulliau astudio;

(c) cael ei threfnu yn y fath fodd fel ei bod yn hwyluso cynnydd dysgwyr drwy'r gwahanol lefelau dysgu.

(6) Rhaid seilio'r cwricwlwm cenedlaethol dysgu Cymraeg y cyfeirir ato yn is-adran (2)(g) a'r lefelau dysgu y cyfeirir atynt yn is-adran (5)(a) ac (c) ar—

(a) y lefelau cyfeirio cyffredin a nodir yn y Tabl yn Atodlen 1, a

(b) y Cod a lunnir gan Weinidogion Cymru o dan adran 6.

(7) Yn y Rhan hon—

ystyr "darparwr dysgu Cymraeg" ("Welsh language learning provider") yw person a ariennir gan yr Athrofa Dysgu Cymraeg i ddarparu addysgu Cymraeg i bobl sydd dros oedran ysgol gorfodol;

mae i "oedran ysgol gorfodol" yr ystyr a roddir i "compulsory school age" gan adran 8 o Ddeddf Addysg 1996.

40Swyddogaethau ychwanegol

(1) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, roi swyddogaethau ychwanegol i'r Athrofa Dysgu Cymraeg.

(2) Rhaid i swyddogaeth a roddir o dan is-adran (1) ymwneud â chefnogi pobl i ddysgu Cymraeg neu hwyluso'u cynnydd.

41Hybu cyfle cyfartal

(1) Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i'r Athrofa Dysgu Cymraeg hybu'r canlynol—

(a) cynyddu cyfranogiad mewn rhaglenni dysgu Cymraeg gan bobl dros oedran ysgol gorfodol sy'n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol;

(b) cadw dysgwyr dros oedran ysgol gorfodol sy'n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol hyd at ddiwedd rhaglenni dysgu Cymraeg;

(c) lleihau unrhyw fylchau o ran cyrhaeddiad mewn dysgu Cymraeg rhwng grwpiau gwahanol o ddysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol pan fo'r gwahaniaethau yn codi oherwydd ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol.

(2) Yn yr adran hon—

ystyr "grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol" ("under-represented groups") yw grwpiau o bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn rhaglenni dysgu Cymraeg o ganlyniad i ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol;

ystyr "rhaglenni dysgu Cymraeg" ("Welsh language learning programmes") yw rhaglenni dysgu Cymraeg a ddarperir gan yr Athrofa Dysgu Cymraeg neu gan ddarparwr dysgu Cymraeg.

42Hybu arloesedd a gwelliant parhaus

(1) Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i'r Athrofa Dysgu Cymraeg hybu'r canlynol—

(a) arloesedd a gwelliant parhaus mewn perthynas â dysgu Cymraeg;

(b) codi safonau o ran dysgu Cymraeg er mwyn cynyddu'r niferoedd sy'n siarad a defnyddio'r Gymraeg, a gwella eu gallu.

(2) At ddibenion is-adran (1), rhaid i'r Athrofa Dysgu Cymraeg roi sylw i bwysigrwydd—

(a) sicrhau bod y rhai hynny sy'n addysgu'r Gymraeg i ddysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol yn cael eu galluogi i ddarparu addysg o safon uchel;

(b) datblygiad proffesiynol parhaus y rhai hynny sy'n addysgu'r Gymraeg i ddysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol;

(c) ystyried barn dysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol.

43Hybu cydlafurio mewn perthynas â dysgu Cymraeg

Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i'r Athrofa Dysgu Cymraeg hybu'r canlynol—

(a) cydlafurio rhwng darparwyr dysgu Cymraeg;

(b) cydlafurio rhwng darparwyr dysgu Cymraeg ac ysgolion a gynhelir a rhwng darparwyr dysgu Cymraeg ac ysgolion meithrin a gynhelir;

(c) cydlafurio rhwng darparwyr dysgu Cymraeg a darparwyr addysg drydyddol eraill yng Nghymru;

(d) cydlafurio rhwng darparwyr dysgu Cymraeg a chyflogwyr yng Nghymru.

44Hybu cydlynu mewn perthynas â dysgu Cymraeg

Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i'r Athrofa Dysgu Cymraeg hybu'r canlynol—

(a) cydlynu yn narpariaeth dysgu Cymraeg yng Nghymru i ddysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol;

(b) rhannu arfer orau mewn perthynas â dulliau addysgu a throsglwyddo'r Gymraeg i ddysgwyr sydd dros oedran ysgol gorfodol.

45Cymhwyso safonau'r Gymraeg

(1) Yn Atodlen 6 (cyrff cyhoeddus etc.: safonau) i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1), yn y tabl, o dan y pennawd "Cyffredinol", ar ôl y cofnod ar gyfer Asiantaeth yr Amgylchedd mewnosoder—

"Yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol
("The National Institute for Learning Welsh")
Safonau cyflenwi gwasanaethau
Safonau llunio polisi
Safonau gweithredu
Safonau cadw cofnodion"

(2) Yn rheoliad 3 o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 6) 2017 (O.S. 2017/90) (cy. 33) ym mharagraff (3), ar ôl "Corfforaethau Addysg Uwch yng Nghymru" mewnosoder "Yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol".

Cyffredinol

46Cynllun strategol

(1) Rhaid i'r Athrofa Dysgu Cymraeg, ar gyfer pob cyfnod cynllunio, lunio cynllun strategol. (2) Rhaid i'r cynllun strategol nodi sut y mae'r Athrofa Dysgu Cymraeg yn bwriadu—

(a) arfer ei swyddogaethau er mwyn cyflawni ei hamcan, a

(b) arfer ei swyddogaethau yn unol ag adrannau 41 i 44.

(3) Wrth lunio'r cynllun strategol rhaid i'r Athrofa Dysgu Cymraeg ymgynghori â'r personau canlynol—

(a) Gweinidogion Cymru;

(b) Comisiynydd y Gymraeg;

(c) y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil;

(d) y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (rhif y cwmni 07550507);

(e) darparwyr dysgu Cymraeg;

(f) unrhyw bersonau eraill y mae'n ystyried eu bod yn briodol.

(4) Rhaid i'r Athrofa Dysgu Cymraeg gyflwyno'r cynllun strategol i'w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na 3 mis cyn dechrau'r cyfnod cynllunio y mae'n ymwneud ag ef.

(5) Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo'r cynllun strategol yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau y cytunir arnynt â'r Athrofa Dysgu Cymraeg.

(6) Rhaid i'r Athrofa Dysgu Cymraeg gyhoeddi'r cynllun strategol sydd wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

(7) Caiff yr Athrofa Dysgu Cymraeg adolygu'r cynllun strategol a chyflwyno cynllun diwygiedig i Weinidogion Cymru i'w gymeradwyo, ac mae is-adrannau (5) a (6) yn gymwys i gynllun diwygiedig fel y maent yn gymwys i'r cynllun gwreiddiol.

(7) Yn yr adran hon, ystyr "cyfnod cynllunio" yw—

(a) cyfnod cyntaf sy'n dechrau â dyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau ac yn dod i ben â dyddiad a bennir felly, a

(b) pob cyfnod dilynol o 3 blynedd neu unrhyw gyfnod arall a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

47Adroddiad blynyddol

(1) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i'r Athrofa Dysgu Cymraeg—

(a) llunio a chyhoeddi adroddiad ("adroddiad blynyddol") ar arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno, a

(b) anfon copi o'i hadroddiad blynyddol at Weinidogion Cymru.

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o'r adroddiad blynyddol gerbron Senedd Cymru.

RHAN 6
CYFFREDINOL

48Cyfarwyddydau a chanllawiau

(1) O ran cyfarwyddyd o dan Rannau 3 a 4 o'r Ddeddf hon—

(a) rhaid cydymffurfio â'r cyfarwyddyd;

(b) rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(c) caniateir ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach.

(2) Rhaid i awdurdod lleol, corff llywodraethu ysgol a gynhelir a chorff llywodraethu ysgol feithrin a gynhelir, wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.


49Diddymu darpariaethau yn Neddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

(1) Mae Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (dccc 1) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn Atodlen 2 (newidiadau rheoleiddiedig)—

(a) ym mharagraff 4, yn lle "i 8" rhodder "a 6";

(b) hepgorer paragraff 7 (cyfrwng Iaith— addysg gynradd) a'r croes-bennawd sy'n ei ragflaenu;

(c) hepgorer paragraff 8 (cyfrwng Iaith— addysg uwchradd) a'r croes-bennawd sy'n ei ragflaenu;

(d) ym mharagraff 22, yn lle "i 25" rhodder "a 24";

(e) hepgorer paragraff 25 (cyfrwng iaith—ysgolion meithrin a gynhelir) a'r croes-bennawd sy'n ei ragflaenu.

50Y Deddfau Addysg

Mae Rhannau 3 a 4 o'r Ddeddf hon i'w cynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a nodir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56).

51Dehongli

(1) Yn y Ddeddf hon—

mae i "addysg drydyddol" ("tertiary education") a "darparwr addysg drydyddol yng Nghymru" ("tertiary education provider in Wales") yr ystyr a roddir yn adran 144 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (dsc 1);

ystyr "awdurdod lleol" ("local authority") yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;

mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, ystyr "corff llywodraethu" ("governing body"), yw'r pwyllgor (os oes un) a sefydlir i weithredu fel y pwyllgor rheoli ar gyfer yr uned o dan reoliadau a wneir o dan Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) a'r athro neu athrawes sydd â chyfrifoldeb am yr uned;

mae i "cynllun cyflawniaddysg Gymraeg" ("Welsh language education delivery plan") yr ystyr a roddir gan adran 14(1);

mae i "defnyddiwr Cymraeg annibynnol" ("independent Welsh user") yr ystyr a roddir yn y Tabl yn Atodlen 1;

mae i "defnyddiwr Cymraeg hyfedr" ("proficient Welsh user") yr ystyr a roddir yn y Tabl yn Atodlen 1;

mae i "defnyddiwr Cymraeg sylfaenol" ("basic Welsh user") yr ystyr a roddir yn y Tabl yn Atodlen 1;

ystyr "sesiynau ysgol" ("school sessions") yw sesiynau ysgol sy'n dechrau ac yn dod i ben ar yr amserau hynny a benderfynir o bryd i'w gilydd yn unol ag adran 32C o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32);

ystyr "ysgol a gynhelir" ("maintained school") yw—

(a) ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol yng Nghymru,

(b) ysgol arbennig gymunedol yng Nghymru, ac eithrio ysgol arbennig gymunedol a sefydlir mewn ysbyty, neu

(c) uned cyfeirio disgyblion yng Nghymru;

ystyr "ysgol feithrin a gynhelir" ("maintained nursery school") yw ysgol feithrin a gynhelir gan awdurdod lleol ac nad yw'n ysgol arbennig.

(2) Yn y Ddeddf hon, mae i'r ymadroddion a ganlyn yr un ystyr ag a roddir i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31)—

"ysgol arbennig gymunedol" ("community special school");

"ysgol gymunedol" ("community school");

"ysgol sefydledig" ("foundation school");

"ysgol wirfoddol" ("voluntary school").

(3) Mae i ymadroddion eraill yn is-adran (1), adran 1, adran 2(1)(b) a (c), a Rhannau 3 a 4 o'r Ddeddf hon, y diffinnir yr ymadroddion Saesneg cyfatebol iddynt yn Neddf Addysg 1996 (p. 56), neu y rhoddir ystyr iddynt ganddi, yr un ystyr ag a roddir i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol hynny yn y Ddeddf honno, gan gynnwys—

"blwyddyn ysgol" ("school year") (gweler adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996);

"disgybl" ("pupil") (gweler adran 3 o Ddeddf Addysg 1996);

"oedran ysgol gorfodol" ("compulsory school age")(gweleradran 8 o DdeddfAddysg 1996);

"swyddogaethau addysg" ("education functions") (gweler y swyddogaethau a bennir yn Atodlen 36A i Ddeddf Addysg 1996);

"uned cyfeirio disgyblion" ("pupil referral unit") (gweler adran 19A(2) o Ddeddf Addysg 1996);

"ysgol gynradd" ("primary school") (gweler adran 5(1) o Ddeddf Addysg 1996);

"ysgol uwchradd" ("secondary school") (gweler adran 5(2) o Ddeddf Addysg 1996).

(4) Ond pan fo ystyr wedi ei roi i ymadrodd at ddibenion y Ddeddf hon (naill ai gan y Ddeddf hon neu gan Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4)) sy'n wahanol i'r ystyr a roddir iddo at ddibenion Deddf Addysg 1996, mae'r ystyr hwnnw yn gymwys at ddibenion y ddarpariaeth honno yn lle'r un a roddir at ddibenion Deddf 1996.

52Cyhoeddi

(1) Pan fo'r Ddeddf hon yn gosod dyletswydd i gyhoeddi dogfen, rhaid i'r ddogfen gael ei chyhoeddi—

(a) ar ffurf electronig, a

(b) mewn unrhyw fodd arall y mae'r person sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd yn ystyried ei fod yn briodol ar gyfer y rhai na allant gyrchu'r ddogfen ar ffurf electronig.

(2) Mae'r ddyletswydd i gyhoeddi'r ddogfen ar ffurf electronig yn ddyletswydd, pan fo gan y person hwnnw ei wefan ei hun, i'w chyhoeddi ar y wefan honno.

53Anfon dogfennau

(1) Pan fo'r Ddeddf hon yn awdurdodi neu'n ei gwneud yn ofynnol rhoi hysbysiad, cyfarwyddyd neu ddogfen arall i berson neu anfon hysbysiad, cyfarwyddyd neu ddogfen arall at berson, caniateir rhoi neu anfon y ddogfen—

(a) drwy ei rhoi â llaw i'r person neu, yn achos person sy'n gorff corfforedig, ei rhoi â llaw i ysgrifennydd neuglerc y corffyn ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa;

(b) drwy ei gadael ym man preswylio arferol y person neu ym man preswylio hysbys diwethaf y person neu, os yw'r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno, yn y cyfeiriad hwnnw;

(c) drwy ei hanfon drwy'r post mewn llythyr wedi ei ragdalu—

(i) wedi ei gyfeirio at y person ym man preswylio arferol y person neu ym man preswylio hysbys diwethaf y person, neu, yn achos person sy'n gorff corfforedig, wedi ei gyfeirio at ysgrifennydd neu glerc y corff yn ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa, neu

(ii) os yw'r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno, wedi ei gyfeirio i'r person yn y cyfeiriad hwnnw;

(d) os yw'r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, drwy ei hanfon at y person yn y cyfeiriad hwnnw gan ddefnyddio cyfathrebiad electronig sy'n cydymffurfio â'r amodau yn is-adran (2).

(2) Yr amodau yw—

(a) bod modd i'r person yr anfonir y ddogfen ato gyrchu'r ddogfen,

(b) bod y ddogfen yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol, ac

(c) bod modd i'r ddogfen gael ei defnyddio i gyfeirio ati yn ddiweddarach.

54Rheoliadau o dan y Ddeddf hon

(1) Rhaid i bŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon gael ei arfer drwy offeryn statudol.

(2) Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer—

(a) i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer ardaloedd gwahanol, blynyddoedd ysgol gwahanol, neu ddibenion gwahanol;

(b) i wneud darpariaeth wahanol yn gyffredinol neu'n ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodedig neu mewn perthynas ag achosion penodedig;

(c) i wneud darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth atodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(3) Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan is-adran (2)(c) yn cynnwys darpariaeth sy'n diwygio, yn diddymu neu'n dirymu unrhyw ddeddfiad, gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.

(4) Ni chaniateir i offeryn statudol sy'n cynnwys un neu ragor o'r canlynol gael ei wneud oni bai bod drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru, ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad—

(a) rheoliadau o dan adrannau 1(2), 3(1) a 3(3), 5(2), 9(3), 10(3), 11(2)(b), (3)(b) a (c), 13, 14(4), 20(4), 24(10), 40(1), 46(8)(b), a pharagraffau 2(4) a 3(f) o Atodlen 2;

(b) rheoliadau sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw ddeddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon).

(5) Mae unrhyw offeryn statudol arall sy'n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i'w annilysu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

(6) Yn is-adran (4) ystyr "deddfwriaeth sylfaenol" yw—

(a) Deddf gan Senedd Cymru;

(b) Mesur Cynulliad;

(c) Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.

55Darpariaeth ganlyniadol a darpariaeth drosiannol etc.

(1) Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a) gwneud darpariaeth sy'n ddeilliadol neu'n atodol i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon neu sy'n ganlyniadol ar unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon;

(b) gwneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.

(2) Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon).

56Dod i rym

(1) Daw'r darpariaethau canlynol i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

(a) y Rhan hon, ac eithrio adran 49;

(b) adran 1(1)(a);

(c) adran 1(4) i'r graddau y mae'n gymwys i adran 1(1)(a).

(2) Daw adrannau 1(5) a 5 ac Atodlen 1 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy'n dechrau â'r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(3) Daw Rhan 5 ac Atodlen 2 i rym ar 1 Awst 2027.

(4) Daw adran 49 a darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(5) Caiff gorchymyn o dan is-adran (4)—

(a) pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;

(b) gwneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dyfodiad darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym.

57Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025.

ATODLEN 1
(cyflwynir gan adran 5)

MATHAU O DDEFNYDDIWR CYMRAEG A LEFELAU CYFEIRIO CYFFREDIN

Mae'r Tabl yn atgynhyrchu (mewn perthynas â'r Gymraeg) y crynodeb o'r lefelau cyfeirio cyffredin a gynhwysir yn Atodiad 1 i'r Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd: Dysgu, Addysgu, Asesu—Cyfrol Cydymaith (2020), sy'n diweddaru Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd 2001 a ddatblygwyd gan Gyngor Ewrop (ac y cyfeirir ato ym Mhenderfyniad 14757/01 y Cyngor Ewropeaidd ar hybu amrywiaeth ieithyddol a dysgu ieithoedd yn y fframwaith ar weithredu amcanion Blwyddyn Ieithoedd Ewrop 2001).

Mathau o ddefnyddiwr Cymraeg Lefelau cyfeirio cyffredin Nodweddion Cyffredinol
Defnyddiwr Cymraeg hyfedr C2 Gallu deall bron pob math o destunau. Gallu crynhoi gwybodaeth o wahanol ffynonellau llafar ac ysgrifenedig, gan ail-lunio dadleuon a disgrifiadau mewn cyflwyniad cydlynol. Gallu ei fynegi ei hun yn ddigymell, yn fanwl-gywir ac yn rhugl iawn, gan wahaniaethu rhwng arlliwiau mwy cynnil o ystyr hyd yn oed mewn sefyllfaoedd mwy cymhleth.
C1 Gallu deall ystod eang o destunau anodd, hirach, ac adnabod ystyr ymhlyg. Gallu ei fynegi ei hun yn rhugl ac yn ddigymell heb lawer o ymbalfalu amlwg am ddywediadau. Gallu defnyddio iaith yn hyblyg ac yn effeithiol at ddibenion cymdeithasol, academaidd a phroffesiynol. Gallu cynhyrchu testun clir, strwythuredig, manwl ar bynciau cymhleth, gan ddangos defnydd rheoledig o batrymau trefniadol, cysylltwyr a dyfeisiau cydlynu.
Defnyddiwr Cymraeg annibynnol B2 Gallu deall prif syniadau testun cymhleth ar bynciau diriaethol a haniaethol, gan gynnwys trafodaethau technegol yn ei faes arbenigedd. Gallu rhyngweithio yn eithaf rhugl a digymell sy'n golygu ei bod yn ddigon posibl rhyngweithio'n rheolaidd â defnyddwyr yr iaith darged heb roi straen ar y naill barti na'r llall. Gallu cynhyrchu testun clir, manwl ar ystod eang o bynciau ac egluro safbwynt ar bynciau cyfoes gan nodi manteision ac anfanteision opsiynau amrywiol
B1 Gallu deall prif bwyntiau mewnbwn safonol clir ar faterion cyfarwydd y mae'n dod ar eu traws yn rheolaidd yn y gwaith, yn yr ysgol, mewn gweithgareddau hamdden ac ati. Gallu delio â'r rhan fwyaf o sefyllfaoedd sy'n debygol o godi wrth deithio mewn ardal lle mae'r iaith yn cael ei siarad. Gallu cynhyrchu testun syml, cysylltiedig ar bynciau sy'n gyfarwydd neu sydd o ddiddordeb personol. Gallu disgrifio profiadau a digwyddiadau, breuddwydion, gobeithion ac uchelgeisiau, a rhoi rhesymau ac esboniadau yn gryno am safbwyntiau a chynlluniau.

Defnyddiwr Cymraeg sylfaenol A2 Gallu deall brawddegau a dywediadau sy'n caeleu defnyddio'n aml ac sy'n gysylltiedig â'r meysydd mwyaf uniongyrchol berthnasol (er enghraifft, gwybodaeth bersonol neu deuluol sylfaenol iawn, siopa, daearyddiaeth leol, gwaith). Gallu cyfathrebu yn ystod tasgau syml ac arferol sy'n galw am gyfnewid gwybodaeth yn syml ac yn uniongyrchol am faterion cyfarwydd ac arferol. Gallu disgrifio'n syml agweddau ar ei gefndir, yr amgylchedd o'i gwmpas a materion mewn meysydd lle mae angen uniongyrchol.
A1 Gallu deall a defnyddio dywediadau pob dydd cyfarwydd ac ymadroddion sylfaenol iawn gyda'r nod o ddiwallu anghenion o fath diriaethol. Gallu ei gyflwyno ei hun ac eraill ac yn gallu gofyn ac ateb cwestiynau am fanylion personol fel ble mae rhywun yn byw, pobl y mae'n eu hadnabod a phethau sydd ganddo. Gallu rhyngweithio mewn ffordd syml cyhyd â bod y person arall yn siarad yn araf ac yn glir ac yn barod i helpu.


ATODLEN 2
(cyflwynir gan adran 38)

YR ATHROFA DYSGU CYMRAEG GENEDLAETHOL

RHAN 1
STATWS

Statws

1(1) Nid yw'r Athrofa Dysgu Cymraeg i'w hystyried yn was nac yn asiant i'r Goron nac ychwaith i'w hystyried yn mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

(2) Nid yw eiddo'r Athrofa Dysgu Cymraeg i'w ystyried yn eiddo i'r Goron nac yn eiddo a ddelir ar ei rhan.

RHAN 2
AELODAETH

Aelodau

2(1) Aelodau'r Athrofa Dysgu Cymraeg yw—

(a) person a benodir gan Weinidogion Cymru yn gadeirydd iddo;

(b) o leiaf 6 a dim mwy na 10 o bersonau eraill a benodir gan Weinidogion Cymru;

(c) ei brif weithredwr (gweler paragraff 6);

(d) o leiaf 1 ond dim mwy na 2 aelod arall o blith staff yr Athrofa Dysgu Cymraeg a benodir gan y prif weithredwr a'r aelodau anweithredol.

(2) Yn yr Atodlen hon—

(a) cyfeirir at y cadeirydd ac aelodau'r Athrofa Dysgu Cymraeg a benodir o dan is-baragraff (1)(b) ar y cyd fel "aelodau anweithredol";

(b) cyfeirir at y prif weithredwr ac aelodau'r Athrofa Dysgu Cymraeg a benodir o dan is-baragraff (1)(d) ar y cyd fel "aelodau gweithredol".

(3) Caiff Gweinidogion Cymru benodi un o'r aelodau a benodir o dan is-baragraff (1(b) yn ddirprwy gadeirydd.

(4) Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-baragraff (1), drwy reoliadau, er mwyn rhoi rhif gwahanol yn lle unrhyw un neu ragor o'r rhifau a bennir; ond rhaid i nifer yr aelodau anweithredol bob amser fod yn fwy na nifer yr aelodau gweithredol.

(5) Wrth benodi aelod anweithredol, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i ddymunoldeb—

(a) penodi personau sy'n meddu ar brofiad o fater, ac sydd wedi arddangos gallu mewn mater, sy'n berthnasol i arfer swyddogaethau'r Athrofa Dysgu Cymraeg, a

(b) penodi personau sydd ag ystod o sgiliau a phrofiadau.

Anghymhwyso rhag bod yn aelod anweithredol

3Mae person wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod anweithredol os yw'r person—

(a) yn aelod o staff yr Athrofa Dysgu Cymraeg,

(b) yn Aelod o'r Senedd,

(c) yn aelod o Dŷ'r Cyffredin neu o Dŷ'r Arglwyddi,

(d) yn aelod o awdurdod lleol,

(e) yn berson a gyflogir yng ngwasanaeth sifil y Wladwriaeth, neu

(f) yn ddeiliad swydd, neu'n aelod o gorff neu'n aelod o staff corff, a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

Telerau aelodaeth anweithredol

4(1) Mae aelod anweithredol yn dal swydd am unrhyw gyfnod, ac ar unrhyw delerau ac amodau, a bennir yn nhelerau'r penodiad, ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (4) a pharagraff 5.

(2) Ni chaiff cyfnod y swydd a bennir yn nhelerau penodiad aelod anweithredol fod yn hwy na 5 mlynedd.

(3) Caniateir i berson sydd wedi dal swydd fel aelod anweithredol gael ei ailbenodi'n aelod anweithredol unwaith yn unig (ac mae is-baragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â'r ailbenodiad).

(4) Caiff yr Athrofa Dysgu Cymraeg, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru—

(a) talu tâl, treuliau a lwfansau i'w haelodau anweithredol;

(b) talu pensiynau i bersonau sydd wedi bod yn aelodau anweithredol, neu mewn cysylltiad â hwy, a symiau ar gyfer darparu pensiynau neu tuag at ddarparu pensiynau i bersonau sydd wedi bod yn aelodau anweithredol, neu mewn cysylltiad â hwy.

Diswyddo etc. aelodau

5(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo aelod anweithredol os ydynt wedi eu bodloni—

(a) bod y person yn anaddas i barhau'n aelod, neu

(b) nad yw'r person yn gallu arfer swyddogaethau aelod neu ei fod yn anfodlon gwneud hynny.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru atal aelod anweithredol dros dro o'i swydd drwy hysbysiad os yw'n ymddangos iddynt y gall fod sail dros arfer y pŵer yn is-baragraff (1).

(3) Mae ataliad dros dro drwy hysbysiad o dan is-baragraff (2) yn cael effaith—

(a) am gyfnod a bennir yn yr hysbysiad, neu

(b) os na phennir cyfnod yn yr hysbysiad, hyd nes y rhoddir hysbysiad pellach gan Weinidogion Cymru i'r person sydd wedi ei atal dros dro.

(4) Caiff aelod anweithredol ymddiswyddo drwy roi hysbysiad i Weinidogion Cymru.

(5) Mae person yn peidio â bod yn aelod anweithredol os yw'r person hwnnw'n dod yn anghymwys (gweler paragraff 3).

(6) Mae person yn peidio â bod yn gadeirydd neu'n ddirprwy gadeirydd (yn ôl y digwydd) os yw'r person hwnnw'n peidio â bod yn aelod anweithredol.

(7) Mae person yn peidio â bod yn aelod gweithredol pan fo'n peidio â bod yn aelod o'r staff.

(7) Ni chaiff person sydd wedi ei atal dros dro o'i swydd o dan y paragraff hwn gymryd rhan yn nhrafodion yr Athrofa Dysgu Cymraeg, na thrafodion ei phwyllgorau na'i his-bwyllgorau, yn ystod y cyfnod y mae'r ataliad dros dro yn cael effaith.

RHAN 3
STAFF

Y prif weithredwr

6(1) Rhaid i'r Athrofa Dysgu Cymraeg gael prif weithredwr.

(2) Mae'r prif weithredwr cyntaf i'w benodi gan Weinidogion Cymru.

(3) Mae'r person a benodir o dan is-baragraff (2) i'w benodi ar unrhyw delerau ac amodau gan gynnwys telerau ac amodau o ran tâl, treuliau, lwfansau a phensiwn) y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt.

(4) Ond pan fo Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (diogelu Cyflogaeth) 2006 (O.S. 2006/246) yn gymwys mewn perthynas â'r person a benodir o dan is-baragraff (2) rhaid i'r penodiad a'r penderfyniad ar delerau ac amodau'r person hwnnw o dan is-baragraff (3) gael eu gwneud yn unol â'r Rheoliadau hynny.

(5) Mae penodiadau dilynol i'w gwneud gan yr aelodau anweithredol ar unrhyw delerau ac amodau gan gynnwys telerau ac amodau o ran tâl, treuliau, lwfansau a phensiwn) y maent yn penderfynu arnynt.

(6) Ond ni chaiff yr aelodau anweithredol gytuno ar delerau ac amodau o ran tâl, treuliau, lwfansau neu bensiwn y prif weithredwr heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

(7) Mae'r prif weithredwr yn aelod o'r staff.

(7) Nid yw gwasanaeth fel y prif weithredwr yn wasanaeth yng ngwasanaeth sifil y Wladwriaeth.

Staff eraill

7(1) Caiff yr Athrofa Dysgu Cymraeg benodi aelodau eraill o staff.

(2) Caniateir i aelod o staff a benodir o dan y paragraff hwn gael ei benodi ar unrhyw delerau ac amodau gan gynnwys telerau ac amodau o ran tâl, treuliau, lwfansau a phensiwn) y mae'r Athrofa Dysgu Cymraeg yn penderfynu arnynt.

(3) Ond ni chaiff yr Athrofa Dysgu Cymraeg gytuno ar delerau ac amodau o ran tâl, treuliau, lwfansau neu bensiwn aelodau'r staff heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

(4) Nid yw gwasanaeth fel aelod o staff a benodir o dan y paragraff hwn yn wasanaeth yng ngwasanaeth sifil y Wladwriaeth.

RHAN 4
DIRPRWYO

Pwyllgorau ac is-bwyllgorau

8(1) Caiff yr Athrofa Dysgu Cymraeg sefydlu pwyllgorau ac is-bwyllgorau.

(2) Caiff pwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn sefydlu is-bwyllgorau.

(3) Caiff pwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o'r Athrofa Dysgu Cymraeg nac yn aelodau o'i staff, ond nid oes gan y personau hynny yr hawl i bleidleisio yng nghyfarfodydd y pwyllgor neu'r is-bwyllgor (yn ôl y digwydd).

(4) Caiff yr Athrofa Dysgu Cymraeg dalu unrhyw dâl, treuliau a lwfansau a bennir gan Weinidogion Cymru i unrhyw berson—

(a) sy'n aelod o bwyllgor neu o is-bwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn, ond

(b) nad yw'n aelod o'r Athrofa Dysgu Cymraeg, nac yn aelod o'i staff.

Dirprwyo

9(1) Caiff yr Athrofa Dysgu Cymraeg ddirprwyo unrhyw un neu ragor o'i swyddogaethau i unrhyw un neu ragor—

(a) o'i phwyllgorau,

(b) o'i his-bwyllgorau (pa un ai o dan baragraff 8(1) ynteu (2) y'u sefydlwyd),

(c) o'i haelodau, neu

(d) o aelodau ei staff.

(2) Caiff pwyllgor o'r Athrofa Dysgu Cymraeg ddirprwyo unrhyw swyddogaeth sy'n arferadwy ganddo—

(a) i is-bwyllgor o'r Athrofa Dysgu Cymraeg (pa un ai o dan baragraff 8(1) ynteu (2) y'i sefydlwyd),

(b) i aelod o'r Athrofa Dysgu Cymraeg, neu (c) i aelod o staff yr Athrofa Dysgu Cymraeg.

(3) Caiffis-bwyllgor(pa un ai o dan baragraff 8(1) ynteu (2) y'i sefydlwyd)ddirprwyo unrhyw swyddogaeth sy'n arferadwy ganddo—

(a) i aelod o'r Athrofa Dysgu Cymraeg, neu

(b) i aelod o staff yr Athrofa Dysgu Cymraeg.

(4) Caiff yr Athrofa Dysgu Cymraeg—

(a) cyfarwyddo pwyllgor neu is-bwyllgor na chaiff ddirprwyo swyddogaeth a bennir yn y cyfarwyddyd;

(b) cyfarwyddo pwyllgor neu is-bwyllgor i amrywio neu ddirymu unrhyw ddirprwyaeth a bennir yn y cyfarwyddyd;

(c) cyfarwyddo pwyllgor i amrywio neu ddirymu unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd gan y pwyllgor o dan is-baragraff (5).

(5) Caiff pwyllgor o'r Athrofa Dysgu Cymraeg sydd wedi dirprwyo swyddogaeth i is-bwyllgor—

(a) cyfarwyddo'r is-bwyllgor na chaiff ddirprwyo'r swyddogaeth honno;

(b) cyfarwyddo'r is-bwyllgor i amrywio neu ddirymu unrhyw ddirprwyo a wnaed ganddo o ran y swyddogaeth honno.

(6) Dirprwyir swyddogaeth o dan y paragraff hwn i'r graddau ac ar y telerau a bennir gan y person sy'n dirprwyo, ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd o dan is-baragraffau (4) a (5).

(7) Nid yw dirprwyo swyddogaeth o dan y paragraff hwn yn atal yr Athrofa Dysgu Cymraeg (na'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor, yn ôl y digwydd) rhag arfer y swyddogaeth o dan sylw.

(7) Nid yw dirprwyo swyddogaeth o dan y paragraff hwn yn effeithio ar gyfrifoldeb yr Athrofa Dysgu Cymraeg dros arfer y swyddogaeth o dan sylw.

RHAN 5
GWEITHDREFN ETC.

Gweithdrefn

10(1) Rhaid i'r Athrofa Dysgu Cymraeg wneud rheolau i reoleiddio ei gweithdrefn ei hun gan gynnwys cworwm).

(2) Rhaid i'r rheolau ddarparu nad yw cyfarfod o'r Athrofa Dysgu Cymraeg yn ffurfio cworwm oni bai bod mwyafrif yr aelodau sy'n bresennol yn aelodau anweithredol.

(3) Rhaid i'r Athrofa Dysgu Cymraeg wneud rheolau i reoleiddio gweithdrefn ei phwyllgorau a'i his-bwyllgorau gan gynnwys cworwm).

(4) CaiffyrAthrofa Dysgu Cymraeg, ei phwyllgoraua'i his-bwyllgorau bennueu gweithdrefn eu hunain gan gynnwys cworwm), yn ddarostyngedig i unrhyw reolau a wneir gan yr Athrofa Dysgu Cymraeg o dan is-baragraff (3).

Dilysrwydd trafodion a gweithredoedd

11Nid yw'r canlynol yn effeithio ar ddilysrwydd trafodion a gweithredoedd yr Athrofa Dysgu Cymraeg (na'i phwyllgorau a'i his-bwyllgorau)—

(a) unrhyw swydd wag ymhlith aelodaeth yr Athrofa Dysgu Cymraeg, na

(b) unrhyw ddiffyg o ran penodi aelod.

Sêl

12Os oes gan yr Athrofa Dysgu Cymraeg sêl, rhaid iddi gael ei dilysu drwy lofnod—

(a) aelod o'r Athrofa Dysgu Cymraeg sydd wedi ei awdurdodi at y diben hwnnw, neu

(b) aelod o staff yr Athrofa Dysgu Cymraeg sydd wedi ei awdurdodi at y diben hwnnw.

Tystiolaeth

13Mae dogfen yr honnir ei bod wedi ei gweithredu'n briodol o dan sêl yr Athrofa Dysgu Cymraeg neu wedi ei llofnodi ar ran yr Athrofa Dysgu Cymraeg i'w derbyn fel tystiolaeth ac, oni phrofir i'r gwrthwyneb, i'w chymryd fel pe bai wedi ei gweithredu neu ei llofnodi felly.

RHAN 6
MATERION ARIANNOL

Cyllid

14Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau drwy grant neu fenthyciad i'r Athrofa Dysgu Cymraeg o unrhyw symiau, ac ar unrhyw adegau, ac yn unol ag unrhyw amodau y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt.

Swyddog cyfrifyddu

15(1) Prif weithredwr yr Athrofa Dysgu Cymraeg yw ei swyddog cyfrifyddu.

(2) Os nad yw'r prif weithredwr yn gallu cyflawni'r cyfrifoldebau fel swyddog cyfrifyddu, rhaid i'r Athrofa Dysgu Cymraeg enwebu aelodo'i staff i fod y swyddog cyfrifyddu cyhyd ag y mae'r prif weithredwr yn methu â chyflawni'r cyfrifoldebau.

(3) Os yw swydd y prif weithredwr yn wag, rhaid i'r Athrofa Dysgu Cymraeg enwebu aelod o'i staff i fod y swyddog cyfrifyddu cyhyd ag y mae swydd y prif weithredwr yn parhau yn wag.

(4) Mae gan y swyddog cyfrifyddu, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid yr Athrofa Dysgu Cymraeg, y cyfrifoldebau a bennir am y tro gan Weinidogion Cymru.

(5) Mae'r cyfrifoldebau y caniateir eu pennu o dan y paragraff hwn yn cynnwys (ymhlith pethau eraill)—

(a) cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi'r cyfrifon;

(b) cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid yr Athrofa Dysgu Cymraeg;

(c) cyfrifoldebau am ddarbodaeth, effeithlonrwyddac effeithiolrwyddo ran y defnydd o adnoddau'r Athrofa Dysgu Cymraeg;

(d) cyfrifoldebau sy'n ddyledus i Weinidogion Cymru, Senedd Cymru neu ei Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Cyfrifon

16(1) Rhaid i'r Athrofa Dysgu Cymraeg—

(a) cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â hwy, a

(b) llunio datganiad o gyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol.

(2) Rhaid i bob datganiad o gyfrifon gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o ran—

(a) yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y datganiad;

(b) y modd y mae'r wybodaeth i'w chyflwyno;

(c) y dulliau a'r egwyddorion y mae'r datganiad i'w lunio yn unol â hwy;

(d) gwybodaeth ychwanegol sydd i fynd gyda'r datganiad.

(3) Heb fod yn hwyrach na 31 Awst ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i'r Athrofa Dysgu Cymraeg gyflwyno ei datganiad o gyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol honno—

(a) i Archwilydd Cyffredinol Cymru, a

(b) i Weinidogion Cymru.

Archwilio

17 (1) Mae'rparagraffhwn yngymwys mewn perthynas â phob datganiado gyfrifona gyflwynir i Archwilydd Cyffredinol Cymru gan yr Athrofa Dysgu Cymraeg o dan baragraff 16(3)(a).

(2) Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a) archwilio'r datganiad o gyfrifon, ei ardystio ac adrodd arno;

(b) darparu copi o'r datganiad o gyfrifon ardystiedig a'r adroddiad i'r Athrofa Dysgu Cymraeg.

(3) Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 4 mis sy'n dechrau â'r diwrnod y cyflwynir y datganiad o gyfrifon ("y cyfnod o 4 mis"), osod gerbron Senedd Cymru—

(a) copi o'r datganiad o gyfrifon ardystiedig a'r adroddiad, neu

(b) os nad yw'n rhesymol ymarferol cydymffurfio â pharagraff, ddatganiad i'r perwyl hwnnw.

(4) Pan fo datganiad wedi ei osod o dan is-baragraff (3)(b), rhaid i'r Archwilydd Cyffredinol osod copi o'r datganiad o gyfrifon ardystiedig a'r adroddiad gerbron Senedd Cymru cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod o 4 mis.

(5) Wrth gydymffurfio ag is-baragraff (2), rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru archwilio a aed, ym marn yr Archwilydd Cyffredinol, i'r gwariant y mae'r cyfrifon yn ymwneud ag ef yn gyfreithlon ac yn unol â'r awdurdod sy'n llywodraethu'r gwariant hwnnw, ac adrodd ar hynny.

Archwilio'r defnydd o adnoddau

18(1) Caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal archwiliadau i ba mor ddarbodus, effeithiol ac effeithlon y defnyddiwyd adnoddau wrth gyflawni swyddogaethau'r Athrofa Dysgu Cymraeg.

(2) Ond nid yw hynny'n rhoi'r hawl i Archwilydd Cyffredinol Cymru gwestiynu rhinweddau amcanion polisi'r Athrofa Dysgu Cymraeg.

(3) Cyn cynnal archwiliad rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a) ymgynghori â Senedd Cymru, a

(b) ystyried barn Senedd Cymru ynghylch a ddylid cynnal archwiliad ai peidio.

(4) Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, gyhoeddi adroddiad o ganlyniadau archwiliad a gynhelir o dan y paragraff hwn, a

(b) gosod copi o'r adroddiad gerbron Senedd Cymru.

Cofrestr buddiannau

19(1) Rhaid i'r Athrofa Dysgu Cymraeg sefydlu a chynnal cofrestr o fuddiannau ei haelodau.

(2) Rhaid i'r Athrofa Dysgu Cymraeg gyhoeddi cofnodion a gofnodir yng nghofrestr buddiannau'r aelodau.

Pwerau atodol

20(1) Caiff yr Athrofa Dysgu Cymraeg wneud unrhyw beth y mae'n ystyried ei fod—

(a) yn briodol at ddibenion ei swyddogaethau neu mewn cysylltiad â hwy, neu

(b) yn gysylltiedig ag arfer y swyddogaethau hynny neu'n ffafriol i'w harfer.

(2) Caiff yr Athrofa Dysgu Cymraeg (ymhlith pethau eraill)—

(a) caffael neu waredu tir neu eiddo arall;

(b) ymrwymo i gontractau;

(c) buddsoddi symiau;


(d) derbyn rhoddion o arian, tir neu eiddo arall.

(3) Ond ni chaiff yr Athrofa Dysgu Cymraeg gael benthyg arian heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

RHAN 7
DIWYGIAD CANLYNIADOL

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)

21Yn adran 148 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (ystyr "Welsh public records"), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (k), mewnosoder—

"(kza) the National Institute for Learning Welsh,".

Nodiadau

[golygu]

Trwyddedir y ffeil hon yn ôl termau'r Drwydded Llywodraeth Agored y Deyrnas Unedig v3.0.