Blacmel/Nid Hir y Ceidw
| ← Ffyrdd Troseddwyr | Blacmel gan John Pierce |
Praw Nerfau → |
PENNOD V
"NID HIR Y CEIDW. . . "
GELYN mwyaf Roberts oedd Ifans a ffarmiai Fryn y Felin, un o ffermydd gorau'r gymdogaeth; buasai'r ddau o flaen Syr William Anton, eu meistr tir,—a meistr tir mwyaf y broydd, am y swydd o is-stiward,—ac Ifans a'i cafodd.
Byth er hynny, coleddai Roberts deimladau drwg iawn tuag at Ifans, a bu'n pwyso llawer ar Parri o dro i dro i ddwyn rhai o'i ddefaid. A thrannoeth, a hithau'n ddiwrnod gwlyb ac ystormus, meddai Parri wrtho'i hun: "Efallai fy mod i wedi cadw Roberts yn ddigon hir bellach, mae wedi rhoi ei fryd a'i serch ar godi'r doll ar stoc Ifans, a waeth i minnau roi i mewn iddo, er y bydd yn well gennyf i gadw teimladau personol o'r busnes yma yn gyfangwbl, ond dyna Ifans a minnau wedi prynu defaid yr un fath â'i gilydd, a chan yr un gwerthwr, ac nid ydyw o na minnau wedi newid eu nodau eto—felly petawn i'n lladd rhyw hanner dwsin o'm rhai i ar unwaith, a symud chwech o ddefaid Ifans i'm caeau i yn eu lle, sut mae neb i . . . diain i-dyna Ifans yn pasio ar y gair. I b'le mae o yn mynd y tywydd yma tybed?"
Ac aeth Parri i ddrws y siop, a gwelai Ifans yn prysuro drwy'r glaw i gyfeiriad y stesion. "Mae golwg mynd i ffwrdd arno hefyd," meddai, "efo'r tren hanner awr wedi pedwar debyg gen' i-ond mi gaf wybod gan Richards pan ddaw o'n ôl o ddanfon cig i'r stesion."
"Mae arna' i ofn eich bod chi wedi gwlychu, Richards," meddai Parri wrth y gwas, ymhen rhyw chwarter awr, "mi fyddai'n well i chi newid."
"Na, meistr," ebe yntau, "mi ddeil yr hen gôt yma bob glaw."
"Wel, os deil hi'r glaw yma, mi ddeil rywbeth," meddai Parri. 'Dydyw hi ddim ffit i gi fod allan. Mae'n debyg nad oedd fawr neb tua'r stesion ychwaith."
"Na, 'welais i ddim ond rhyw ddau yn dwad o'r tren, a dim ond Ifans Bryn y Felin yn mynd efo hi—mater o raid arno yntau, mae'n debyg—ond o ran hynny ar nos Lun y bydd o'n mynd i ffwrdd ran amlaf."
"Ond yr oeddwn i'n meddwl ei bod hi'n ddiwrnod talu rhent Syr William?"
"Na, wythnos i heddiw, meistr."
"Ie, siwr, yr oeddwn i wedi anghofio," meddai Parri.
Yr oedd hi bron yn dechrau tywyllu, pan ddigwyddodd Roberts daflu golwg tua'r clawdd terfyn, a meddwl ei fod yn gweled rhywun yno. "Tybed?" meddai, gan syllu yn galed. "Ie, fel mae byw fi—Parri sydd yna."
Ac mewn ychydig iawn o amser yr oedd yntau yno hefyd. "Heno amdani hi Roberts," meddai Parri, a deallodd Roberts heb ddim rhagor o eglurhad beth oedd yn ei feddwl, ac meddai, "Meddwl yr oeddwn innau dipyn cyn imi eich gweled chwi, noson mor dda fyddai heno, ac—a dweud y gwir i chi,—yn rhyw led ddisgwyl eich gweld. Mae hi wedi talu'n iawn i mi ddisgwyl—er fy mod i, mae arnaf ofn, wedi bod yn ddiamynedd; 'fuasai hi ddim yn bosibl inni gael gwell noson, fydd dim perygl i neb fod o gwmpas ar y fath dywydd, na photsiar na chipar na dim—ac y mae rhyw sôn hefyd fod Morgan y plisman yn sâl a . . . .
"'Rhoswch Roberts wir," ebe Parri, dan wenu yn oeraidd, "neu mi fyddwch yn dweud yn y munud fod y defaid wedi gyrru gair i chi i ddweud y byddant yn ein disgwyl ni, ond mae gen' i un newydd da iawn,—mae Ifans eich cyfaill wedi mynd i ffwrdd efo'r tren hanner awr wedi pedwar y prynhawn yma."
"Tewch â dweud ddyn!" meddai Roberts, yn llawen, "mae hi fel petai'r Nefoedd o'n tu ni, a rhagluniaeth wedi mynd i drafferth i symud pob rhwystr oddiar ein ffordd ni. Ydyw popeth yn barod, Parri? Mi ofalaf i am yr haearn. Ddaethoch chi â golau?"
"Na," meddai Parri, "fydd dim eisiau eich arfau chi heno—mi ddaeth y cyfle mor sydyn, fel na chefais i ddim amser i ladd fy nefaid i, felly mi af i â'r rhain dan yr hen drefn i'r dre yn y fflôt, ac mi'u lladdaf nhw heno, gan fod Ifans i ffwrdd, a phopeth.
Ewch chi ar draws y caeau, a mi af innau efo'r fflôt hyd y ffordd. Mi drefnwn ni i gyfarfod ein gilydd yng ngheg y lôn sy'n troi o'r ffordd fawr am Fryn y Felin—ddeg o'r gloch—mi gewch chi amser i fynd adre a bwyta'ch swper—a mi af innau am damaid i Ben-y-cae-nid oes dim brys—felly mi gymerwn ni'n hamser."
Er ei bod yn noson mor dywyll ac ystormus, nid oedd hynny yn ddim rhwystr i Roberts. Cerddai'n gyflym ar draws y caeau gan anelu yn ddi-feth at fwlch yn y fan yma, ac adwy yn y fan draw; ac fel y dynesai at Fryn y Felin tynnai ddraenen yma ac acw—drain a oedd wedi eu rhoi yn ferdin ar fwlch a llecyn gwan yn y gwrychoedd.
"Mae hwn yn orchwyl wrth fodd fy nghalon i," meddai, gan chwerthin ynddo'i hun, "a mi fydd defaid Ifans Bryn y Felin yn bur wasgarog erbyn y daw o'n ôl, a mi gaiff ei chlywed hi, am beidio ag aros gartre' mwy, a chrwydro llai—ha! ha! Mae fy nyled i'n fawr i Mr. Ifans; onibai amdano ef, 'fuaswn i ddim yn gorfod bod yn gi bach i Parri'r Bwtsiar Mawr—na neb arall. A heno—y Nefoedd Fawr!
Y peth a barodd lw Roberts, oedd fflach sydyn yn goleuo'r wlad fel haul, a tharan yn dilyn bron ar unwaith.
"Wel, am fellten!" ebe Roberts, "pwy fyth fuasai'n disgwyl peth fel yna heno, ond yr unig un mae'n debyg. Chawn ni ddim storm o fellt a tharanau yr adeg yma o'r flwyddyn, siawns gen' i."
Wedi cyrraedd caeau Bryn y Felin, aeth ati yn hamddenol i yrru'r defaid i gyd i'r cae nesaf i'r ffordd fawr, ac ni chafodd fawr i gyd o drafferth ychwaith, gan iddo fynd â'r ci efo fo'r noson yma; a gweithiodd hwnnw yn rhagorol hefyd, gan ufuddhau i bob gorchymyn yn barod ac yn ddistŵr, er gwaethaf y tywyllwch a'r tywydd, a chyn pen ychydig iawn o amser, yr oedd defaid Ifans wedi eu gyrru trwy ddau fwlch, rhai i'r ffordd fawr, ac eraill ar wasgar i gaeau cym-dogion, a chwech wedi eu dal a'u rhwymo, erbyn y cyrhaeddai Parri. Yna troes yn chwyrn at y ci, "Adre, Pero," meddai'n fygythiol, "Adre!"
Ac i ffwrdd â'r ci ar hynny, ond pan oedd yn cychwyn dyma fellten arall ond llai llachar o lawer na'r llall—a'r daran ymhen rhai eiliadau ar ei hôl.
"Wel, wir," meddai Roberts, "mae'r elfennau a phopeth yn ffeind heno, petasai'r fellten yna wedi dyfod ychydig yn gynt, buasai'n anhwylus iawn—ac y mae'n amlwg bod honna yn bur bell; os bydd y nesaf cyhyd ar ôl hon, ag y bu hon ar ôl y llall—mi fyddwn yn ddiogel."
Toc clywodd y fflôt yn dyfod, a neidiodd i ben y clawdd ac i'r lôn i'w disgwyl, ond pan oedd hi bron â'i gyrraedd,—yn sydyn cyffrôdd drwyddo, a chythrodd i gyfarfod ei bartner, oblegid draw yn y pellter, gwelsai olau beisicl yn dyfod: "Parri," meddai, "mae yna rywun yn dyfod ar feic—lamp oel sydd ganddo fo, wrth ryw lwc; brysiwch, trowch y ceffyl i'r lôn yma, wed'yn wêl o mohono' ni, os pasio mae o.
A gwnaeth Parri hynny ar unwaith. Fel y dynesai'r beisicl, daliai'r ddau eu hanadl, a rhoes Roberts ochenaid o ryddhâd pan basiodd y golau geg y lôn.
"Mae'n lwc ni'n dal fachgen," ebe Roberts, dan chwerthin dipyn yn nerfus.
"Lle mae'r defaid?" gofynnodd Parri.
"Yn barod i'r lladdfa gyfaill," meddai Roberts gan neidio i ben y clawdd, a throsodd i'r cae, ac estyn dafad i Parri. "Dyma un ohony' nhw."
"Welsoch chi rywun ar eich taith?"
"Do, fe welais un, a hwnnw, pwy bynnag oedd o, yn awyddus iawn imi beidio â'i adnabod o."
"Dim mwy awyddus nag oeddech chwithau iddo fo beidio â'ch adnabod chi, mae'n siwr," ebe Roberts.
"Ie, ac yr oeddwn i'n bur falch nad pan ddaeth un o'r mellt hynny yr oeddwn i'n ei basio fo—ond o ran hynny, mae o'n siwr o fod wedi fy adnabod i,"
'Does gennych chi ddim syniad pwy oedd o?"
"Nac oes, ond yn ymyl Cae'r Pant yr oedd o, lle mae'r cybydd hwnnw yn byw. Yr oeddwn i wedi stopio'r car am funud yn ymyl yno, a dyna rywun dros y clawdd heb weled y car yn y tywyllwch a'r glaw, a 'chefais i ddim ond cael a chael i gythru i'r rêns, na buasai'r ceffyl wedi rhedeg."
"Brenin annwyl!" ebe Roberts.
"Ie, ac onibai fy mod i'n gwybod bod Ifans Bryn y Felin wedi mynd i ffwrdd efo'r tren hanner awr wedi pedwar, mi fuaswn yn cymryd fy llw mai fo oedd o."
"Na," ebe Roberts, "mae Ifans yn ddigon diogel mewn rhyw hotel yn hobnobio efo'r mawrion. Ond sôn am fellten, welsoch chi un oleuach neu sydynach erioed na'r gyntaf, dywedwch? Mi fûm i'n lwcus iawn—'doeddwn i ddim wedi cyrraedd caeau Bryn y Felin, ond 'doedd dim perygl i neb fod allan hyd y caeau i 'ngweld i, o ran hynny; ond mi gefais i fraw am foment—mi 'roedd hi mor olau â hanner dydd."
Tra siaradent yn ddistaw fel hyn, gweithient yn gyflym, Roberts yn estyn y defaid i ben y clawdd a Pharri'n eu rhoi yn y fflôt. Ac yr oedd Parri yn yr act o estyn y ddafad olaf o ben y clawdd, a Roberts newydd neidio yn ôl i'r lôn o'r cae, pan lamodd y ddau i fyny mewn braw, oblegid y foment honno, ac ar unwaith â'i gilydd, gwelai'r ddau ffurf dyn anferth yn camu tuag atynt, a chlywent lais ffyrnig yn dweud: "Lladron defaid, aie?"