Blacmel/Cysgod Angau
| ← Praw Nerfau | Blacmel gan John Pierce |
Hunllef Ifans → |
PENNOD VII
CYSGOD ANGAU
WEDI cael allan, ac o'r iard, ychydig iawn a deithiodd Ifans hyd y ffordd fawr; aeth dros glawdd cyn gynted byth ag y gallodd, a chychwyn ar ei daith flinderus adre ar draws y caeau, drwy ganol y storm a'r tywyllwch.
Fel y gellir dychmygu, dywedasai amgylchiadau trychinebus y noson yn enbyd arno, ac er iddo, i ddechrau, deimlo rhydd-hâd mawr o fedru cael o Gae'r Pant heb i neb ei weld, cynyddai ei gyffro meddwl fwyfwy o hyd—"Mi 'rydw' i mewn trybini," meddai, "Duw â'm helpo. Beth yn enw'r Nefoedd sy'n mynd i ddigwydd yrŵan?" Yn y man, gwelai olau beisicl yn dyfod, a diolchai mai yn y cae y cerddai.
Wedi myned am tua milltir, gan na fedrai groesi Afon y Felin oblegid bod honno wedi codi'n uchel efo'r glawogydd—aeth drosodd o'r cae i'r ffordd fawr, ond cyn gynted a'i fod wedi troi o'r ffordd i'r lôn a arweiniai ohoni at Fryn y Felin, safodd yn stond-oblegid clywodd rywbeth yn union o'i flaen.
Safodd heb syflyd am rai eiliadau, ond buan y sylweddolodd fod cerbyd a cheffyl yn union o'i flaen, a gwyrodd yn araf i lawr, gan ochri'n ochelgar tua'r clawdd. Yn y man deallodd beth oedd yn myned ymlaen, ac anghofiodd ei helynt ei hun yn llwyr, a daeth arno ddigllonedd a chynddaredd enbyd. A phan oedd Roberts yn neidio i'r lôn, camodd atynt.
Cafodd y geiriau "Lladron defaid, aie" y fath effaith ar y lladron fel y safasant fel petaent wedi eu troi yn feini; a syfrdanwyd Ifans yntau, pan adnabu hwynt, ac am rai eiliadau, bu distawrwydd perffaith rhwng y tri.
Ac yn y distawrwydd hwn, daeth i feddwl Ifans y medrai gyfrif am ei drip byr gyda'r tren, trwy gymryd arno ei fod wedi amau'r lladron, ac meddai, "O! fel hyn mae deall pethau, aie? Roberts Tŷ'nymaes a Pharri y Bwtsiar Mawr—y ddau elyn cogio—felly'n wir! Clyfar iawn—ond dim digon clyfar os nad oedd neb arall wedi'ch amau chi, mi 'roeddwn i, a mi roesoch chwithau eich traed yn y trap yn ddel, eich dau. Pan welais i Richards yn y stesion ar y fath ddiwrnod, mi wyddwn y caech chi wybod, Parri, ac y meddyliech chi fy mod i wedi mynd i ffwrdd, ac mi ddarfu i chwithau lyncu'r abwyd—a'r bach hefyd. Gresyn ynte na buasech chi wedi cael gwybod yn gynt mai i stesion y Foel yr euthum i, a dim pellach. Mi wyddoch eich dau beth yw'r gosb am ddwyn defaid—a mi fydd transport yn rhy dda i chi o lawer."
"'Does dim posib' inni ddwad i ddeall ein gilydd, Ifans?" gofynnodd Roberts.
"Deall ein gilydd, y lleidr budr!" ebe Ifans. "Beth wyt ti'n feddwl ydw' i, dywed?"
"Wel, beth ydych am wneud," gofynnodd Parri, gan gyffwrdd yn Roberts, fel arwydd iddo fod yn ddistaw.
"Beth ydw i am wneud? Beth ydw' i am wneud, wir. Wel, mi ddyweda' i chi beth ydw' i am wneud. Mynd i'ch riportio chwi, a hynny y munud yma. Yr ydw' i wedi eich dal chi yn yr act, ac efallai y cawn ni esboniad yrŵan ar y dwyn defaid sydd wedi bod yn mynd ymlaen yn y cylchoedd 'ma i gyd, a sut y mae Parri'r Bwtsiar Mawr wedi dyfod ymlaen mor gyflym: mi 'rydw' yn mynd ar f'union at y plisman—Parri'r Bwtsiar Mawr wir—Parri'r Lleidr Mawr, fydd pobl yn eich galw o hyn allan."
Ac â'r geiriau hyn, seliodd Ifans ei dynged, oblegid nid gŵr oedd Parri i betruso cymryd mesurau eithafol, pan fyddai galw am hynny. Gwyddai yn eithaf da na fedrai fforddio i adael i Ifans fynd a dweud wrth y plisman, hyd yn oed pe rhôi'r defaid yn y cae yn eu hôl a mynd adre, a thaeru Ifans yn ei ddannedd ei fod yn llunio celwyddau, a chael gan Roberts yntau daeru na welsai efe Parri'r noson honno, heb sôn am fod yn gyd—leidr ag ef. Na, a chaniatáu y methai Ifans â phrofi ei gyhuddiad, ni fedrai Parri fforddio cael ei gyhuddo o gwbl, gan mai ar ei safle, a'i ryddid perffaith oddiwrth amheuaeth y seiliasai ei dwyll. Heblaw hynny—unwaith y cyhuddid ef—byddai'r plismyn yn sicr o ddechrau holi a phrowla—ac er ei holl ofal, beth petai wedi esgeuluso rhywbeth. Pethau bychain oedd yn crogi pobl—a beth pe dechreuent chwilio i'w orffennol—a'i holi, byddai'r cortyn am ei wddf. Felly, gwnaeth ei feddwl i fyny ar unwaith. "Wel, Ifans," meddai, "mi'r ydych yn gwneud camgymeriad mawr, ac y mae dwy ochr i bob stori, ond, os ydych yn benderfynol na wrandewch chi mo'n hochr ni, os ydych am fynnu reportio'r peth, mi ddown ni hefo chwi." A rhoes bwniad i Roberts, a sibrwd, "Gedwch chi bopeth i mi, a gwneud yn union fel y dyweda' i."
"Waeth inni roi'r defaid yn eu holau ddim, Roberts," ebe Parri yn uchel, "O ran hynny, beth sydd i'n rhwystro ni eu rhoi yn eu hôl a mynd adre, a gadael iddo fynd efo'i stori at y plisman? Pwy coeliai o, Roberts? 'Does ganddo ddim tyst, ac y mae dau ohonom ni."
Am foment, daeth tipyn o bryder ar Ifans, ond meddai, "Gwnewch chi fel fynnoch chi, ond mi 'rydw' i yn sicr ohonoch chwi ac wedi clywed fy stori i, mi fydd yn rhaid i'r polîs chwilio eich paciau chi, ac efallai na liciwch chi mo hynny; ond 'chewch chi ddim ymadael â mi mor hwylus â hynny chwaith, mi'ch dilynaf chi bob cam i'r Dre, gwnaf myn cythra'l,—na mi wnaf yn well na hynny,—mi redaf i Dŷ'n Lôn, a mi gaf gan un o'r hogia' eich dilyn chi efo beic."—
"Arhoswch Ifans," meddai Parri, "fel y dywedais i, mae dwy ochr i bob stori"—
"Does dim dwy ochr i hon beth bynnag," ebe Ifans, "yr ydw' i'n mynd, gwnewch chi fel y mynnoch chwi."
"Wel, mi ddown ninnau efo chi," ebe Parri, "i ddweud ein hochr ninnau. Ymh'le y medra' i droi'r fflôt yn ei hôl, Ifans? Mae hi'n rhy gul yn y fan yma."
"P'am na fagiwch chi i'r lôn fawr ynte?" gofynnodd Ifans. "Dyna un peth na wna'r ceffyl 'ma ddim; mae o wedi cael cast."
"O! wel, mae yna ddigon o le draw gyferbyn â'r llyn," ebe Ifans. A chychwynasant.
Tywysai Parri'r ceffyl, a cherddai Roberts wrth ei ochr, dan sibrwd, "Dyma hi wedi darfod arnom ni."
"Byddwch yn ddistaw," sïodd Parri yn ei glust, "a gwnewch chi'n union fel y byddai i'n dweud wrthych."
Cerddai Ifans o'r tu ôl, a chai dipyn o foddhad wrth feddwl am y cynnwrf a ddilynai dadlennu hanes Parri a Roberts yn dwyn defaid: "Mi gaiff pobl rywbeth i siarad amdano," meddai wrtho'i hun, heblaw am Ifans Bryn Mawr a'i helyntion: nid fi fydd yr unig un i fynd i'r cwat ar fengoch i—diain innau! mi gaiff y ddau y bai am dorri i mewn i Gae'r Pant, os cyfyd rhyw amheuaeth—cânt, fel mae byw fi! Mi fydd . .
Ond ar hynny, torrwyd ar ei fyfyr boddhaus; yr oeddynt wedi cyrraedd y lle llydan gyferbyn â Llyn y Felin, a Pharri wedi cychwyn troi y ceffyl tuag at Ifans. Yna, yn hollol ddirybudd, a chyn i Ifans ddychmygu bod dim yn mynd i ddigwydd, gollyngodd Parri ben y ceffyl, camodd tuag ato a chodi ei fraich; teimlodd Ifans rywbeth yn cipio ei anadl, ac yntau yn mygu, a chollodd bob gwybodaeth amdano'i hun, a disgynnodd yn llonydd ar lawr.
"Be-th wnaethoch chi iddo, Parri?" gofynnodd Roberts yn syfrdan.
"Nid amser i ofyn cwestiynau ydyw hi," atebodd Parri, "yr ydym wedi siarad gormod yn barod, a dyna'r pa'm y daeth o ar ein gwarthaf heb inni ei glywed. Rhwymwch y rêns yn y giât yna, rhag i'r ceffyl ddianc, estynnwch gortyn o ben y fflôt, a dowch yma."
Ac unwaith eto, wele'r ymladdwr peryglus, a'r lleiddiad dyn, yn oruchaf, a'r parchusrwydd a wisgasai Parri am ddeu-ddeng mlynedd yn syrthio oddi wrtho megis mantell, a phrin y credai Roberts, mai'r un un ydoedd.
Gwyliai Parri Ifans fel bwystfil yn gwylio ei ysglyfaeth, a phan ddechreuodd Ifans ddyfod ato'i hun, plygodd uwch ei ben, a dechrau gwthio cadach i'w enau. "Rhwymwch chwithau ei freichiau o'r tu ôl, Roberts," gorchmynnodd, "a gofalwch na fyddwch chi ddim yn arw efo fo, 'does arnom ni ddim eisiau mymryn o ôl arno, cofiwch—ei draed o eto."
Ar hynny cychwynnodd Ifans roi gwaedd, ond mygwyd hi gan y cadach.
"Beth ydych chi am wneud efo fo, Parri?" sibrydodd Roberts.
"I symud o dipyn draw," atebodd Parri, "gafaelwch chi yn ei draed, mi gymeraf innau ei ysgwyddau." Ac er gwaethaf ymdrechion Ifans, cychwynasant ei gario; ond ar hynny dyma dinc sofrenni lawer yn disgyn o'i boced. "Duw annwyl!" ebe Roberts, "mae o'n colli ei bres, "a gollyngodd ei goesau ar hynny, a phlygu i chwilio am yr arian.
Drwy fawr ymdrech, yr oedd Ifans erbyn hyn wedi cael peth o'r cadach o'i enau, ac meddai, "Gwrandewch am funud, mi af ar fy llw, na ddyweda' i'r un gair o'm pen am hyn os gollyngwch fi, mor wir â bod Duw yn y Nefoedd."
Heb gymryd arno ei glywed, gwthiodd Parri'r cadach yn ddi-stŵr i'w geg yn ôl, ac meddai wrth Roberts yn dawel: "Codwch o."
"Ond beth ydych chi am wneud ag o?" gofynnodd Roberts drachefn, ac amheuaeth a phryder yn ei dôn.
"Yr oeddwn i'n meddwl eich bod wedi deall erbyn hyn," atebodd Parri ar fin y llyn. A sylweddolodd Ifans druan ei bod hi wedi darfod arno, a chrychneidiodd mewn dychryn a braw.
"Y Nefoedd fawr! 'dydych chi ddim yn mynd i'w foddi?" ebe Roberts, "chewch chi mo'm help i i wneud hynny ar fen'd i."
"Roberts," meddai Parri yn dawel, " 'does dim arall amdani hi. Os gollyngwn ni o, mi fydd ar ben arnom ni, ond os boddwn ni o, dim ond ei ddal o dan y dŵr yn y lle bas yma, mi wnaf i, os oes arnoch chi ormod o ofn; wed'yn mi awn â fo at y wal uwch ben y lle dwfn acw, a'i ddatglymu o a'i daflu o i'r llyn, a phan geir hyd iddo, wedi ei foddi ei hun y bydd o wrth gwrs: mae'r peth mor syml ag A.B.C., ac yn berffaith ddiberygl. Dowch."
Siaradai Parri yn hollol ddigynnwrf, heb drafferthu i ostwng ei lais rhag i Ifans ei glywed ef, ac fel y deallai Ifans beth oedd ei dynged i fod, âi drwy ingoedd annirnadwy, a gwelai pan edrychid i mewn i'w amgylchiadau a darganfod ei dwyll, y pasiai'r rheithwyr yn hollol naturiol, mai ei ddiweddu ei hun a wnaethai i osgoi y canlyniadau, ac mewn un ymdrech ofnadwy, cafodd ychydig o'r cadach wed'yn o'i enau. "Hogiau annwyl!" ochneidiai, "er mwyn y Nefoedd, gwrandewch. Mi arbedaf i i chi roi cortyn am eich gyddfau. Yr ydych eich dau yn berffaith ddiogel; 'feiddia' i ddim achwyn arnoch, a phan glywch chi beth sy' gen' i i'w ddweud, mi welwch mai fi fydd at eich trugaredd chwi, ac nid chi at fy nhrugaredd i. Roberts, teimlwch fy mhocedi i. 'Glywch chwi'r pres yna? Tynnwch y bag yna o boced fy nghesail i hefyd. Yr ydw' i wedi gwneud peth llawer gwaeth heno na dwyn defaid."
Erbyn hyn yr oedd Roberts wedi teimlo sofrenni lawer yn ei bocedi, ac wedi agor y bag, ac yn edrych yn hurt ar y masg, dan wrando yn syfrdan ar Ifans, wrthi yn dweud ei hanes yn torri i mewn i Gae'r Pant, a'i brofiad brawychus efo'r corff.
Ni ddywedodd Parri air.
"Peth arall hefyd, Mr. Parri," ychwanegodd Ifans, "mi'm gwelsoch chwi fi'n ymyl Cae'r Pant, neu o leiaf mi'ch gwelais i chi. Duw'n unig ŵyr gymaint o fraw a gefais i pan neidiais i i'r ffordd, bron ar gefn eich ceffyl chi yn y tywyllwch.
Dim gair gan Parri wed'yn, er bod Roberts wedi rhoi pwniad iddo ragor nag unwaith.
"Goleuwch fatsen," ebe Ifans, "mi ddeil yn olau yn ddigon hir i chwi weld beth oedd gen' i am fy wyneb.
"Ond," gofynnodd Roberts, "i beth yr oeddech chi yn torri i mewn i Gae'r Pant o gwbl? Mae hi'n iawn arnoch chi."
"Iawn?" ebe Ifans yn chwerw. "Gresyn na buasai hi, petaech chi ddim ond yn gwybod, yr ydw'i mewn twll ofnadwy." A dechreuodd ddweud hanes y rhenti.
"Oedd Huws, Tŷ'r Meirch, yn un ohonynt?" gofynnodd Parri.
"Oedd," ebe Ifans, "p'am yr ydych yn gofyn?"
Ond yr oedd Parri wrthi yn ei ryddhau eisoes. "Roberts," meddai, "rhowch ei bethau yn ôl iddo fo."
Petrusodd Roberts.
"Dweud yr oeddwn i, Roberts," ebe Parri, â rhyw oerni iaol yn ei dôn, "am i chi roi pethau Ifans yn ôl iddo. Ac wedyn datglymwch rêns y ceffyl." Ac ufuddhaodd Roberts, dan fwmian rhywbeth.
Cyn gynted ag y cychwynnodd, sibrydodd Parri wrth Ifans, ""Does dim angen dweud wrthych am gadw hyn yn ddistaw, ai oes? . . . Mwy nag wrth Roberts na minnau, wrth gwrs.
Dowch chi acw ddeg o'r gloch nos dradwy, mi fydd y cwest wedi bod erbyn hynny, mi geis . . ." Ond cyn iddo orffen, yr oedd Roberts wedi cyrraedd.
"Mi gefais i'r ddwy sofren yma wed'yn," meddai Roberts, yn sorllyd, "eu clywed nhw'n tincian dan fy nhraed i ar y cerrig; hwdiwch Ifans."
"Mi ddadlwythwn ni'r defaid yrŵan Roberts," meddai Parri.
"Na," ebe Ifans, "waeth i chi fynd â nhw ddim, 'fydd hynny golled yn y byd imi, nid y fi piau nhw."
"Na," ebe Parri, gan eu gollwng. A heb ddweud yr un gair wrth Ifans, troes ben y ceffyl tua'r ffordd fawr, a chych-wynnodd dywys y ceffyl, a Roberts wrth ei sawdl.
"Diawl," meddai Roberts, "mi ddylem fod wedi gofyn iddo rannu efo ni; mi fedrwn i wneud hefo tipyn o'r sofrenni, os na fedrech chi, a 'fuasai waeth inni fod wedi cymryd y defaid ddim."
"Mae gennych chi dipyn i'w ddysgu eto," oedd ateb sychlyd Parri.
"Brenin Mawr! 'Fuasech chi ddim wedi ei foddi o, o ddifrif, Parri?"
"Buaswn," ebe Parri mewn tôn a yrrai ias drwy Roberts. "Wel, p'am y darfu i chi ei ollwng mor ddi-lol ynte, heb gymaint â'i rybuddio fo i gadw ei geg yn gaead ynte?" gofynnodd Roberts.
Ar hynny stopiodd Parri y cerbyd, a chan droi at Roberts, meddai, "Does dim eisiau rhybuddio Ifans, ond Roberts, yr ydw i'n eich rhybuddio chi yn ei le. Nos dawch."
A neidiodd Parri i'r cerbyd, ac ymaith ag ef.
"Ie, dôs y llofrudd," ysgyrnygodd Roberts, ond yn llawer rhy ddistaw i Parri ei glywed, "mi fuasai'n dda gan f'enaid i petaswn i 'rioed heb dy weld ti—y clyfar ei hun. Ond aros di 'ngwas i,—efallai nad wyt tithau ddim wedi dysgu popeth chwaith!"