Blacmel/Cath a Llygoden
| ← A Pharri yn y Fagl | Blacmel gan John Pierce |
Gwastadhau'r Cyfrifon → |
PENNOD XVIII
CATH A LLYGODEN
"WEL," meddai'r Arolygydd Jones wrtho'i hun, "mae deng niwrnod wedi pasio, a dim golwg ar Parri, na dim gair yn ei gylch. Mae'n helynt o beth iddo gael dianc, ond eto, beth arall fedrwn i ei wneud? Wel, mi fydda' i'n sicr o Roberts, beth bynnag, a 'rwan gan 'i bod hi'n edrych yn o dywyll am i'r bwtsiar ddwad i'r golwg, mi af at Roberts i roi dipyn o help iddo fo glirio'i frest; gresyn na chawn i ddweud am y llythyr—mi fuasai hynny yn sbario'r holl drafferth imi, ond mae'n rhaid imi roi peth o'i gynnwys iddo fo, i'w helpu."
"Aros tan fydd hi'n 'o hwyr fyddai orau i mi—mi fydd yn addfetach yr adeg honno—mi af yno tua naw heno, a mi fydd fy ngweld i ar hiniog y drws yr adeg honno o'r nos, yn dipyn o sioc iddo, efallai; ac yn help i lacio'r cloeau. Mi ofynna' i iddo fo'n awgrymiadol, welodd o Ifans Bryn Felin yn rhywle y noson y torrwyd i mewn i Gae'r Pant, ac oni bydd hynny yn ddigon, mi ofynna' i wedyn welodd o Parri'r Bwtsiar ynteu."
Ar hynny, dyma gloch y teliffon yn canu, ac am y waith gyntaf yn ei oes, cafodd yr Arolygydd Jones siarad ar y ffôn yn uniongyrchol â Scotland Yard, ac ymhen yr awr, mewn canlyniad i'r sgwrs, yr oedd yn y tren yn cyflymu tua Llundain.
"Strôc go dda," meddai Jones, "oedd imi feddwl eu rhoi ar waith i stopio pwy bynnag fuasai'n treio newid y nodau, ond 'cha'n nhw byth wybod beth a barodd imi fyned i'r banc ychwaith. Lwc ynte, oedd i Nansi ofyn am fenthyg y ddeucant i mi; na, mi fydd hon yn bluen imi, bydd, myn coblyn i, ac oni olyga hyn bromosiwn i mi, mi fynna'i wybod p'am. Ond Dangerously ill, not expected to recover, dyna ddeallais i ar y teliffon, os deallais i'n iawn ynte, mae mor anodd deall y cocnis 'ma. Gobeithio na wnaiff Parri ddim marw cyn imi gyrraedd beth bynnag, ond marw neu beidio, os oes ganddo lock-jaw, 'fydda'i fawr nes i'r lan, 'fedr o ddweud dim wrthyf. Sut andros y cafodd o beth felly tybed?"
Ymhen rhyw ddeng awr wed'yn, dilynnai'r arolygwr un o borteriaid ysbyty yn Llundain, rhwng slabiau llechi y marwdy, nes cyrraedd un arbennig. "Here we are," ebe'r porter, gan godi'r lliain oddiar ffurf dyn a orweddai ar lechen; ac yn y llwyd-olau, edrychodd yr arolygydd ar y corff, a syllu'n, syn ar yr wyneb gwelw.
"I don't know this man from Job," meddai.
"Can't we have more light?"
Ac wedi i'r porter nôl lamp arall, ac i'r arolygydd gael golwg well arno, a gweled ei ben moel, a'i law chwith heb y bys canol, meddai, mewn syndod, "By jingo! It is Parri after all; well, I'm dashed! Had I seen him with his hat on, I would never have known him." Bu'n rhaid i'r arolygydd aros yn Llundain am rai oriau i drafod mater Parri ac i roi tystiolaeth yn y cwest, oblegid ef oedd yr unig un a'i hadwaenai, ac yr oedd yr awdurdodau yn fusneslyd iawn, a'r bancer, yntau hefyd; ac ar ei waethaf, bu'n rhaid i'r arolygydd ddweud am rai pethau a'i blinai ynglŷn â Pharri, a'i fod yn amheus ohono ers tro byd; ond medrodd gadw rhag dweud dim am y llythyr, ac yr oedd y ffaith bod Parri yn mynd dan enw arall, ac yn bancio yn yr enw hwnnw yn ddigon i ddweud bod rhywbeth o'i le—ar wahan i'r ffaith ei fod yn cario'r pistolau efo fo.
Cafodd yr arolygydd ddigon o waith i'w feddwl ar ei daith adre. "Wel, wir," meddai wrtho'i hun, "mae pethau'n ddigon dryslyd, ac y mae'n amlwg i bawb yrŵan fod Parri yn un drwg, ac yn un drwg iawn hefyd, ond sut y medr rhywun brofi y busnes dwyn yma? A beth ddyweda' i wrth y Chief a wnaeth imi ei amau. A sut y bu imi fynd mor bell â threfnu efo'r banc i stopio pwy bynnag a newidiai'r nodau? A hynny heb sôn wrtho ef."
"A dim cês yn y diwedd. Mae'n rhaid imi gael cyffes Roberts, petwn i'n gorfod ei agor o. Mi af ato ar ôl mynd adre, a mi'i dychrynnaf o i farwolaeth, gwnaf, fel mae byw fi."
Erbyn iddo gyrraedd y tŷ, yr oedd J. H. Humphreys yno gyda Nansi, a thra oedd y ferch yn paratoi pryd o fwyd i'w thad ar ôl ei daith faith, dywedodd wrth Humphreys am ei amheuon ynghylch Parri, ond heb grybwyll dim am y llythyr.
Yr oedd cariad y ferch wedi ei syfrdanu pan glywodd.
"A 'rwan," meddai'r arolygydd, "mae arna' i eisiau i chwi fy helpu. Mae fy nyfodol i, a dyfodol Nansi, a bellach eich dyfodol chwithau hefyd, yn mynd i ddibynnu ar fy llwyddiant i gyda'r achos yma. Yr ydw' i'n berffaith sicr bod Parri a Roberts yn lladron defaid, a gwartheg hefyd o ran hynny, ac y mae arna' i eisiau i chi chwilio a chwilota'r hen gaeau yna i gyd, a'r siop, a Phen-y-cae-a phob twll a chongl; yr ydych wedi prynu popeth sydd yn y tŷ, onid ydych?"
"Do," atebodd Humphreys, "ond ychydig iawn o ddodrefn sy' ym Mhen-y-cae,-ym Mron-y-wawr y mae'r rheini, ac yr oedd o wedi gwerthu pethau'r fan honno i ryw siop ddodrefn yn y Dre; ond mi ofala' i am gadw fy llygad yn agored, ac os gwela' i rywbeth, mi gewch wybod ar unwaith."
"Nansi," meddai'r arolygydd, ar ôl iddo orffen bwyta, "mi 'rydw' i am fynd i orffwys am ychydig yrŵan-'chefais gysgu fawr ddim ers nosweithiau; os cysga' i, gofala am fy neffro i hanner awr wedi saith, cofia; mae arna' i eisiau mynd i weled Roberts Tŷ'n-y-maes tua hanner awr wedi wyth. Mi fydd yn noson braf yn ôl pob golwg, ac aros di, mae'r lleuad yn llawn heno hefyd,—dest y peth. Cofia di, dim munud ar ôl hanner awr wedi saith."
Yr oedd ffit ddigalon ar Roberts Tŷ'n-y-maes yn croesi trothwy y Crown y noson honno, oblegid daethai ei ofnau bod yr Arolygydd Jones yn gwybod rhywbeth, yn ôl; ac yr oedd y straen yn dweud arno.
"Pe cawn i dipyn o drefn ar fy mhethau," meddai wrtho'i hun, "fe symudwn i oddiyma i fyw hefyd. P'am andros y cymerodd Parri'r goes tybed, ac y gwerthodd o'r sioe i gyd, heb ddweud yr un hanner gair wrthyf? Ond am ei fod o wedi fy nwbl-groesi i, naddo erioed, 'doedd o ddim yn un a wnâi hynny, beth bynnag. Mi gadwa' i at fy un botel bob nos, nes bydd y miri drosodd."
Ond cyn pen chwarter awr, yr oedd Roberts wedi torri ei adduned yn yfflon, oblegid pwy ddaeth i mewn bron cyn gynted ag yntau, ond cyfaill iddo—porthmon ceffylau o dueddau Amwythig, a phrin yr oedd o wedi eistedd, cyn torri'r newydd am farw Parri yn Llundain; ac fe ddisgynnodd Roberts dipyn ym marn y porthmon a'r yfwyr eraill, oherwydd ei ddideimladrwydd o glywed y newydd. Yn wir, yr oedd yn amlwg i bawb fod y newydd wrth fodd ei galon, a mynnai dretio pawb o'i gyfeillion.
A phan adawodd y dafarn ychydig wedi wyth, dyna fu testun y sgwrs am dipyn.
"I knew," meddai y porthmon, "that they were not what we call friends, but I never thought things were as bad as that between them either. Why, he seemed to be enjoying the news of old Parry's terrible death."
Fel y dynesai Roberts at ei gartre, torrodd allan i ganu, oblegid teimlai bellach ei fod yn ddiogel iawn—efo Ifans a Pharri oddiar y ffordd.
"Yr ydw' i wedi pryderu yn ofer," meddai, "a phetasai gan yr hen Super rywbeth yn f'erbyn i, mi fuasai wedi gaf—."
Ar hynny, yn ymyl giât yr iard, gwelai rywun yn dyfod i'w gyfarfod; ac mor olau ydoedd, fel yr adnabu'r arolygydd ymhell cyn iddo'i gyrraedd.
"Wel, 'tawn i'n marw," meddai wrtho'i hun, "dyma'r hen fastiff yma eto."
"Wel, Roberts," meddai'r arolygydd dipyn yn ffurfiol, 'rydych chi mewn hwyl go dda ddyliwn; yr oeddwn yn eich clywed chi'n d'od ers meitin, dan ganu."
"Wel, ie, Super," ebe Roberts, "mae hi'n noson mor braf, er yn wir na ddylwn i ddim ychwaith, a 'nghymydog nesaf i wedi marw."
"Be? Y? Sut? Pwy ydych yn feddwl?" gofynnodd yr Arolygydd Jones yn syn, wedi ei syfrdanu bod Roberts yn gwybod.
"Chlywsoch chi ddim, Super?" gofynnodd Roberts, "Chlywsoch chi ddim am Parri'r Bwtsiar?"
"O, do!" meddai'r arolygydd, "ond 'wyddwn i ddim fod y stori allan ychwaith. 'Does dim ond ychydig oriau er pan gyrhaeddais i adre o Lundain. Mi ddanfonwyd amdana' i at Parri—mi'r oedd arno fo eisiau 'ngweld i cyn marw."
"Felly'n wir," ebe Roberts, "eisiau'ch gweld chi, naturiol iawn, ynte? Dywedwch i mi, oedd ganddo fo deulu o gwbl, Super?"
Heb gymryd sylw o gwestiwn Roberts, meddai'r arolygydd mewn tôn dipyn yn llym: "Mae yna bethau go ddifrifol, Roberts, ynglŷn â'r busnes, difrifol i chi hefyd, Roberts."
"Oes wir, difrifol iawn, Super bach, da y gwn i," ebe Roberts, "â phawb yn gwybod ein bod ni allan â'n gilydd—a ninnau'n gymdogion hefyd; ond wir, arno fo 'roedd y bai, cofiwch; yr ydw' i ar delerau da efo 'nghymdogion eraill i gyd; ond 'wn i ddim beth i'w wneud, na wn i wir,—mi fuaswn yn lecio mynd i'r cynhebrwng, ac eto, fuaswn i ddim. Ydyw, y mae o'n beth difrifol i mi, Super, nad oedd dim da rhyng—."
"Efallai bod mwy o dda rhyngoch chi, nag oedd neb yn feddwl," meddai'r arolygydd yn awgrymiadol.
"Na, wir," ebe Roberts, "gresyn na buasai, ag yntau wedi dyfod i ddiwedd mor ofnadwy. Wel, Super, rhaid i chi faddau i mi wir, rhaid i mi fynd —."
"Os nad oedd da rhyngoch chi," meddai'r arolygydd, wedi dechrau colli ei dymer wrth weld Roberts mor wyneb galed, "efallai bod drwg rhyngoch chi'ch dau."
"Dim efallai amdani, Super bach," ebe Roberts dan fynd, ""Does dim sy' sicrach na hynny, ac fel y dywed'soch chi, mae hi'n ddifrifol iawn arna' i, a phawb yn gwybod. Nos dawch, Super, nos dawch."
Ac ymlaen â Roberts tua'r tŷ, gan adael yr arolygydd ar hynny.
"Wel, dyna hogyn," meddai'r arolygydd, a thipyn o edmygedd yn treiddio drwy'i siom a'i dymer ddrwg, "a phetwn i'n amau cynnwys llythyr Ifans o'r blaen, mi 'i credwn o, ar ôl gweld actor mor dda ydyw Roberts. Wel, myn cebyst, fe lithra o 'ngafael i eto, mae o'n berffaith ddiogel—ac y mae o'n gwybod hynny hefyd, dyna p'am yr oedd o 'ngymaint o lanc. Mi wnaeth bopeth ond rhoi clec ar ei fawd arna' i, do 'tawn i byth o'r fan yma." A chychwynnodd yr arolygydd adre.
"Dyna fi yn sicr o ddau beth yrŵan," meddai Roberts wrtho'i hun y tu ôl i gilbost y giat, wrth wylio'r arolygydd yn cychwyn i ffwrdd. "Yn gyntaf, ei fod o'n gwybod rhyw—beth am Parri, ac wedi fy amau innau, ac yn ail, ond yn dra phwysig i mi, na fedr o ddim gwneud dim byd imi. Wel, mi gysga'n dawelach heno nag ydw' i wedi wneud ers tro."