Blacmel/Ffyrdd Troseddwyr
| ← Bargen Galed | Blacmel gan John Pierce |
Nid Hir y Ceidw → |
PENNOD IV
FFYRDD TROSEDDWYR
BU'R bartneriaeth yn llwyddiant perffaith. Cydrhwng y defaid a yrrid i Fanchester, wedi newid eu nodau dan law fedrus Roberts, a'r rhai a basiai drwy ladd-dŷ Parri ar eu ffordd i fyrddau cinio pobl,—gwneid cryn elw; a bwytaodd mwy nag un teulu, gig eu defaid eu hunain, heb ddychmygu hynny.
Yr oedd gan Parri, a Roberts hefyd o ran hynny, diroedd pori ar hyd a lled y wlad, a byddai'n hwyr arnynt yn dychwelyd ohonynt yn aml. Ar rai o'r nosweithiau hynny, fe gychwynnai Parri yn ôl, ag un neu ddwy o'i ddefaid ei hun yn ei fflôt, ond ar y ffordd, mewn man neilltuol, wedi ei drefnu ymlaen llaw, yr ochr arall i wrych neu wal, byddai Roberts yn ei ddisgwyl, a hanner dwsin—weithiau ragor—o ddefaid rhyw amaethwr anffodus, wedi eu dal a'u rhwymo, yn barod i'w codi i'r fflôt, at y lleill; ac ymhen ychydig iawn o amser, byddai Parri ar ei ffordd tua'r Dre i'w ladd-dŷ, a Roberts yntau yn prysuro ar draws y caeau tua'i gartre.
Yr oedd Roberts yn un o'r dynion anghyffredin hynny, a feddai rhyw ddylanwad rhyfedd ar anifeiliaid, a medrai gael gyrr o ddefaid—a gwartheg hefyd—i ben eu siwrnai yn gynt na neb, a medrai gael defaid ac ŵyn i gongl cae, cystal â llawer ci, ac yn fwy di-stwr hefyd.
Eto, er gwaethaf popeth, digwyddai rhywbeth annisgwyl yn fynych, a drysu'r cynlluniau gorau. Wedi i Parri gyrraedd y fan a'r lle y byddai wedi trefnu i Roberts ei ddisgwyl, bu raid i'r cigydd fwy nag unwaith, fyned yn ei flaen heb sefyll, ac adre heb ysbail, gan ei bod hi'n rheol bendant ganddynt, oni roddid arwydd neilltuol gan y naill, a'i chydnabod gan y llall, nad oedd Parri i aros ar un cyfrif. Weithiau, byddai Roberts, er ei holl fedr, wedi methu dal y defaid; bryd arall â'r defaid gan Roberts yn barod yn ochr y cae i'r gwrych, a Pharri yn nesáu, fe ddigwyddai rhywun arall fod yn nesáu'r un pryd.
Parai beisyclau bryder mawr iddynt, ac er bod yn gas gan eu calonnau, y lampau carbide, a oedd yr adeg honno yn dechrau disodli'r hen lampau oel, ac yn taflu eu pelydrau llachar i bob twll a chongl, rhai yn marchogaeth heb olau o gwbl a ofnent fwyaf, ac er mor ddyfeisgar gŵr ydoedd Parri, methodd yn lân â tharo ar gynllun boddhaol i gyfarfod â'r perygl yma. Ac yr oedd digon o sail i'w hofn hefyd, fel y dengys hanes dyddiau olaf eu partneriaeth diffaith; yn wir, gellir dweud mai dyma fu achlysur, beth bynnag am achos, ei diwedd hi.
Un noson yr oedd Roberts yn estyn dafad i Parri i'w chodi i'r fflôt, pan ddaeth rhywun ar gefn beisicl heb fath o olau, na rhybudd o gwbl—a chyda chyflymder enbyd-chwap!—i du ôl y fflôt.
Trawodd y beisicl y cerbyd gyda'r fath rym, n es taflu'r gyrrwr dros y fflôt, a'i fwrw i'r llawr yn llonydd wrth draed ôl y ceffyl.
Ar hynny, llamodd y ceffyl yn ei flaen, a phrin y llwyddodd Roberts i neidio i'r ochr ei hun, cyn i'r olwyn ei daro; a buasai Roberts yn edrych yn bur syn, pe gwybuasai mai Parri ei hun a drawsai'r ceffyl yn lladradaidd â'r chwip. Ond ar amrantiad yr oedd Parri wedi cythru i'r rêns, a thynnu arnynt mor egr, nes atal y ceffyl yn ei hyd, ac meddai, gan neidio o'r fflôt, "Roberts, ydych chi'n iawn? Mi feddyliais am foment eich bod wedi ..."
"Na, 'rydw' i yn iawn," meddai Roberts, "ond beth amdano fo?"
A phlygodd uwch ei ben. "Diolch i'r Nefoedd!" meddai, "nad aeth yr olwyn ddim drosto; wn i ddim sut y dihangodd o, na wn i'n wir. Cythraul o geffyl ydyw hwn, Parri. Ewch chi am y meddyg, a mi arhos . . ."
"Roberts," meddai Parri, ar ei draws, yn dawel, ond yn bur bendant, "gedwch chi hyn i mi, ac ewch adre. Wyddoch chi ddim am y peth, welsoch chi mo'r dyn yma heno—na minnau wrth gwrs."
Petrusodd Roberts, ac ymddangosai fel petai'n mynd i wrthwynebu, ond meddai Parri yn ddistaw iawn, a chan symud yn nes ato, "A byddwch ar y clawdd terfyn tua saith bore yfory."
Heb ddweud gair, neidiodd Roberts i ben y wal, a throsodd, a chychwyn cerdded ar draws y cae. Heb gymaint â thaflu trem ar ei ôl, troes Parri at y beisicl, a'i daflu yn ddi-seremoni i'r ffôs; yna gafaelodd yn y bachgen, a'i godi fel pe na bai'n ddim ond sachaid o wlân, a'i roi'n y fflôt; dringodd i'r cerbyd, rhoes glec ar y chwip, a chychwynnodd am y Dre, gan godymu'n galed â'i broblem newydd.
Nid oedd yn adnabod y bachgen mor bell ag y gwyddai, ond ni fedrai fod yn berffaith sicr yn y tywyllwch; ac yr oedd ei wyneb yn waed i gyd. Penderfynodd nad oedd dim amdani, ond mynd â fo at y meddyg, a hynny cyn mynd â'r defaid i'r lladd-dŷ hefyd. Golygai hynny helpu cario'r llanc i feddygfa'r meddyg, ac efallai gynorthwyo hwnnw i drin ei friwiau—os byddai fyw tan hynny. "Petasai'r olwyn wedi mynd dros ei ben," meddai wrtho'i hun, "buasai'n fwy boddhaol i mi—ac eto 'dydw' i ddim mor sicr; na, petawn i'n onest efo mi fy hun, tipyn o'm hen wendid plentynnaidd—gwendid tymer wyllt—a barodd imi roi slasen i'r ceffyl, a cheisio anafu Roberts; ond clywed 'oglau wisgi arno gododd y cythraul ynof, ond petawn i wedi ei anafu o, a lladd yr hogyn 'ma, mi fuaswn mewn tipyn o gongl—ond dyma fi'n colli munudau gwerthfawr gydag anawsterau nad ydynt yn bod, a chennyf innau broblem—problemau o ran hynny, yn y fflôt yna.
"Ie, meddwl yr oeddwn i, beth ddigwyddai tra byddwn i yn y feddygfa yn helpu'r doctor ynte; a thra byddwn i yno, rhywrai efallai yn dyfod at y fflôt wrth ei gweld o flaen tŷ'r meddyg mor hwyr y nos, i specian ac i sbiana—rhywun busneslyd efallai yn golau matsen, neu ddal lamp beisicl, a gweld nodau'r defaid yn . . ." Ond ar hynny, dyma olau o'r tu ôl i'r fflôt, a beisicl yn pasio yn gyflym, ac un o blismyn y Dre yn disgyn oddiarno wrth ben y ceffyl, gan orchymyn i Parri aros.
Teimlai'r cigydd ias oer yn mynd trwyddo, ond arafodd a stopiodd, ac meddai, heb ddim cryndod bradychol yn ei lais, "O! Prys, chi sydd yna? Arhoswch am funud, a mi ddof i lawr atoch chi."
A chychwynnodd i lawr o'r fflôt. Ond pan oedd yn rhoi ei droed ar y ffordd, dan gychwyn gofyn i'r plisman: "Beth sy'n bod Prys?" dyma gyffro sydyn yn y fflôt, a chyn iddo gael gorffen ei gwestiwn, heb sôn am wneud dim, yr oedd y bachgen wedi llamu o'r fflôt, ac yn diflannu dros y clawdd, a'r plisman wedi gollwng ei feisicl ar y ffordd gyda llw, a chychwyn ar ei ôl.
Am funud safodd Parri yn ei unfan, mewn dwfn fyfyrdod; yna cododd feisicl y plisman yn ofalus, a'i osod i bwyso ar y clawdd. Dringodd yn ei ôl i'r cerbyd, a chychwyn drachefn ar ei daith.
Gyrrodd ar drot hamddenol nes cyrraedd man, â chryn ddeg llath o glawdd, â'r gwrych arno yn denau a gwael, a thair rhes o weirennau pigog, wedi eu gosod i wneud y diffyg i fyny. Stopiodd Parri, ac wedi gwrando am foment, disgynnodd o'r fflôt, a chyn pen dau funud, yr oedd pum dafad ddieithr yng nghae John Humphreys, un o gigyddion eraill y Dre, a Pharri yn dringo yn ôl i'r fflôt, dan regi dan ei ddannedd, oblegid wrth godi'r ddafad ddiwethaf drosodd, llithrodd yn y llaid, a bachodd yn y weiren bigog, nes rhwygo llawes ei gôt, ac agor sgôr ddofn yn ei fraich.
Modd bynnag, er gwaethaf ei anffawd, rhoes chwip ar gefn ei geffyl, a gyrrodd yn syth at y rheinws, ac ymhen ychydig iawn o amser, yr oedd yn dweud tipyn o hanes damwain y bachgen wrth yr arolygydd, ac fel y diangasai ef o'r cerbyd, a'r plisman wrth ei sodlau.
"O!" meddai'r Arolygydd Jones, wedi iddo orffen, "mae arnaf ofn ei fod wedi ein gwneud ni eto, ond mae Prys yn bur sionc."
"Beth oedd, Super?" gofynnodd Parri, "Pwy oedd o?" "O!" meddai'r arolygydd, "bachgen o'r dre yma, sy'n dwyn ieir hyd y wlad. A fuasech chi'n ei adnabod petai o'n cael ei ddal, Mr. Parri?"
"Buaswn, mi gredaf," atebodd y cigydd, "ac fel y cychwynnodd Prys, a'r hogyn wedi cael y fath godwm, mi'i deil o hefyd. Wel, 'does dim rhagor fedra' i ei wneud felly, Super—heno, beth bynnag?"
"Nac oes, Mr. Parri, yr ydych wedi gwneud yn dda iawn; a diolch yn fawr i chi am reportio'r peth. Nos dawch, syr."
""Daf i ddim i Fron y Wawr heno," meddai Parri wrtho'i hun, ar ei ffordd tua'r stabl a'r lladd-dŷ, yn y stryd gefn y tu ôl i'r siop, "mi gysgaf yn y gegin yma. Am ffŵl fûm i'n taflu'r defaid da fel yna i ffwrdd, a cholli cyflog noson; 'fuasai'r Super pendew yna wedi amau dim."
Ond ymhen rhyw awr wedyn, diolchai o waelod ei galon ddarfod iddo ymadael â hwy.
Wedi stablu'r ceffyl, aeth ati i olchi'r pridd oddiar ei fraich, a'i thrin a'i pheintio ag iodine, ac yr oedd wrthi yn ei rhwymynnu hi, pan ddaeth cnoc ar y drws. Trawodd ei gôt yn frysiog amdano, ac aeth i agor; a phwy welai ar yr hiniog ond yr arolygydd.
"Maddeuwch i mi," meddai, "am aflonyddu arnoch yr adeg yma o'r nos, ond mi ddaliodd Prys y bôi, a mi fydd cwrt arno'n y bore,—y—mi allwn ddibynnu arnoch chi fod yno—oni allwn syr?"
"Mi fyddaf yno Super." ebe Parri. "Diolch yn fawr iawn i chi.
Mr. Parri. Nos dawch."
Hanner awr wedi deg,
"Diolch," meddai Parri dan gau'r drws, "diolch mai eu gollwng wneuthum i. Heblaw hynny, wrthi'n eu lladd a'u trin y buaswn i 'rŵan, ac mae'n bur debyg y buasai'r Super, ar ôl clywed stori Prys, wedi dwad i chwilio amdana' i, ac wedi gweld y crwyn. Damia'r boen yn y fraich yma, mae'n rhaid bod y sgôr yn un go egr. Gobeithio nad oedd y weiren ddim wedi rhydu llawer."
Bore drannoeth yr oedd Parri ar y clawdd terfyn gyda'r wawr; a dau o'i gŵn, yn gyrru defaid Tŷ'nymaes fel cymylau o flaen y gwynt, yn eu hôl i gaeau Roberts; ac nid oedd modd iddo yntau beidio â chlywed y chwibanu a'r cyfarth.
Cyn pen ychydig iawn o amser, yr oedd Roberts gydag ef, ac yn ôl pob golwg, â barnu wrth yr handlio dwylo a breichiau, yr oeddynt yn ffraeo hyd at daro bron.
"Sut y daeth hi ymlaen neithiwr, Parri, ar ôl i mi eich gadael? Gawsoch chi . . ."
"Wel, Roberts," ebe Parri ar ei draws, yn dawel iawn. "Ydych chi'n cofio'r cytundeb rhyngom ni?"
Nid atebodd Roberts ddim.
"Peidio â chyffwrdd y wisgi pan fydd gennym job onide?" Dim ateb.
"Roberts, 'dydych chi ddim yn cadw ar eich gair; peth arall hefyd, fe ddywedasoch yr ufuddhaech imi bob amser heb ddadlau; mi feddyliais fy mod yn gweld arwyddion petruso neithiwr. Yn awr, Roberts, mae'n partneriaeth ni yn darfod heddiw."
"Mae'n hawdd iawn i chi ddweud hynny Parri, ond beth amdana' i? A beth am orffen talu fy nyled i chi."
"Na," ebe Parri, "peidiwch â meddwl fy mod i am gymryd mantais ar hynny; mi fydda'i well i mi eu colli—bob sentan goch—na chael fy nal."
"Parri," meddai Roberts, "mae'n ddrwg iawn gen' i."
"Ie," ebe Parri yn sychlyd, "ond mi fyddai'n waeth gennych petaem yn cael ein dal, a hynny oherwydd eich bod chi mewn diod. Na, mi'i plygwn ni hi yn y fan lle mae hi . . ."
"A gadael i Ifans Bryn y Felin, â'r planiau i gyd yn barod, a'r defaid mawr newydd yna—yr un pethau yn union â'ch rhai chi, yn disgwyl wrthym ni? O! Parri, chware teg, am y tro yma—y tro diwetha am byth, ar fy ngwir."
"O'r gorau ynteu," meddai Parri, wedi peth ddistawrwydd, gan gychwyn oddiwrtho, "ond os rhowch chi fi i lawr, cofiwch hyn—os rhowch fi i lawr? 'fydd fy mywyd i'n ddim gwerth ei fyw,—na'ch un chwithau 'chwaith."