Neidio i'r cynnwys

Blacmel/Bargen Galed

Oddi ar Wicidestun
← Yn y Feis Blacmel

gan John Pierce

Ffyrdd Troseddwyr →

PENNOD III
BARGEN GALED

"WEL, 'rwan, Roberts," meddai Parri ar ôl iddynt orffen bwyta, mi awn ni'n ôl at y tân i'r ystafell yna. Yn naturiol, yr ydych yn disgwyl eglurhad. Wel, mi'i cewch o yrŵan." "Un gair, os gwelwch chi'n dda, cyn i chi ddechrau," meddai Roberts. "Beth am y nodyn 'ma? Ydyw hwn yn dweud y gwir?"

"Ydyw, a nac ydyw," atebodd Parri, "hynny ydyw—nid yw'n dweud y gwir i gyd. Mi edrychech yn fwy syn fyth, pe gwyddech chwi faint."

"Diain i, Parri," meddai Roberts, gan sythu yn y gadair esmwyth, "mi 'rydw' i'n dechrau'i gweld hi—ydw' yn wir—Brenin Mawr!—chi oedd yn gyfrifol am y dwyn defaid a gwartheg mawr hwnnw, flwyddyn a hanner a dwy flynedd yn ôl—y peth a'm dychrynodd i—ac a wnaeth imi roi gorau i'm tipyn dwyn i—rhag ofn i mi gael y bai am y cwbl. Pwy fyth fuasai'n dychmygu?"

"Wel neb, 'rydw' i'n gobeithio," meddai Parri, â rhywbeth tebyg i wên ar ei wyneb.

"Wel p'am rhoesoch chi gorau iddi mor sydyn ynteu, Parri?" gofynnodd Roberts.

"Ydych chi'n cofio'r helynt pan gafwyd Sarjant Huws a Phrys y plisman yn hanner marw yng nga—"

"Y Drugaredd Fawr!" ebe Roberts, yn syfrdan, "chi oedd yn gyfrifol am hynny hefyd? Pwy oedd eich partner chi'r adeg honno?"

"Neb," atebodd Parri.

"Ydych chi yn meddwl dweud, Parri, eich bod chi wedi taclo'r ddau, eich hun?"

Heb ateb y cwestiwn, ychwanegodd Parri, "Dyma 'nghardiau i i gyd ar y bwrdd, Roberts. Mae arnaf eisiau partner, ac yr ydw'i wedi eich gwylio ers tipyn bellach, ac—"

"Fy ngwylio i?" ebe Roberts, "fy ngwylio i, i beth?" "Na hidiwch ddim," ebe Parri, "ond peidiwch â meddwl mai chi ydyw'r unig un a fûm yn wylio ychwaith—ond chi ydw' i am fentro—os cydsyniwch chi. Beth amdani hi?"

"Ie," meddai Roberts, "ie siwr, ond i beth y mae'r papur 'ma'n dda? Beth ydw'i i wneud â hwn?"

"Roberts," meddai Parri, â siom yn ei lais, "tybed fy mod i wedi gwneud camgymeriad? Siawns gen' i nad ydych yn gweld"

"O!—Ydw', 'rydw' i yn gweld yn iawn, peidiwch â phryderu am hynny—mae'r papur yma i gau'ch ceg chi, a'r llall i gau f'un' innau. Perffaith deg—ac am hynny yr wyf innau am fod yn deg efo chwithau—'dydw' i ddim am eich rhoi chi i lawr, a chwithau wedi bod mor agored efo mi—ond y gwir amdani yw, fy mod i mewn digon o helynt yn barod; yr ydw'i yng ngafael benthycwyr arian."

"Ydych," ebe Parri yn sychlyd, "ac yng ngafael barmed neu ddwy hefyd. . . .

Ar hynny neidiodd Roberts i fyny, a chychwyn tua'r drws, ond estynnodd Parri ei fraich allan, a chyn i Roberts gymryd rhagor na dau gam, yn hollol ddi-ymdrech yr oedd wedi ei osod i eistedd yn ôl yn ei gadair.

"Na wnaf, myn cebystr," meddai yn ffyrnig, "'wna i ddim â chi—dyna chi wedi ei gorffen hi efo mi—y blacmeiliwr, mi gwel—"

Tra tantrai Roberts fel hyn, ymwingai ac ymdrechai i godi o'i gadair, ond yr oedd llaw Parri yn ei ddal i lawr. Rhoes Roberts ei holl egni mewn un ymdrech fawr i godi, ond yn ofer; a sylweddolodd fod nerth dau ddyn yn Parri, ac edrychodd yn hurt arno.

"Peidiwch â chyffroi cymaint, ac arhoswch imi orffen," meddai Parri. "Os oeddwn i am eich mentro yn bartner imi, ni fuaswn yn gwneud hynny, heb chwilio i mewn i'ch hanes chi."

"Ie," meddai Roberts, "ond y bygythiad oedd o dan y sylw a wnaethoch chwi, dyna oeddwn i ddim yn lecio—waeth imi fod yn y carch—"

"Roberts," meddai Parri, "pa mor ddwfn yr ydych chwi ynddi efo'r Iddewon?"

Petrusodd Roberts.

"Rhowch inni wybod Roberts, inni gael gweled lle'r ydym yn sefyll."


"Dau gant o bunnau," meddai Roberts o'r diwedd, neu yn—

"Dim ond y swm oedd arna' i eisiau wybod," ebe Parri, gan ysgrifennu, "mae'r I.O.U. wedi ei wneud allan yn barod, mae'n well i chi fod yn fy nyled i na benthycwyr arian—llofnodwch o."

Ar ganol darllen y papur, cododd Roberts ei lygad, ac edrych yn ymofyngar ar Parri.

"Yr ydw' i wedi ei wneud o am dri chant, Roberts—a dyma'r arian mewn papurau i chi,—dau i dalu i'r benthycwyr, ac un i—wel, chi ŵyr orau," a chilwenodd Parri yn awgrymiadol, "a mi gewch beidio â thalu llog ar y tri chant, tra byddwn ni'n bartneriaid, a'u talu'n ôl fesul tipyn. Yrwan, Roberts, rhaid i chi fod yn ofalus efo'r ddiod—oblegid dyna'ch gwendid mawr chi fel partner, yr ydych yn colli 'ch tymer, ac am siarad gormod pan gewch chi ddiod, er y medrwch chwi fod yn glos fel wystrysen pan fyddwch chi'n sobr. Yn onest yrŵan, Roberts, 'fedrwch chi roi brêc arni? Peidiwch â gadael i'r papur na'r pres effeithio ar eich ateb—mi fedrwn adael i bethau fel y maent: os ydych yn teimlo na fedrwch chi ddim cael y ddiod dan reolaeth, ac mi gewch dalu'r pres fel y medrwch chi—mi fyddech yn ffeindiach wrthyf i, pe dwedech chi'n blaen—'na fedraf'— na dweud y medrwch chi, a'm rhoi i lawr. Cymerwch amser i feddwl yn awr.'

"Parri," meddai Roberts, dan dipyn o deimlad, "Medraf—yn enwedig ar ôl heno," ac estynnodd ei law i Parri.

"Wel, dyna ni ynte," ebe Parri, "dyna ni'n deall ein gilydd—rhowch inni yrŵan fynd at y cynlluniau."

Ac am y ddwyawr nesaf bu Parri yn egluro ei gynlluniau, a Roberts yn gwrando arno mewn syndod edmygol: "Mi 'roeddwn i'n credu fy mod i cystal cynlluniwr â'r rhan fwyaf," meddai Roberts yn y man, "ond 'dydw' i ddim gwell na phlentyn yn eich ymyl chwi."

"Felly," ebe Parri heb gymryd sylw, "dyna ni'n ein deall ein gilydd—'fyddwn ni ddim ar delerau siarad o gwbl yng ngolwg pobl—'fyddwn ni ddim yn edrych ar ein gilydd mewn na ffair na marchnad; yr unig adeg y byddwn yn siarad â'n gilydd fydd, pan fyddwn ni'n ffraeo ar y cloddiau terfyn, hynny ydyw, yn cymryd arnom ffraeo—ynghylch y defaid."

"Wel wir, 'does dim terfyn i'ch cynlluniau chi beth bynnag," meddai Roberts, "mi gwela'i hi yrŵan—dyna p'am yr ydych wedi gadael i'r cloddiau fynd mor wael yn ddiweddar—mae pobl yn gwybod nad ydyw pethau'n rhy dda rhyngom ni yn barod."

"Ie, ac o hyn allan, yno'n unig y gwelwn ni'n gilydd i siarad, mi fyddwn yn rhy brysur i gael llawer o sgwrs—wrth ein gwaith. Pan fydd angen trafod rhywbeth, mi'm gwelwch fi yno ar y clawdd, neu pan welaf fi chi yno yn y boreau neu'r gyda'r nosau, bydd hynny yn golygu bod rhyw beth i'w drafod; a chofiwch hyn, Roberts, yr ydych chi i redeg tipyn arna' i, os bydd rhyw arlliw o amheuaeth yn codi ym meddwl rhywun; fe redaf innau arnoch chwithau, ac felly mi fyddwn yn gwybod am bob perygl cyn iddo godi—er mwyn delio efo fo."

Yr oedd hi'n oriau mân y bore ar Roberts yn ymadael, a'r peth diwethaf a wnaeth Parri oedd peri i Roberts gau yr amlen yn cynnwys ei gyfaddefiad, a'i rybuddio i ofalu am ei rhoi mewn lle diogel, beth bynnag a wnâi, ar ôl mynd adre. "Dyma fi yn rhoi eich cyffes chi yn fan yma," meddai gan agor drôr gêl mewn biwrô fawr, a oedd yng nghongl yr ystafell.

Wedi i Roberts fynd, eisteddodd Parri i lawr a daeth golwg synfyfyriol arno. "Wel, dyma fi wedi cymryd partner,' meddai, "a hynny am y tro cyntaf,—yn y wlad yma, beth bynnag—ac ymhob gwlad o ran hynny, partneriaid a fu gennyf, ac nid o'm bodd yr euthum i atyn' hwythau ychwaith—a phetasai'r fforman yn debyg o fyw ar ôl ein sgyffl, 'fuaswn i ddim wedi gadael y ransh, ond beth oedd gen' i i'w wneud ond mynd at y giang—neu gael fy lunsio gan yr hogiau. Ond o ran hynny, ati hi y buaswn wedi mynd rywbryd. 'Anghofia'i byth mo'r noson y cefais i o'u gafael nhw beth bynnag a fi oedd y cyntaf erioed i adael y giang honno yn fyw—a dyma fi heb ddim i ddangos fy mod i wedi bod yn y giang erioed, ond craith neu ddwy dan fy nillad, a bys canol fy llaw chwith wedi mynd, er imi orfod lladd y Gwyddel, a gadael Macpherson yn hanner marw, wrth ddianc; ond wedi i'r ddau ddeall fy mod i'n hwylio i adael y giang, ac amau fy mod yn mynd â pheth o ysbail y giang efo mi, yr oeddynt am fy ngwaed i, ac efo mi 'roedd y lwc y noson honno, fel bu'r digwydd."

Cynllun da oedd mynd i lawr i'r Argentine a dyfod efo'r llong gig, a gweithio'r ddwy flynedd hynny yn lladd—dai Birkenhead—er cased oedd gennyf y lle.

"A dyma fi wedi dechrau arni eto—efo partner, a chennyf innau ddigon o arian hefyd—mae'r peth yn fy ngwaed i—a fedra' innau ddim byw heb berygl. Ffŵl?—ie-ond 'does gen' i ddim help—yn lleidr y'm ganed—lleidr oeddwn i pan ddihengais i o Gaerdydd yn y llong—a lleidr ar honno wed'yn pan adewais hi yn New York.

"Dwyn ar ranch yr hen Williams Caernarfon yn Texas, a dwyn oddiar y giang ei hun—a dyma fi eto—a phe cawn i ail-ddechrau fy mywyd, dyna wnawn i eto hefyd."

Tra ymsoniai Parri fel hyn, prysurai Roberts tua'i gartre yn llawen iawn ei ysbryd.

"Wel," meddai, wedi cyrraedd, "i'r sêff â'r nodyn"; ac wrth gloi, ychwanegodd, "Dyma fi'n rhoi clo ar y sêff, ac ar geg Parri'r un pryd, ond andros o hogyn ydyw Parri—ond mi'i trystiwn i o efo'm mywyd—ar ôl y peth mae o wedi wneud heno—mae hi'n anrhydedd cael bod yn dipyn o bartner i fôi fel 'na."

Bychan a ddychmygai Roberts, ped agorasai'r amlen, y buasai llawysgrifen Parri yn llawer llwytach na phan ddarllenasai hi ym Mhen-y-cae, oblegid mewn inc diflanedig yr ysgrifenasai Parri ei gyffes.

Nodiadau

[golygu]