Blacmel/Gwastadhau'r Cyfrifon
| ← Cath a Llygoden | Blacmel gan John Pierce |
→ |
PENNOD XIX
GWASTADHAU'R CYFRIFON
NID aethai'r arolygydd fwy na rhyw chwarter milltir, cyn cyfarfod darpar ŵr ei ferch, a chanfu hwnnw ar unwaith fod yr arolygydd mewn hwyl ddrwg, ac meddai wrtho rhwng difrif a chware, " 'Rydw' i am newid fy ngwaith, Super,—ac am fynd yn blisman."
"Mae can croeso i chi, 'machgen i," ebe'r arolygydd yn sur, "ond os gwnewch chi, mi wna i 'ngorau i berswadio Nansi i roi gorau i chi."
"Mi wnawn i blisman ar binsh . . ."
"Mi wnaech un gwell na mi, beth bynnag," ebe'r arolygydd ar ei draws yn chwerw, "ond 'does dim hwyl lolian arna' i heno. I b'le 'rydych chi'n mynd y ffordd yma?"
"Ond i'ch cyfarfod chi, debyg iawn," meddai Humphreys. "Felly wir, meddwl bod arna' i ofn, debyg gen' i," ebe'r arolygydd, gan gychwyn yn ei flaen ac ychwanegu,—"neu ofn imi gael strôc efallai, gan 'y mod i'n mynd yn rhy hen i'm job."
Gwenodd Humphreys a gafael yn ei fraich, ac meddai: "Gwrandewch arna' i am funud, Super."
A chyn pen ychydig iawn o amser yr oedd y ddau yn cychwyn am Dŷ'nymaes gyda'i gilydd, a phrin y medrai Humphreys ganlyn yr arolygydd, gan mor cyflym y cerddai.
Yr oedd gwraig Roberts wedi mynd i dŷ cymdoges, ac yntau newydd eistedd i lawr yn y gegin, a throi'r lamp i fyny, a llyncu diferyn o wisgi, ac yn hwylio tanio ei getyn, pan glywodd guro ar y drws, a pan agorodd, pwy welai yn sefyll yno, ond yr arolygydd a Humphreys.
"O!" meddai Roberts, dipyn yn sbeitlyd, "wedi anghofio rhywbeth, Super?"
"Nage," ebe'r arolygydd yn siriol, "meddwl rhoi gorau i'r gwaith plisman yma, a mynd yn bartner efo Humphreys, i ddal tir a bwtsiera tipyn. Ha! ha! ha!"
"Go dda wir," meddai Roberts, "ond wedi i Humphreys gymryd y tir a busnes Parri, efallai y caf innau hefyd ddwad i'r cwmni—ond ddowch chi ddim i mewn? 'Dydyw'r wraig ddim gartref."
"Wel, os felly, mi ddown ni ynteu," ebe'r arolygydd.
Wedi iddynt eistedd a thanio'u catiau, a sôn tipyn am y naill beth a'r llall, gofynnodd yr arolygydd yn sydyn, "Fydd gennych chi rywbeth i ddweud wrth y Pabyddion, Roberts?" "Wrth y Pabyddion?" gofynnodd Roberts, â golwg byslyd arno.
"Ie, ydych chi'n credu yn y busnes cyffesu pechodau yma, er enghraifft?"
Ceisiodd Roberts wenu, ond yr oedd yn amlwg ei fod ychydig yn anghysurus. Eto gwnaeth ymdrech i basio'r peth heibio fel tipyn o hwyl. "Wel, 'wn i ddim wir, ond mae arna' i ofn na chai'r un plisman wrando eu cyffes beth bynnag."
"Go dda, 'rwan, Roberts," meddai'r arolygydd dan chwerthin, "go dda wir, am y buasent yn gwneud defnydd o gyffesion pobl ynte? Beth am fwtsieriaid, Humphreys?"
"Wn i ddim wir," ebe Humphreys, "wn i dd—."
Ond troes yr arolygydd yn sydyn at Roberts, ac meddai ar draws Humphreys, "Wyddoch chi fod J. E. Parri yn gwrando pobl yn cyffesu?"
Sythodd Roberts yn ei gadair, a newidiodd ei wedd: "Be' ddiawl ydyw rhyw lol fel hyn?" gofynnodd.
"Ond hyd y gwn i," ychwanegodd yr arolygydd, heb gymryd sylw o gyffro Roberts, "fydd yr offeiriaid ddim yn gofyn i'r Pabyddion seinio'u cyffes . . ."
Am foment, meddyliodd yr arolygydd a Humphreys, yn sicr, fod Roberts yn mynd i neidio iddynt, oblegid cychwynnodd o'i gadair, â golwg beryglus arno, ond yr un mor sydyn, stopiodd, ac edrychodd ar yr arolygydd, â'i lygad yn meinhau, a daeth golwg gyfrwys i'w wyneb: "P'am na chymerwch chi fi i'r ddalfa, Super?" gofynnodd dipyn yn sbeitlyd.
"Wel," ebe'r arolygydd yn llon, "meddwl yr oeddwn i, Roberts, y carech chi gael un noson arall gartre."
"Gwelwch yma, Super," ebe Roberts, gan godi oddiar ei gadair, "fe wyddoch chi'n iawn fod Parri a minnau yn elynion, a phwy sydd yn mynd i goelio dim mae o wedi sgri—y—wedi ddweud. Mi'i deliais i o yn dwyn—i chi gael gwybod, a mi fu'n rhaid iddo fo roi hynny i lawr ar bapur hefyd, neu yr oeddwn i am roi'r peth yn llaw'r plismyn, ond mi beidiais, a dyna i chi oedd gwir achos y drwg—deimlad oedd rhyngddo a mi. Ymhen rhyw fis wed'yn, dyma fo'n dechrau fy mhasio i heb edrych arna' i—mae'r papur seiniodd o yn fy sêff i byth."
Ni feddyliodd Roberts fod y newydd yma wedi effeithio cymaint ar yr arolygydd—oblegid medrodd ymddangos yn ddi-gyffro, a gofyn mewn tôn ddidaro—mor bell ag y gellid barnu—"A gaf i weld y papur, Roberts?"
"Cewch—a'i ddarllen o hefyd pan fydd gofyn amdano," atebodd Roberts. Ac ychwanegodd yn ffug-ddifrifol, "Wir, mae'n well i chi fynd â mi heno, Super, rhag i bobl fy ngweld i, a chyn i'r wraig ddyfod adre."
"Na wir," ebe'r arolygydd, "efallai na fuasech chi ddim yn hidio llawer am gysgu yn y gell lle y crogodd Ifans Bryn y Felin ei hun, rhag iddo ddwad yno i orffen eich tagu chi, neu eich boddi chi, efallai. Nos dawch, mi gawn orffen ein sgwrs eto. Dowch Humphreys." Ac aeth y ddau allan.
"P'am na fuasech chi'n ei gymryd o i'r ddalfa heno?" gofynnodd Humphreys i'r arolygydd, mor fuan byth ag yr oeddynt drwy lidiart yr iard.
"Humphreys bach," meddai yntau yn chwerw, "Lle mae fy warant i? Lle mae fy mhrofion i? Y? Un peth ydyw fy mod i'n gwybod bod Roberts yn lleidr, peth arall ydyw imi fedru profi hynny—a mae'n rhaid i'r gyfraith gael profion. Pan ddarfu i chi ddangos y papur gawsoch chi yn sêff Parri, mi feddyliais fod y ffordd yn glir, ac y buaswn i'n cael cyffes Roberts i gyd, ond yn lle hynny, dyma 'machgen i'n sôn am bapur tebyg wedi ei arwyddo gan Parri. Mae hi'r un fath a phetasai'r ddau wedi bod yn chware'r gêm honno—beth fyddan' nhw yn ei galw hi hefyd? O! ie-'Confidences' ynte. Mae Roberts yn sicr o 'ngwneud i—ydyw 'tawn i'n marw."
Ar ôl i'r arolygydd a'r cigydd adael Tŷ'n-y-maes, y peth cyntaf a wnaeth Roberts oedd mynd i'r sêff i nôl cyffes Parri. "Rhaid imi dorri allan darn diwethaf nodyn Parri, neu'i blygu o fel na wêl o mo'r cyfeiriad ata' i—a'i ddal o iddo fo felly, heb ei roi o'm llaw, wrth gwrs, ac wed'yn mi fyddaf yn weddol ddiogel. Sut felltith?—A beth felltith mae'r hen Super yna yn wybod? Ond yr ydw' i'n sicr bod ganddo grap ar bopeth—hyd yn oed ar y miri wrth y llyn—ond nad oes ganddo ddim prawf pendant. Wedi cael hyd i'r hen bapur y felltith yma y mae o 'rydw' i'n siwr. Wel, fydd hynny ddim."
Erbyn hyn yr oedd Roberts wedi cael gafael ar yr amlen a gynhwysai bapur cyffes Parri, ac meddai wrth ei agor: "Wel, mi fedra' i wadu mai fi seiniodd bapur Parri, os daethant o hyd iddo, ond 'fedr Parri ddim gwadu hwn—yr ochr hon i'r bedd beth byn—. Y Nefoedd Fawr! Nid dyma'r papur, 'does yma ddim ar hwn." A dechreuodd Roberts chwilio yn wyllt ymhlith papurau ei sêff, ond yn gwbl ofer. "Duw â'm helpo i!" ochneidiodd, "Beth wna' i yrŵan? Sut y gwnaeth y diafol Parri yna fi, a minnau yna efo fo drwy'r amser? Mi'i gwelais o'n rhoi'r papur i mewn, â'm llygad fy hun." Ac ni ddaeth i feddwl Roberts o gwbl sut y twyllasai Parri ef.
Di-gwsg iawn fu'r noson i Roberts, a theimlai fod colli cyffes Parri yn tynnu'r tir o dan ei draed yn llwyr, ac y byddai'n rhaid ail—gynllunio.
A'r bore wedyn, cyn i'r Arolygydd Jones orffen ei frecwast, yr oedd Roberts yn gofyn am ei weld. "Super," meddai, "mi wnaf gytundeb â chwi—mi'ch rhof chwi ar y ffordd i brofi mai Parri'r Bwtsiar oedd yn gyfrifol am yr holl ddwyn sydd wedi bod yn mynd ymlaen y ffordd yma, a'r ochr draw i'r wlad, ac o'r trenau anifeiliaid i Fanchester, yn ystod y tair a'r pedair blynedd diwethaf yma—ar un amod."
"Beth ydyw honno Roberts?" gofynnodd yr arolygydd. "Eich bod yn fy nghadw i o'r miri."
Ymddangosai'r arolygydd fel petai am wrthod y cynnig; ac ychwanegodd Roberts, "Super, y mae o'n gyfle digyffelyb, a phromosiwn yn sicr i chi, oblegid yr oedd Parri yn un o'r criminaliaid medrusaf a wisgodd esgid erioed, a mi ddychrynnwch pan glywch chi beth . . ."
"Roberts," ebe'r arolygydd gan estyn ei law iddo, "'rydych yn gofyn peth anodd iawn, ond mi dreiwn ni wneud bargen. Mae yna gwrt am hanner awr wedi deg y bore' ma, mi fydd drosodd erbyn amser cinio. 'Fedrwch chi fod yma erbyn hanner awr wedi un, inni gael sgwrs? Dowch am gwpanaid o de yrŵan, tra byddaf innau yn gorffen fy mrecwast ac yn fy hwylio fy hun."
A chymaint oedd boddhad Roberts ar ôl ei ymweliad â'r arolygydd, fel y troes i Westy'r Victoria, gan addunedu ar yr hiniog na chymerai ond y nesaf peth i ddim i'w yfed yno; ond wedi bod yno am dipyn, anghofiodd ei adduned i raddau helaeth, ac yn sicr nid oedd ar ei orau pan gychwynnodd tua thŷ'r arolygydd erbyn yr adeg benodedig. Meddai wrtho'i hun ar y ffordd drachefn a thrachefn: "Mi wyddwn y medrwn i daro bargen efo'r hen super. Mae gan bawb ei bris, a mae'r hen ddyn yn sâl eisiau promosiwn."
"Wel Roberts" ebe'r arolygydd yn siriol, ym mharlwr ei dŷ, "Dyna ni, ond wyddoch chi beth? Andros o ddyn oedd Parri, a sut y medrai o wynebu ei farnwr, ar ôl eich blacio chi fel y mae o wedi gwneud, wn i ddim. Pan oeddwn i acw neithiwr, yr oeddwn i'n meddwl . . . ond dyna fi eto, yn siarad—rhowch imi gael eich stori chi."
"Beth am yr amod, Super?" gofynnodd Roberts.
"Yr oeddwn i'n meddwl ein bod ni wedi setlo hynny," ebe'r swyddog gan ostwng ei dôn, ond dan wincio hefyd.
"Wel, 'rwan amdani ynteu," ebe Roberts yn hwyliog, "paratowch eich hun am sioc." A dywedodd Roberts ei stori yn bur lithrig. Ac yn sicr ni buasai wedi bod mor rhydd, onibai am ei ymweliad â Gwesty'r Victoria. Fe'i teimlai ei hun yn cael hwyl ar bethau, ac yr oedd gweled syndod, rhyfeddod, a syfrdandod, mor amlwg ar wedd yr arolygydd yn rhoi gryn foddhad iddo hefyd. Ni buasai modd cael gwell gwrandawr. Roberts druan! Bychan a feddyliai ei fod wedi rhoi ei draed ynddi gryn hanner dwsin o weithiau. "A dyna ni bellach, Super, wedi gorffen," meddai, "yr unig dro y bûm i mewn cysylltiad ag o—y cenau drwg iddo,—oedd noson Bryn y Felin, a 'ddwynwyd yr un ddafad y noson honno. Yr oedd defaid Ifans druan yno i gyd—petasen 'nhw yn ddefaid iddo fo hefyd—pan ddaeth y dyn oedd piau nhw i'w nôl. Gelwch fi'n lleidr os mynnwch chwi—'rydw' i'n cydnabod imi fod yn fy meddwl y noson honno, ond 'dydy' cyfraith Prydain Fawr yn cosbi neb am feddwl Super, wrth lwc, ynte? Hy! Hy!"
A chwarddodd Roberts dipyn yn nerfus—lywaeth felly. Wedi ychydig o eiliadau o ddistawrwydd, gofynnodd yr arolygydd yn sydyn, "Peth rhyfedd i Parri ofyn i chi fynd yn bartner iddo fo'r noson honno, Roberts?"
"N—na, dim rhyfedd o gwbl super," ebe Roberts, "Ond—ond yn 'i ddyled o 'roeddwn i."
"O! mi welaf," ebe'r arolygydd, dan godi yn araf deg a chroesi i gyfeiriad y drws, a Roberts yn ei ddilyn â'i lygaid, dipyn yn anesmwyth. "O! wedi cael benthyg arian ganddo fo 'roeddech chwithau fel llawer—rêl hen Iddew oedd o ynte, Roberts?"
"Ie, ie'n wir, super," ychwanegodd Roberts, dan ddechrau sirioli, "rêl hen Iddew, ie, Iddew, rêl down."
"Peth rhyfedd iddo fo," meddai'r arolygydd dan agor y drws, "roi benthyg i chi hefyd, a chwithau yn gymaint o elynion."
"Ond 'dydych chi ddim yn gweld, Super—ofn i mi ddangos y papur â'i gyffes o arno yr oedd o."
"O! siwr iawn—ond peth rhyfedd na buasai gwybod bod y gyffes gennych chi, Roberts, yn ddigon i'w rwystro—fo eich gorfodi chwi i fynd yn bartner efo fo i ddwyn y noson honno. Lle mae'r papur Roberts? Rhowch imi ei weld
Erbyn hyn yr oedd Roberts wedi codi, ac yn edrych yn amheus iawn ar yr arolygydd: "Gwelwch chi yma, Super, os nad ydyw fy stori i yn ddigon heb. . .
Ond cyn iddo orffen y frawddeg, dyna blisman i mewn, ac o'r tu ôl i gwpwrdd llyfrau mawr ym mhen draw yr ystafell, camodd dau o ustusiaid heddwch y Dre allan, ac edrychodd Roberts arnynt, â'i lygaid bron â neidio o'u socedi.
"Wel, foneddigion," ebe'r arolygydd gan estyn papur iddynt, "'Rydych chi wedi clywed digon mi gredaf i arwyddo'r warant."
Ond ar hynny, gyda gwaedd erchyll, a chyn i'r plisman fedru ei rwystro, cythrodd Roberts i gadair drom, a rhuthrodd ar yr arolygydd.
"Y 'sglyfaeth budr," gwaeddodd, "y Judas Iscariot!" A thrawodd ef ar ei wegil â'r gadair, nes bod yr arolygydd yn suddo i'r llawr.
Paratodd y plisman a'r ustusiaid am' ysgarmes enbyd, ond ymdawelodd Roberts ar hynny, ac estyn ei freichiau at y plisman, "Cymerwch fi i'r ddalfa," meddai, "a handcyffiwch fi, a beth bynnag sy'n fy nisgwyl, mi fydd meddwl fy mod i wedi lladd y neidr yma, yn gysur mawr imi, ac yn help imi wynebu pob peth."
"Wel," meddai'r arolygydd wrtho'i hun ym mhen chwe mis wed'yn, pum mlynedd gafodd o ynte, ond mi 'roedd o'n haeddu rhagor, o lawer, am dorri asgwrn fy ysgwydd i, a rhoi deufis yn yr ysbyty imi, ond os caf i le'r Chief, mi'i gadawn hi ar hynna—ac yn ôl pob tebyg mi'i caf o hefyd.
"Pry ofnadwy oedd Parri, ond gresyn na chawsai yntau ei roi o flaen ei well, ac eto mi gafodd farwolaeth ddychrynllyd, yn ôl yr olwg oedd arno. Yr unig un yr ydw' i'n tosturio tipyn wrtho, ydyw'r hen Ifans druan,—hen fôi clên, ac mi wnaeth dro gwell efo mi, na neb, heb geisio wrth gwrs. Ofn cael ei gyhuddo o ladd yr hen Hopcyn—nage-o ladd Martha Hopcyn, wnaeth i Ifans, ei grogi ei hun, er bod ei ofnau o mae'n bur debyg, yn ddisail. Ond mi'r oedd yn eitha' gen' i fy mod i yn yr ysbyty, pan fu Mrs. Hopcyn farw hefyd; mi fuaswn i'n teimlo yn ddigon rhyfedd mi wn, a minnau yn gwybod am ymweliad Ifans â Chae'r Pant, ond marw o sioc, o weld ei gŵr wedi ymgrogi, basiwyd yn y cwest. Ei chalon hi'n ddrwg ers blynyddoedd, meddai'r meddygon. Ac y mae nhw'n siwr o fod yn gwybod. Hy! Wel, 'chafodd hi mo'i lleferydd yn ôl, a chaiff hi mohono fo 'rwan, mae hynny yn bur sicr. Felly dyna ben ar bethau."