Blacmel/Parri yn ei Elfen
| ← Y Peth a Heuo Dyn | Blacmel gan John Pierce |
A Pharri yn y Fagl → |
PENNOD XVI
PARRI YN EI ELFEN
BU'N rhaid cael meddyg i'r gwesty at Parri y bore wedyn, ac am bum niwrnod arhosodd yn ei wely. Ond o dipyn i beth, dechreuodd y briw ar ei goes ildio i'r driniaeth, a chafodd godi, ond nid aeth i lawr i'r un o ystafelloedd cyhoeddus y gwesty ychwaith, a chymerai ei brydau yn ei ystafell wely, ac felly parhaodd nes teimlo'n ddigon da i fyned ymlaen i Lundain.
Ac er gwaethaf ei helynt, ni fethodd un diwrnod â gyrru un o weision y gwesty allan i nôl y Manchester Guardian, gan bwysleisio bod yn rhaid iddo gael y 'Welsh Edition.' Felly, gwelodd hanes trychineb Ifans Bryn y Felin a dyfarniad y cwest, ac yn naturiol iawn, teimlai yntau ollyngdod mawr. Cafodd ragor o'r manylion yn argraffiadau'r prynhawn a'r nos o bapurau Manchester. "Mae'n dda i mi," meddai, "mai fel'na y digwyddodd pethau, er nad oes dim diolch i Roberts Tŷ'nymaes 'chwaith, gan mai fo sy'n uniongyrchol gyfrifol am i Ifans ei grogi ei hun, a'r holl helynt—ac er bod Ifans yn farw, yn fy siwtio i'n well o lawer nag Ifans yn fyw, Beth 'dydyw hynny yn newid dim ar wendid Roberts yrrodd y ddau i yddfau'i gilydd tybed? A minnau'n meddwl fy mod i wedi gwneud pethau'n ddiogel. Tybed bod Roberts yn feddw ben bore felly? Beth mae o yn ei wneud erbyn hyn, tybed? A beth ddywedodd o yn y cwest ar Ifans, hynny ydyw, os cafodd o'i alw iddo? Dim llawer mi wn: a dim i'w fradychu ei hun, mi wranta."
"Na, os ceidw Roberts rhag y ddiod, mae o'n siwr o fod yn ddiogel. Mae digon o allu ynddo. Lle mae o'n meddwl fy mod i tybed? A beth ddywedodd o pan welodd o Humphreys hyd fy nhiroedd i? Wel, fo'i hun, a neb arall, sydd i'w feio am bopeth, ond, dim rhagor o bartneriaid i mi."
Bu Parri yn ystyried yn hir, pa un ai mynd i'w hen lety Llundain, ynteu cymryd llety newydd a fyddai orau iddo. Sylweddolodd y synnai gŵr y gwesty ei weled wedi newid cymaint, ond nid oedd ar Parri awydd myned i le newydd; adwaenai bobl ei hen lety, ac nid oedd berygl iddynt ei gysylltu â'r J. E. Parri oedd ar ffo, ped hysbysebai'r awdurdodau amdano, ac i beth y buasai yr awdurdodau yn gwneud hynny? Nid oedd dim perygl i Roberts ddweud dim, oblegid golygai hynny gymaint i Roberts ag iddo yntau; ond yr oedd Parri am fod yn bur ofalus am dipyn serch hynny. Felly, ymhen ychydig ddyddiau, cyrhaeddodd ei hen lety yn Llundain, â'i goes yn llawer iawn gwell, ond bod golwg pur wael arno; yr oedd ganddo rhyw wayw rhyfedd ym môn ei freichiau, ac yn ei ysgwyddau, a rhyw anesmwythdra yn ei wddf a'i wegil, a thybiai ei fod wedi cael drafft drwy ffenestr y gwesty ym Manchester.
Nid oedd gŵr y gwesty yn ei adnabod i ddechrau, ag yntau heb ei farf, ond pan ddechreuodd siarad, adnabu ef ar unwaith. "I would never have known you, sir," meddai, "but for your voice."
Penderfynodd Parri fyned i orffwys yn gynnar, a chymryd yr arian oedd ganddo i'r banc y bore wedyn, oblegid buasai y swm mawr a gariai yn gryn bryder iddo. "Rhaid i mi fynd i'm dangos fy hun i'r bancer, heb fy marf," meddai, "gan mai yma y llechaf am sbel nes cael gwybod sut y try pethau gartre, a rhywbeth felly."
Noson ddigon anesmwyth a gafodd, oblegid dal i waethygu'n raddol yr oedd y poenau yn ei wegil. Modd bynnag, yr oedd yn y banc bore drannoeth, ychydig wedi iddo agor, a buan y profodd mai efe oedd James Jenkins. Dangosodd Mr. Wills, y rheolwr, gwrteisi mawr tuag ato, a gwahoddodd ef i mewn i'w ystafell breifat. Yno eglurodd Parri fod ganddo swm lled sylweddol o arian i'w dalu i mewn, ac agorodd ei fag, a dechrau tynnu allan nodau pumpunt a deg, ac yn eu plith y ddau nodyn ugain punt a gafodd Humphreys gan ferch yr Arolygydd Jones, a chyfrifodd y rheolwr hwy.
Ymhen ychydig, gofynnodd y rheolwr iddo'i esgusodi am foment; a phan ddaeth yn ôl, â gwên siriol ar ei wyneb yr oedd Mr. Earle, y cyfrifydd, gydag ef. Wedi i'r rheolwr eu cyflwyno i'w gilydd, ac i'r cyfrifydd fyned o'r ystafell, meddai'r rheolwr, "We are very glad to learn, Mr. Jenkins, that we shall be seeing you quite often, now that you are staying in London for some time."
Ac wrthi yn ymgomio yr oeddynt pan ddaeth cnoc ysgafn ar y pared rhwng ystafell y rheolwr ag ystafell gyhoeddus y banc. Agorodd y rheolwr banel bach, ac estynnodd un o'r clercod gerdyn iddo.
"Show the gentleman in," meddai'r rheolwr, gan roi'r cerdyn ar ei ddesg, a chyda hynny dyma ddrws yr ystafell breifat yn agor a gŵr tal ysgwyddog yn camu i mewn. Nid oedd eisiau edrych ddwywaith arno, i weled mai plisman yn ei ddillad ei hun ydoedd.
"We are very sorry, Mr. Jenkins," meddai'r rheolwr, "but we've had instructions to notify the police if these notes . ." Ond dyna'r cwbl a gafodd y rheolwr ei ddweud, oblegid yr oedd Parri wedi codi dan chwerthin yn galonnog dros y lle, a gwthio'i gadair yn ôl, a chlywai'r casïer y tu ôl i'r cownter, a Mr. Earle a safai y tu allan yn ymyl drws breifat y rheolwr, lais uchel yn dweud yn llawen, "Old Frank!—as my name is Jim Jenkins. And how are you, old fellow?" A llais llawen arall yn dweud, "Jenks, by all that's sacred, and how the devil? O! do forgive us, Mr.—y—y—Manager, we haven't met for fifteen years." A bu chwerthin mawr a miri, a thwrw codi a symud cadeiriau yn cyrraedd hyd yn oed y clercod yng nghefn ystafell gyhoeddus y banc, ac edrychodd y rheini ar ei gilydd gan nodio a wincio, gan na chlywid yn aml, hwyl a miri mawr felly yn dyfod o ystafell breifat y rheolwr.
Yna agorodd y drws, a safodd Parri ar yr hiniog gan ddweud dros ei ysgwydd wrth y swyddog yn yr ystafell dan chwerthin, "I shan't be five minutes, and the swindler must be given a day's grace, whoever he is, as Frank Dunn—detective or not—must spend to—day with me-celebrating, and don't you let him leave before I fetch him, Mr. Wills." A chaeodd Parri'r drws a chychwyn allan, gan nodio yn siriol ar Mr. Earle wrth basio.
Yr oedd y cerbyd a logasai i ddyfod ag o o'r gwesty i'r banc, yn ymyl y drws yn ei ddisgwyl, yn ôl y trefniant. Camodd Parri iddo, a chyn ei fod wedi mynd ragor nag ugain llath, meddai wrth y gyrrwr, "There's a fiver for you, and if you can make Paddington in ten minutes there will be another too for you—it is a matter of ten thousand pounds to me, if I can catch—."
Ond mae'n amheus a glywodd y gyrrwr ddim am "ten thousand pounds" Parri, oblegid cyn gynted ag y deallodd am y pumpunt arall, rhoes slasen ar y ceffyl, nes bod hwnnw yn llamu ymlaen fel hydd.
Ymhen rhyw ddau funud wedi i Parri adael y banc, cafodd Mr. Earle achlysur eilwaith i guro ar y panel rhwng pen y cownter ac ystafell breifat y rheolwr, ond heb gael ateb. Gan fod y mater yn bwysig, curodd eilwaith, a thrachefn; ond ni chydnabu'r rheolwr ei guro.
Mewn cryn benbleth, curodd y cyfrifydd y drws, ond ni chafodd ateb, ac yn betrusgar, cilagorodd ef, a bu bron iawn iddo gael gwasgfa, oblegid o'i flaen, yn berffaith lonydd, gorweddai'r ditectif ar ei hyd ar lawr yr ystafell, ac ar ei gadair eisteddai'r rheolwr yntau, â'i ben, a rhan uchaf ei gorff, wedi syrthio ymlaen ar ei ddesg.
Nid cynt y clywodd Parri'r rheolwr yn dweud, "Show the gentleman in," nag yr amheuodd fod rhywbeth o'i le, ac ar amrantiad dyma holl adnoddau y troseddwr peryglus i'w gynorthwyo. Cafodd gip ar yr enw ar y cerdyn, pan roes y rheolwr ef ar y bwrdd; sylweddolodd beth oedd y "gentleman," chwedl y bancer, ar unwaith, ac erbyn bod y bancer yn dechrau egluro, yr oedd yntau yn barod.
Torrodd allan i chwerthin yn uchel, gan edrych ar y swyddog fel hen gydnabod, dan neidio ar ei draed a gwthio'r gadair yn ôl, a than wneuthur hynny, gwthiodd rywbeth tebyg i bistol bychan i wyneb y rheolwr, â'i law chwith, a'r un eiliad, â'i law dde, un cyffelyb i wyneb y ditectif, ac ar yr un amrantiad fflachiodd o'r pistolau, bwff bychan llwydwyn.
Plygodd y rheolwr ymlaen, dechreuodd coesau'r plisman, yntau, roi odano, ond cyn iddo daro'r llawr, camodd Parri ymlaen, a daliodd ef, a'i ollwng i lawr yn esmwyth.
Dan wneuthur hyn oll, siaradai a chwarddai Parri yn uchel, yn ei lais ei hun, bob yn ail ag mewn llais gwahanol; cipiodd bentwr o'i arian papur oddiar y ddesg, agorodd y drws, safodd yno i gymryd arno siarad am ychydig, ag allan ag o.
A phetasai Roberts Ty'nymaes yno, cawsai esboniad ar beth a ddigwyddasai iddo fo ac i Ifans, a'r sarjant a'r plisman, oherwydd taniai'r pistolau bychain, yn hollol ddi-glec, nwy gwenwynig, a barai lwyr anymwybyddiaeth am bum munud o leiaf.
Tra ceisiai'r staff wneud popeth a allent i'r plisman, a'r rheolwr, nes i'r meddyg gyrraedd, daeth y plisman ato'i hun, a gofynnodd yn gynhyrfus: "Where is he?"
"He has escaped," meddai Earle mewn tôn chwerw, "but. . . "
"How did he go?" gofynnodd y swyddog ar ei draws. "The cab," atebodd Earle, "that brought him here, was waiting for him, but we informed the police..."
Ond nid ymddangosai'r plisman fel petai'n gwrando, ac ymdaenodd gwên foddhaus dros ei wyneb. Ac yn naturiol iawn, tybiodd Earle mai gwên gymeradwyol ydoedd am ei flaengarwch ef, yn gyrru am y polîs. Ar hynny, dyma gyd-swyddog i'r ditectif i mewn, a meddyg.
"He must be an old bird," meddai'r ditectif, "he worked like lightning, never saw anything smarter, but how the deuce did he get hold of the gas-pistol? That is a pretty rare toy, in England."
"Mae'r ciabi yma yn gyrru gormod," ebe Parri wrtho'i hun, dan ddal ei afael yn ochr y cerbyd, fel y gweai'r gyrrwr drwy'r traffig, nes bod y car yn neidio o'r naill ochr i'r llall. "Os deil o i fynd fel hyn, mi fyddwn yn y stesion cyn pen dim—mi fuasai'n well gen' i fynd i rywle arall, ac ymgolli yn y ddinas yma, ond waeth faint a rown i i'r ciabi yma. am dewi, dweud wnai o ymhle y byddai wedi fy rhoi i lawr, yn enwedig os cynigid tâl iddo, a 'feiddia' i ddim mynd i'm gwesty, mae'r bancer yn gwybod am y fan honno. Cael a chael, wnes i i ddwad o'r gongl gyfyng yna, ac i'm dau hen ffrind ffyddlon y mae imi ddiolch, a mi lwythaf y ddau eto 'rŵan, rhag ofn y bydd galw am eu help eto.
"Mae'n rhaid bod rhywbeth go fawr wedi cymryd lle er pan adewais i'r cartre. P'am rhoi gorchymyn i'r banc stopio'r nodau? Nid rhai drwg oedden' nhw, siawns gen' i. Na, mae rhywbeth wedi digwydd, a rhaid i minnau gymryd yn ganiataol bod y polîs ar fy ngwaed i cyn yrwan—a mi gerddais i'r trap cynta' fel cath ddall. Ac eto. Pwy . . .? Y. . .? Beth sydd wedi dwad heibio imi, mae nhw ar fy ngwaed i 'rwan beth bynnag,—dyma finnau yn talu am gael fy ngyrru i'r ail drap—Paddington ydyw'r stesion nesaf i'r banc wrth gwrs—mi fyddan' yno'n fy nis. . . Hei ." gwaeddodd, gan geisio codi'r drws bychan uwch ei ben, yn nho'r cab. "Cabby! I say, Cabby! Stop." Ond nid ymddangosai'r gyrrwr fel petai'n ei glywed, eithr annos y ceffyl i fynd yn gyflymach. "Dyma fi'n siwr yrŵan," meddai, "mae'r cwbl wedi ei fficsio wrth gwrs. Ar hynny, edrychodd i fyny, a gwelodd y rêns uwch ei ben; cododd ar ei draed, ac ymestynnodd, i fyny ac â'i law dde rhoes blwc ar y rêns o law'r gyrrwr, a thynnu arnynt â'i holl nerth, nes bod traed ôl y ceffyl yn llithro odano, gan ei adael ar ei golyn, fel ci; ac er bod Parri wedi ei baratoi ei hun gorau medrai erbyn y stopio sydyn, a gafael â'i law chwith yn ochr y cerbyd i'w arbed ei hun, neidiodd y dau hanner drws yn agored a thaflwyd Parri allan, ond disgynnodd ar ei draed—a hynny pan oedd y gyrrwr, yntau, yn disgyn i lawr o'i sêt uchel y tu ôl, dros ochr y cab, ac onibai i Parri dorri peth ar ei godwm, y tebyg yw y buasai wedi ei anafu yn ddifrifol; ond hanner daliodd Parri ef, a'r un foment gwaghaodd un o'i bistolau i'w wyneb. Yna taflodd olwg frysiog ar y ceffyl, a oedd yn prysur gael ei draed ôl dano, a hyd y gwelai, nid oedd ddim llawer gwaeth. "Diolch," meddai, " 'does yna fawr ddim drwg wedi ei wneud i'r car, ac y mae'r siafftiau a'r harnais yn gyfan hefyd." Erbyn hyn, yr oedd amryw wedi dyfod atynt. "Nothing serious," meddai Parri wrthynt, "and no bones broken. Poor cabby—he's just knocked out, that's all. Help me to put him in the cab, someone; I'll drive—luckily I am able to drive myself—we'll take his overcoat off first, and put it over him; mine, too, I think—must keep him warm after the shock." Wedi ei osod o i hanner gorwedd ar y sêt, caeodd y drws, a dringodd i fyny i sêt y gyrrwr, ac ymaith ag o.
"Wel," meddai yn y man, gan droi i stryd ochr, "dyma fi o fewn canllath i'r stesion." A thynnodd i fyny wrth y cyrb, "Dyma le go dawel, ac ychydig o bobl o gwmpas.'
Neidiodd i lawr, ac ymhen ychydig eiliadau, yr oedd côt drom y gyrrwr amdano, a'i het galed o am ei ben, a'i gôt yntau dros y gyrrwr, a'i het feddal ddu o ar lawr y cerbyd. Gwthiodd bedwar papur pumpunt i boced ei wasgod, â'u hanner allan, rhoes ddau arall yn ei law-"Un ar lawr eto," meddai wrtho'i hun, "ac os medra'i ddianc am bymtheg punt ar hugain, mi fyddaf wedi gwneud hynny yn rhad. Wel, dyma gynnwys hwn eto i'th gadw'n ddiddig am dipyn bach yn rhagor." A gwnaeth yr ail bistol eto'i waith yn effeithiol.
"Dipyn yn dyn ydyw'r gôt meddai Parri, dan ddringo i sêt y gyrrwr, a chychwyn am y stesion, ac y mae'r het yn pwyso ar fy nghlustiau i hefyd, ond mae hynny yn beth cyffredin iawn i'r cabis yma, ond os ydyw ei wyneb o yn dewach na f'un i, 'does ganddo ddim locsyn na mwstas wrth ryw lwc. Wel 'rwan amdani, dyma ni yna, damia'r boen yma yn fy ngwegil, heblaw am hwn, mi fuaswn yn fy elfen, buaswn wir."
"Fel y gyrrai i'r stesion, gwelai ddau blisman yn union o'i flaen, "Ie," meddai wrtho'i hun, "dyma nhw yn disgwyl. Sut y cafodd y ddau wybod tybed? Mae hynny yn bwysig iawn i mi."
Dan ymson fel hyn, gyrrai yn union at y plismyn, gan wneud arwyddion arnynt, a nodio a wincio, a phwyntio i lawr at y teithiwr yn y cab odano, fel, erbyn iddo dynnu ar y rêns i atal y ceffyl, yr oedd y ddau swyddog un bob ochr i'r cerbyd, ac erbyn i Parri ddyfod i lawr o'i sêt, yr oeddynt wedi agor y drws.
"Why, he's unconscious," meddai un ohonynt.
"No bloomin' fear," meddai Parri, "e's putting one over ye', 'e is. Ye' better put the darbies on him, or he'll give ye' the slip, and 'e will, I tell ye'—I suppose ye'll wont me to stay 'ere. Well, keep an eye on me gee, will ye', while I go to the station to wire the boss, an' tell 'im 'ow I'm fixed. I was to fetch a fare from Euston."
A diflannodd Parri i'r stesion.
Erbyn hyn, yr oedd un o'r plismyn wedi codi'r gyrrwr ar ei eistedd, a hwnnw yn dechrau ymysgwyd, ond yn sâl iawn gan effeithiau'r nwy gwenwynig ac yn taflu i fyny, ond heb fedru dweud dim.
Ym mhorth y stesion, gwelai Parri drên wrth y platfform nesaf ond un, ag arwyddion amlwg ei bod yn hwylio cychwyn allan. Galwodd ar borter a welai heb fod nepell oddi wrtho, a gofynnodd iddo: "Where is that train for?" "South Wales Express. First stop Reading," meddai y porter. "Here you are," ebe Parri, gan roi'r pres cludiad yn ei law, a sofren felen dros ben, "Get me a 'first' to Reading, please; while I find a seat."
Edrychodd y porter am eiliad ar y sofren felen ar gledr ei law a chychwynnodd am y bwth ticedi fel petai wedi ei ollwng o wn.
"Rhaid cael cerbyd gwag i'm pwrpas i," meddai Parri, "ac os daw'r porter yn ôl mor gyflym ag yr aeth o, mi gaf ddigon o amser i fynd i mewn ac allan yr ochr arall, ac ar draws y rheiliau, a hynny cyn i'r rhan yma o'r lein fod yng ngolwg y platfform yma. Dyma gerbyd gwag; mi adawaf y dopcôt a'r het ar . . . O! Arglwydd Mawr, beth wna' i?"
A theimlai Parri y fath bang o boen yn ei wegil nes ei fod yn llythrennol wywo ganddo.
"You are ill, sir," ebe'r porter, a oedd newydd gyrraedd efo'r ticed, "you are not fit to travel, sir." Ond nid ymddangosai Parri fel petai'n ei ddeall o gwbl, eithr edrychai yn syfrdan o'i flaen. A gafaelodd y porter yn ei fraich, a'i arwain i sêt yn ymyl yr ystafell ddisgwyl.