Blacmel/Y Lleidr
| ← Cynnwys | Blacmel gan John Pierce |
Yn y Feis → |
BLACMEL
PENNOD I
Y LLEIDR
NOSON ddrycinog, lawog, ddu yn niwedd mis Tachwedd ydoedd; rhuai ac udai'r dymestl o amgylch muriau'r Ysgubor Ddu—hen hongol o adeilad unig ym mhen draw un o gaeau pellaf Tŷ'nymaes.
Ac nid oedd dim ychwaith i beri i neb feddwl bod dim yn mynd ymlaen yn y fath le ar y fath noson fawr, oblegid yr oedd unig ffenestr yr hen ysgubor wedi ei gorchuddio yn ofalus, a phob crac a thwll yn ei muriau a'i dorau wedi eu topio, fel na ddihangai'r pelydryn meinaf o oleuni allan—ac eto nid pob twll ychwaith; na, yng nghefn yr ysgubor, o dan yr eiddew trwchus yr oedd un twll—na wyddai neb amdano ond y gŵr a'i gwnaethai, ac a'i gwnaethai yn y fath fodd, fel mai prin y gallai neb ei weld—gefn dydd golau.
Ac yr oedd y gŵr hwnnw—neb llai na J. E. Parri, cigydd mwyaf Trealaw, yn awr a'i lygad yn dyn ar y twll, wedi llwyr anghofio'r ddrycin fawr, a'r glaw a lifai i lawr ei wegil, yn ei edmygedd o grefft yr un a welai yng ngolau dwy lamp stabl, ar ei liniau o'i flaen, ar lawr yr ysgubor, mor fedrus yn newid nodau dafad. Ac nid oedd y ffaith y gwyddai Parri, mai un o'i ddefaid ef ydoedd hi,—a honno wedi ei lladrata,—yn lleihau dim ar ei edmygedd ychwaith.
"Mae'n well imi fynd yrŵan," meddai yn y man, a gwthiodd y topyn pren yn ôl i'r twll. "Am Dŷ'nymaes â mi efo'r llythyr 'ma, a'i roi o i Mrs. Roberts, erbyn y daw ei gŵr medrus hi adre—mi garwn i fod wedi medru gwneud twll yn ffram ffenestr cegin y tŷ hefyd,—mi fyddai'n werth gweld wyneb Roberts pan ddarllena'r nodyn."
Bychan a feddyliai'r lleidr ar ei liniau yn yr ysgubor, fod llygad neb wedi bod arno; na, yr oedd ef wedi llwyr ymgolli yn ei waith, a thra oedd ef wrth ei orchwyl, nid oedd neb na dim yn ei fyd, ond y ddafad a orweddai o'i flaen, a'r offer a ddefnyddiai at y gwaith cywrain o droi'r P ar ei hochr, yn R.
Sylweddolai, ar adegau, fod y gwynt yn rhuthro ac yn sgythru, ac yn chwipio'r ffenestr efo'r glaw.
"Noson fendigedig at fy ngwaith i," ebe fe wrtho'i hun, "'ddaw neb allan o'i dŷ ar noson fel heno, heb sôn am ddyfod i le fel hyn."
Yn y man ymsythodd, ac meddai gan edrych ar y ddafad o'i flaen: "Dyna orffen y ddiwetha', a mi heriaf Parri'r Bwtsiar Mawr, a phob Parri arall hefyd, i fedru dweud bod dim newid wedi bod ar nodau hon, na nodau'r un o'r lleill ychwaith. Wel, noswyl yrŵan; mae hi'n bwrw llai hefyd."
Toc a da, cyrhaeddodd Roberts ei gartre, ar delerau pur dda ag ef ei hun; yr oedd y wraig wedi mynd i'r gwely, a gadael ei swper yntau ar y bwrdd, â lliain drosto.
"Wel," ebe Roberts, gan fwyta, "mae gen 'i hawl i'm mwynhau fy hun heno beth bynnag, mi 'rydw' i'n ddiogel am dipyn eto, rhag y bleiddiaid benthycwyr arian yna; cyd-rhwng beth enillais i heddiw efo'r rasus ceffylau, a'r tipyn a gaf i am y defaid, mi fedraf gadw'r Iddewon y felltith yna draw am blwc eto—Hylo! Beth ydyw hwn? Nodyn i mi, a "Personol" arno. Wedi ei agor hefyd,—chwilfrydedd y musus wedi mynd yn drech na hi eto, ond petai hi ddim ond yn gwybod y drafferth ydw' i yn gymryd i gadw rhai llythyrau rhagddi—petasai hi'n agor ambell un o'r rheini, fe gostiai'i chwilfrydedd ei bywyd iddi,—fe stopiai' chalon hi yn y fan—a'm un innau hefyd, o ran hynny.
Wel, 'does dim perygl yn hwn beth bynnag, mi'i darllena' i o dan fwyta.—Hylo! Oddiwrth Parri'r Bwtsiar Mawr" A newidiodd gwedd Roberts. "A fyddwch chi mor garedig â galw ym Mhen-y-Cae nos yfory 8.30, ynghylch y defaid?"
"Brenin Mawr!" meddai. "Dyna beth rhyfedd. Tybed—? Na, 'choelia'i fawr. I beth yr ydw' i'n cynhyrfu? Nid y defaid yma mae o'n feddwl—na, 'choelia'i—ond y defaid sy'n mynd trosodd i'w gaeau o—siwr iawn—mae nhw yn mynd o hyd o ran hynny—ond myn diain i, mi ddychrynais i dipyn hefyd. 'Does gen' i ddim stumog i orffen y swper 'ma, yrŵan; mae'r hen nodyn yma wedi rhoi gormod o sioc imi. Mygyn a chroper, ac yna i gadw." Ac wedi mynd i'w wely, ni bu Roberts yn hir cyn cysgu ychwaith—diolch i'r croper.
Ond pan oedd y cloc yn taro pedwar, deffroes yn sydyn, mewn cryn gyffro, ar ganol breuddwyd,—a Pharri'r cigydd—a phot paent, a phlisman—a defaid—a gwynt a glaw, blith draphlith ynddo.
"Brenin annwyl!" meddai, "ydw'i wedi peidio â bod yn meddwl am y miri yma yn fy nghwsg? Na, 'choelia'i fawr, ond y fo oedd y peth diwetha' yn fy meddwl i cyn imi syrthio i gysgu—dyna pam y breuddwydiais i, 'doedd dim posib' imi beidio, o ran hynny."
A throes Roberts ar ei ochr, a chau ei lygaid, a cheisio cysgu drachefn.
Ond yn ofer. Daethai rhyw anesmwythyd drosto, na fedrai yn ei fyw ei ysgwyd ymaith, a dyna lle y bu yn troi ac yn trosi am dros awr.
"Twt lol," meddai, pan glybu y cloc yn taro hanner awr. wedi pump, "waeth imi godi ddim, er y bydd hi'n rhy dywyll i wneud fawr am oriau."
Ond ar ôl iddo godi, a mynd ynghylch ei orchwylion wedi iddi oleuo, diwrnod digon anhwylus a gafodd, er iddo dreulio rhan ohono yn y stesion yn trefnu i yrru defaid a gwartheg i Fanchester, a'u trycio yn barod i fynd efo'r tren yn ystod y nos.