Neidio i'r cynnwys

Blacmel/Parri'n Dechrau Pacio

Oddi ar Wicidestun
Cwlwm y Cythraul Blacmel

gan John Pierce

Roberts Druan

PENNOD XI
PARRI'N DECHRAU PACIO

NID oedd Parri, y cigydd, wedi medru cadw o grafangau'r gyfraith cyhyd, ac wedi llwyddo i ddianc o'i holl anawsterau heb fod yn meddu ar alluoedd anghyffredin iawn, ac nid oedd wedi cynllunio'r un lladrad, heb ofyn iddo'i hun beth a wnâi pe digwyddai i bethau ddyrysu. Byddai'n myned i Lundain dair gwaith yn y flwyddyn, a phob tro yr âi, talai symiau o arian i mewn i fanc yn y Brifddinas, yr agorasai gyfrif ynddo fel James Jenkins, gan roi cyfeiriad y gwesty y byddai'n aros ynddo. Yn wir, onibai am ŵr y gwesty, ni buasai'r bancer wedi caniatáu iddo dan amgylchiadau mor anghyffredin, agor cyfrif, ond rhoes y gwesteiwr ei air drosto, ac yn y banc hwnnw y gwnâi yntau ei hun ei fusnes.

Dywedasai Parri wrth y gwesteiwr y byddai y busnes yr ydoedd ef ynddo, yn ei gymryd lawer ar y cyfandir, ac nad oedd ganddo gartref sefydlog.

Yr oedd hefyd wedi taflu awgrymiadau cynnil yn y Dre o dro i dro, ei fod yn meddwl rhoi gorau i'r busnes—ac yr oedd wedi hanner addo rhoi'r cynnig cyntaf arno i John Humphreys, cigydd ifanc uchel-geisiol oedd yn brysur ddyfod i fusnes mawr ei hun. Wrth addo hyn i Humphreys, yr oedd wedi pwysleisio wrtho mai yng nghymdogaeth y Dre yr oedd am wneud ei gartref, wedi iddo ymneilltuo—ond y gwir oedd, mai yn rywle digon pell oddiyno y bwriadai wneuthur hynny—rhag ofn i Humphreys, neu bwy bynnag a gymerai ei fusnes, ddarganfod rhywbeth i beri iddynt ddechrau amau rhywbeth.

"'Cawn i wythnos," meddai, wrth fynd adre'r noson y daliodd Ifans hwy, "i gael rhai o'r dyledion mwyaf yna i mewn, fe fedrwn achub tipyn o'r rec, ond mae arnaf ofn Roberts; mae o mewn dyled eto, a 'dydyw hynny rois iddo fo ddim ond fel poeri i'r môr, a 'does ganddo fo mo'r wyneb i ofyn am bres i mi eto—ac yr ydw' i yn ei adnabod o'n ddigon da, i wybod y bydd o'n siwr o dreio gwaedu Ifans, ac os aiff o i wasgu ar hwnnw, 'does wybod beth a ddigwydd, mae'n well i mi'i phlygu hi ar hyn ond rhaid imi gadw fy llygad ar Ifans hefyd."

Buasai Roberts yn edrych yn hurt, pe clywsai'r sgwrs a fu rhwng y ddau gigydd ben bore drannoeth.

"Yr ydw' i yn barod i werthu'r busnes i gyd, a'i drosglwyddo fo drosodd i chi ar unwaith am y swm yna, Humphreys," ebe Parri, "a mi wn i bod hi'r fargen fwya' a ddaeth i'ch rhan chi 'rioed; ond mae arna' i eisiau'r arian ar unwaith er mwyn prynu eiddo sy'n mynd ar werth yn ffiaidd o râd, ac yr wyf wedi meddwl,—a hanner addo o ran hynny,—y rhown i'r cynnig cyntaf i chwi, ond mae un amod, a dyna ydyw honno, nad ydych chi i ddweud wrth yr un creadur byw—am wythnos—ond 'wnewch chi ddim o ran hynny, ar eich lles eich hun, oblegid petai'r stori'n mynd allan, mi wyddoch y buasai holl fwtsieriaid y broydd yn torri gyddfau'i gilydd i gael y busnes. Ond yr wyf i'n cadw at fy ngair, mi addew'is i y caech chi'r cynnig cynta' a rhagor, mae'n well gen' i i chi 'i gael o na neb, 'fuaswn i ddim wedi 'i addo fo i chi heblaw am hynny. Y cwestiwn ydyw, a fedrwch chi dalu am y busnes ar unwaith. Mae'r cynnig yn dal tan naw o'r gloch bore yfory."

"Mi fydda'i acw," ebe John Humphreys.

"Popeth yn dda ynte," meddai Parri, "ond cofiwch—dim gair wrth neb."

Gwyddai John Humphreys fod Parri yn cynnig y busnes yn rhad iddo, ond er hynny yr oedd y swm yn fawr, ac yr oedd yntau yn fyr o ddau gant o bunnau mewn arian parod, ond ni soniodd ddim am hynny wrth Parri. A phe buasai wedi gwneud, mae'n sicr y buasai Parri wedi dweud wrtho y câi orffen talu'r ddeucant wedyn, rhag ofn iddo fynd i chwilio am fenthyg at rywun, a dweud i beth yr oedd arno eisiau'r arian.

Ni wyddai Parri ychwaith fod carwriaeth John Humphreys ac unig ferch yr Arolygydd Jones wedi mynd mor bell, ond ddeuddydd cyn hynny, cytunasai'r ddau i briodi, ac ymhen yr awr ar ôl i Parri gynnig y busnes iddo, yr oedd John Humphreys yn dweud am y cynnig dros y cownter with ei gariad, ac fel yr oedd yn fyr o'r ddeucant.

"Gedwch chi hynny i mi," ebe Miss Jones, "peidiwch â gofyn am yr arian i neb, a dowch acw heno tua naw."

Nansi oedd unig blentyn yr arolygydd, a channwyll llygad ei thad gweddw, a gallai ei droi am ei bys bach. A'r noson honno ar ôl swper, eisteddodd ar lin ei thad, a rhoes ei braich am ei wddf, a chyn pen chwarter awr yr oedd yr arolygydd yn eistedd o flaen ei ddesg, ac yn cyfrif can punt mewn papurau, ac yn eu plith ddau bapur ugain punt; ac yn ysgrifennu tsiec am gant arall.

Bore trannoeth, un o'r rhai cyntaf yn y banc oedd Parri, yn codi symiau mawr o arian—yn wir—y cwbl a oedd ganddo yn ei gyfrif, ag eithrio rhyw bum punt ar hugain, ac mewn ateb i'r cwestiwn amlwg a oedd yn llygad y rheolwr, meddai, â gwên ar ei wyneb, "Mi fydd gennyf fwy o gyfrif yn y banc yma nag erioed, 'rwy'n gobeithio, wedi imi orffen y dîl yma, Mr. Bowen, ond dydw' i ddim yn rhydd i ddweud dim amdani wrth neb—hyd yn oed wrth fy mancer."

Ac aeth Parri adre a chloi yr arian yn ei ddesg, a bu wrthi yn brysur weddill y dydd, yn trefnu ei bethau, yn casglu tipyn o ddyledion, ac yn gorffen setlio gyda Humphreys. Clywodd yn y prynhawn beth oedd canlyniad y cwêst ar Hopcyn. "Mi gaf weled Ifans heno yn ôl y trefniant," meddai, "ond Roberts ydyw'r perygl mwyaf: mi ddylwn gadw fy llygad arno fo; yn wir mi ddylwn fynd i'w weled heb oedi rhagor. A chychwynnodd am Dŷ'nymaes, ac yr oedd ar y clawdd terfyn cyn ei bod hi wedi dechrau tywyllu—ond er rhoi'r arwyddion arferol i gyd, a hynny lawer gwaith, ni ddaeth Roberts ar ei gyfyl, ond gyda hynny, wedi clywed twrw Parri efo'r cwn, dyma gipar heibio, ac meddai, "Methu gwybod beth oedd achos y twrw cyfarth mawr yma a'r chwibanu yr oeddwn i, Mr. Parri."

"O! Ie," meddai Parri yn sychlyd, "yr un hen gân, Harrison, defaid Roberts yma wedi goresgyn fy nghaeau i eto."

"Wel, wel, Mr. Parri," meddai'r cipar, "mae arnaf ofn bod Roberts yn mynd i'r dogs-mae o'n gwario gormod o lawer i'r hotel, mi'i gwelais o'n mynd yno heno pan oeddwn i ."

"Wel," meddai Parri ar ei draws, "yr ydw' i wedi cael digon arno, ac yr wyf yn mynd i ddweud hynny wrtho heno hefyd." Ond erbyn i Parri gyrraedd cyffiniau'r Crown, a holi am Roberts, deallodd ei fod wedi mynd oddiyno, ac nid i gyfeiriad ei gartre ychwaith.

Aeth Parri yn ei ôl i'w gerbyd, mewn cryn benbleth. "Dydw' i ddim yn hapus yn ei gylch," meddai wrtho'i hun, "a 'does dim dichon dweud beth a all wneud yn ei ddiod, efall. Ha! mi gwelaf hi—.

A daeth rhyw befr i lygad oer glas-olau Parri, "ond mi gaiff siwrnai seithug, gan y bydd Ifans efo mi heno; mae hi wedi naw yrŵan, ac yn rhywyr glas i minnau gychwyn adre hefyd; fel y mae hi bydd yn rhaid imi alw yn y tŷ cyn gollwng y cerbyd, rhag ofn i Ifans fynd yn ei ôl, wrth weld neb gartre."

Ond nid oedd Ifans yno pan gyrhaeddodd Parri, ac er iddo ddisgwyl chwarter awr nid oedd olwg arno, ac erbyn hyn yr oedd Parri yn anesmwyth iawn. Neidiodd Parri i'w gerbyd, a gyrrodd o'r Dre ar duth fywiog; ac am yr ail dro yr wythnos honno, troes ben y ceffyl o'r lôn fawr am Fryn-y-Felin, a rhwymodd y rêns wrth yr un giât ag y gwnaeth ddwy noswaith cyn hyn. A chyn pen ychydig funudau yr oedd Parri yn cwrcydu dan ffenestr y gegin ac yn clywed y rhan fwyaf o'r pethau a ddywedai Ifans a Roberts. Bychan a ddychmygai Roberts wrth flacmelio Ifans a'i fygwth, fod, y tu allan yn gwrando, un o'r dynion mwyaf didostur, a hwnnw yn oer gynllunio sut i roi taw arno am byth.

"Buasai'r llyn yn hwylus ac yn ddidrafferth iawn," meddai wrtho'i hun, "ond beidiai hynny â dwyn Ifans i'r busnes, a 'does ynddo fo mo'r cwaliti sydd yn Roberts; heblaw am y ddiod mi fuasai Roberts yn—

Dyma fo'n dyfod, mi'i disgwyliaf o'r ochr arall i'r giât."

Nodiadau

[golygu]