Blacmel/Y Peth a Heuo Dyn
| ← Chwalfa | Blacmel gan John Pierce |
Parri yn ei Elfen → |
PENNOD XV
Y PETH A HEUO DYN
"WEL," meddai'r Arolygydd Jones, ar ôl i'r ymwelydd fyned, "dyna orffen y busnes yna; yrŵan mi gaf gyfle i drefnu pethau Ifans; petai o heb golli ei limpyn, mi fyddai cwrt wedi bod arno ers meitin, a'i achos wedi ei ohirio, ac yntau gartre. Beth gebystr," gofynnodd yr arolygydd, gan droi'r llythyrau, "ddarfu gynhyrfu cymaint ar 'y machgen i? O! mi welaf, yr arian papur yma debyg iawn; gwarchod ni, faint sydd yma ohony' nhw? Ofn oedd arno, mae'n debyg, inni gadw rhai ohon. Hylo! Beth andros ydyw hwn? Llythyr i Doctor Wyn, y crwner! Heb ei gau hefyd. . . ."
Ac os gŵr rhadlon a thipyn yn hamddenol, ydoedd yr arolygydd fel rheol, medrai symud yn dra bywiog, pan fyddai galw; ac yn sicr ni symudodd erioed fawr cyflymach nag y gwnaeth, wedi iddo ddarllen y llythyr a ysgrifenasai Ifans y noson cynt, ac a anghofiasai ei gau, ac a welid yn awr ar y bwrdd o flaen yr arolygydd.
"Puw," meddai, a chlywodd Ifans ef o'i gell, "ewch i ddweud wrth Humphreys y bwtsiar fod arna' i eisiau ei weled wrth siop J. E. Parri ar unwaith."
Dan gerdded dipyn cyflymach nag arfer, ceisiai'r arolygydd benderfynu sut yr agorai'r drafodaeth efo Parri, ac fel y nesâi at y siop, myned yn anos i'w datrys yr oedd pethau, ac fel y cynyddai'r anawsterau, felly hefyd yr arafai camau Jones.
"Wel, wir," meddai yn y man, "wn i ddim sut i fynd o gwmpas pethau." Ar hynny gwelai Richards, pen gwas Parri, o flaen y siop, ac wedi cyfarch gwell iddo, a sôn am y tywydd mewn tôn braidd yn uchel, a dal i edrych i mewn i'r siop, gan ddisgwyl gweled y cigydd ei hun, gofynnodd: "A sut mae Mr. Parri heddiw?"
"O! mae o'n dda iawn wir, super," atebodd y gwas, "neu mi 'roedd o beth bynnag."
"Beth ydych yn feddwl wrth 'mi 'roedd o'?"
"Wel, mae o wedi mynd i Birmingham efo'r tren hanner awr wedi deg bore 'ma."
"I—Birmingham? "
"Y—beth ddywedsoch chwi? Sut gwyddoch chi mai i Birmingham y mae o wedi mynd?" gofynnodd yr arolygydd dipyn yn wyllt.
"Mi'i clywais o yn gofyn am diced, a fi gyrrodd o yn y car, cael a chael wnaethom ni i ddal y tren; a barnu wrth y brys oedd arno, mi fuasai'r byd ar ben, petasai o wedi colli'r tren, a phetasai'r polîs wedi ei weld o yn gyrru, mi fuas.—"
Ond yr oedd yr arolygydd wedi mynd cyn i'r gwas orffen y frawddeg, a gwelodd ef yn neidio i gerbyd Humphreys y bwtsiar ifanc, ac yn rhoi slâs ar y ceffyl, ac yn gyrru ar garlam i rywle.
"Brenin Trugaredd!" ebe'r gwas mewn syndod, "oes yma glefyd gyrru wedi dyfod i'r Dre? Os oes, 'doedd dim rhyfedd i meistr ei gael o: yr oedd o yr union un i'w gael o, ond am yr hen super druan, dyna'r peth diwethaf 'fuaswn i'n feddwl fuasai yn dwad arno fo beth bynnag."
"Mae arna' i eisiau i chi ddweud wrthyf, Humphreys," ebe'r arolygydd, "sut y bu i chi brynu busness Parri, a sut yn union y talasoch chwi amdano, a hynny tra byddwn ni'n mynd oddiyma i'r banc—a heb ofyn p'am. A gafodd o'r ddau bapur ugain punt? Ynteu trwy'r banc y tal'soch chi iddo?" A dywedodd Humphreys bopeth.
"Arhoswch amdanaf," meddai wrth fynd i lawr o'r car i'r banc, "mi fydda' i allan eto ymhen chwarter awr."
Bu'r arolygydd gyda rheolwr y banc yn ei ystafell breifat am ddeng munud, ac yna daeth yn ôl. "Humphreys," meddai, yr oeddech chi acw yn gofyn ffafr go fawr gen' y noson o'r blaen, ac mi'i cawsoch hi—yr wyf innau am ofyn un i chwithau yrŵan. Ddowch chi efo mi yn eich car i'r stesion ac i chwilio am Prys y Plisman, ac wedyn i Fryn-y-Felin, a Thŷ'n-y-maes, ac efallai i Gae'r Pant, er bod arna' i ofn y dyrysa hynny eich cynlluniau chi am y diwrnod?"
Cyn pen dwyawr, yr oedd yr arolygydd wedi galw ym Mryn-y-Felin ac wedi cael sgwrs efo Mrs. Huws, a deall am ymweliadau diweddar Roberts, Tŷ'n-y-maes a rhywbeth felly. Aeth tua Thŷ'n-y-maes, ac ar ôl holi tipyn ar Mrs. Roberts, dywedodd wrthi hithau, fel y dywedasai wrth Mrs. Huws, am yr helynt rhwng Roberts ac Ifans, a rhoes hynny fel rheswm dros yr ymweliad, ac ar hynny dyma Roberts ei hun yn cyrraedd yng ngherbyd cymydog.
"Newydd fod yn dweud wrth Mrs. Roberts," meddai'r arolygydd, "eich bod wedi brifo yr ydw' i. Mae'n dda iawn gen' i eich gweld gymaint yn well."
"O! ie," ebe Roberts, a dyna i gyd, ac yr oedd yn amlwg bod ôl rhywbeth heblaw ymosodiad Ifans Bryn y Felin arno. "Diolch i chwi Humphreys," meddai'r Arolygydd Jones, rhyw ganllath oddi wrth y rheinws, "mi gaf gyfle i ddiolch mwy i chi eto o bosibl; mi gerddaf weddill y ffordd."
"Wel," meddai wrtho'i hun, "dyna fi wedi gwneud popeth a fedraf, ac efallai fy mod wedi gwneud gormod, ac os na byddaf yn lwcus, mae'n debyg y caf gerydd a gwawd y prif gwnstabl. Mi'r ydw' i yn gwybod fy mod wedi cymryd risc, a mynd dros derfynau fy awdurdod, ond mi'r oedd yn werth gwneud. Wel, mi af i weld y teigr yn ei gawell yrŵan, i edrych a ydyw wedi dofi tipyn. . . . Diain innau, dyma Puw yn dyfod oddiar ei fît. "Puw, dowch i weld sut drefn sydd ar y bwystfil, mae'n well i chwi ddwad efo mi, rhag ofn iddo fy llarpio i. Ha! ha! Mae o'n bur ddistaw."
Agorodd yr arolygydd y twll-sbïo, a oedd yn y drws, a dychrynnodd drwyddo; a chyn i Puw fedru rhoi'r agoriad yn y drws, cipiodd yr arolygydd ef o'i law, heb ddweud dim, ac agor y drws. A dyna lle'r oedd Ifans yn union o'u blaen, â'i ddau lygad yn llydan agored yn rhythu arnynt, a'i gefn ar fur pellaf y gell, a'i draed rhyw droedfedd oddi wrth y llawr, yng nghrog wrth ei grafat, a hwnnw wedi ei rwymo wrth un o farrau heyrn y ffenestr.
Eiliad fu'r ddau yn ei dynnu i lawr, ond yr oedd yn amlwg ei fod wedi marw ers meitin. . .
"Wel, dyma bicil," meddai'r arolygydd wrtho'i hun, wedi rhoi cyfarwyddiadau i'r plisman, a mynd i'w swyddfa, "It never rains but it pours,' ac yn ôl a welaf i, mae hi yn ddilyw arna' i heddiw. Rhaid cael cwest, a beth felltith ydw'i i wneud efo'r hen lythyr yma 'rŵan? Hwn ydyw fy esgus i dros wneud popeth a wneuthum i y prynhawn yma, ac yrŵan mae o'n debyg o ddifetha fy holl gynlluniau i eto, damia fo; mi ddylwn ei ddangos o i'r Chief, a 'wna i mo hynny chwaith, na wnaf ar f'end innau. Chaiff o ddim hwyl am fy mhen i, os ydyw Ifans wedi dweud celwydd, a 'chaiff o mo'r clod am ddal Parri ychwaith, os medra' i brofi fy achos; fi sy'n cael y drafferth i gyd, yn rhedeg ac yn rasio, ac yntau yn eistedd ar ei ben ôl yn ei offis, neu yn cael ei ddreifio yn ei gar i bob man. Na, mi gadwaf y llythyr yma gartre yn fy seff, a mi'i defnyddiaf o fel y gwelaf yn orau."
Ond ar hynny, dyma blisman i mewn i ddweud wrth yr arolygydd fod Mr. Franklin, prif stiward Syr William Anton, yn gofyn a gai ef ei weled; a chyn pen ychydig iawn o amser, yr oedd yr arolygydd wedi clywed digon i wybod bod rhan helaeth o lythyr Ifans, beth bynnag, yn wir,—a phetai Ifans ddim ond yn gwybod, yr oedd tynged yn glosiach ar ei sodlau nag yr ofnai, oblegid ychydig ddyddiau cyn hynny, dechreuasai'r penstiward chwilio i mewn i faterion y rhenti, mewn canlyniad i lythyr a dderbyniasai Syr William ei hun gan un o'r tenantiaid.
Byr a ffurfiol iawn a fu'r cwest, ar Ifans, Bryn y Felin; barnwyd i'w feddwl roi dan bwysau ei bryder wrth weled dydd datguddio'i dwyll yn agoshau, a llwyddodd Roberts i ateb pob cwestiwn a ofynnwyd iddo yn ddeheuig iawn.
Eithr fel y gellir tybied, yr oedd Roberts yn myned drwy amser pur bryderus, ac er bod hunanladdiad Ifans wedi rhoi rhyddhad mawr iawn iddo, yr oedd ymadawiad Parri, a'r newydd bod J. H. Humphreys wedi cymryd ei holl fusnes ganddo, yn peri gryn ddyryswch a phenbleth iddo.
Gwaeth na hynny, methai yn lân â deall paham yr oedd y plismyn yn crwydro fel yr oeddynt hyd diroedd pori Parri, ac yn loetran cymaint ar y terfynau. Yr oedd yr Arolygydd Jones, hefyd, yn gwneud rhyw esgus beunyddiol dros ddyfod i Dŷ'n-y-maes; yn wir, âi ei esgusion dros ddyfod yno yn deneuach bob tro, ac er na chyhuddodd yr arolygydd ef o wneud dim o'i le, edrychai yn rhyfedd arno wrth siarad ag ef, a chai ysbeidiau o ddistawrwydd, a wnai i Roberts deimlo yn wir anghysurus, a bron na chymerai Roberts ei lw ei fod yn gwneud ensyniadau hefyd.
"Brenin Nefoedd!" meddai Roberts wrtho'i hun, "mae o fel petai o'n gwybod rhywbeth, ydyw'n wir, ond sut y medrai o? Na 'choelia'i, nid awgrymu y buasai petai o yn gwybod, ond dweud yn blaen, a 'nghyhuddo i; mi fuasai'n rhy dda ganddo gael gwneud."
"Mae Roberts yn dechrau cracio, ydyw wir," ebe'r arolygydd yn foddhaus wrtho'i hun, "mae o'n siwr o gyffesu cyn bo hir, a mi gaf innau fy haeddiant llawn am fy ngallu a'm clyf'reiddiwch. Ha! Ha! Mi ddylwn roi carreg ddrud ar fedd Ifans. Wel, yr hen Chief, yr ydych wedi poeni digon arna' i ynghylch methu dal y lladron defaid a gwartheg, ac awgrymu nad ydw' i'n dda i ddim llawer. Ar ôl hyn efallai y bydd rhywun yn awgrymu ei bod hi'n amser i chwithau gilio o'r ffordd i wneud lle i Superintendent Jones."
Ac yr oedd yr arolygydd yn ei le; yr oedd Roberts yn cracio, ac onibai am amgylchiad annisgwyl iawn, buasai cynlluniau'r arolygydd wedi llwyddo: ond ymyrrodd ffawd ym mhlaid Roberts, na, efallai y byddai dweud hynny yn ormod. Wel, ymyrrodd yn erbyn yr arolygydd am y tro beth bynnag.
Pan gyrhaeddodd Parri i Gaer, yn lle aros yn y tren a mynd ymlaen i Lerpwl, nac ychwaith, newid i dren Birmingham, croesodd y platfform i dren Birkenhead a disgyn yn Rock Ferry, a mynd gyda'r tren tan yr Afon Mersey i'r Central Station; ac yr oedd yno dipyn cyn i ddisgrifiad yr Arolygydd Jones ohono gyrraedd stesion Caer, hefyd.
O'r stesion, aeth i siop Lewis, ac yno prynodd dopcôt a het, ac amryw fân bethau. Yna aeth ar ei union i Westy'r London and North Western, yn Lime Street, a chymerodd ystafell wely ddwbl am noson, gan arwyddo'r llyfr fel William Evans, Llandudno, a thalu ymlaen llaw am yr ystafell.
"My friend, who is sharing the room with me, will be here directly," meddai wrth y ferch ieuanc wrth y ddesg.—"Mr. Hughes from Bangor. Will you tell him what room I've taken, please?"
"I am going off duty in five minutes, but I will let Miss Lees know, when I am relieved," ebe hithau.
"Dyna dipyn o lwc," meddai Parri wrtho'i hun, gan gychwyn tua'r lifft.
Wedi cael i'w ystafell, cloes Parri y drws, ac ar ôl tynnu ei gôt a'i wasgod a'i goler, agorodd barsel bychan, a thynnodd siswrn allan, ac ymhen rhyw ddeng munud, yr oedd ei farf ddu ar y bwrdd ymolchi, ac yntau yn ei thorri yn fân â siswrn, ac yn ei thaflu yn ddyrneidiau drwy'r ffenestr i'r gwynt.
"Mi gâf waith siafio'r bonion efo'r rasal newydd yma," meddai, "ond mi laddra' i ddigon, mi fydd hynny yn help."
Ac ymhen rhyw dri chwarter awr, yr oedd gŵr ag wyneb glân yn cario côt uchaf ar ei fraich, a het yn un llaw, a bag yn y llaw arall, yn dweud wrth ferch ieuanc wrth y ddesg, "I am sharing number 28 with Mr. Evans, but I haven't signed the register."
Wedi gwneud hynny, cerddodd yn hamddenol drwy'r drws oedd yn arwain o'r gwesty i blatfform y stesion.
"Strange," ebe'r gŵr mewn lifrai oedd yn gwarchod, "but I never saw him coming in."
"Neither did I," ebe'r ferch ifanc a oedd newydd gymryd lle'r llall, "but Miss Morris had left a note about him, and the room has been paid for in advance, but you might as well go up to room 28 to see that everything is alright."
Ac ymhen tri munud yr oedd y pen porter yn ei ôl.
"Everything in order, Miss Lees, the other gentleman did not happen to be in his room just then, but his hat and over-coat were there."
Erbyn hyn yr oedd Parri wedi codi ticed i Lundain, ond fel bu'r digwydd pan oedd yn troi oddiwrth y twll codi ticedi, startiodd drwyddo, oblegid pwy welai yn dyfod yn ymyl, ac yn union i'w gyfeiriad ond Mr. James, a gadwai siop ddillad o fewn tri drws iddo yn y Dre.
Ac yn y sioc, heb gofio am foment ei fod wedi torri ei farf, a'i ddieithrio ei hun, cychwynnodd yn fyrbwyll ar draws y platfform tua'r giat oedd yn arwain i blatfform tren Llundain, a hynny pan oedd tryc trwm dan lwyth o gelfi yn cael ei wthio'n gyflym heibio, a chyn iddo fedru ei achub ei hun, yr oedd yn rowlio dan y cerbyd, ac un o'r olwynion haearn wedi myned dros ei goes.
Er bod ei wyneb fel lliain, a phoen enbyd yn ei goes, cododd cyn i bobl ddechrau ymgasglu, a chychwynnodd am y tren gan ddweud, "I am not hurt—everything is alright." Ond pan ddangosodd ei diced, "That is not your train, sir," ebe gŵr y ticedi, yn garedig, canys gwelsai ef y ddamwain. "You have at least twenty minutes before it is due to depart—you have time to get a cup of tea; hope you are not hurt, sir."
"No, thank you," ebe Parri gan droi draw, a brathu ei wefusau nes tynnu gwaed bron, yn ei ymdrech i beidio â griddfan yn ei boen, a throes at fynedfa ochr y stesion, ac aeth i'r cab cyntaf a welodd. "Princes Road," meddai wrth y gyrrwr, heb wybod yn iawn beth oedd yn ei wneud.
"Mi fyddaf cyn saffed yn hwn ag yn unman," meddai, "a diolch am gael eistedd i lawr, a chael o blith pobl."
Wrth iddynt fyned i fyny, teimlai Parri ei goes a'i droed yn wlyb, a gwyddai ei fod yn gwaedu. "Rhaid imi wneud rhywbeth i hon," meddai, "mi af i un o'r parciau 'ma, 'fydd yno fawr neb yr adeg yma o'r flwyddyn, ond mae hi'n dechrau t'wllu a mi fyddan' yn cau'r giatiau—na wir, gan gofio, mi fydd Sefton Park yn agored yn y nos. "Sefton Park" gwaeddodd ar y gyrrwr.
Wedi cyrraedd yno, ymlusgodd tuag un o'r seddau, dechreuodd archwilio'i goes a chafodd fod archoll mawr arni, ac wrth iddo ei dinoethi, gan feddwl ymgeleddu tipyn arni, dechreuodd waedu mwy, a saethodd y fath bang o boen drwyddi nes llithrodd Parri yn ei ing yn llyg i'r llawr.
Pan ddechreuodd ddyfod ato'i hun, yr oedd ei goes wedi peidio â gwaedu, ac yn brifo llai, ac meddai, "Mae'n well imi adael iddi fel y mae hi, na gwneud dim iddi neu fe ail-ddechreua waedu eto-mi gaf 'i golchi hi heno. Mi gymra' i gab eto i Edge Hill, ac mi af oddiyno i Lundain—fydd hi ddim yn ddoeth imi fyned i Lime Street heno.
Ond bu'r daith at giatiau'r parc, a'r sefyll i ddisgwyl am gerbyd, bron iawn yn ormod iddo; ac yn y cab, penderfynodd beidio â myned dim pellach na Manchester y noson honno. "Mae 'na ddau neu dri gwesty yn ymyl y stesion," meddai, "a siawns gen' i na fedra' i gerdded i un ohony' nhw."
Ond erbyn cyrraedd Manchester, canfu y byddai cerdded o'r stesion i'r gwesty nesaf, er mor agos ydoedd hwnnw, yn ormod iddo, a chymerth gab drachefn o'r stesion dros y bont i'r gwesty.
Ac yn ei ystafell mewn poen mawr, aeth ati i lanhau ei goes a'i bathio. "Y gwely fydd y lle gorau i mi," meddai, a chanodd y gloch. "Bring me a cup of tea, please," meddai wrth y porter a ddaeth i fyny. "and get me a bottle of iodine, too, if you can.'