Neidio i'r cynnwys

Blacmel/Roberts Druan

Oddi ar Wicidestun
← Parri'n Dechrau Pacio Blacmel

gan John Pierce

Pentewyn o'r Tân →

PENNOD XII
ROBERTS DRUAN

PAN ddadebrodd Roberts, fe'i cafodd ei hun ar ei ochr ar lawr, a'i ddwylo wedi eu rhwymo o'r tu ôl iddo, a chyn iddo lawn sylweddoli pethau, yr oedd cadach a rwymasid eisoes am ei wddf a'i ên, yn cael ei godi i guddio ei enau. Plygai gŵr uwch ei ben, ac adnabu ef ar unwaith, a deallodd yn y man ei fod ar fin Llyn y Felin.

"S—su—sut y dois i i'r fan y—yma, a be—y—th ddigwyddodd imi?" gofynnodd Roberts yn grynedig.

"Y peth pwysig i chi," meddai Parri, yn sychlyd, "ydyw—y peth sy'n mynd i ddigwydd i chi. Yr ydych yn niwsans ers tro, ond yrŵan, yr ydych wedi mynd yn berygl imi. Mae'n resyn siomi'r llyn yma ddwywaith—a gwaith y bobl a gaiff eu galw i'r cwest arnoch chi, fydd penderfynu p'run ai Ifans Bryn y Felin a'ch boddodd chi ynteu eich boddi eich hun a wnaethoch chi."

Yn rhyfedd iawn, nid ymddangosai Roberts mor gynhyrfus ag y tybiasai Parri, y buasai.

"Mi gaf dipyn o ad-daliad am y pryder ydych wedi ei beri imi Roberts, wrth wylio'r chwysigod yn codi tra byddwch chi'n treio llyncu'r llyn," meddai wed'yn. Ond ni chymerth Roberts fawr ddim sylw, a phlygodd Parri yn is, ac er ei syndod, gwelodd fod ei ddau lygad—mor bell ag y medrai ddweud yn y tywyllwch, wedi sefyll yn ei ben.

"Tybed?" meddai Parri, gan dynnu'r cadach i lawr dipyn—a chyn gynted byth ag y gwnaeth, dyma Roberts yn rhoi bloedd sydyn nes bod yn holl gylch yn diaspedain.

"Felly," meddai Parri, yn ddigon di-gyffro, gan godi'r cadach yn ôl, a gafael yn Roberts, fel pe na bai'n ddim ond plentyn, er ei fod erbyn hyn yn ymnyddu ac yn cicio, yn troi, yn plygu ac yn sythu, mewn ymdrech ofnadwy i gael o afael Parri; ond yr oedd breichiau Parri yn gwasgu amdano fel cadwyn haearn, tra cariai ef o'r lôn i'r llyn. Plygodd i lawr, ac fe'i teimlai Roberts ei hun yn cael ei roi dan y dŵr nes bod ei gefn yn cyffwrdd y gwaelod, a'r dŵr yn rhuthro i'w ffroenau a'i enau, wrth iddo geisio anadlu.

Nid oes neb a fedr ddweud a fwriadai Parri foddi Roberts pan gariai ef i lan y llyn i ddechrau, ar ôl ymosod arno wrth y giât; ond efallai mai ei ddychryn yn unig oedd ei amcan. Modd bynnag, os bwriadai ei foddi, newidiodd cri Roberts ei gynlluniau, oblegid yr oedd yn noswaith dawel, a gallai amryw fod wedi clywed y waedd, ond yr oedd yn benderfynol o roi digon o fraw i Roberts i'w gadw dan reolaeth am dipyn. Felly cyn y medrai neb gyrraedd, yr oedd wedi rhoi Roberts yn y llyn a'i gadw dan y dŵr cyhyd ag y meiddiai; a phan gariodd ef i'r lan yn ôl, yr oedd Roberts druan yn fwy marw na byw o lawer, a bu am dipyn cyn bod yn sicr ym mha fyd yr oedd.

"Peidiwch â dweud yr un gair nes cewch chwi ganiatâd," ebe Parri wrtho, "rhag ofn imi newid fy meddwl eto."

Ac ymhen rhyw funud neu ddau, ychwanegodd: "Mae'n rhaid fy mod i'n mynd yn galon—feddal; yrŵan, os oes arnoch chi eisiau byw, a chael un cynnig eto, rhowch imi wybod beth oedd eich neges efo Ifans heno."

Ac mor druenus ei gyflwr ydoedd Roberts, a chymaint ei fraw, fel y cyfaddefodd y cwbl.

"A lwc i chi eich bod wedi dweud y gwir," meddai Parri, ar ôl iddo orffen, "oblegid fe'i gwyddwn eisoes, gan fy mod i wrth y ffenestr yn gwrando'r sgwrs. Yrwan, mi dalaf eich dyled chwi y tro yma eto, a hynny am y tro diwethaf cofiwch. Hwdiwch. Ewch chwithau yn ôl at Ifans y funud yma, i ddweud wrtho fy mod i yn eich disgwyl yn y lôn, a'm bod i yn rhoi'r canpunt i chwi; a dywedwch wrtho yr helpaf i yntau hefyd, ac am iddo ddyfod i'm gweld nos yfory—neu cyn hynny, os bydd raid, mi'ch disgwyliaf innau chi wrth y ffenestr.

Ond fel y nesaent at y ffenestr, clywent leisiau yn y gegin, oblegid cyn gynted ag y caeasai Roberts y drws ar ei ôl, pan adawodd Ifans, daethai Mrs. Huws i lawr y grisiau mewn dychryn, gan fod Ifans wedi codi ei lais, heb gofio am ei howscipar, ac yr oedd hithau wedi deall ei bod hi'n ddrwg rhwng Ifans a Roberts, a chymerasai gryn dipyn i Ifans ei thawelu hefyd.

Wrth weled yr amser yn mynd, penderfynodd Parri adael i bethau fel yr oeddynt y noson honno, ar y ddealltwriaeth glir fod Roberts yn mynd â'r genadwri i Ifans ben bore drannoeth.

Ac felly y gwnaeth Parri gamgymeriad mawr ei fywyd.

Nodiadau

[golygu]