Blacmel (testun cyfansawdd)
| ← | Blacmel (testun cyfansawdd) gan John Pierce |
Pennod Nesaf → |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Blacmel |

BLACMEL
GAN
JOHN PIERCE
Awdur 'Tri mewn Trybini,' 'Dan Lenni'r Nos,' &c.

LERPWL
GWASG Y BRYTHON
HUGH EVANS A'I FEIBION, CYF.
Argraffiad Cyntaf-Mawrth, 1946.
Gwnaethpwyd ac Argraffwyd gan Hugh Evans a'i Feibion, Cyf.,
9 Hackins Hey, Liverpool 2, ac Overton Street, Liverpool 7
I
MYFANWY
RHAGAIR
O WELED ymhlith darllenwyr ieuainc yn arbennig, arwyddion amlwg o ddiflastod, pan ddelont ar draws llawer o ffurfiau rhanbarthol dieithr iddynt, penderfynais yn yr ymgomion, lynu yn lled glos wrth yr iaith lenyddol. Gwn yr ymddengys yr ymddiddanion dipyn yn anystwyth, ac efallai yn llyfrllyd, eto, credaf y bydd yn haws gan laweroedd drosi ffurfiau llenyddol, na ffurfiau tafodiaith ddieithr, i'w lafarddull eu broydd eu hunain.
Ni bûm yn hael iawn gyda'r collnodau ychwaith.
Am y cymeriadau, ni wisgodd yr un ohonynt gnawd, na throedio ein daear erioed.
JOHN PIERCE.
- MARIAN GLAS,
- Chwefror, 1946.
CYNNWYS
RHAGAIR
I Y LLEIDR
II YN Y FEIS
III BARGEN GALED
IV FFYRDD TROSEDDWYR
V NID HIR Y CEIDW
VI PRAW NERFAU
VII CYSGOD ANGAU
VIII HUNLLEF IFANS
IX A BREUDDWYD EI HOWSCIPAR
X CWLWM Y CYTHRAUL
XI PARRI'N DECHRAU PACIO
XII ROBERTS DRUAN
XIII PENTEWYN O'R TÂN
XIV CHWALFA
XV Y PETH A HEUO DYN
XVI PARRI YN EI ELFEN
XVII A PHARRI YN Y FAGL
XVIII CATH A LLYGODEN
XIX GWASTADHAU'R CYFRIFON
BLACMEL
PENNOD I
Y LLEIDR
NOSON ddrycinog, lawog, ddu yn niwedd mis Tachwedd ydoedd; rhuai ac udai'r dymestl o amgylch muriau'r Ysgubor Ddu—hen hongol o adeilad unig ym mhen draw un o gaeau pellaf Tŷ'nymaes.
Ac nid oedd dim ychwaith i beri i neb feddwl bod dim yn mynd ymlaen yn y fath le ar y fath noson fawr, oblegid yr oedd unig ffenestr yr hen ysgubor wedi ei gorchuddio yn ofalus, a phob crac a thwll yn ei muriau a'i dorau wedi eu topio, fel na ddihangai'r pelydryn meinaf o oleuni allan—ac eto nid pob twll ychwaith; na, yng nghefn yr ysgubor, o dan yr eiddew trwchus yr oedd un twll—na wyddai neb amdano ond y gŵr a'i gwnaethai, ac a'i gwnaethai yn y fath fodd, fel mai prin y gallai neb ei weld—gefn dydd golau.
Ac yr oedd y gŵr hwnnw—neb llai na J. E. Parri, cigydd mwyaf Trealaw, yn awr a'i lygad yn dyn ar y twll, wedi llwyr anghofio'r ddrycin fawr, a'r glaw a lifai i lawr ei wegil, yn ei edmygedd o grefft yr un a welai yng ngolau dwy lamp stabl, ar ei liniau o'i flaen, ar lawr yr ysgubor, mor fedrus yn newid nodau dafad. Ac nid oedd y ffaith y gwyddai Parri, mai un o'i ddefaid ef ydoedd hi,—a honno wedi ei lladrata,—yn lleihau dim ar ei edmygedd ychwaith.
"Mae'n well imi fynd yrŵan," meddai yn y man, a gwthiodd y topyn pren yn ôl i'r twll. "Am Dŷ'nymaes â mi efo'r llythyr 'ma, a'i roi o i Mrs. Roberts, erbyn y daw ei gŵr medrus hi adre—mi garwn i fod wedi medru gwneud twll yn ffram ffenestr cegin y tŷ hefyd,—mi fyddai'n werth gweld wyneb Roberts pan ddarllena'r nodyn."
Bychan a feddyliai'r lleidr ar ei liniau yn yr ysgubor, fod llygad neb wedi bod arno; na, yr oedd ef wedi llwyr ymgolli yn ei waith, a thra oedd ef wrth ei orchwyl, nid oedd neb na dim yn ei fyd, ond y ddafad a orweddai o'i flaen, a'r offer a ddefnyddiai at y gwaith cywrain o droi'r P ar ei hochr, yn R.
Sylweddolai, ar adegau, fod y gwynt yn rhuthro ac yn sgythru, ac yn chwipio'r ffenestr efo'r glaw.
"Noson fendigedig at fy ngwaith i," ebe fe wrtho'i hun, "'ddaw neb allan o'i dŷ ar noson fel heno, heb sôn am ddyfod i le fel hyn."
Yn y man ymsythodd, ac meddai gan edrych ar y ddafad o'i flaen: "Dyna orffen y ddiwetha', a mi heriaf Parri'r Bwtsiar Mawr, a phob Parri arall hefyd, i fedru dweud bod dim newid wedi bod ar nodau hon, na nodau'r un o'r lleill ychwaith. Wel, noswyl yrŵan; mae hi'n bwrw llai hefyd."
Toc a da, cyrhaeddodd Roberts ei gartre, ar delerau pur dda ag ef ei hun; yr oedd y wraig wedi mynd i'r gwely, a gadael ei swper yntau ar y bwrdd, â lliain drosto.
"Wel," ebe Roberts, gan fwyta, "mae gen 'i hawl i'm mwynhau fy hun heno beth bynnag, mi 'rydw' i'n ddiogel am dipyn eto, rhag y bleiddiaid benthycwyr arian yna; cyd-rhwng beth enillais i heddiw efo'r rasus ceffylau, a'r tipyn a gaf i am y defaid, mi fedraf gadw'r Iddewon y felltith yna draw am blwc eto—Hylo! Beth ydyw hwn? Nodyn i mi, a "Personol" arno. Wedi ei agor hefyd,—chwilfrydedd y musus wedi mynd yn drech na hi eto, ond petai hi ddim ond yn gwybod y drafferth ydw' i yn gymryd i gadw rhai llythyrau rhagddi—petasai hi'n agor ambell un o'r rheini, fe gostiai'i chwilfrydedd ei bywyd iddi,—fe stopiai' chalon hi yn y fan—a'm un innau hefyd, o ran hynny.
Wel, 'does dim perygl yn hwn beth bynnag, mi'i darllena' i o dan fwyta.—Hylo! Oddiwrth Parri'r Bwtsiar Mawr" A newidiodd gwedd Roberts. "A fyddwch chi mor garedig â galw ym Mhen-y-Cae nos yfory 8.30, ynghylch y defaid?"
"Brenin Mawr!" meddai. "Dyna beth rhyfedd. Tybed—? Na, 'choelia'i fawr. I beth yr ydw' i'n cynhyrfu? Nid y defaid yma mae o'n feddwl—na, 'choelia'i—ond y defaid sy'n mynd trosodd i'w gaeau o—siwr iawn—mae nhw yn mynd o hyd o ran hynny—ond myn diain i, mi ddychrynais i dipyn hefyd. 'Does gen' i ddim stumog i orffen y swper 'ma, yrŵan; mae'r hen nodyn yma wedi rhoi gormod o sioc imi. Mygyn a chroper, ac yna i gadw." Ac wedi mynd i'w wely, ni bu Roberts yn hir cyn cysgu ychwaith—diolch i'r croper.
Ond pan oedd y cloc yn taro pedwar, deffroes yn sydyn, mewn cryn gyffro, ar ganol breuddwyd,—a Pharri'r cigydd—a phot paent, a phlisman—a defaid—a gwynt a glaw, blith draphlith ynddo.
"Brenin annwyl!" meddai, "ydw'i wedi peidio â bod yn meddwl am y miri yma yn fy nghwsg? Na, 'choelia'i fawr, ond y fo oedd y peth diwetha' yn fy meddwl i cyn imi syrthio i gysgu—dyna pam y breuddwydiais i, 'doedd dim posib' imi beidio, o ran hynny."
A throes Roberts ar ei ochr, a chau ei lygaid, a cheisio cysgu drachefn.
Ond yn ofer. Daethai rhyw anesmwythyd drosto, na fedrai yn ei fyw ei ysgwyd ymaith, a dyna lle y bu yn troi ac yn trosi am dros awr.
"Twt lol," meddai, pan glybu y cloc yn taro hanner awr. wedi pump, "waeth imi godi ddim, er y bydd hi'n rhy dywyll i wneud fawr am oriau."
Ond ar ôl iddo godi, a mynd ynghylch ei orchwylion wedi iddi oleuo, diwrnod digon anhwylus a gafodd, er iddo dreulio rhan ohono yn y stesion yn trefnu i yrru defaid a gwartheg i Fanchester, a'u trycio yn barod i fynd efo'r tren yn ystod y nos.
PENNOD II
YN Y FEIS
EISTEDDAI J. E. Parri,—y Bwtsiar Mawr, fel y gelwid ef, yn ei gadair freichiau o flaen tân braf—ym Mhen-y-cae, sef tŷ y fferm a ddaliai, rhyw ddwy filltir o'r Dre, ac yn terfynu ar dir Roberts Tŷ'nymaes.
Yr oedd ganddo dŷ braf ar gwr y dref hefyd—Bron-y-wawr, gwaith rhyw chwarter awr o'i siop yng nghanol y Dre.
"Ddaw o tybed?" gofynnai iddo'i hun, gan daflu golwg ar y cloc; "mae hi'n bum munud ar hugain wedi wyth, ac os nad ydw i'n gwneud camgymeriad mawr, mi ddaw'r nodyn a gafodd o neithiwr â fo, ac os na ddaw hwnnw â fo, mi yrraf un a ddaw â fo. Yr oeddwn i wedi ei hen amau o—ond neithiwr mi gefais ei weld wrth y gwaith, ond 'fedrwn i'n fy myw beidio â'i edmygu o—mae o'n. feistr perffaith ar ei waith. Mi fydd yn dipyn o sioc i Rob—. Ust! Dyma fo ar y gair."
Gyda hynny dyma guro ar y drws—curo lled gryf, a chyflym.
"Ie, Roberts," ebe Parri yn ddistaw, "curo rhy hy, a rhy gry o lawer i ddyn mor ddieithr—onibai ei fod dipyn yn gynhyrfus. Mi arhoswn ni am dipyn."
Wedi ychydig o ddistawrwydd, dyma guro drachefn—trymach a chyflymach.
"O! wel," meddai Parri yn ddistaw, gan godi, "mi agorwn ni yrŵan, rhag inni orwneud pethau."
Cyn gynted ag iddo agor, meddai Roberts, mewn tôn braidd yn uchel—"Roberts Tŷ'nymaes sydd 'ma, Mr. Parri." "Ie," meddai Parri yn swta, "felly 'rydw' i'n gweld. Dowch i mewn. Nid busnes i'w drafod yn y drws sy gennym ni heno." Pan glybu Roberts y dôn a'r geiriau hyn, daeth ei ofnau yn ôl, ond meddai—"Y—yr ydw'i ar dipyn o frys heno, Mr. Parri, 'ddo'i ddim ond i'r lobi am funud. Beth?"
"O! dowch Roberts," meddai Parri ar ei draws, "mi ddowch ymhellach na'r lobi, pan ddeellwch chi beth sydd gen' i i'w ddweud wrthych."
Canfu Roberts ar unwaith fod Parri yn gwybod rhywbeth, ac er iddo gyffroi drwyddo, ceisiodd ei hel ei hun at ei gilydd, a chymryd arno fod yn ddigyffro, a dilynodd Parri tua'r gegin, gan y sylweddolai nad y drws na'r lobi oedd y lle i wynebu y sefyllfa.
"Eisteddwch," meddai Parri, "mae'r howscipar 'ma wedi mynd adre tan yfory; dyna'r wisgi wrth eich penelin—'fydda'i yn cymryd dim fy hun."
"Am funud Parri," ebe Roberts, "inni gael deall ein gilydd, eisiau gwybod sy gen' i beth—.'
"A dyna'r soda ar y seidbwrdd," ebe Parri ar ei draws, yn hollol ddigyffro.
"'Does arna'i ddim eisiau'ch wisgi chi," ebe Roberts yn chwyrn, "eisiau gwybod sy gen' i beth—.'
"Ie siwr, ie siwr," ebe Parri, ar ei draws, "eisiau gwybod y neges sydd arnoch yrŵan, ond efallai y bydd pethau wedi newid tipyn toc, ac mai eisiau wisgi y byddwch chi'r adeg honno."
Ar hyn cododd Roberts o'i gadair, ac wynebu Parri yn ffyrnig—yr oedd yn llawer mwy dyn na Pharri—ac meddai yn chwyrn, "Efo pwy yr ydych chi'n meddwl eich bod yn siarad? Onibai eich bod yn eich tŷ eich hun—." Pallodd geiriau Roberts, oblegid tra safai o flaen Parri yn fygythiol, ni chymerai Parri fwy o sylw ohono na phetai ddim yno o gwbl, ond trefnu rhyw bapurau'n brysur, gan estyn pin dur ac inc.
"Roberts," meddai'n ddigyffro, "ewch yn ôl i'ch cadair, a chopïwch hwn allan yn eich llawysgrifen eich hun, a rhowch eich enw wrtho, tra byddaf innau'n rhoi glo ar y tân yn y gegin gefn, a rhywbeth felly."
"Y dyn gwirion" dechreuodd Roberts, yn fygythiol, ond yr oedd Parri wedi mynd o'r ystafell. Safodd Roberts am foment, â golwg hurt arno, a chychwynnodd allan. . .
"Na," meddai, "waeth imi weld beth mae'r creadur wedi ysgrifennu ar y papur 'ma, cyn mynd."
Ac meddai Parri yntau wrtho'i hun yn y gegin gefn, "Os â Roberts allan heb ddarllen y nodyn, fe synnaf yn fawr; mi rof ryw funud iddo eto. Wel 'rwan amdani."
Ar drothwy drws yr ystafell, gwelodd ar unwaith fod Roberts wedi darllen y nodyn, oblegid eisteddai yn y gadair, â golwg gymysglyd iawn arno, ond ni chymerth Parri arno fod wedi sylwi, a gofynnodd: "Wel, Roberts, ydych chwi wedi seinio?"
Ar hynny torrodd Roberts allan i chwerthin dros y lle, ond yr oedd yn amlwg mai chwerthin gwneud ydoedd, oblegid yr oedd wyneb Roberts yn bur welw, a'i ên yn crynu tipyn.
"Parri," meddai, "ydych chi'n meddwl mai rêl fiŵl ydw'i?" "Nac ydw'," ebe Parri yn dawel, "neu 'chawsech chi mo'r cyfle yma gen' i."
"Cyfle ddyn, beth ydyw'ch meddwl chi? 'Rydych chwi'n gofyn i mi roi f'enw wrth hwn, a'm gwneud fy hun yn lleidr—yn lleidr defaid! Beth sy wedi dyfod trosoch chi ddyn? Ddwynais i 'run ddafad yn f'oes, ac onibai fy mod i'n credu'ch bod chwi'n wallgo, mi fuaswn yn gwthio'r lol celwyddog sy ar y papur 'na i lawr eich gwddw chi."
"Popeth yn dda felly," ebe Parri, "dyna ben arni—mi fydd yr Arolygydd Jones yn gwybod heno un mor fedrus yw Roberts Ty'nymaes am newid nodau defaid, a bod ganddo yn y stesion ddefaid yn perthyn i J. E. Parri, wedi eu trycio yn barod i fynd i Fanchester, a mi gaiff wybod bod Roberts wedi bod ar y gêm ers tro byd, hefyd."
Tra llefarai Parri'r geiriau hyn yn hollol ddigynnwrf, tan wisgo ei gôt fawr a'i grafat a'i het, aethai wyneb Roberts yn bob lliw.
"Wel, noswaith dda i chi, Roberts," ebe Parri, "mi adawaf y drws yn agored i chwi fynd allan, pan —."
"Ydych chi'n tewi'r funud 'ma?" meddai Roberts yn ffyrnig, gan neidio'i fyny, "neu mi wna' i chi—a hynny am byth."
"Am funud Roberts,—am funud bach," ebe Parri yn hamddenol, "pe gwnelech chi hynny, ni wnâi ddim lles i chi, gan 'y mod i wedi 'sgrifennu llythyr yn barod, a'i adael efo'r papurau mewn lle y ceid gafael arnynt yn rhwydd, petai rhywbeth yn digwydd i mi,—yr unig beth sy'n fy mlino i ydyw na buaswn i wedi 'sgrifennu gair ynghylch y benthyca pres a'r betio."
"Oes 'na ddim arall y medret ti ysgrifennu amdano, yr holl—wybodol?" gofynnodd Roberts yn llysnafaidd.
"Wel, nac oes, am a wn i," ebe Parri, os na buaswn i'n 'sgrifennu at Mrs. Roberts i ddweud bod tipyn o'r arian yn mynd i ryw farmed bach sy
"Parri," ebe Roberts, "beth ydyw'r gêm?—Blacmel? Y?"
"Seiniwch chwi hwnna ac mi gewch weld, ac—."
"Na wnaf Parri," ebe Roberts, "heb gael gwell dealltwriaeth na hynna."
Heb gymaint â threm i gyfeiriad Roberts, cychwynnodd Parri allan, ond ar hynny ildiodd Roberts.
""Rhoswch Parri," meddai, "mi seinia' i," a heb oedi rhagor arwyddodd y papur, yna sythodd, ac meddai, "'Rŵan, damia chi!—dyma 'mhen i dan eich cesail, ac wrth gwrs mae eisiau i minnau wneud rhywbeth rhag i chi ei wasgu. Beth ydyw?"
"Roberts," meddai Parri, "mi feddyliais am funud na seiniech chi ddim,—yn wir mi euthum mor bell â gobeithio na wnaech chi ddim, ac y buasai'n rhaid imi ddangos hwn. i chi'n gyntaf, ond mi ddylwn wybod bod hynny yn ormod imi ddisgwyl gennych. Wel, pe buasech chwi heb seinio, 'fuaswn i ddim wedi mynd at y plisman. Hwdiwch, Roberts—edrychwch dros hwn tra byddaf innau'n gorffen trefnu swper inni'n dau." Ac estynnodd lythyr i Roberts, a'r amlen heb ei chau.
A dyma a ddarllenodd:
"Yr wyf innau'n cyfaddef wrth Mr. Gruffydd Roberts, Tŷ'n y Maes, fy mod wedi bod wrthi yn lladrata defaid—a gwartheg hefyd—ers blynyddoedd, mwy o lawer nag a ladrataodd ef yn ei holl fywyd.
(Arwyddwyd) J. E. PARRI."
Cyn i Roberts gael dros ei syfrdandod, dyma lais Parri yn galw arno i'r gegin gefn, lle'r oedd swper wedi ei baratoi i ddau.
Cerddai Roberts fel dyn mewn breuddwyd, a safodd yn hurt wrth y bwrdd, â'r nodyn yn ei law. "Mr. Parri," meddai, "'Dydw'i ddim yn deall. Beth ydyw peth fel hyn? Wn i ddim beth i—. Sut mae—?"
"Mi drafodwn ni'r mater ar ôl swper," ebe Parri, "eisteddwch i lawr, a helpwch eich hun, mi ellwch wneud hynny yn hollol ddibryder."
PENNOD III
BARGEN GALED
"WEL, 'rwan, Roberts," meddai Parri ar ôl iddynt orffen bwyta, mi awn ni'n ôl at y tân i'r ystafell yna. Yn naturiol, yr ydych yn disgwyl eglurhad. Wel, mi'i cewch o yrŵan." "Un gair, os gwelwch chi'n dda, cyn i chi ddechrau," meddai Roberts. "Beth am y nodyn 'ma? Ydyw hwn yn dweud y gwir?"
"Ydyw, a nac ydyw," atebodd Parri, "hynny ydyw—nid yw'n dweud y gwir i gyd. Mi edrychech yn fwy syn fyth, pe gwyddech chwi faint."
"Diain i, Parri," meddai Roberts, gan sythu yn y gadair esmwyth, "mi 'rydw' i'n dechrau'i gweld hi—ydw' yn wir—Brenin Mawr!—chi oedd yn gyfrifol am y dwyn defaid a gwartheg mawr hwnnw, flwyddyn a hanner a dwy flynedd yn ôl—y peth a'm dychrynodd i—ac a wnaeth imi roi gorau i'm tipyn dwyn i—rhag ofn i mi gael y bai am y cwbl. Pwy fyth fuasai'n dychmygu?"
"Wel neb, 'rydw' i'n gobeithio," meddai Parri, â rhywbeth tebyg i wên ar ei wyneb.
"Wel p'am rhoesoch chi gorau iddi mor sydyn ynteu, Parri?" gofynnodd Roberts.
"Ydych chi'n cofio'r helynt pan gafwyd Sarjant Huws a Phrys y plisman yn hanner marw yng nga—"
"Y Drugaredd Fawr!" ebe Roberts, yn syfrdan, "chi oedd yn gyfrifol am hynny hefyd? Pwy oedd eich partner chi'r adeg honno?"
"Neb," atebodd Parri.
"Ydych chi yn meddwl dweud, Parri, eich bod chi wedi taclo'r ddau, eich hun?"
Heb ateb y cwestiwn, ychwanegodd Parri, "Dyma 'nghardiau i i gyd ar y bwrdd, Roberts. Mae arnaf eisiau partner, ac yr ydw'i wedi eich gwylio ers tipyn bellach, ac—"
"Fy ngwylio i?" ebe Roberts, "fy ngwylio i, i beth?" "Na hidiwch ddim," ebe Parri, "ond peidiwch â meddwl mai chi ydyw'r unig un a fûm yn wylio ychwaith—ond chi ydw' i am fentro—os cydsyniwch chi. Beth amdani hi?"
"Ie," meddai Roberts, "ie siwr, ond i beth y mae'r papur 'ma'n dda? Beth ydw'i i wneud â hwn?"
"Roberts," meddai Parri, â siom yn ei lais, "tybed fy mod i wedi gwneud camgymeriad? Siawns gen' i nad ydych yn gweld"
"O!—Ydw', 'rydw' i yn gweld yn iawn, peidiwch â phryderu am hynny—mae'r papur yma i gau'ch ceg chi, a'r llall i gau f'un' innau. Perffaith deg—ac am hynny yr wyf innau am fod yn deg efo chwithau—'dydw' i ddim am eich rhoi chi i lawr, a chwithau wedi bod mor agored efo mi—ond y gwir amdani yw, fy mod i mewn digon o helynt yn barod; yr ydw'i yng ngafael benthycwyr arian."
"Ydych," ebe Parri yn sychlyd, "ac yng ngafael barmed neu ddwy hefyd. . . .
Ar hynny neidiodd Roberts i fyny, a chychwyn tua'r drws, ond estynnodd Parri ei fraich allan, a chyn i Roberts gymryd rhagor na dau gam, yn hollol ddi-ymdrech yr oedd wedi ei osod i eistedd yn ôl yn ei gadair.
"Na wnaf, myn cebystr," meddai yn ffyrnig, "'wna i ddim â chi—dyna chi wedi ei gorffen hi efo mi—y blacmeiliwr, mi gwel—"
Tra tantrai Roberts fel hyn, ymwingai ac ymdrechai i godi o'i gadair, ond yr oedd llaw Parri yn ei ddal i lawr. Rhoes Roberts ei holl egni mewn un ymdrech fawr i godi, ond yn ofer; a sylweddolodd fod nerth dau ddyn yn Parri, ac edrychodd yn hurt arno.
"Peidiwch â chyffroi cymaint, ac arhoswch imi orffen," meddai Parri. "Os oeddwn i am eich mentro yn bartner imi, ni fuaswn yn gwneud hynny, heb chwilio i mewn i'ch hanes chi."
"Ie," meddai Roberts, "ond y bygythiad oedd o dan y sylw a wnaethoch chwi, dyna oeddwn i ddim yn lecio—waeth imi fod yn y carch—"
"Roberts," meddai Parri, "pa mor ddwfn yr ydych chwi ynddi efo'r Iddewon?"
Petrusodd Roberts.
"Rhowch inni wybod Roberts, inni gael gweled lle'r ydym yn sefyll."
"Dau gant o bunnau," meddai Roberts o'r diwedd, neu yn—
"Dim ond y swm oedd arna' i eisiau wybod," ebe Parri, gan ysgrifennu, "mae'r I.O.U. wedi ei wneud allan yn barod, mae'n well i chi fod yn fy nyled i na benthycwyr arian—llofnodwch o."
Ar ganol darllen y papur, cododd Roberts ei lygad, ac edrych yn ymofyngar ar Parri.
"Yr ydw' i wedi ei wneud o am dri chant, Roberts—a dyma'r arian mewn papurau i chi,—dau i dalu i'r benthycwyr, ac un i—wel, chi ŵyr orau," a chilwenodd Parri yn awgrymiadol, "a mi gewch beidio â thalu llog ar y tri chant, tra byddwn ni'n bartneriaid, a'u talu'n ôl fesul tipyn. Yrwan, Roberts, rhaid i chi fod yn ofalus efo'r ddiod—oblegid dyna'ch gwendid mawr chi fel partner, yr ydych yn colli 'ch tymer, ac am siarad gormod pan gewch chi ddiod, er y medrwch chwi fod yn glos fel wystrysen pan fyddwch chi'n sobr. Yn onest yrŵan, Roberts, 'fedrwch chi roi brêc arni? Peidiwch â gadael i'r papur na'r pres effeithio ar eich ateb—mi fedrwn adael i bethau fel y maent: os ydych yn teimlo na fedrwch chi ddim cael y ddiod dan reolaeth, ac mi gewch dalu'r pres fel y medrwch chi—mi fyddech yn ffeindiach wrthyf i, pe dwedech chi'n blaen—'na fedraf'— na dweud y medrwch chi, a'm rhoi i lawr. Cymerwch amser i feddwl yn awr.'
"Parri," meddai Roberts, dan dipyn o deimlad, "Medraf—yn enwedig ar ôl heno," ac estynnodd ei law i Parri.
"Wel, dyna ni ynte," ebe Parri, "dyna ni'n deall ein gilydd—rhowch inni yrŵan fynd at y cynlluniau."
Ac am y ddwyawr nesaf bu Parri yn egluro ei gynlluniau, a Roberts yn gwrando arno mewn syndod edmygol: "Mi 'roeddwn i'n credu fy mod i cystal cynlluniwr â'r rhan fwyaf," meddai Roberts yn y man, "ond 'dydw' i ddim gwell na phlentyn yn eich ymyl chwi."
"Felly," ebe Parri heb gymryd sylw, "dyna ni'n ein deall ein gilydd—'fyddwn ni ddim ar delerau siarad o gwbl yng ngolwg pobl—'fyddwn ni ddim yn edrych ar ein gilydd mewn na ffair na marchnad; yr unig adeg y byddwn yn siarad â'n gilydd fydd, pan fyddwn ni'n ffraeo ar y cloddiau terfyn, hynny ydyw, yn cymryd arnom ffraeo—ynghylch y defaid."
"Wel wir, 'does dim terfyn i'ch cynlluniau chi beth bynnag," meddai Roberts, "mi gwela'i hi yrŵan—dyna p'am yr ydych wedi gadael i'r cloddiau fynd mor wael yn ddiweddar—mae pobl yn gwybod nad ydyw pethau'n rhy dda rhyngom ni yn barod."
"Ie, ac o hyn allan, yno'n unig y gwelwn ni'n gilydd i siarad, mi fyddwn yn rhy brysur i gael llawer o sgwrs—wrth ein gwaith. Pan fydd angen trafod rhywbeth, mi'm gwelwch fi yno ar y clawdd, neu pan welaf fi chi yno yn y boreau neu'r gyda'r nosau, bydd hynny yn golygu bod rhyw beth i'w drafod; a chofiwch hyn, Roberts, yr ydych chi i redeg tipyn arna' i, os bydd rhyw arlliw o amheuaeth yn codi ym meddwl rhywun; fe redaf innau arnoch chwithau, ac felly mi fyddwn yn gwybod am bob perygl cyn iddo godi—er mwyn delio efo fo."
Yr oedd hi'n oriau mân y bore ar Roberts yn ymadael, a'r peth diwethaf a wnaeth Parri oedd peri i Roberts gau yr amlen yn cynnwys ei gyfaddefiad, a'i rybuddio i ofalu am ei rhoi mewn lle diogel, beth bynnag a wnâi, ar ôl mynd adre. "Dyma fi yn rhoi eich cyffes chi yn fan yma," meddai gan agor drôr gêl mewn biwrô fawr, a oedd yng nghongl yr ystafell.
Wedi i Roberts fynd, eisteddodd Parri i lawr a daeth golwg synfyfyriol arno. "Wel, dyma fi wedi cymryd partner,' meddai, "a hynny am y tro cyntaf,—yn y wlad yma, beth bynnag—ac ymhob gwlad o ran hynny, partneriaid a fu gennyf, ac nid o'm bodd yr euthum i atyn' hwythau ychwaith—a phetasai'r fforman yn debyg o fyw ar ôl ein sgyffl, 'fuaswn i ddim wedi gadael y ransh, ond beth oedd gen' i i'w wneud ond mynd at y giang—neu gael fy lunsio gan yr hogiau. Ond o ran hynny, ati hi y buaswn wedi mynd rywbryd. 'Anghofia'i byth mo'r noson y cefais i o'u gafael nhw beth bynnag a fi oedd y cyntaf erioed i adael y giang honno yn fyw—a dyma fi heb ddim i ddangos fy mod i wedi bod yn y giang erioed, ond craith neu ddwy dan fy nillad, a bys canol fy llaw chwith wedi mynd, er imi orfod lladd y Gwyddel, a gadael Macpherson yn hanner marw, wrth ddianc; ond wedi i'r ddau ddeall fy mod i'n hwylio i adael y giang, ac amau fy mod yn mynd â pheth o ysbail y giang efo mi, yr oeddynt am fy ngwaed i, ac efo mi 'roedd y lwc y noson honno, fel bu'r digwydd."
Cynllun da oedd mynd i lawr i'r Argentine a dyfod efo'r llong gig, a gweithio'r ddwy flynedd hynny yn lladd—dai Birkenhead—er cased oedd gennyf y lle.
"A dyma fi wedi dechrau arni eto—efo partner, a chennyf innau ddigon o arian hefyd—mae'r peth yn fy ngwaed i—a fedra' innau ddim byw heb berygl. Ffŵl?—ie-ond 'does gen' i ddim help—yn lleidr y'm ganed—lleidr oeddwn i pan ddihengais i o Gaerdydd yn y llong—a lleidr ar honno wed'yn pan adewais hi yn New York.
"Dwyn ar ranch yr hen Williams Caernarfon yn Texas, a dwyn oddiar y giang ei hun—a dyma fi eto—a phe cawn i ail-ddechrau fy mywyd, dyna wnawn i eto hefyd."
Tra ymsoniai Parri fel hyn, prysurai Roberts tua'i gartre yn llawen iawn ei ysbryd.
"Wel," meddai, wedi cyrraedd, "i'r sêff â'r nodyn"; ac wrth gloi, ychwanegodd, "Dyma fi'n rhoi clo ar y sêff, ac ar geg Parri'r un pryd, ond andros o hogyn ydyw Parri—ond mi'i trystiwn i o efo'm mywyd—ar ôl y peth mae o wedi wneud heno—mae hi'n anrhydedd cael bod yn dipyn o bartner i fôi fel 'na."
Bychan a ddychmygai Roberts, ped agorasai'r amlen, y buasai llawysgrifen Parri yn llawer llwytach na phan ddarllenasai hi ym Mhen-y-cae, oblegid mewn inc diflanedig yr ysgrifenasai Parri ei gyffes.
PENNOD IV
FFYRDD TROSEDDWYR
BU'R bartneriaeth yn llwyddiant perffaith. Cydrhwng y defaid a yrrid i Fanchester, wedi newid eu nodau dan law fedrus Roberts, a'r rhai a basiai drwy ladd-dŷ Parri ar eu ffordd i fyrddau cinio pobl,—gwneid cryn elw; a bwytaodd mwy nag un teulu, gig eu defaid eu hunain, heb ddychmygu hynny.
Yr oedd gan Parri, a Roberts hefyd o ran hynny, diroedd pori ar hyd a lled y wlad, a byddai'n hwyr arnynt yn dychwelyd ohonynt yn aml. Ar rai o'r nosweithiau hynny, fe gychwynnai Parri yn ôl, ag un neu ddwy o'i ddefaid ei hun yn ei fflôt, ond ar y ffordd, mewn man neilltuol, wedi ei drefnu ymlaen llaw, yr ochr arall i wrych neu wal, byddai Roberts yn ei ddisgwyl, a hanner dwsin—weithiau ragor—o ddefaid rhyw amaethwr anffodus, wedi eu dal a'u rhwymo, yn barod i'w codi i'r fflôt, at y lleill; ac ymhen ychydig iawn o amser, byddai Parri ar ei ffordd tua'r Dre i'w ladd-dŷ, a Roberts yntau yn prysuro ar draws y caeau tua'i gartre.
Yr oedd Roberts yn un o'r dynion anghyffredin hynny, a feddai rhyw ddylanwad rhyfedd ar anifeiliaid, a medrai gael gyrr o ddefaid—a gwartheg hefyd—i ben eu siwrnai yn gynt na neb, a medrai gael defaid ac ŵyn i gongl cae, cystal â llawer ci, ac yn fwy di-stwr hefyd.
Eto, er gwaethaf popeth, digwyddai rhywbeth annisgwyl yn fynych, a drysu'r cynlluniau gorau. Wedi i Parri gyrraedd y fan a'r lle y byddai wedi trefnu i Roberts ei ddisgwyl, bu raid i'r cigydd fwy nag unwaith, fyned yn ei flaen heb sefyll, ac adre heb ysbail, gan ei bod hi'n rheol bendant ganddynt, oni roddid arwydd neilltuol gan y naill, a'i chydnabod gan y llall, nad oedd Parri i aros ar un cyfrif. Weithiau, byddai Roberts, er ei holl fedr, wedi methu dal y defaid; bryd arall â'r defaid gan Roberts yn barod yn ochr y cae i'r gwrych, a Pharri yn nesáu, fe ddigwyddai rhywun arall fod yn nesáu'r un pryd.
Parai beisyclau bryder mawr iddynt, ac er bod yn gas gan eu calonnau, y lampau carbide, a oedd yr adeg honno yn dechrau disodli'r hen lampau oel, ac yn taflu eu pelydrau llachar i bob twll a chongl, rhai yn marchogaeth heb olau o gwbl a ofnent fwyaf, ac er mor ddyfeisgar gŵr ydoedd Parri, methodd yn lân â tharo ar gynllun boddhaol i gyfarfod â'r perygl yma. Ac yr oedd digon o sail i'w hofn hefyd, fel y dengys hanes dyddiau olaf eu partneriaeth diffaith; yn wir, gellir dweud mai dyma fu achlysur, beth bynnag am achos, ei diwedd hi.
Un noson yr oedd Roberts yn estyn dafad i Parri i'w chodi i'r fflôt, pan ddaeth rhywun ar gefn beisicl heb fath o olau, na rhybudd o gwbl—a chyda chyflymder enbyd-chwap!—i du ôl y fflôt.
Trawodd y beisicl y cerbyd gyda'r fath rym, n es taflu'r gyrrwr dros y fflôt, a'i fwrw i'r llawr yn llonydd wrth draed ôl y ceffyl.
Ar hynny, llamodd y ceffyl yn ei flaen, a phrin y llwyddodd Roberts i neidio i'r ochr ei hun, cyn i'r olwyn ei daro; a buasai Roberts yn edrych yn bur syn, pe gwybuasai mai Parri ei hun a drawsai'r ceffyl yn lladradaidd â'r chwip. Ond ar amrantiad yr oedd Parri wedi cythru i'r rêns, a thynnu arnynt mor egr, nes atal y ceffyl yn ei hyd, ac meddai, gan neidio o'r fflôt, "Roberts, ydych chi'n iawn? Mi feddyliais am foment eich bod wedi ..."
"Na, 'rydw' i yn iawn," meddai Roberts, "ond beth amdano fo?"
A phlygodd uwch ei ben. "Diolch i'r Nefoedd!" meddai, "nad aeth yr olwyn ddim drosto; wn i ddim sut y dihangodd o, na wn i'n wir. Cythraul o geffyl ydyw hwn, Parri. Ewch chi am y meddyg, a mi arhos . . ."
"Roberts," meddai Parri, ar ei draws, yn dawel, ond yn bur bendant, "gedwch chi hyn i mi, ac ewch adre. Wyddoch chi ddim am y peth, welsoch chi mo'r dyn yma heno—na minnau wrth gwrs."
Petrusodd Roberts, ac ymddangosai fel petai'n mynd i wrthwynebu, ond meddai Parri yn ddistaw iawn, a chan symud yn nes ato, "A byddwch ar y clawdd terfyn tua saith bore yfory."
Heb ddweud gair, neidiodd Roberts i ben y wal, a throsodd, a chychwyn cerdded ar draws y cae. Heb gymaint â thaflu trem ar ei ôl, troes Parri at y beisicl, a'i daflu yn ddi-seremoni i'r ffôs; yna gafaelodd yn y bachgen, a'i godi fel pe na bai'n ddim ond sachaid o wlân, a'i roi'n y fflôt; dringodd i'r cerbyd, rhoes glec ar y chwip, a chychwynnodd am y Dre, gan godymu'n galed â'i broblem newydd.
Nid oedd yn adnabod y bachgen mor bell ag y gwyddai, ond ni fedrai fod yn berffaith sicr yn y tywyllwch; ac yr oedd ei wyneb yn waed i gyd. Penderfynodd nad oedd dim amdani, ond mynd â fo at y meddyg, a hynny cyn mynd â'r defaid i'r lladd-dŷ hefyd. Golygai hynny helpu cario'r llanc i feddygfa'r meddyg, ac efallai gynorthwyo hwnnw i drin ei friwiau—os byddai fyw tan hynny. "Petasai'r olwyn wedi mynd dros ei ben," meddai wrtho'i hun, "buasai'n fwy boddhaol i mi—ac eto 'dydw' i ddim mor sicr; na, petawn i'n onest efo mi fy hun, tipyn o'm hen wendid plentynnaidd—gwendid tymer wyllt—a barodd imi roi slasen i'r ceffyl, a cheisio anafu Roberts; ond clywed 'oglau wisgi arno gododd y cythraul ynof, ond petawn i wedi ei anafu o, a lladd yr hogyn 'ma, mi fuaswn mewn tipyn o gongl—ond dyma fi'n colli munudau gwerthfawr gydag anawsterau nad ydynt yn bod, a chennyf innau broblem—problemau o ran hynny, yn y fflôt yna.
"Ie, meddwl yr oeddwn i, beth ddigwyddai tra byddwn i yn y feddygfa yn helpu'r doctor ynte; a thra byddwn i yno, rhywrai efallai yn dyfod at y fflôt wrth ei gweld o flaen tŷ'r meddyg mor hwyr y nos, i specian ac i sbiana—rhywun busneslyd efallai yn golau matsen, neu ddal lamp beisicl, a gweld nodau'r defaid yn . . ." Ond ar hynny, dyma olau o'r tu ôl i'r fflôt, a beisicl yn pasio yn gyflym, ac un o blismyn y Dre yn disgyn oddiarno wrth ben y ceffyl, gan orchymyn i Parri aros.
Teimlai'r cigydd ias oer yn mynd trwyddo, ond arafodd a stopiodd, ac meddai, heb ddim cryndod bradychol yn ei lais, "O! Prys, chi sydd yna? Arhoswch am funud, a mi ddof i lawr atoch chi."
A chychwynnodd i lawr o'r fflôt. Ond pan oedd yn rhoi ei droed ar y ffordd, dan gychwyn gofyn i'r plisman: "Beth sy'n bod Prys?" dyma gyffro sydyn yn y fflôt, a chyn iddo gael gorffen ei gwestiwn, heb sôn am wneud dim, yr oedd y bachgen wedi llamu o'r fflôt, ac yn diflannu dros y clawdd, a'r plisman wedi gollwng ei feisicl ar y ffordd gyda llw, a chychwyn ar ei ôl.
Am funud safodd Parri yn ei unfan, mewn dwfn fyfyrdod; yna cododd feisicl y plisman yn ofalus, a'i osod i bwyso ar y clawdd. Dringodd yn ei ôl i'r cerbyd, a chychwyn drachefn ar ei daith.
Gyrrodd ar drot hamddenol nes cyrraedd man, â chryn ddeg llath o glawdd, â'r gwrych arno yn denau a gwael, a thair rhes o weirennau pigog, wedi eu gosod i wneud y diffyg i fyny. Stopiodd Parri, ac wedi gwrando am foment, disgynnodd o'r fflôt, a chyn pen dau funud, yr oedd pum dafad ddieithr yng nghae John Humphreys, un o gigyddion eraill y Dre, a Pharri yn dringo yn ôl i'r fflôt, dan regi dan ei ddannedd, oblegid wrth godi'r ddafad ddiwethaf drosodd, llithrodd yn y llaid, a bachodd yn y weiren bigog, nes rhwygo llawes ei gôt, ac agor sgôr ddofn yn ei fraich.
Modd bynnag, er gwaethaf ei anffawd, rhoes chwip ar gefn ei geffyl, a gyrrodd yn syth at y rheinws, ac ymhen ychydig iawn o amser, yr oedd yn dweud tipyn o hanes damwain y bachgen wrth yr arolygydd, ac fel y diangasai ef o'r cerbyd, a'r plisman wrth ei sodlau.
"O!" meddai'r Arolygydd Jones, wedi iddo orffen, "mae arnaf ofn ei fod wedi ein gwneud ni eto, ond mae Prys yn bur sionc."
"Beth oedd, Super?" gofynnodd Parri, "Pwy oedd o?" "O!" meddai'r arolygydd, "bachgen o'r dre yma, sy'n dwyn ieir hyd y wlad. A fuasech chi'n ei adnabod petai o'n cael ei ddal, Mr. Parri?"
"Buaswn, mi gredaf," atebodd y cigydd, "ac fel y cychwynnodd Prys, a'r hogyn wedi cael y fath godwm, mi'i deil o hefyd. Wel, 'does dim rhagor fedra' i ei wneud felly, Super—heno, beth bynnag?"
"Nac oes, Mr. Parri, yr ydych wedi gwneud yn dda iawn; a diolch yn fawr i chi am reportio'r peth. Nos dawch, syr."
""Daf i ddim i Fron y Wawr heno," meddai Parri wrtho'i hun, ar ei ffordd tua'r stabl a'r lladd-dŷ, yn y stryd gefn y tu ôl i'r siop, "mi gysgaf yn y gegin yma. Am ffŵl fûm i'n taflu'r defaid da fel yna i ffwrdd, a cholli cyflog noson; 'fuasai'r Super pendew yna wedi amau dim."
Ond ymhen rhyw awr wedyn, diolchai o waelod ei galon ddarfod iddo ymadael â hwy.
Wedi stablu'r ceffyl, aeth ati i olchi'r pridd oddiar ei fraich, a'i thrin a'i pheintio ag iodine, ac yr oedd wrthi yn ei rhwymynnu hi, pan ddaeth cnoc ar y drws. Trawodd ei gôt yn frysiog amdano, ac aeth i agor; a phwy welai ar yr hiniog ond yr arolygydd.
"Maddeuwch i mi," meddai, "am aflonyddu arnoch yr adeg yma o'r nos, ond mi ddaliodd Prys y bôi, a mi fydd cwrt arno'n y bore,—y—mi allwn ddibynnu arnoch chi fod yno—oni allwn syr?"
"Mi fyddaf yno Super." ebe Parri. "Diolch yn fawr iawn i chi.
Mr. Parri. Nos dawch."
Hanner awr wedi deg,
"Diolch," meddai Parri dan gau'r drws, "diolch mai eu gollwng wneuthum i. Heblaw hynny, wrthi'n eu lladd a'u trin y buaswn i 'rŵan, ac mae'n bur debyg y buasai'r Super, ar ôl clywed stori Prys, wedi dwad i chwilio amdana' i, ac wedi gweld y crwyn. Damia'r boen yn y fraich yma, mae'n rhaid bod y sgôr yn un go egr. Gobeithio nad oedd y weiren ddim wedi rhydu llawer."
Bore drannoeth yr oedd Parri ar y clawdd terfyn gyda'r wawr; a dau o'i gŵn, yn gyrru defaid Tŷ'nymaes fel cymylau o flaen y gwynt, yn eu hôl i gaeau Roberts; ac nid oedd modd iddo yntau beidio â chlywed y chwibanu a'r cyfarth.
Cyn pen ychydig iawn o amser, yr oedd Roberts gydag ef, ac yn ôl pob golwg, â barnu wrth yr handlio dwylo a breichiau, yr oeddynt yn ffraeo hyd at daro bron.
"Sut y daeth hi ymlaen neithiwr, Parri, ar ôl i mi eich gadael? Gawsoch chi . . ."
"Wel, Roberts," ebe Parri ar ei draws, yn dawel iawn. "Ydych chi'n cofio'r cytundeb rhyngom ni?"
Nid atebodd Roberts ddim.
"Peidio â chyffwrdd y wisgi pan fydd gennym job onide?" Dim ateb.
"Roberts, 'dydych chi ddim yn cadw ar eich gair; peth arall hefyd, fe ddywedasoch yr ufuddhaech imi bob amser heb ddadlau; mi feddyliais fy mod yn gweld arwyddion petruso neithiwr. Yn awr, Roberts, mae'n partneriaeth ni yn darfod heddiw."
"Mae'n hawdd iawn i chi ddweud hynny Parri, ond beth amdana' i? A beth am orffen talu fy nyled i chi."
"Na," ebe Parri, "peidiwch â meddwl fy mod i am gymryd mantais ar hynny; mi fydda'i well i mi eu colli—bob sentan goch—na chael fy nal."
"Parri," meddai Roberts, "mae'n ddrwg iawn gen' i."
"Ie," ebe Parri yn sychlyd, "ond mi fyddai'n waeth gennych petaem yn cael ein dal, a hynny oherwydd eich bod chi mewn diod. Na, mi'i plygwn ni hi yn y fan lle mae hi . . ."
"A gadael i Ifans Bryn y Felin, â'r planiau i gyd yn barod, a'r defaid mawr newydd yna—yr un pethau yn union â'ch rhai chi, yn disgwyl wrthym ni? O! Parri, chware teg, am y tro yma—y tro diwetha am byth, ar fy ngwir."
"O'r gorau ynteu," meddai Parri, wedi peth ddistawrwydd, gan gychwyn oddiwrtho, "ond os rhowch chi fi i lawr, cofiwch hyn—os rhowch fi i lawr? 'fydd fy mywyd i'n ddim gwerth ei fyw,—na'ch un chwithau 'chwaith."
PENNOD V
"NID HIR Y CEIDW. . . "
GELYN mwyaf Roberts oedd Ifans a ffarmiai Fryn y Felin, un o ffermydd gorau'r gymdogaeth; buasai'r ddau o flaen Syr William Anton, eu meistr tir,—a meistr tir mwyaf y broydd, am y swydd o is-stiward,—ac Ifans a'i cafodd.
Byth er hynny, coleddai Roberts deimladau drwg iawn tuag at Ifans, a bu'n pwyso llawer ar Parri o dro i dro i ddwyn rhai o'i ddefaid. A thrannoeth, a hithau'n ddiwrnod gwlyb ac ystormus, meddai Parri wrtho'i hun: "Efallai fy mod i wedi cadw Roberts yn ddigon hir bellach, mae wedi rhoi ei fryd a'i serch ar godi'r doll ar stoc Ifans, a waeth i minnau roi i mewn iddo, er y bydd yn well gennyf i gadw teimladau personol o'r busnes yma yn gyfangwbl, ond dyna Ifans a minnau wedi prynu defaid yr un fath â'i gilydd, a chan yr un gwerthwr, ac nid ydyw o na minnau wedi newid eu nodau eto—felly petawn i'n lladd rhyw hanner dwsin o'm rhai i ar unwaith, a symud chwech o ddefaid Ifans i'm caeau i yn eu lle, sut mae neb i . . . diain i-dyna Ifans yn pasio ar y gair. I b'le mae o yn mynd y tywydd yma tybed?"
Ac aeth Parri i ddrws y siop, a gwelai Ifans yn prysuro drwy'r glaw i gyfeiriad y stesion. "Mae golwg mynd i ffwrdd arno hefyd," meddai, "efo'r tren hanner awr wedi pedwar debyg gen' i-ond mi gaf wybod gan Richards pan ddaw o'n ôl o ddanfon cig i'r stesion."
"Mae arna' i ofn eich bod chi wedi gwlychu, Richards," meddai Parri wrth y gwas, ymhen rhyw chwarter awr, "mi fyddai'n well i chi newid."
"Na, meistr," ebe yntau, "mi ddeil yr hen gôt yma bob glaw."
"Wel, os deil hi'r glaw yma, mi ddeil rywbeth," meddai Parri. 'Dydyw hi ddim ffit i gi fod allan. Mae'n debyg nad oedd fawr neb tua'r stesion ychwaith."
"Na, 'welais i ddim ond rhyw ddau yn dwad o'r tren, a dim ond Ifans Bryn y Felin yn mynd efo hi—mater o raid arno yntau, mae'n debyg—ond o ran hynny ar nos Lun y bydd o'n mynd i ffwrdd ran amlaf."
"Ond yr oeddwn i'n meddwl ei bod hi'n ddiwrnod talu rhent Syr William?"
"Na, wythnos i heddiw, meistr."
"Ie, siwr, yr oeddwn i wedi anghofio," meddai Parri.
Yr oedd hi bron yn dechrau tywyllu, pan ddigwyddodd Roberts daflu golwg tua'r clawdd terfyn, a meddwl ei fod yn gweled rhywun yno. "Tybed?" meddai, gan syllu yn galed. "Ie, fel mae byw fi—Parri sydd yna."
Ac mewn ychydig iawn o amser yr oedd yntau yno hefyd. "Heno amdani hi Roberts," meddai Parri, a deallodd Roberts heb ddim rhagor o eglurhad beth oedd yn ei feddwl, ac meddai, "Meddwl yr oeddwn innau dipyn cyn imi eich gweled chwi, noson mor dda fyddai heno, ac—a dweud y gwir i chi,—yn rhyw led ddisgwyl eich gweld. Mae hi wedi talu'n iawn i mi ddisgwyl—er fy mod i, mae arnaf ofn, wedi bod yn ddiamynedd; 'fuasai hi ddim yn bosibl inni gael gwell noson, fydd dim perygl i neb fod o gwmpas ar y fath dywydd, na photsiar na chipar na dim—ac y mae rhyw sôn hefyd fod Morgan y plisman yn sâl a . . . .
"'Rhoswch Roberts wir," ebe Parri, dan wenu yn oeraidd, "neu mi fyddwch yn dweud yn y munud fod y defaid wedi gyrru gair i chi i ddweud y byddant yn ein disgwyl ni, ond mae gen' i un newydd da iawn,—mae Ifans eich cyfaill wedi mynd i ffwrdd efo'r tren hanner awr wedi pedwar y prynhawn yma."
"Tewch â dweud ddyn!" meddai Roberts, yn llawen, "mae hi fel petai'r Nefoedd o'n tu ni, a rhagluniaeth wedi mynd i drafferth i symud pob rhwystr oddiar ein ffordd ni. Ydyw popeth yn barod, Parri? Mi ofalaf i am yr haearn. Ddaethoch chi â golau?"
"Na," meddai Parri, "fydd dim eisiau eich arfau chi heno—mi ddaeth y cyfle mor sydyn, fel na chefais i ddim amser i ladd fy nefaid i, felly mi af i â'r rhain dan yr hen drefn i'r dre yn y fflôt, ac mi'u lladdaf nhw heno, gan fod Ifans i ffwrdd, a phopeth.
Ewch chi ar draws y caeau, a mi af innau efo'r fflôt hyd y ffordd. Mi drefnwn ni i gyfarfod ein gilydd yng ngheg y lôn sy'n troi o'r ffordd fawr am Fryn y Felin—ddeg o'r gloch—mi gewch chi amser i fynd adre a bwyta'ch swper—a mi af innau am damaid i Ben-y-cae-nid oes dim brys—felly mi gymerwn ni'n hamser."
Er ei bod yn noson mor dywyll ac ystormus, nid oedd hynny yn ddim rhwystr i Roberts. Cerddai'n gyflym ar draws y caeau gan anelu yn ddi-feth at fwlch yn y fan yma, ac adwy yn y fan draw; ac fel y dynesai at Fryn y Felin tynnai ddraenen yma ac acw—drain a oedd wedi eu rhoi yn ferdin ar fwlch a llecyn gwan yn y gwrychoedd.
"Mae hwn yn orchwyl wrth fodd fy nghalon i," meddai, gan chwerthin ynddo'i hun, "a mi fydd defaid Ifans Bryn y Felin yn bur wasgarog erbyn y daw o'n ôl, a mi gaiff ei chlywed hi, am beidio ag aros gartre' mwy, a chrwydro llai—ha! ha! Mae fy nyled i'n fawr i Mr. Ifans; onibai amdano ef, 'fuaswn i ddim yn gorfod bod yn gi bach i Parri'r Bwtsiar Mawr—na neb arall. A heno—y Nefoedd Fawr!
Y peth a barodd lw Roberts, oedd fflach sydyn yn goleuo'r wlad fel haul, a tharan yn dilyn bron ar unwaith.
"Wel, am fellten!" ebe Roberts, "pwy fyth fuasai'n disgwyl peth fel yna heno, ond yr unig un mae'n debyg. Chawn ni ddim storm o fellt a tharanau yr adeg yma o'r flwyddyn, siawns gen' i."
Wedi cyrraedd caeau Bryn y Felin, aeth ati yn hamddenol i yrru'r defaid i gyd i'r cae nesaf i'r ffordd fawr, ac ni chafodd fawr i gyd o drafferth ychwaith, gan iddo fynd â'r ci efo fo'r noson yma; a gweithiodd hwnnw yn rhagorol hefyd, gan ufuddhau i bob gorchymyn yn barod ac yn ddistŵr, er gwaethaf y tywyllwch a'r tywydd, a chyn pen ychydig iawn o amser, yr oedd defaid Ifans wedi eu gyrru trwy ddau fwlch, rhai i'r ffordd fawr, ac eraill ar wasgar i gaeau cym-dogion, a chwech wedi eu dal a'u rhwymo, erbyn y cyrhaeddai Parri. Yna troes yn chwyrn at y ci, "Adre, Pero," meddai'n fygythiol, "Adre!"
Ac i ffwrdd â'r ci ar hynny, ond pan oedd yn cychwyn dyma fellten arall ond llai llachar o lawer na'r llall—a'r daran ymhen rhai eiliadau ar ei hôl.
"Wel, wir," meddai Roberts, "mae'r elfennau a phopeth yn ffeind heno, petasai'r fellten yna wedi dyfod ychydig yn gynt, buasai'n anhwylus iawn—ac y mae'n amlwg bod honna yn bur bell; os bydd y nesaf cyhyd ar ôl hon, ag y bu hon ar ôl y llall—mi fyddwn yn ddiogel."
Toc clywodd y fflôt yn dyfod, a neidiodd i ben y clawdd ac i'r lôn i'w disgwyl, ond pan oedd hi bron â'i gyrraedd,—yn sydyn cyffrôdd drwyddo, a chythrodd i gyfarfod ei bartner, oblegid draw yn y pellter, gwelsai olau beisicl yn dyfod: "Parri," meddai, "mae yna rywun yn dyfod ar feic—lamp oel sydd ganddo fo, wrth ryw lwc; brysiwch, trowch y ceffyl i'r lôn yma, wed'yn wêl o mohono' ni, os pasio mae o.
A gwnaeth Parri hynny ar unwaith. Fel y dynesai'r beisicl, daliai'r ddau eu hanadl, a rhoes Roberts ochenaid o ryddhâd pan basiodd y golau geg y lôn.
"Mae'n lwc ni'n dal fachgen," ebe Roberts, dan chwerthin dipyn yn nerfus.
"Lle mae'r defaid?" gofynnodd Parri.
"Yn barod i'r lladdfa gyfaill," meddai Roberts gan neidio i ben y clawdd, a throsodd i'r cae, ac estyn dafad i Parri. "Dyma un ohony' nhw."
"Welsoch chi rywun ar eich taith?"
"Do, fe welais un, a hwnnw, pwy bynnag oedd o, yn awyddus iawn imi beidio â'i adnabod o."
"Dim mwy awyddus nag oeddech chwithau iddo fo beidio â'ch adnabod chi, mae'n siwr," ebe Roberts.
"Ie, ac yr oeddwn i'n bur falch nad pan ddaeth un o'r mellt hynny yr oeddwn i'n ei basio fo—ond o ran hynny, mae o'n siwr o fod wedi fy adnabod i,"
'Does gennych chi ddim syniad pwy oedd o?"
"Nac oes, ond yn ymyl Cae'r Pant yr oedd o, lle mae'r cybydd hwnnw yn byw. Yr oeddwn i wedi stopio'r car am funud yn ymyl yno, a dyna rywun dros y clawdd heb weled y car yn y tywyllwch a'r glaw, a 'chefais i ddim ond cael a chael i gythru i'r rêns, na buasai'r ceffyl wedi rhedeg."
"Brenin annwyl!" ebe Roberts.
"Ie, ac onibai fy mod i'n gwybod bod Ifans Bryn y Felin wedi mynd i ffwrdd efo'r tren hanner awr wedi pedwar, mi fuaswn yn cymryd fy llw mai fo oedd o."
"Na," ebe Roberts, "mae Ifans yn ddigon diogel mewn rhyw hotel yn hobnobio efo'r mawrion. Ond sôn am fellten, welsoch chi un oleuach neu sydynach erioed na'r gyntaf, dywedwch? Mi fûm i'n lwcus iawn—'doeddwn i ddim wedi cyrraedd caeau Bryn y Felin, ond 'doedd dim perygl i neb fod allan hyd y caeau i 'ngweld i, o ran hynny; ond mi gefais i fraw am foment—mi 'roedd hi mor olau â hanner dydd."
Tra siaradent yn ddistaw fel hyn, gweithient yn gyflym, Roberts yn estyn y defaid i ben y clawdd a Pharri'n eu rhoi yn y fflôt. Ac yr oedd Parri yn yr act o estyn y ddafad olaf o ben y clawdd, a Roberts newydd neidio yn ôl i'r lôn o'r cae, pan lamodd y ddau i fyny mewn braw, oblegid y foment honno, ac ar unwaith â'i gilydd, gwelai'r ddau ffurf dyn anferth yn camu tuag atynt, a chlywent lais ffyrnig yn dweud: "Lladron defaid, aie?"
PENNOD VI
PRAW NERFAU
NID y ddau leidr defaid oedd yr unig rai yn y gymdogaeth allan ar berwyl drwg y noson ystormus honno: a phetai Roberts ddim ond yn gwybod mewn cymaint o helynt yr oedd ei brif elyn, fe arbedasai gryn lawer o boen iddo'i hun.
Yr oedd Ifans Bryn Mawr, rhwng betio a byw'n uchel, wedi mynd i ddyled fawr, ac wedi cadw hanner rhai rhenti—heb eu trosglwyddo i Syr William—a dweud wrth y meistr tir fod yr amaethwyr wedi cael colledion mawr, a'r naill beth a'r llall. A chan mai dyna'r tro cyntaf i ddim felly ddigwydd yn hanes y ffermwyr hynny, a bod Ifans wedi talu'r cyfran o'r hanner rhenti bob yn dipyn, gan ddweud y gorffennai'r tenantiaid dalu ddiwrnod y rhent, yr oedd y twyll heb ei ddarganfod.
Modd bynnag, yr oedd y rhent yn ymyl, ac er bod Ifans wedi benthyca yn helaeth, yr oedd eto yn fyr o tua chanpunt i wneud i fyny'r diffyg yn y rhenti, yn unig.
Gwyddai y byddai tenantiaid y fro, lawer ohonynt â'u rhenti yn barod yn eu tai ers dyddiau erbyn diwrnod y talu, ac yr oedd Ifans wedi penderfynu torri i dŷ gŵr o amaethwr, diarhebol am ei gynildeb, ac a drigai fel y digwyddai pethau fod, yng Nghae'r Pant, sef y lle y ganwyd ac y magwyd Ifans ei hun. Yn wir, yr oedd tua deuddeg oed pan symudodd ei dad oddiyno i fyw i Fryn y Felin. Gwnaethai ei gynlluniau yn barod ers tro, ac nid oedd ond yn disgwyl am amser cyfaddas i'w cario allan; a thua dau y diwrnod ystormus yma, yr oedd Ifans yn cyrchu tua Chae'r Pant drwy ganol y ddrycin fawr. Pan ddaeth Elis Hopcyn i'r drws, yr oedd yn amlwg ei fod wedi rhyfeddu ei weled ar y fath ddiwrnod.
"Wel wir, Mr. Ifans, 'waeth imi gyfaddef ddim," meddai, "fy mod i wedi meddwl eich bod chi am adael i'r rhent yma eto basio, heb ddyfod i weld cymaint o waith ripario sydd ar yr hen dŷ yma; ac yn siwr i chi 'doeddwn i ddim yn eich disgwyl ar ddiwrnod mor ofnadwy â
"Yr oeddwn i am weled y lle ar ei waethaf," ebe Ifans. "Wel, wir, 'fuasai raid i chi ddim, mi welech ddigon ar ddiwrnod llai ystormus; mae o fel gogr heddiw."
"Felly 'rydw' i'n gweld," meddai'r steward, "ond mi awn ni drwyddo fo i gyd; gan fy mod i wedi dwad."
"Mi'i gwelwch o dipyn yn wahanol i'r hyn oedd o, pan oeddech chi yma yn byw, ond cofiwch na ripariwyd dim arno er pan aethoch chi oddiyma; mi awn ni ynteu, os ydych chi'n barod."
"Wel," meddai Ifans ymhen rhyw chwarter awr wedyn, yn y tŷ llaeth yng nghefn y tŷ, "dyna ni wedi gweled pob man, a mi rof y manylion i gyd o flaen y pen stiward, ac yr wyf yn addo . . . Diain 'innau! Ym'hle gadewais i fy ambarel dywedwch? Yr oedd hi gen' i pan ddeuthum i'r tŷ. . . O! 'rydw' i yn cofio—wedi ei gadael hi'n y llofft ffrynt yr ydw' i, ar ôl bod yn procio y seilin i weld pa mor ddrwg oedd o."
"O! mi af i'w nôl," meddai Elis Hopcyn, "fydda'i yr un dau funud." Ac ymaith ag ef.
"Wel, 'rwan," ebe Ifans wrtho'i hun, gan symud yn gyflym at y ffenestr, "gobeithio'r Nefoedd fod cliced hon yn gweithio—yr oedd un ffenestr y gegin bach beth bynnag, ond mae'r ffenestr yma'n fwy, ac yn is. Ydyw, y mae hi hefyd, wel dyma dipyn o lwc." A gwthiodd y gliced yn ôl, fel na byddai eisiau gwneud dim i'w hagor, ond codi'r darn isaf, neu ostwng yr uchaf. "Go dda, wir, mae'i chortyn a'i phwysau hi yn gweithio yn iawn hefyd, a dim ond codi'r darn isaf fydd eisiau, a mi fedra' i wthio trwodd yn hwylus, ond mi adawaf i ffenestr y gegin bach fel y mae hi, gan fy mod i wedi tynnu ei chliced yn barod hefyd rhag ofn y bydd yn dda imi with honno; a mi... Ust! Dyma Hopcyn yn dyfod."
A phan gyrhaeddodd yr amaethwr y tŷ llaeth, yr oedd Ifans yn lled-eistedd ar fwrdd llechen, ac yn ysgrifennu yn brysur mewn llyfr nodiadau bychan.
"Mi fydd Martha yn poeni ei bod oddicartre, a chwithau wedi galw," ebe Hopcyn, "petai hi yma, 'chawsech chwi ddim mynd oddiyma heb gwpanaid o de."
"O! peidiwch â phoeni dim am hynny, Elis Hopcyn," ebe Ifans.
"Te parti sydd tua'r capel y prynhawn yma, a gyda'r nos heno, ac yno y mae meistres—neu 'fuasai'r un o'i thraed hi wedi mynd o'r tŷ 'ma ar y fath ddiwrnod. Ac y mae gennym ni gyfarfod ar ôl y te heno, a'r drwg ydyw, y bydd yn rhaid i minnau fynd i hwnnw, ac i nôl Martha, petai hi'n bwrw hen wragedd a ffyn."
Ni chymerth Ifans arno ei fod wedi cyfrif ar y te a'r cyfarfod, i fynd â Hopcyn a'r wraig oddicartre, a bod geiriau Hopcyn wedi rhoi boddhad mawr iddo, a'r cwbl a ddywedodd oedd, "Wel, wel, os deil hi fel hyn, mi fyddwch yn wlyb at eich crwyn, a mi fyddaf innau hefyd cyn y byddaf yn y stesion." "Bobl annwyl! 'Dydych chi ddim yn gorfod mynd i ffwrdd heddiw, Mr. Ifans?"
"Ydw' wir," meddai Ifans, "fel mae gwaetha'r modd—prynhawn da 'rwan."
Wedi cyrraedd stesion y Dre, cododd Ifans diced i Gaer, ac wedi mynd i'r tren, tynnodd lythyr o'i boced oddiwrth y prif-stiward,-"dyma fydd fy esgus i mai yn y tren yr agorais i hwn, ac mai ei gynnwys a barodd imi newid fy nghynlluniau.'
Disgynnodd o'r tren yn y stesion nesaf—a diolch i'r storm fawr, a'r llwybrau anhygyrch a ddilynodd, ychydig iawn, iawn, o bobl a welodd ar ei ffordd yn ôl i gymdogaeth Cae'r Pant.
"Mi garwn i fod yno tua hanner awr wedi wyth," meddai wrtho'i hun, pan oedd o fewn rhyw filltir i'r ffermdy. "Dyna'r adeg orau; mi rydd hynny ddigon a amser imi, a 'fydd y cyfarfod ddim yn dechrau yn fuan iawn, gan y bydd rhai yn hwyr yn cael te . . .'
"Wel," meddai yn y man, "fedra' i ddim cadw i'r caeau ymhellach, bydd yn rhaid imi orffen y daith hyd y lôn, 'does dim gwaith pum munud eto, ac y mae'r gwrychyn yn ddigon tenau imi fynd trwodd yn y fan yma." A neidiodd i ben y clawdd, ac wed'yn i lawr, a disgyn ar ei draed a'i ddwylo i'r ffôs yn ochr y ffordd.
"Ar fengoch i!" meddai, dan gychwyn codi, "mi'r oedd y clawdd yn uw—. Brenin Mawr! Be" ebychodd Ifans, gan ymunioni yn sydyn ac ymwasgu mewn braw at y clawdd, oblegid o'i flaen, ychydig i'r dde, ac o fewn llai na chwellath iddo, clywai gyffro mawr, a gwelai fod rhywun mewn cerbyd yn ymdrechu yn galed i rwystro ceffyl wedi rhusio, rhag troi'n ei ôl; ymgodai a chrychneidiai'r ceffyl yn ei ddychryn, a chyn i Roberts sylweddoli beth a ddigwyddasai, dyma'r ceffyl a'r cerbyd heibio iddo fel mellten.
"Gwarchod ni!" ebe Ifans, "dyna ddihangfa; petaswn i wedi neidio trosodd rhyw lathen neu ddwy yn nes ymlaen, beth fuasai'r blwmin ceffyl wedi wneud—os dychrynodd o gymaint, a minnau wedi disgyn yn y fan yma?"
"Car yr hen Fwtsiar Mawr oedd o, ac ef oedd yn gyrru hefyd. Beth andros wnaeth iddo fo stopio'n y fan yma tybed? Mae'r hen Barri yna hyd y ffyrdd yma fel hunllef bob awr o'r nos, 'does dim digon o arian i'r cenau cybyddlyd gael. Yr oeddwn i'n meddwl bod fy lwc wedi dechrau yn rhy dda i ddal. Ddarfu iddo f'adnabod i tybed? Wel, mae'n rhaid imi fynd ymlaen efo'r busnes, beth bynnag, f'adnabod i neu beidio, ac nid oes gen' i ond gobeithio bod yr hen Hopcyn a'i Fartha wedi aros y cyfarfod; dyn a ŵyr, 'does arna' i ddim eisiau bod hyd y fan yma yn disgwyl am oriau iddynt fyned i'w gwlâu, a chysgu."
"Ydyw'r cig wrth law? O! ydyw, dyma fo, mi gaea hwn geg yr hen gi yna, os gwna rhywbeth; golwg hanner llwgu sydd ar y creadur, mae Hopcyn a'r wraig yn rhy gynnil i roi digon o fwyd iddo fo, ond o ran hynny, efallai na chlyw o mohono' i, mae cymaint o sŵn gan y ddrycin. Mae'n well imi roi'r masg yma am fy wyneb cyn mynd dim pellach, rhag ofn."
Cyrhaeddodd ffenestr y tŷ llaeth heb gyffroi'r ci, ac ym mhen ychydig iawn o amser, yr oedd wedi ei hagor ac ymwthio trwyddi. Safodd am ennyd ar lawr y tŷ llaeth, a gwrando yn astud.
"Mae cymaint o dwrw gwynt yma," meddai wrtho'i hun, "fel na chlywn i neb yn dyfod, nes byddai'n rhy ddiweddar, ond mae un cysur, 'chlyw neb mohonof innau ychwaith, ond ni wna hynny ddim gwahaniaeth—os tŷ gwag sydd yma."
Wedi cau'r ffenestr, teimlodd ei ffordd yn ofalus at ddrws y gegin gefn, yna trwyddo i'r lobi, a thua'r gegin orau; canfu fod y drws o'r lobi i'r gegin yn agored; ac nid oedd dim pelydryn o olau yn unman.
"Dyna fi'n sicr 'rŵan," meddai, "nad oes yma neb gartre, ac nad ydyw'r hen Hopcyn ddim wedi cadw tân yn unman ychwaith, a hithau yn noson mor wlyb-rhy gynnil eto, ond onibai am ei gynildeb, 'fuasai dim diben i mi ddwad yma ar y neges sy gen' i, hy!"
Erbyn hyn yr oedd Ifans yn prowla yn nhrorau'r biwrô a'r cwpwrdd llyfrau, oblegid yr oedd wedi cael cyfle ragor nag unwaith yn ei gysylltiad â Hopcyn, fel stiward, i gasglu lle y cadwai beth o'i arian.
"Ie, fel yr oeddwn i'n meddwl, dyma'i guddfan o," meddai, gan estyn bocs bychan o'r cwpwrdd a thywallt ei gynnwys i fag a ddaethai gydag ef, ac a grogasai wrth wregys am ei ganol, "ond ymh'le mae'r bag du, tybed? Yn hwnnw y byddai Hopcyn yn cadw'r bylc. Wel, siawns gen' i nad ydyw hi'n ddigon diogel imi olau matsen, petai ddim ond am eiliad."
Ac yn ei fflach, gwelodd y bag, ond cyn gynted byth ag y cododd ef, siomwyd Ifans yn ei bwysau.
"Mae'n rhaid," meddai, "fod Hopcyn wedi newid ei gudd-fan, mae ganddo ragor na hyn o lawer, ac mi awn ar fy llw mai yn y llofft o dan. Go dam!"
Y peth a barodd iddo ddweud "Go dam" oedd ei waith yn y tywyllwch yn taro llestr bach, a'i droi, nes bod ei gynnwys yn tincian ar y llawr teils. "Diolch," meddai, "na ddisgynnodd o ddim ar lawr a thorri." Goleuodd Ifans fatsen, a gwelodd nifer o sofrenni hyd lawr, a chododd hynny a welai, a'u rhoi yn ei boced. Goleuodd fatsen wedyn i wneud yn sicr nad oedd ychwaneg yn y cwpwrdd mewn rhyw lestr arall.
"Wel, am y llofft 'rwan," meddai, "ac mi 'rydw' i yn gwybod fy ffordd yn y tywyllwch heno cystal â phan oeddwn i'n byw yma—drwy drugaredd. Bychan a feddyliais y buaswn i'n dyfod yma ar fusnes fel hyn, byth."
Yr oedd partisiwn coed rhwng y grisiau a'r gegin, a drws yn cau arno, ac ni chafodd Ifans drafferth o gwbl i'w agor er ei fod yn gwichian tipyn. "Cynildeb yr hen Hopcyn eto," meddai Ifans, "rhy gynnil i brynu tipyn o oel." Cychwynnodd i fyny'r grisiau, ond pan oedd ei draed ar yr ail ris ac yntau yn estyn ei fraich o'i flaen i deimlo ei ffordd, cyffyrddodd yng nghoes rhywun.
Nid oes angen dweud i Ifans ddychryn trwyddo, ac ni bu ond y dim iddo yn y sioc, syrthio yn wysg ei gefn, ac wrth iddo geisio ei achub ei hun, cydiodd yn y goes. Ond ar hynny, ac yntau yn ei wendid, dyma berchennog y goes yn disgyn arno, nes bod y ddau yn rowlio bendramwnwgl ar lawr y gegin wrth droed y grisiau. Er bod Ifans yn hanner hurt gan y codwm, ni ollyngodd ei afael, ac yn reddfol, ceisiodd gael ei wrthwynebydd odano, a'i dagu, ond sylweddolodd ar unwaith fod rhywbeth yn llipa—ddiymadferth, ryfedd, ynddo. "Mae'n rhaid," meddyliai, "fod y godwm wedi ei gnocio all—."
Ond y foment honno, dyma fellten a tharan efo'i gilydd—heb eiliad rhyngddynt, nes bod twrw fel petai'r holl dŷ yn dymchwel yn garnedd, ond er yr holl dwrf, y peth a welodd Ifans yng ngolau'r fellten a'i parlysodd.
Ni ryfeddodd ddim mai Elis Hopcyn oedd y gŵr a orweddai odano, ond saethodd y fath ias o arswyd drwyddo, pan welodd, o fewn ychydig fodfeddi i'w wyneb ei hun, wyneb Elis, â'i ddau lygad di-fynegiant yn llydan agored, a'i dafod allan, a chortyn tyn am ei wddf.
"Y Nefoedd Fawr!" ochneidiodd Ifans, gan neidio i fyny fel petai rhywun wedi ei gyffwrdd â haearn poeth, a symud tua'r drws dan ddweud wrtho'i hun: "Wedi ei grogi ei hun wrth un o ffyn canllaw pen y grisiau, a phan gythrais i iddo i'm harbed fy hun rhag syrthio, mae'n rhaid bod y cortyn wedi datod neu dorri. Wel, mi fyddaf—Ust! Mae rhywun yn nrws y cefn."
A gellid clywed rhywun yn dyfod i mewn. "Mae'n rhaid nad oedd dim clo, a minnau heb wybod," sibrydodd Ifans, gan gilio y tu ôl i'r drws a arweiniai o'r gegin, gan ryw led obeithio y medrai lithro allan cyn i Mrs. Hopcyn fedru goleuo'r lamp: oblegid cyn gynted ag y daeth Mrs. Hopcyn i'r tŷ, clywai Ifans hi'n dyfod hyd y lobi, dan ofyn yn uchel: "Elis! ymh'le'r ydych chwi? Sut na fuasech chwi wedi dyfod i'r capel? Beth ydych yn ei wneud heb olau?"
Erbyn hyn yr oedd hi yn nrws y gegin, a gobaith Ifans y medrai ddianc heb iddi ei weld, wedi mynd yn wan iawn, oblegid cariai Mrs. Hopcyn lantern, ac yn ei golau gwan, gwelodd ei gŵr yn gorwedd wrth draed y grisiau, a rhoes waedd dros y lle.
Ceisiodd Ifans fanteisio ar ei gyfle, a llithro o'r tu ôl Mrs. Hopcyn drwy'r drws i'r lobi, ond yn ei frys, gwnaeth dipyn o dwrw.
Clybu hithau, a throes fel fflach, ond cyn iddi fedru ei weled, cydiodd Ifans ynddi, a gollyngodd Mrs. Hopcyn y lantern, a diffoddodd y gannwyll yn y godwm. Gollyngodd Ifans hi gan feddwl dianc, ond er dirfawr sioc iddo, daliai Mrs. Hopcyn ei gafael fel gelen, dan weiddi: "Mwrdwr! Mwrdwr!"
"Tewch ddynes!" ysgyrnygodd Irans, gan ail afael ynddi, "neu mi'ch tagaf chwi.
Ond ar hynny teimlodd hi yn gollwng ei gafael, ac yn llithro i lawr; gollyngodd yntau ei afael ynddi hithau, a suddodd Mrs. Hopcyn yn swp diymadferth wrth ei draed. Gwelodd Ifans ei bod mewn llewyg. "Diolch i'r Arglwydd," ochneidiodd, gan brysuro drwy'r drws ac i'r lobi, a thua chefn y tŷ. "Mae'n drugaredd," meddai, "y medraf fynd allan drwy'r drws, a diolch am gael llonydd gan yr hen gi yna."
PENNOD VII
CYSGOD ANGAU
WEDI cael allan, ac o'r iard, ychydig iawn a deithiodd Ifans hyd y ffordd fawr; aeth dros glawdd cyn gynted byth ag y gallodd, a chychwyn ar ei daith flinderus adre ar draws y caeau, drwy ganol y storm a'r tywyllwch.
Fel y gellir dychmygu, dywedasai amgylchiadau trychinebus y noson yn enbyd arno, ac er iddo, i ddechrau, deimlo rhydd-hâd mawr o fedru cael o Gae'r Pant heb i neb ei weld, cynyddai ei gyffro meddwl fwyfwy o hyd—"Mi 'rydw' i mewn trybini," meddai, "Duw â'm helpo. Beth yn enw'r Nefoedd sy'n mynd i ddigwydd yrŵan?" Yn y man, gwelai olau beisicl yn dyfod, a diolchai mai yn y cae y cerddai.
Wedi myned am tua milltir, gan na fedrai groesi Afon y Felin oblegid bod honno wedi codi'n uchel efo'r glawogydd—aeth drosodd o'r cae i'r ffordd fawr, ond cyn gynted a'i fod wedi troi o'r ffordd i'r lôn a arweiniai ohoni at Fryn y Felin, safodd yn stond-oblegid clywodd rywbeth yn union o'i flaen.
Safodd heb syflyd am rai eiliadau, ond buan y sylweddolodd fod cerbyd a cheffyl yn union o'i flaen, a gwyrodd yn araf i lawr, gan ochri'n ochelgar tua'r clawdd. Yn y man deallodd beth oedd yn myned ymlaen, ac anghofiodd ei helynt ei hun yn llwyr, a daeth arno ddigllonedd a chynddaredd enbyd. A phan oedd Roberts yn neidio i'r lôn, camodd atynt.
Cafodd y geiriau "Lladron defaid, aie" y fath effaith ar y lladron fel y safasant fel petaent wedi eu troi yn feini; a syfrdanwyd Ifans yntau, pan adnabu hwynt, ac am rai eiliadau, bu distawrwydd perffaith rhwng y tri.
Ac yn y distawrwydd hwn, daeth i feddwl Ifans y medrai gyfrif am ei drip byr gyda'r tren, trwy gymryd arno ei fod wedi amau'r lladron, ac meddai, "O! fel hyn mae deall pethau, aie? Roberts Tŷ'nymaes a Pharri y Bwtsiar Mawr—y ddau elyn cogio—felly'n wir! Clyfar iawn—ond dim digon clyfar os nad oedd neb arall wedi'ch amau chi, mi 'roeddwn i, a mi roesoch chwithau eich traed yn y trap yn ddel, eich dau. Pan welais i Richards yn y stesion ar y fath ddiwrnod, mi wyddwn y caech chi wybod, Parri, ac y meddyliech chi fy mod i wedi mynd i ffwrdd, ac mi ddarfu i chwithau lyncu'r abwyd—a'r bach hefyd. Gresyn ynte na buasech chi wedi cael gwybod yn gynt mai i stesion y Foel yr euthum i, a dim pellach. Mi wyddoch eich dau beth yw'r gosb am ddwyn defaid—a mi fydd transport yn rhy dda i chi o lawer."
"'Does dim posib' inni ddwad i ddeall ein gilydd, Ifans?" gofynnodd Roberts.
"Deall ein gilydd, y lleidr budr!" ebe Ifans. "Beth wyt ti'n feddwl ydw' i, dywed?"
"Wel, beth ydych am wneud," gofynnodd Parri, gan gyffwrdd yn Roberts, fel arwydd iddo fod yn ddistaw.
"Beth ydw i am wneud? Beth ydw' i am wneud, wir. Wel, mi ddyweda' i chi beth ydw' i am wneud. Mynd i'ch riportio chwi, a hynny y munud yma. Yr ydw' i wedi eich dal chi yn yr act, ac efallai y cawn ni esboniad yrŵan ar y dwyn defaid sydd wedi bod yn mynd ymlaen yn y cylchoedd 'ma i gyd, a sut y mae Parri'r Bwtsiar Mawr wedi dyfod ymlaen mor gyflym: mi 'rydw' yn mynd ar f'union at y plisman—Parri'r Bwtsiar Mawr wir—Parri'r Lleidr Mawr, fydd pobl yn eich galw o hyn allan."
Ac â'r geiriau hyn, seliodd Ifans ei dynged, oblegid nid gŵr oedd Parri i betruso cymryd mesurau eithafol, pan fyddai galw am hynny. Gwyddai yn eithaf da na fedrai fforddio i adael i Ifans fynd a dweud wrth y plisman, hyd yn oed pe rhôi'r defaid yn y cae yn eu hôl a mynd adre, a thaeru Ifans yn ei ddannedd ei fod yn llunio celwyddau, a chael gan Roberts yntau daeru na welsai efe Parri'r noson honno, heb sôn am fod yn gyd—leidr ag ef. Na, a chaniatáu y methai Ifans â phrofi ei gyhuddiad, ni fedrai Parri fforddio cael ei gyhuddo o gwbl, gan mai ar ei safle, a'i ryddid perffaith oddiwrth amheuaeth y seiliasai ei dwyll. Heblaw hynny—unwaith y cyhuddid ef—byddai'r plismyn yn sicr o ddechrau holi a phrowla—ac er ei holl ofal, beth petai wedi esgeuluso rhywbeth. Pethau bychain oedd yn crogi pobl—a beth pe dechreuent chwilio i'w orffennol—a'i holi, byddai'r cortyn am ei wddf. Felly, gwnaeth ei feddwl i fyny ar unwaith. "Wel, Ifans," meddai, "mi'r ydych yn gwneud camgymeriad mawr, ac y mae dwy ochr i bob stori, ond, os ydych yn benderfynol na wrandewch chi mo'n hochr ni, os ydych am fynnu reportio'r peth, mi ddown ni hefo chwi." A rhoes bwniad i Roberts, a sibrwd, "Gedwch chi bopeth i mi, a gwneud yn union fel y dyweda' i."
"Waeth inni roi'r defaid yn eu holau ddim, Roberts," ebe Parri yn uchel, "O ran hynny, beth sydd i'n rhwystro ni eu rhoi yn eu hôl a mynd adre, a gadael iddo fynd efo'i stori at y plisman? Pwy coeliai o, Roberts? 'Does ganddo ddim tyst, ac y mae dau ohonom ni."
Am foment, daeth tipyn o bryder ar Ifans, ond meddai, "Gwnewch chi fel fynnoch chi, ond mi 'rydw' i yn sicr ohonoch chwi ac wedi clywed fy stori i, mi fydd yn rhaid i'r polîs chwilio eich paciau chi, ac efallai na liciwch chi mo hynny; ond 'chewch chi ddim ymadael â mi mor hwylus â hynny chwaith, mi'ch dilynaf chi bob cam i'r Dre, gwnaf myn cythra'l,—na mi wnaf yn well na hynny,—mi redaf i Dŷ'n Lôn, a mi gaf gan un o'r hogia' eich dilyn chi efo beic."—
"Arhoswch Ifans," meddai Parri, "fel y dywedais i, mae dwy ochr i bob stori"—
"Does dim dwy ochr i hon beth bynnag," ebe Ifans, "yr ydw' i'n mynd, gwnewch chi fel y mynnoch chwi."
"Wel, mi ddown ninnau efo chi," ebe Parri, "i ddweud ein hochr ninnau. Ymh'le y medra' i droi'r fflôt yn ei hôl, Ifans? Mae hi'n rhy gul yn y fan yma."
"P'am na fagiwch chi i'r lôn fawr ynte?" gofynnodd Ifans. "Dyna un peth na wna'r ceffyl 'ma ddim; mae o wedi cael cast."
"O! wel, mae yna ddigon o le draw gyferbyn â'r llyn," ebe Ifans. A chychwynasant.
Tywysai Parri'r ceffyl, a cherddai Roberts wrth ei ochr, dan sibrwd, "Dyma hi wedi darfod arnom ni."
"Byddwch yn ddistaw," sïodd Parri yn ei glust, "a gwnewch chi'n union fel y byddai i'n dweud wrthych."
Cerddai Ifans o'r tu ôl, a chai dipyn o foddhad wrth feddwl am y cynnwrf a ddilynai dadlennu hanes Parri a Roberts yn dwyn defaid: "Mi gaiff pobl rywbeth i siarad amdano," meddai wrtho'i hun, heblaw am Ifans Bryn Mawr a'i helyntion: nid fi fydd yr unig un i fynd i'r cwat ar fengoch i—diain innau! mi gaiff y ddau y bai am dorri i mewn i Gae'r Pant, os cyfyd rhyw amheuaeth—cânt, fel mae byw fi! Mi fydd . .
Ond ar hynny, torrwyd ar ei fyfyr boddhaus; yr oeddynt wedi cyrraedd y lle llydan gyferbyn â Llyn y Felin, a Pharri wedi cychwyn troi y ceffyl tuag at Ifans. Yna, yn hollol ddirybudd, a chyn i Ifans ddychmygu bod dim yn mynd i ddigwydd, gollyngodd Parri ben y ceffyl, camodd tuag ato a chodi ei fraich; teimlodd Ifans rywbeth yn cipio ei anadl, ac yntau yn mygu, a chollodd bob gwybodaeth amdano'i hun, a disgynnodd yn llonydd ar lawr.
"Be-th wnaethoch chi iddo, Parri?" gofynnodd Roberts yn syfrdan.
"Nid amser i ofyn cwestiynau ydyw hi," atebodd Parri, "yr ydym wedi siarad gormod yn barod, a dyna'r pa'm y daeth o ar ein gwarthaf heb inni ei glywed. Rhwymwch y rêns yn y giât yna, rhag i'r ceffyl ddianc, estynnwch gortyn o ben y fflôt, a dowch yma."
Ac unwaith eto, wele'r ymladdwr peryglus, a'r lleiddiad dyn, yn oruchaf, a'r parchusrwydd a wisgasai Parri am ddeu-ddeng mlynedd yn syrthio oddi wrtho megis mantell, a phrin y credai Roberts, mai'r un un ydoedd.
Gwyliai Parri Ifans fel bwystfil yn gwylio ei ysglyfaeth, a phan ddechreuodd Ifans ddyfod ato'i hun, plygodd uwch ei ben, a dechrau gwthio cadach i'w enau. "Rhwymwch chwithau ei freichiau o'r tu ôl, Roberts," gorchmynnodd, "a gofalwch na fyddwch chi ddim yn arw efo fo, 'does arnom ni ddim eisiau mymryn o ôl arno, cofiwch—ei draed o eto."
Ar hynny cychwynnodd Ifans roi gwaedd, ond mygwyd hi gan y cadach.
"Beth ydych chi am wneud efo fo, Parri?" sibrydodd Roberts.
"I symud o dipyn draw," atebodd Parri, "gafaelwch chi yn ei draed, mi gymeraf innau ei ysgwyddau." Ac er gwaethaf ymdrechion Ifans, cychwynasant ei gario; ond ar hynny dyma dinc sofrenni lawer yn disgyn o'i boced. "Duw annwyl!" ebe Roberts, "mae o'n colli ei bres, "a gollyngodd ei goesau ar hynny, a phlygu i chwilio am yr arian.
Drwy fawr ymdrech, yr oedd Ifans erbyn hyn wedi cael peth o'r cadach o'i enau, ac meddai, "Gwrandewch am funud, mi af ar fy llw, na ddyweda' i'r un gair o'm pen am hyn os gollyngwch fi, mor wir â bod Duw yn y Nefoedd."
Heb gymryd arno ei glywed, gwthiodd Parri'r cadach yn ddi-stŵr i'w geg yn ôl, ac meddai wrth Roberts yn dawel: "Codwch o."
"Ond beth ydych chi am wneud ag o?" gofynnodd Roberts drachefn, ac amheuaeth a phryder yn ei dôn.
"Yr oeddwn i'n meddwl eich bod wedi deall erbyn hyn," atebodd Parri ar fin y llyn. A sylweddolodd Ifans druan ei bod hi wedi darfod arno, a chrychneidiodd mewn dychryn a braw.
"Y Nefoedd fawr! 'dydych chi ddim yn mynd i'w foddi?" ebe Roberts, "chewch chi mo'm help i i wneud hynny ar fen'd i."
"Roberts," meddai Parri yn dawel, " 'does dim arall amdani hi. Os gollyngwn ni o, mi fydd ar ben arnom ni, ond os boddwn ni o, dim ond ei ddal o dan y dŵr yn y lle bas yma, mi wnaf i, os oes arnoch chi ormod o ofn; wed'yn mi awn â fo at y wal uwch ben y lle dwfn acw, a'i ddatglymu o a'i daflu o i'r llyn, a phan geir hyd iddo, wedi ei foddi ei hun y bydd o wrth gwrs: mae'r peth mor syml ag A.B.C., ac yn berffaith ddiberygl. Dowch."
Siaradai Parri yn hollol ddigynnwrf, heb drafferthu i ostwng ei lais rhag i Ifans ei glywed ef, ac fel y deallai Ifans beth oedd ei dynged i fod, âi drwy ingoedd annirnadwy, a gwelai pan edrychid i mewn i'w amgylchiadau a darganfod ei dwyll, y pasiai'r rheithwyr yn hollol naturiol, mai ei ddiweddu ei hun a wnaethai i osgoi y canlyniadau, ac mewn un ymdrech ofnadwy, cafodd ychydig o'r cadach wed'yn o'i enau. "Hogiau annwyl!" ochneidiai, "er mwyn y Nefoedd, gwrandewch. Mi arbedaf i i chi roi cortyn am eich gyddfau. Yr ydych eich dau yn berffaith ddiogel; 'feiddia' i ddim achwyn arnoch, a phan glywch chi beth sy' gen' i i'w ddweud, mi welwch mai fi fydd at eich trugaredd chwi, ac nid chi at fy nhrugaredd i. Roberts, teimlwch fy mhocedi i. 'Glywch chwi'r pres yna? Tynnwch y bag yna o boced fy nghesail i hefyd. Yr ydw' i wedi gwneud peth llawer gwaeth heno na dwyn defaid."
Erbyn hyn yr oedd Roberts wedi teimlo sofrenni lawer yn ei bocedi, ac wedi agor y bag, ac yn edrych yn hurt ar y masg, dan wrando yn syfrdan ar Ifans, wrthi yn dweud ei hanes yn torri i mewn i Gae'r Pant, a'i brofiad brawychus efo'r corff.
Ni ddywedodd Parri air.
"Peth arall hefyd, Mr. Parri," ychwanegodd Ifans, "mi'm gwelsoch chwi fi'n ymyl Cae'r Pant, neu o leiaf mi'ch gwelais i chi. Duw'n unig ŵyr gymaint o fraw a gefais i pan neidiais i i'r ffordd, bron ar gefn eich ceffyl chi yn y tywyllwch.
Dim gair gan Parri wed'yn, er bod Roberts wedi rhoi pwniad iddo ragor nag unwaith.
"Goleuwch fatsen," ebe Ifans, "mi ddeil yn olau yn ddigon hir i chwi weld beth oedd gen' i am fy wyneb.
"Ond," gofynnodd Roberts, "i beth yr oeddech chi yn torri i mewn i Gae'r Pant o gwbl? Mae hi'n iawn arnoch chi."
"Iawn?" ebe Ifans yn chwerw. "Gresyn na buasai hi, petaech chi ddim ond yn gwybod, yr ydw'i mewn twll ofnadwy." A dechreuodd ddweud hanes y rhenti.
"Oedd Huws, Tŷ'r Meirch, yn un ohonynt?" gofynnodd Parri.
"Oedd," ebe Ifans, "p'am yr ydych yn gofyn?"
Ond yr oedd Parri wrthi yn ei ryddhau eisoes. "Roberts," meddai, "rhowch ei bethau yn ôl iddo fo."
Petrusodd Roberts.
"Dweud yr oeddwn i, Roberts," ebe Parri, â rhyw oerni iaol yn ei dôn, "am i chi roi pethau Ifans yn ôl iddo. Ac wedyn datglymwch rêns y ceffyl." Ac ufuddhaodd Roberts, dan fwmian rhywbeth.
Cyn gynted ag y cychwynnodd, sibrydodd Parri wrth Ifans, ""Does dim angen dweud wrthych am gadw hyn yn ddistaw, ai oes? . . . Mwy nag wrth Roberts na minnau, wrth gwrs.
Dowch chi acw ddeg o'r gloch nos dradwy, mi fydd y cwest wedi bod erbyn hynny, mi geis . . ." Ond cyn iddo orffen, yr oedd Roberts wedi cyrraedd.
"Mi gefais i'r ddwy sofren yma wed'yn," meddai Roberts, yn sorllyd, "eu clywed nhw'n tincian dan fy nhraed i ar y cerrig; hwdiwch Ifans."
"Mi ddadlwythwn ni'r defaid yrŵan Roberts," meddai Parri.
"Na," ebe Ifans, "waeth i chi fynd â nhw ddim, 'fydd hynny golled yn y byd imi, nid y fi piau nhw."
"Na," ebe Parri, gan eu gollwng. A heb ddweud yr un gair wrth Ifans, troes ben y ceffyl tua'r ffordd fawr, a chych-wynnodd dywys y ceffyl, a Roberts wrth ei sawdl.
"Diawl," meddai Roberts, "mi ddylem fod wedi gofyn iddo rannu efo ni; mi fedrwn i wneud hefo tipyn o'r sofrenni, os na fedrech chi, a 'fuasai waeth inni fod wedi cymryd y defaid ddim."
"Mae gennych chi dipyn i'w ddysgu eto," oedd ateb sychlyd Parri.
"Brenin Mawr! 'Fuasech chi ddim wedi ei foddi o, o ddifrif, Parri?"
"Buaswn," ebe Parri mewn tôn a yrrai ias drwy Roberts. "Wel, p'am y darfu i chi ei ollwng mor ddi-lol ynte, heb gymaint â'i rybuddio fo i gadw ei geg yn gaead ynte?" gofynnodd Roberts.
Ar hynny stopiodd Parri y cerbyd, a chan droi at Roberts, meddai, "Does dim eisiau rhybuddio Ifans, ond Roberts, yr ydw i'n eich rhybuddio chi yn ei le. Nos dawch."
A neidiodd Parri i'r cerbyd, ac ymaith ag ef.
"Ie, dôs y llofrudd," ysgyrnygodd Roberts, ond yn llawer rhy ddistaw i Parri ei glywed, "mi fuasai'n dda gan f'enaid i petaswn i 'rioed heb dy weld ti—y clyfar ei hun. Ond aros di 'ngwas i,—efallai nad wyt tithau ddim wedi dysgu popeth chwaith!"
PENNOD VIII
HUNLLEF IFANS
SAFODD Ifans Bryn Felin yn ei unfan nes i'r fflôt fynd i'r lôn fawr, cyn sylweddoli ei fod yn wlyb at y croen, a throes yn araf tua'r tŷ. Nid oedd y wraig weddw a gadwai dŷ iddo, gartre'r nosweithiau hynny—gan fod ei chwaer-yng-nghyfraith yn wael iawn, ond yr oedd wedi gadael tân oer yn y gegin yn barod at y bore. Wedi cyrraedd y tŷ, er mor hwyr ydoedd, rhoes Ifans fatsen ynddo. Llyncodd gropar o wisgi ac aeth i newid ei ddillad.
"Mi ddylwn wneud tamaid i mi fy hun," meddai, "ond 'fedrwn i fwyta dim. A waeth imi heb â mynd i 'ngwely 'chwaith—'chysgwn i 'run winc petaswn i yn mynd." Ac eisteddodd i lawr o flaen y tân, a photel wisgi a gwydryn wrth ei benelin. "Brenin Mawr!" meddai, "mi 'rydw' i wedi mynd iddi hi, ond 'doedd dim arall i'w wneud, mi fuasai Parri wedi gwneud diwedd arna' i, mor wir â'm bod i ar y gadair 'ma. 'Rydw' i'n lwcus iawn nad ydw' i ddim yn y farn. Pwy fuasai'n meddwl bod yr un o'r ddau ar y gêm yna, heb sôn bod y ddau yn bartneriaid? Ond o ran hynny, pwy fuasai'n meddwl fy mod innau'n lleidr? 'Does dim posib' gwybod pwy ydyw neb o ran hynny. Gaean' nhw'u cegau tybed? P'run bynnag wnân' nhw ai peidio—mi fyddaf i'n y ddrag cyn bo hir. Mae Huws Tŷ Meirch wedi dechrau amau yn barod! Dyna ddechrau'r diwedd." A thywalltodd gryn chwarter glasiad o wisgi wed'yn, a'i lyncu, ac ail ddechrau pendroni uwchben ei broblemau.
O'r diwedd syrthiodd i gwsg anesmwyth, gan ail fyw mewn breuddwydion, helbulon y noson.
Bu farw chwaer-yng-nghyfraith Mrs. Huws, ei howscipar, un o'r gloch y bore; a thua chwarter wedi chwech cychwynnodd hithau am Fryn y Felin i gynnau tân, ac i wneud brecwast, er y gwyddai na fyddai ei meistr gartre, gan iddo ddweud wrthi ei fod yn mynd i Birmingham. Gwaith rhyw chwarter awr oedd o dŷ ei chwaer-yng-nghyfraith i Fryn y Felin, ac yr oedd yn dywyll ac yn bur ystormus o hyd. Gofidiai wedi iddi gychwyn, ac fel y dynesai at lecyn trymllyd wrth Fryn y Felin, lle tyfai coed derw tywyll, a'r ddrycin yn rhuo yn eu brigau, na buasai wedi derbyn cynnig ei brawd i ddyfod i'w danfon, oblegid yr oedd gweld ei chwaer-yng-nghyfraith yn marw wedi effeithio gryn dipyn arni.
Yr oedd ganddi hi a'i meistr allwedd, ond pan gyrhaeddodd y drws, er ei syndod, gwelodd fod agoriad yn y clo'n barod. "Fe gafodd meistr sbario mynd i ffwrdd wedi'r cwbl," meddai, "mae'n dda fy mod i wedi dwad, ond peth rhyfedd iddo fo anghofio tynnu'r agoriad." Ac agorodd y drws mor ddistaw ag y medrai, a mynd i mewn.
Gan nad oedd y wawr wedi torri, a bod y gannwyll wedi hen losgi allan, yr oedd hi'n hollol dywyll yn y gegin, ond gwyddai lle y gadawsai'r blwch metsis ar y bwrdd, a cherddodd at y bwrdd i'w estyn; ond wrth ymbalfalu yn y tywyllwch, yn lle rhoi ei llaw ar y blwch, rhoes hi ar ben Ifans, a neidiodd yn ôl mewn braw gan roi sgrech arswydlon.
A'r un foment, neidiodd Ifans yntau i fyny hefyd, yng nghanol hunllef—oblegid y foment y cyffyrddodd llaw Mrs. Huws â'i ben, yr oedd Ifans, yn ei freuddwyd, yn ymdrechu â Roberts a Pharri ar fin y llyn.
"Foddwch chi mohono'i, na wnewch myn d—1," meddai, gan gythru i Mrs. Huws, ond deallodd mai mewn dynes y gafaelai, a gwaeddodd, "Martha Hopcyn! Caewch eich ceg neu mi'ch tagaf chi"; ac ar hynny sylweddolodd mai yng nghegin Bryn y Felin yr oedd, ac mai yn ei hows-cipar y gafaelai-a gollyngodd hi fel petasai'n golsyn coch.
Aeth Mrs. Huws i sterics dychrynllyd, a chafodd Ifans druan drafferth fawr i'w chael ati ei hun hefyd—a'r bore hwnnw, ef, ac nid yr howscipar, a baratôdd frecwast.
Braidd yn gloff oedd stori Ifans wrth Mrs. Huws, ddarfod iddo gael gair i beidio â mynd i ffwrdd y noson cynt, ac iddo, pan ddaeth adre, glywed twrw yn y beudy, a gweled bod rhyw gam-hwyl ar un o'r gwartheg, a phenderfynu aros ar ei draed am dipyn, ond ei fod wedi syrthio i gysgu a chael hunllef; a pharodd cwestiwn Mrs. Huws anesmwythyd mawr iddo.
"Efo Martha Hopcyn, Cae'r Pant, yr oeddech chi'n breuddwydio, meistr?"
"Martha Hopcyn, Cae'r Pant! Brenin Mawr! nage. Beth wnaeth i chi feddwl hynny?" gofynnodd Ifans yn wyllt.
"Wel, gweiddi ei henw hi wnaethoch chi, meistr."
"Gwarchod pawb, nage!
Chi sydd wedi gwneud camgymeriad, Mrs. Huws, yn siwr i chi."
"Wel, ie wir . . . dyna . . .' Ond torrodd Ifans ar ei thraws, a dweud, "Yr ydych wedi cynhyrfu Mrs. Huws, 'soniwn ni ddim rhagor am y miri yrŵan."
Brecwast bychan iawn a wnaeth Ifans, a Mrs. Huws, hithau, o ran hynny, ac aeth Ifans allan yn fuan iawn, fwydo'r anifeiliaid. Daeth yn ôl yn y man, ac meddai, "Mrs. Huws, mi'r ydych chwi wedi cael amser caled ers dyddiau, a 'fuoch chi ddim yn eich gwely o gwbl neithiwr, efallai y buasech chi'n licio mynd i orffwys."
"Na, meistr," meddai hithau, "ond os medrwch chi fy sbario i, mi fuaswn yn licio mynd i helpu tipyn ar fy mrawd."
"Ar bob cyfrif, Mrs. Huws," meddai yntau, yn falch iawn o feddwl y cai ef fod ei hun y diwrnod hwnnw; a phrin yr oedd Mrs. Huws wedi mynd, nad oedd Tomos Edwart, Tyddyn Isa', ym Mryn y Felin mewn tymer ddrwg iawn.
"Ifans," meddai, "dyma'r tro diwethaf i mi ddwad yma i gwyno ynghylch eich hen ddefaid chi, os na chedwch chi nhw, mi rof y cwn arny' nhw, a mi gân' eu gyrru mor bell fel na ddowch chi ddim o hyd iddyn' nhw tu yma i angau 'chwaith.'
A threuliodd Ifans y bore i gyd, a rhan helaeth o'r pryn-hawn yn chwilio am y defaid a yrasid ar ffo, gan gi Roberts, y noson cynt. Ac yn rhyfedd iawn ni welodd neb a oedd wedi clywed am helynt Cae'r Pant.
Eithr pan oedd yn troi o'r ffordd fawr i'r lôn a arweiniai. at Fryn y Felin—yn union yn y fan y daethai ar draws y lladron y noswaith cynt, pwy welai ond Roberts—a'r peth cyntaf a ddywedodd oedd: "Y postman gwelodd o, Ifans."
"Gweld beth?" gofynnodd Ifans.
"O'r Tad! fel yna 'rydych chi—ond yr hen Hopcyn, siwr iawn, â'i dei am ei wddf." A gwingodd Ifans.
"Unarddeg bore yfory y mae'r cwest."
"Ie?" meddai Ifans yn gwta.
"Mae'n debyg mai noson dipyn yn ddi-gwsg gewch chi heno Ifans, ond mi fydd yr arian yn dipyn o gysur i chi," meddai Roberts, ac ychwanegodd yn wamal-" "Does dim i chi wneud ond gweddïo am i'r crwner a'r rheithwyr gael yr 'arweiniad' yfory. Ha! Ha!"
Ac ymaith ag o ar hynny.
"Mi fuasai'n well gen' i drystio Parri—er mor beryglus ydyw hwnnw, na'r cenau yna," meddai Ifans wrtho'i hun, dan fynd adre'n bur anesmwyth ei feddwl
PENNOD IX
A BREUDDWYD EI HOWSCIPAR
YR oedd Roberts yn ei le, di-gwsg a di-orffwys a fu'r noson honno i Ifans, ac er iddo godi'n fore a mynd allan, nid aeth ymhell iawn, ac osgoai bawb o'i gymdogion a welai drwy'r bore, er ei fod yn methu â byw yn ei groen bron, eisiau gwybod sut yr oedd pethau'n mynd ymlaen.
Tua dau, aeth ei bryder ynghylch y cwest yn ormod iddo, a phenderfynodd fynd i dŷ cefnder iddo a oedd yn byw rhyw filltir a hanner o Gae'r Pant, ac a oedd yn lled sicr o fod wedi ei alw i'r cwest. Ac ni siomwyd ef; yr oedd Edwart Dafis, ei gefnder, ar y cwest, ac fel y mynnai pethau fod, newydd ddychwelyd adre, ac yn llawn o'r hanes. Llamodd calon Ifans, pan glywodd mai dedfryd y cwest oedd mai gwneud diwedd arno'i hun, ag yntau allan o'i bwyll, a wnaethai Hopcyn. Ymddengys bod Hopcyn wedi cael newydd drwg y prynhawn hwnnw—y banc yn syrthio arno am ddau gant o bunnau, oherwydd methdaliad mab i chwaer iddo, yr aethai Hopcyn yn feichiau drosto, a bod hynny wedi ei yrru i'w ddiweddu ei hun.
Ond cyn iddo gael cyfle i ddweud rhagor, galwyd ar ei gefnder at ryw fusnes neu'i gilydd. "Peidiwch â mynd oddiyma nes dof yn ôl, cofiwch," meddai wrth Ifans, "yr ydych yn ŵr mor ddieithr fel na byddwn ni byth yn cael sgwrs, ond gan eich bod chi wedi dwad, 'chewch chi ddim mynd nes inni gael tipyn o'ch cwmni chi."
Felly arhosodd Ifans i de, ac yr oedd hi bron yn hanner awr wedi chwech cyn i'w gefnder ddyfod yn ôl, ac yntau a'r plant wedi cael hwyl fawr efo'i gilydd drwy'r prynhawn. Yn y man medrodd Ifans arwain ei gefnder at y cwest drachefn.
"Y mae un peth," meddai Dafis, "yn peri tipyn o ddyfalu. Sut na fuasai yno rywfaint o arian yn y tŷ. Fe ddylai y rhent fod yn y tŷ gan i Ellis Hopcyn druan ei chodi o'r banc rai dyddiau'n ôl, ond 'does neb wedi ei gweld hi, ond y mae'n sicr y medr Mrs. Hopcyn daflu goleuni ar y peth, os daw ati ei hun. Ond dal yn wael iawn y mae hi o hyd, ac wedi colli ei lleferydd yn llwyr. Tybia rhai fod Hopcyn wedi cuddio'r rhent yn rhywle, gan yr arferai guddio pres yn y lleoedd rhyfeddaf, a hynny heb i'w wraig ei hun fod yn gwybod; ef gadwai y pres, a byddai'n rhaid i Mrs. Hopcyn ofyn iddo am bob dimai. Gresyn na fedrai Mrs. Hopcyn roi ei thystiolaeth, gan fod yn debyg y gallai hi egluro tipyn, ond golwg dipyn yn anobeithiol a gymer y meddyg lleol ar ei hachos, ond y mae'r polîs wedi gyrru am ddoctor mawr o Lerpwl, sydd yn awdurdod ar y parlys, i ddyfod i'w gweld, ac i edrych a fedr hwnnw wneud rhywbeth iddi fedru siarad." Ar hynny cofiodd Ifans yn sydyn nad oedd neb gartre, a bod ei howscipar yn nhŷ ei brawd; ac er holl berswadio ei gefnder a'i wraig a'i blant, mynnodd Ifans gael mynd.
"Beth ydyw meddwl pobl yn dweud bod eich cefnder wedi mynd yn ŵr mawr ar ôl cael ei wneud yn stiward i Syr William?" meddai gwraig Dafis wrtho ar ôl i Ifans fynd, "Welais i 'rioed mohono ddim cleniach a mwy cartrefol na heddiw, ac yr oedd y plant wrth eu bodd efo fo."
"Wel, ie, wir," meddai ei gŵr, "ac y mae un peth yn sicr, 'welais i erioed mohono mor glên efo mi, er pan gafodd o'r job beth bynnag,—o ran hynny, 'welais i fawr arno o gwbl, na chlên na fel arall. Beth wnaeth iddo fo ei chodi hi mor sydyn tybed, ar ganol ei sgwrs?"
"Ond cofio wnaeth o debyg iawn nad oedd neb gar—." "Am ei fod o wedi ymgolli cymaint yng nghysuron ein cartre' bach cyffredin, a'n cwmni diddan ni-'choelia'i fawr. Na, mi 'rydw' yn ei adnabod yn ddigon da i fethu llyncu hynna.
Beth andros oedd arno eisiau yma i ddechrau tybed?"
Ac meddai Ifans, yntau, wrtho'i hun ar ei ffordd adre: "Tybed 'y mod i wedi llawenychu yn rhy fuan? Yr oeddwn i'n ofni, pan glywais i'r ddedfryd, fod pethau'n mynd ymlaen yn rhy hwylus. Wel, beth bynnag a ddigwydd, mae hyn yn sicr, ni chaf fy nghyhuddo o'i grogi o 'rŵan, a dyna'r peth mawr."
Pan gyrhaeddodd Ifans, gwelodd ar unwaith fod Mrs. Huws wedi bod gartre, oblegid yr oedd y llestri swper wedi eu hestyn, a'r bwrdd wedi ei osod, a nodyn yn dweud ymh'le'r oedd popeth, ac y byddai hithau yn ei hôl wyth o'r gloch.
"Mi fydd yma gyda hyn," ebe Ifans wrtho'i hun, gan ddechrau bwyta, "a mi fyddaf wedi gorffen cyn y daw hi, a rhaid imi gychwyn tua'r naw yma i weld Parri eto; deg ddywedodd o ynte? Beth ydyw ei—."
Ond ar hynny cyrhaeddodd Mrs. Huws, a chyn iddi dynnu ei chôt na'i het, gofynnodd: "Glywsoch chi am Ellis a Martha Hopcyn, meistr?—Wel, am beth rhyfedd i chi freuddwydio efo nhw, a gweiddi eich bod am dagu Mar—."
Gwthiodd Ifans ei gadair yn ôl yn sydyn, ac meddai'n chwyrn ar ei thraws: "Wnes i ddim breuddwydio efo nhw—sawl gwaith y mae'n rhaid imi ddweud hynny wrthych chi? 'Wn i ddim beth roes y fath syniad gwirion yn eich pen chi, a gorau po gyntaf i chwi ei gael oddi yno hefyd."
"Do, wir, meistr, mi ddâr—."
"Naddo, meddaf innau," ebe Ifans, gan godi ar ei draed yn wyllt, "a chymerwch chi ofal na ddywedwch chi mo'r fath beth wrth neb—Brenin Mawr! 'dydych chi ddim wedi dweud yn barod gobeithio? Y?"
"Do," meddai Mrs. Huws, yn bur gynhyrfus, "mi ddywedais wrth fy mrawd, yr oeddwn i'n ei weld o'n beth mor ryfedd i chi freuddwydio efo Martha."
"Wnes i ddim breuddwydio efo hi, ddynes," gwaeddodd Ifans, "yr ydych
Wrth bwy arall y dywed'soch chi?"
"W-wrth neb," ebe Mrs. Huws yn grynedig, "ond—ond wrth Roberts, Tŷ'n
"Beth!" gwaeddodd Ifans, yn gynddeiriog erbyn hyn, "Wrth Roberts Ty'nymaes. Be' ddiawl wnaeth i chi ddweud wrth—. Lle gwelsoch chi hwnnw?"
Ond yr oedd Mrs. Huws wedi torri i lawr yn lân erbyn hyn, ac yn botymu ei chôt.
"I ble'r ydych chi'n mynd?" gofynnodd Ifans.
"Yr yd-ydw'i yn mynd o-odd-oddiyma," ebe'r hows-cipar dan ochneidio, "wn-wna' i ddim ar-aros yma i ga-gael fy miwsio fel hyn."
Sylweddolodd Ifans ei fod wedi gwneud camgymeriad mawr.
"Rhaid i chi faddau imi, Mrs. Huws, 'doeddwn i ddim yn meddwl dim ond—rhwng popeth—yr ydw' i ymhell o fod yn teimlo yn dda, gweithio yn rhy galed—fel y gwyddoch chi—mae arnaf ofn yn fy nghalon fy mod i am gael nervous breakdown—a gwaith mawr o flaen diwrnod y rhenti a—a."
""Fedra' i ddim dioddef i chi fod yn frwnt efo mi," meddai Mrs. Huws, gan gychwyn tua'r drws, ac ail-ddechrau crio, "a 'fedra' i ddim meddwl am aros yma ar ôl hyn."
Gwelodd Ifans fod yn rhaid iddo wneud rhywbeth i'w rhwystro hi ei adael, a thaenu stori'r breuddwyd hyd yr ardal, ac fel y darfu iddo neidio i'w gwddf a'i galw yn Fartha Hopcyn, ac yn ei arswyd wrth feddwl am ganlyniadau hynny, pen-derfynodd nad oedd dim ond un peth amdani, ac meddai,
"Fedraf innau, Mrs. Huws, ddim meddwl am i chwithau fy ngadael innau 'chwaith."
A gafaelodd yn ei braich yn dyner, hynny ydyw, mor dyner ag y caniatâi ei gyffro iddo. Ond rhyw geisio agor y drws yr oedd yr howscipar, er hynny, a dal i grio, yn wir crio mwy—os yr un.
"Mrs. Huws," meddai Ifans, "'rhoswch yma, yr—yr ydw' i wedi meddwl gofyn i chwi laweroedd o weithiau ond—ond rhywfodd yr oeddwn ni'n rhy swil."
A rhoes ei fraich am Mrs. Huws, a'i thynnu yn ôl i'r gegin. "Os na wnewch chi aros yma'n howscipar, a wnewch chi aros yma yn wraig, ynteu?"
Ar hyn, torrodd Mrs. Huws i lawr yn lân, a throes ato, gan blygu ei phen ar ei fynwes, "O! Mr. Ifans bach annwyl, mi fu bron i chi â thorri 'nghalon i, do yn wir; a min—minnau— "
"Ie siwr, ie siwr," ebe Ifans, "ond mae popeth yn iawn yrwan. Peidiwch chwithau â chrio, a mi arhoswch chwithau yma, oni wnewch, a mi anghofiwn ni bopeth am helynt y breuddwydio a'r hen Hop—y—hynny ydyw, y—y—
"Wel, wn i ddim am hynny," meddai hithau cyn i Ifans fedru myned ymlaen, a'i llygaid yn gloywi mewn tipyn o ddireidi drwy ei dagrau,—ond wrth weled y cwmwl yn dyfod drachefn i wyneb Ifans, ychwanegodd, "heblaw am yr hen Hopcyn 'fuasem ni ddim fel hyn, a fuasem ni? Hi! Hi!"
"Na, na fuasem—na fuasem siwr," meddai Ifans, dipyn yn anghyfforddus, ond gan wneuthur ymdrech deg i ymddangos yn serchog, ac i anwylo tipyn arni, "ond—ond—
"Ond," meddai Mrs. Huws, "mi anghofiwn ni am y breuddwydio, ynte?"
"Ie siwr, ie siwr," meddai Ifans mewn rhyddhad mawr, "ond beth oedd neges Roberts, Tŷ'nymaes, Mrs. Huws?"
"O! peidiwch â ngalw i'n Mrs. Huws, hynny ydyw, pan na fydd yma neb ond ni'n dau," meddai hithau, ac mewn tôn garuaidd ychwanegodd, "Galwch fi'n Annie."
"Olreit ynte—wna' i ddim—y—hynny ydyw—gwnaf, ydw' i yn feddwl."
"Beth—galwa' i chi, dwedwch," gofynnodd Mrs. Huws, gan wrido fel geneth swil "'wna hi mo'r tro imi'ch galw chwi'n Mr. Ifans. Beth am Ifans am dipyn yn y dechrau 'ma-a Johnnie wedy-
"Duw annwyl, nage—peidiwch a 'ngalw i'n hynny," meddai Ifans.
"Wel, John, ynte?"
"Ie," ebe Ifans, "ie siwr—ond pryd yr oeddech chwi'n dweud bod Roberts wedi galw yma?"
"Wel, 'fedraf i ddim dweud yn iawn; wrth giât y cefn y gwelais i o pan fûm i yma yn hwylio swper."
"Felly," meddai Ifans wrtho'i hun, "yr hen garlwn gwenwynig."
"Pryd y rhown ni'r peth allan, Meistr—y John?" gofynnodd hithau'n fwyn.
"Mi gadwn i'r peth yn ddistaw am dipyn," ebe yntau yn frysiog, "ond —."
Torrodd Mrs. Huws yn llawn cyffro ar ei draws: "O! beth fydd pobl yn ddweud pan glywa' nhw? Mi fydd yn syrpreis—na, fydd o ddim 'chwaith; dyna oedd pawb yn ddisgwyl, o ran hynny. 'Wn i ddim faint sy' wedi bod yn dweud hynny wrthyf, a mi wn y bydd eich mam, beth bynnag, yn falch iawn."
"Bydd, bydd siwr," ebe Ifans, "ond dywedwch i mi—oedd Roberts yn holi llawer?"
Ond yr oedd yn amlwg bod Mrs. Huws wedi cael mwy na digon ar Roberts Tŷ'nymaes, a'i bod yn benderfynol na chai ei hysbeilio hi o ddim rhagor o'r munudau hyfryd hynny, ac meddai, "Na, 'holodd o ddim rhagor, a dweud y gwir i chwi—chafodd o ddim llawer o groeso gen' i, mi 'roedd o yn siarad yn wirion,-ac yn dweud,—ac yn dweud y dylwn i fod wedi ail-briodi, a mi ddwedais i fy mod i'n brysur, a mi welodd nad oedd 'na ddim croeso iddo fo."
Gwelodd Ifans fod yn rhaid iddo adael i Roberts, a thalu sylw i Mrs. Huws, a cheisiodd ymddangos fel petai'n cymryd diddordeb mawr yn ei sgwrs, ond y gwir oedd, bod meddwl Ifans yn crwydro 'mhell yn aml, ac ymhen tipyn, meddai: "Yr ydw i'n siwr y gwnewch chwi faddau imi am y tro, ond mae gen' i waith ysgrifennu ofnadwy, ac yr ydych chwithau wedi blino ar ôl bod yn helpu'ch brawd."
Ac os teimlai Mrs. Huws nad oedd Ifans mor frwd ag y carai iddo fod, fel dynes gall, ni ddywedodd ddim, ond—"Oes, da y gwn i fod gennych waith di-ddiwedd, a mi fuasai'n dda gan 'y nghalon i petaech chwi'n gadael imi'ch helpu chwi. Ydych chi'n siwr y byddwch chi'n gynnes? Mi rof i gnap ar y tân cyn mynd?"
Ac wedi clywed twrw drws y llofft yn cau, meddai Ifans, "Wel, dyna fi wedi ei gwneud hi yrwan."
Ac yn rhyfedd iawn yr un geiriau yn union a ddywedodd Mrs. Huws yn y llofft wrth ei llun yn y drych, dan dynnu oddi amdani, a rhoi pinnau cyrlio yn ei gwallt—ond mewn tôn dipyn yn wahanol.
PENNOD X
CWLWM Y CYTHRAUL
YR oedd hi'n tynnu at chwarter i ddeg, pan gofiodd Ifans ei fod i fynd i weld Parri erbyn deg. "Mae hi yn rhy hwyr i fynd 'rwan," meddai, gan estyn potel o wisgi o'r cwpwrdd, "mi af ben bore yfory. Oes gan y ddynes yma dipyn o bres tybed? Beth ddywaid hi pan ddaw'r crash?" Ar hynny sylwodd Ifans fod y ci yn anesmwyth, â'i glustiau i fyny fel petai'n clywed rhywbeth.
"Gorwedd Gel! 'does yna
"Gel! 'does yna ddim byd," meddai Ifans dan dywallt rhagor o wisgi o'r botel, a gwrando i fod yn sicr fod Mrs. Huws yn ddiogel, ond pan oedd Ifans yn codi'r gwydryn at ei wefus, neidiodd y ci i fyny gyda chyfarthiad sydyn, nes peri i Ifans yntau neidio, a cholli peth o'r wisgi. Aethai'r ci at y ffenestr, dan chwyrnu a chyfarth yn ffyrnig, a rhwng ei gyfarthiadau, clybu Ifans guro eglur ar y ffenestr, a phan gododd y llen, gwelai Roberts Tŷ'nymaes yn gwneud arwydd arno i fyned ac agor y drws. Tawelodd Ifans y ci gorau y medrai, dan fyned tua'r drws, gan ofyn iddo'i hun, "Beth sydd ar y sarff yma eisiau tybed?" Prin yr oedd wedi agor y drws, nad oedd Roberts wedi camu i mewn heibio iddo yn hyf.
"Rhaid i chi faddau i mi am alw yr adeg yma o'r nos, Ifans," meddai, "ond mi fuaswn i'n lecio cael."
"Ust! Ust!" meddai Ifans, gan roi ei law ar ei fraich, oblegid yr oedd drws llofft Mrs. Huws newydd agor.
"O diar, beth ydyw'r mater?" gofynnodd yr howscipar o ben y grisiau.
"Dim byd, Mrs. Huws," meddai Ifans, "dim byd ond bod Roberts Tŷ'nymaes eisiau fy ngweld i am funud."
Cerddodd Roberts ymlaen yn hamddenol tua'r lle tân, heb ei wahodd, gan ei osod ei hun yn gysurus mewn cadair heb ddweud dim, ac Ifans yn ei ganlyn, ymhell o fod yn hapus. Ymhen tipyn, meddai Roberts, gan snyffian a gwenu, ac edrych yn awgrymiadol ar y botel wisgi: "Wrthi'n dathlu Ifans, wrthi'n dathlu."
Cododd Ifans ac estyn gwydryn a thywallt chwarter ei lond o'r gwirod, a'i estyn i Roberts, ond heb gymryd dim ei hun.
"Wel, iechyd da i ŵr y tŷ," ebe Roberts, "ac i Hopcyn yn ei dŷ newydd nos yfory, hynny ydyw os bydd y cynhebrwng yfory hefyd, ynte?" A chwarddodd Roberts gan gymryd llwnc drachefn. Yna trawodd ei wydryn ar y bwrdd, a chododd ar ei draed ac estyn ei law—"Ysgydwch law, Ifans," meddai. "Sôn am Charles Peace, myn diain i. Hy! 'Doedd o ddim ynddi efo chi, nac oedd, ar fengoch i. 'Rydych chi'n glyfar, ydych fel mae byw fi, ac yn lwcus hefyd."
"Wn i ddim beth am hynny," meddai Ifans, yn swta. "Wyddoch chi ddim beth am hynny, wir! 'Rydych chi'n rhy ostyngedig, Ifans, a chwithau wedi cael hôl mor dda!"
"Hôl!" meddai Ifans yn chwerw, "Chefais i ddim hôl—." Edrychodd Roberts arno mewn edmygedd, ac meddai: "Dyna ydw i'n ei lecio ynoch chi, Ifans, mae golwg mor ddiniwed arnoch chi pan fyddwch chwi'n dweud clamp o gelwydd. Beth am y rhent, 'y ngwas i? Pwy gafodd yr hôl, ynte? Y Genhadaeth Dramor? Y?
"Roberts," meddai Ifans, yn ddifrifol, "yr ydw' i'n dweud ar fy llw wrthych eto, na chefais i mo'r rhent."
"Tell that to the Marines, Ifans," meddai Roberts ar ei draws, "os ydyw Rhys y Plisman wedi llyncu'r stori, 'dydw' i ddim. A gwelwch yma, Ifans—mi 'rydym ni'n dau yn gwybod gormod am ein gilydd, a 'does dim cyfrinachau i fod rhyngom ni, a—y—rhag imi aros yma'n rhy hir—ac i'r 'pisyn' yna tua'r llofft" (a rhoes winc awgrymiadol ar Ifans), "fynd i amau rhywbeth, mi awn ni at y busnes sy gen' i. I ddweud y gwir yr ydw' i mewn tipyn bach o gongl, dim helynt ychwaith, 'does dim risc o gwbl, a mi wn y rhowch chi fenthyg imi. 'Cawn i ryw ganpunt am—
"Can punt! Ddyn glân! Be—."
"Ie'u benthyg nhw ydw' i'n ddweud—dim ond am dipyn bach."
"Roberts," meddai Ifans yn ddifrifol—ac yn bendant, "rhowch inni ddeall ein gilydd, a hynny ar un waith. Pa mor gyfyng bynnag ydyw'r gongl yr ydych chi ynddi hi—yr ydw' i mewn congl mwy cyfyng,—Brenin Mawr! petasai gennyf i eisiau dim ond canpunt, mi fuaswn i'n gorfoleddu. 'Fedra' i roi dim ddimai goch i chi."
"Fedrwch chi ddim—rowch chi ddim ydych chi'n feddwl, ynte?" meddai Roberts yn gâs, "wel, popeth yn dda felly—ond mi gewch fyw i edifarhau efallai."
"Choeliwch chwi mo'nof i felly?" meddai Ifans.
"Na wnaf," meddai Roberts, "ac efallai na choeliwch chwithau mohonof innau pan dd'wedaf wrthych nad ydych wedi bod mor lwcus ag ydych yn feddwl. Sut y teimlech chi pe dwedwn i wrthych fod Martha Hopcyn wedi cael ei lleferydd? Ha! mi welaf wrth eich gwep chi nad ydych yn hidio fawr am y newydd da yna. Ychydig mae hi wedi ddweud eto—ond mi ddywaid fwy yn y man—a mi helpa' i dipyn
Ar hynny neidiodd Ifans ar ei draed. "Hei, ddyn, beth ydych yn feddwl wneud?"
"Os cyffyrddwch chi ynof, mi fyddaf yn deffro'r Sleeping Beauty yna uwch ein pennau ni," meddai Roberts, "a mi ddechreuaf sôn wrthi am freuddwydio, ac am Hop—."
"Taw, y cenau budr," ebe Ifans mewn tôn fileinig, "a mi'r wyt ti wedi bod yn gwrando ar—."
"Mae'n well i ti wrando arnaf i, Ifans," ebe Roberts ar ei draws gan symud tua'r drws, "a thrio gwneud heb y can—punt am ryw fis."
"Pa ddiben i chi ofyn," ebe Ifans, "yr ydw' i wedi dweud wrthych na fedra' i"
"Treiwch eto," ebe Roberts gan gychwyn agor y drws, "cysidrwch y peth—mi gewch tan yfory gennyf. Cysgwch dros y mater, os medrwch chi."
Yr oedd Roberts wedi agor y drws erbyn hyn, ac meddai: "A pheth arall, feddyliais i ddim am foment, mai chi roes y cortyn am wddw Hopcyn."
"Wnes i ddim, ddyn," gwaeddodd Ifans.
"Ust," rhybuddiodd Roberts, "cofiwch am nerfau Mrs. If—y-Mrs. Huws, ddylwn i ddweud. Efallai y cewch chi egluro wrth ryw farnwr, Ifans, ond cofiwch chi, un peth ydyw i mi gau fy ngheg am y dwyn—peth arall ydyw i mi gadw ar lofrudd." A diflannodd Roberts i'r tywyllwch.
Ond pan oedd yn nesáu at giat y lôn, dychmygodd ei fod yn gweled siâp ceffyl, a safodd, a chyn iddo fedru gwneud dim, camodd dyn at ei ochr, a chlywodd lais Parri yn dweud, "Felly!" mewn tôn a yrrai ias drwy fêr ei esgyrn, a'r un eiliad teimlodd ei anadl yn cael ei gipio o'i ysgyfaint, ac yntau yn suddo yn wysg ei gefn i dywyllwch anymwybyddiaeth.
PENNOD XI
PARRI'N DECHRAU PACIO
NID oedd Parri, y cigydd, wedi medru cadw o grafangau'r gyfraith cyhyd, ac wedi llwyddo i ddianc o'i holl anawsterau heb fod yn meddu ar alluoedd anghyffredin iawn, ac nid oedd wedi cynllunio'r un lladrad, heb ofyn iddo'i hun beth a wnâi pe digwyddai i bethau ddyrysu. Byddai'n myned i Lundain dair gwaith yn y flwyddyn, a phob tro yr âi, talai symiau o arian i mewn i fanc yn y Brifddinas, yr agorasai gyfrif ynddo fel James Jenkins, gan roi cyfeiriad y gwesty y byddai'n aros ynddo. Yn wir, onibai am ŵr y gwesty, ni buasai'r bancer wedi caniatáu iddo dan amgylchiadau mor anghyffredin, agor cyfrif, ond rhoes y gwesteiwr ei air drosto, ac yn y banc hwnnw y gwnâi yntau ei hun ei fusnes.
Dywedasai Parri wrth y gwesteiwr y byddai y busnes yr ydoedd ef ynddo, yn ei gymryd lawer ar y cyfandir, ac nad oedd ganddo gartref sefydlog.
Yr oedd hefyd wedi taflu awgrymiadau cynnil yn y Dre o dro i dro, ei fod yn meddwl rhoi gorau i'r busnes—ac yr oedd wedi hanner addo rhoi'r cynnig cyntaf arno i John Humphreys, cigydd ifanc uchel-geisiol oedd yn brysur ddyfod i fusnes mawr ei hun. Wrth addo hyn i Humphreys, yr oedd wedi pwysleisio wrtho mai yng nghymdogaeth y Dre yr oedd am wneud ei gartref, wedi iddo ymneilltuo—ond y gwir oedd, mai yn rywle digon pell oddiyno y bwriadai wneuthur hynny—rhag ofn i Humphreys, neu bwy bynnag a gymerai ei fusnes, ddarganfod rhywbeth i beri iddynt ddechrau amau rhywbeth.
"'Cawn i wythnos," meddai, wrth fynd adre'r noson y daliodd Ifans hwy, "i gael rhai o'r dyledion mwyaf yna i mewn, fe fedrwn achub tipyn o'r rec, ond mae arnaf ofn Roberts; mae o mewn dyled eto, a 'dydyw hynny rois iddo fo ddim ond fel poeri i'r môr, a 'does ganddo fo mo'r wyneb i ofyn am bres i mi eto—ac yr ydw' i yn ei adnabod o'n ddigon da, i wybod y bydd o'n siwr o dreio gwaedu Ifans, ac os aiff o i wasgu ar hwnnw, 'does wybod beth a ddigwydd, mae'n well i mi'i phlygu hi ar hyn ond rhaid imi gadw fy llygad ar Ifans hefyd."
Buasai Roberts yn edrych yn hurt, pe clywsai'r sgwrs a fu rhwng y ddau gigydd ben bore drannoeth.
"Yr ydw' i yn barod i werthu'r busnes i gyd, a'i drosglwyddo fo drosodd i chi ar unwaith am y swm yna, Humphreys," ebe Parri, "a mi wn i bod hi'r fargen fwya' a ddaeth i'ch rhan chi 'rioed; ond mae arna' i eisiau'r arian ar unwaith er mwyn prynu eiddo sy'n mynd ar werth yn ffiaidd o râd, ac yr wyf wedi meddwl,—a hanner addo o ran hynny,—y rhown i'r cynnig cyntaf i chwi, ond mae un amod, a dyna ydyw honno, nad ydych chi i ddweud wrth yr un creadur byw—am wythnos—ond 'wnewch chi ddim o ran hynny, ar eich lles eich hun, oblegid petai'r stori'n mynd allan, mi wyddoch y buasai holl fwtsieriaid y broydd yn torri gyddfau'i gilydd i gael y busnes. Ond yr wyf i'n cadw at fy ngair, mi addew'is i y caech chi'r cynnig cynta' a rhagor, mae'n well gen' i i chi 'i gael o na neb, 'fuaswn i ddim wedi 'i addo fo i chi heblaw am hynny. Y cwestiwn ydyw, a fedrwch chi dalu am y busnes ar unwaith. Mae'r cynnig yn dal tan naw o'r gloch bore yfory."
"Mi fydda'i acw," ebe John Humphreys.
"Popeth yn dda ynte," meddai Parri, "ond cofiwch—dim gair wrth neb."
Gwyddai John Humphreys fod Parri yn cynnig y busnes yn rhad iddo, ond er hynny yr oedd y swm yn fawr, ac yr oedd yntau yn fyr o ddau gant o bunnau mewn arian parod, ond ni soniodd ddim am hynny wrth Parri. A phe buasai wedi gwneud, mae'n sicr y buasai Parri wedi dweud wrtho y câi orffen talu'r ddeucant wedyn, rhag ofn iddo fynd i chwilio am fenthyg at rywun, a dweud i beth yr oedd arno eisiau'r arian.
Ni wyddai Parri ychwaith fod carwriaeth John Humphreys ac unig ferch yr Arolygydd Jones wedi mynd mor bell, ond ddeuddydd cyn hynny, cytunasai'r ddau i briodi, ac ymhen yr awr ar ôl i Parri gynnig y busnes iddo, yr oedd John Humphreys yn dweud am y cynnig dros y cownter with ei gariad, ac fel yr oedd yn fyr o'r ddeucant.
"Gedwch chi hynny i mi," ebe Miss Jones, "peidiwch â gofyn am yr arian i neb, a dowch acw heno tua naw."
Nansi oedd unig blentyn yr arolygydd, a channwyll llygad ei thad gweddw, a gallai ei droi am ei bys bach. A'r noson honno ar ôl swper, eisteddodd ar lin ei thad, a rhoes ei braich am ei wddf, a chyn pen chwarter awr yr oedd yr arolygydd yn eistedd o flaen ei ddesg, ac yn cyfrif can punt mewn papurau, ac yn eu plith ddau bapur ugain punt; ac yn ysgrifennu tsiec am gant arall.
Bore trannoeth, un o'r rhai cyntaf yn y banc oedd Parri, yn codi symiau mawr o arian—yn wir—y cwbl a oedd ganddo yn ei gyfrif, ag eithrio rhyw bum punt ar hugain, ac mewn ateb i'r cwestiwn amlwg a oedd yn llygad y rheolwr, meddai, â gwên ar ei wyneb, "Mi fydd gennyf fwy o gyfrif yn y banc yma nag erioed, 'rwy'n gobeithio, wedi imi orffen y dîl yma, Mr. Bowen, ond dydw' i ddim yn rhydd i ddweud dim amdani wrth neb—hyd yn oed wrth fy mancer."
Ac aeth Parri adre a chloi yr arian yn ei ddesg, a bu wrthi yn brysur weddill y dydd, yn trefnu ei bethau, yn casglu tipyn o ddyledion, ac yn gorffen setlio gyda Humphreys. Clywodd yn y prynhawn beth oedd canlyniad y cwêst ar Hopcyn. "Mi gaf weled Ifans heno yn ôl y trefniant," meddai, "ond Roberts ydyw'r perygl mwyaf: mi ddylwn gadw fy llygad arno fo; yn wir mi ddylwn fynd i'w weled heb oedi rhagor. A chychwynnodd am Dŷ'nymaes, ac yr oedd ar y clawdd terfyn cyn ei bod hi wedi dechrau tywyllu—ond er rhoi'r arwyddion arferol i gyd, a hynny lawer gwaith, ni ddaeth Roberts ar ei gyfyl, ond gyda hynny, wedi clywed twrw Parri efo'r cwn, dyma gipar heibio, ac meddai, "Methu gwybod beth oedd achos y twrw cyfarth mawr yma a'r chwibanu yr oeddwn i, Mr. Parri."
"O! Ie," meddai Parri yn sychlyd, "yr un hen gân, Harrison, defaid Roberts yma wedi goresgyn fy nghaeau i eto."
"Wel, wel, Mr. Parri," meddai'r cipar, "mae arnaf ofn bod Roberts yn mynd i'r dogs-mae o'n gwario gormod o lawer i'r hotel, mi'i gwelais o'n mynd yno heno pan oeddwn i ."
"Wel," meddai Parri ar ei draws, "yr ydw' i wedi cael digon arno, ac yr wyf yn mynd i ddweud hynny wrtho heno hefyd." Ond erbyn i Parri gyrraedd cyffiniau'r Crown, a holi am Roberts, deallodd ei fod wedi mynd oddiyno, ac nid i gyfeiriad ei gartre ychwaith.
Aeth Parri yn ei ôl i'w gerbyd, mewn cryn benbleth. "Dydw' i ddim yn hapus yn ei gylch," meddai wrtho'i hun, "a 'does dim dichon dweud beth a all wneud yn ei ddiod, efall. Ha! mi gwelaf hi—.
A daeth rhyw befr i lygad oer glas-olau Parri, "ond mi gaiff siwrnai seithug, gan y bydd Ifans efo mi heno; mae hi wedi naw yrŵan, ac yn rhywyr glas i minnau gychwyn adre hefyd; fel y mae hi bydd yn rhaid imi alw yn y tŷ cyn gollwng y cerbyd, rhag ofn i Ifans fynd yn ei ôl, wrth weld neb gartre."
Ond nid oedd Ifans yno pan gyrhaeddodd Parri, ac er iddo ddisgwyl chwarter awr nid oedd olwg arno, ac erbyn hyn yr oedd Parri yn anesmwyth iawn. Neidiodd Parri i'w gerbyd, a gyrrodd o'r Dre ar duth fywiog; ac am yr ail dro yr wythnos honno, troes ben y ceffyl o'r lôn fawr am Fryn-y-Felin, a rhwymodd y rêns wrth yr un giât ag y gwnaeth ddwy noswaith cyn hyn. A chyn pen ychydig funudau yr oedd Parri yn cwrcydu dan ffenestr y gegin ac yn clywed y rhan fwyaf o'r pethau a ddywedai Ifans a Roberts. Bychan a ddychmygai Roberts wrth flacmelio Ifans a'i fygwth, fod, y tu allan yn gwrando, un o'r dynion mwyaf didostur, a hwnnw yn oer gynllunio sut i roi taw arno am byth.
"Buasai'r llyn yn hwylus ac yn ddidrafferth iawn," meddai wrtho'i hun, "ond beidiai hynny â dwyn Ifans i'r busnes, a 'does ynddo fo mo'r cwaliti sydd yn Roberts; heblaw am y ddiod mi fuasai Roberts yn—
Dyma fo'n dyfod, mi'i disgwyliaf o'r ochr arall i'r giât."
PENNOD XII
ROBERTS DRUAN
PAN ddadebrodd Roberts, fe'i cafodd ei hun ar ei ochr ar lawr, a'i ddwylo wedi eu rhwymo o'r tu ôl iddo, a chyn iddo lawn sylweddoli pethau, yr oedd cadach a rwymasid eisoes am ei wddf a'i ên, yn cael ei godi i guddio ei enau. Plygai gŵr uwch ei ben, ac adnabu ef ar unwaith, a deallodd yn y man ei fod ar fin Llyn y Felin.
"S—su—sut y dois i i'r fan y—yma, a be—y—th ddigwyddodd imi?" gofynnodd Roberts yn grynedig.
"Y peth pwysig i chi," meddai Parri, yn sychlyd, "ydyw—y peth sy'n mynd i ddigwydd i chi. Yr ydych yn niwsans ers tro, ond yrŵan, yr ydych wedi mynd yn berygl imi. Mae'n resyn siomi'r llyn yma ddwywaith—a gwaith y bobl a gaiff eu galw i'r cwest arnoch chi, fydd penderfynu p'run ai Ifans Bryn y Felin a'ch boddodd chi ynteu eich boddi eich hun a wnaethoch chi."
Yn rhyfedd iawn, nid ymddangosai Roberts mor gynhyrfus ag y tybiasai Parri, y buasai.
"Mi gaf dipyn o ad-daliad am y pryder ydych wedi ei beri imi Roberts, wrth wylio'r chwysigod yn codi tra byddwch chi'n treio llyncu'r llyn," meddai wed'yn. Ond ni chymerth Roberts fawr ddim sylw, a phlygodd Parri yn is, ac er ei syndod, gwelodd fod ei ddau lygad—mor bell ag y medrai ddweud yn y tywyllwch, wedi sefyll yn ei ben.
"Tybed?" meddai Parri, gan dynnu'r cadach i lawr dipyn—a chyn gynted byth ag y gwnaeth, dyma Roberts yn rhoi bloedd sydyn nes bod yn holl gylch yn diaspedain.
"Felly," meddai Parri, yn ddigon di-gyffro, gan godi'r cadach yn ôl, a gafael yn Roberts, fel pe na bai'n ddim ond plentyn, er ei fod erbyn hyn yn ymnyddu ac yn cicio, yn troi, yn plygu ac yn sythu, mewn ymdrech ofnadwy i gael o afael Parri; ond yr oedd breichiau Parri yn gwasgu amdano fel cadwyn haearn, tra cariai ef o'r lôn i'r llyn. Plygodd i lawr, ac fe'i teimlai Roberts ei hun yn cael ei roi dan y dŵr nes bod ei gefn yn cyffwrdd y gwaelod, a'r dŵr yn rhuthro i'w ffroenau a'i enau, wrth iddo geisio anadlu.
Nid oes neb a fedr ddweud a fwriadai Parri foddi Roberts pan gariai ef i lan y llyn i ddechrau, ar ôl ymosod arno wrth y giât; ond efallai mai ei ddychryn yn unig oedd ei amcan. Modd bynnag, os bwriadai ei foddi, newidiodd cri Roberts ei gynlluniau, oblegid yr oedd yn noswaith dawel, a gallai amryw fod wedi clywed y waedd, ond yr oedd yn benderfynol o roi digon o fraw i Roberts i'w gadw dan reolaeth am dipyn. Felly cyn y medrai neb gyrraedd, yr oedd wedi rhoi Roberts yn y llyn a'i gadw dan y dŵr cyhyd ag y meiddiai; a phan gariodd ef i'r lan yn ôl, yr oedd Roberts druan yn fwy marw na byw o lawer, a bu am dipyn cyn bod yn sicr ym mha fyd yr oedd.
"Peidiwch â dweud yr un gair nes cewch chwi ganiatâd," ebe Parri wrtho, "rhag ofn imi newid fy meddwl eto."
Ac ymhen rhyw funud neu ddau, ychwanegodd: "Mae'n rhaid fy mod i'n mynd yn galon—feddal; yrŵan, os oes arnoch chi eisiau byw, a chael un cynnig eto, rhowch imi wybod beth oedd eich neges efo Ifans heno."
Ac mor druenus ei gyflwr ydoedd Roberts, a chymaint ei fraw, fel y cyfaddefodd y cwbl.
"A lwc i chi eich bod wedi dweud y gwir," meddai Parri, ar ôl iddo orffen, "oblegid fe'i gwyddwn eisoes, gan fy mod i wrth y ffenestr yn gwrando'r sgwrs. Yrwan, mi dalaf eich dyled chwi y tro yma eto, a hynny am y tro diwethaf cofiwch. Hwdiwch. Ewch chwithau yn ôl at Ifans y funud yma, i ddweud wrtho fy mod i yn eich disgwyl yn y lôn, a'm bod i yn rhoi'r canpunt i chwi; a dywedwch wrtho yr helpaf i yntau hefyd, ac am iddo ddyfod i'm gweld nos yfory—neu cyn hynny, os bydd raid, mi'ch disgwyliaf innau chi wrth y ffenestr.
Ond fel y nesaent at y ffenestr, clywent leisiau yn y gegin, oblegid cyn gynted ag y caeasai Roberts y drws ar ei ôl, pan adawodd Ifans, daethai Mrs. Huws i lawr y grisiau mewn dychryn, gan fod Ifans wedi codi ei lais, heb gofio am ei howscipar, ac yr oedd hithau wedi deall ei bod hi'n ddrwg rhwng Ifans a Roberts, a chymerasai gryn dipyn i Ifans ei thawelu hefyd.
Wrth weled yr amser yn mynd, penderfynodd Parri adael i bethau fel yr oeddynt y noson honno, ar y ddealltwriaeth glir fod Roberts yn mynd â'r genadwri i Ifans ben bore drannoeth.
Ac felly y gwnaeth Parri gamgymeriad mawr ei fywyd.
PENNOD XIII
PENTEWYN O'R TÂN
WEDI i Ifans gael gan Mrs. Huws fynd i'w gwely, daeth rhyw ddigalondid erchyll drosto.
"Mae hi wedi diffodd arnaf," meddai, "a waeth imi ei phlygu hi ddim: mae Roberts yn benderfynol o sugno'r diferyn olaf o waed ohonof, ac y mae hi'n rhy hwyr imi ddwad â'r stori dwyn defaid allan yrŵan, ac os oedd y lleidr budr Roberts yna yn dweud y gwir fod Martha Hopcyn wedi cael ei lleferydd yn ôl, 'does wybod ym mh'le y terfyna pethau.
"Pa'm gebyst na choelia fo fi'n dweud na chefais i ddim gwerth o bres o Gae'r Pa—. Brenin Mawr! Tybed? Na, 'choelia'i fawr neu i beth y buasa' fo yn fy mhoeni i? Ond beth am Parri tybed? Ef, wedi'r cwbl ydyw'r ymennydd,—a'r bos. Yr oedd y rhent yn y tŷ—ac y mae hi we—. Ie, siwr iawn—dyna beth sydd wedi digwydd; mae'r cythraul Parri yna wedi bod yno ar f'ôl—ydyw yn siwr i chi; 'doedd ryfedd iddo fo fy ngollwng i mor ddiseremoni ag y gwnaeth o—wel, dyna i chi nerf—mi'i gwelaf hi yrŵan. Yr oeddwn i'n i weld o dipyn yn siort efo'i bartner—ac yn mynd o'i flaen o echnos, mae'n amlwg nad ydyw Roberts yn gwybod am hyn, a mi bocedodd Parri y rhent. Yn y llofft yr oedd hi mae'n debyg. O! am ffŵl fûm i yn fy nangos fy hun iddynt echnos. Pa'm na buaswn i wedi ymguddio a'u dilyn hwy, neu fynd yn ddistaw bach i nôl Rhys y plisman? Ond i beth yr ydw' i yn siarad? Mae hi wedi darfod arnaf. Mae fy mhen i dan eu cesail am fy oes. 'Fydd fy mywyd i ddim gwerth i fyw. Duw â'm helpo."
Nid oedd Ifans wrth natur yn ddigon eofn i wneud troseddwr peryglus iawn, a rhaid cofio hefyd ei fod wedi mynd trwy bethau enbyd iawn y tridiau hynny; yr oedd ei nerfau yn yfflon, ac ni fedrai fwyta fawr ddim, ac o'r botel wisgi y cawsai ei unig foddion cynhaliaeth drwy'r dyddiau cythryblus hynny. Credai yn sicr yr achwynai Roberts arno, oni thalai iddo am dewi, a thalu yn ddrud hefyd a dal i dalu yn ddrud, ac nid oedd ganddo ddim i dalu. "Mi fuasai wynebu'r prawf am dwyllo, a chadw arian y rhenti yn ddigon," meddai, "heb sôn am fusnes Cae'r Pant, a 'fedrwn i byth wynebu'r gwarth a'r gwaradwydd ar ôl dyfod o'r carchar, a chaniatáu fy mod i'n byw i weld dyfod o'r fan honno. Brenin Mawr! Beth petwn i'n cael fy nghyhuddo o ladd Hopcyn eto? Beth petai Roberts yn gyrru llythyr di-enw i'r polîs, a hwythau yn gofyn imi roi cyfrif ohonof fy hun y noson honno? Pa ddiben i mi ddweud dim am Parri ac yntau? Pwy coeliai fi?"
Yr oedd Ifans erbyn hyn wedi ei weithio ei hun i gyflwr cynhyrfus iawn. Crynai fel deilen, ac yr oedd yn chwys drosto.
"Fedra' i ddim dal ychwaneg, 'rydw' i wedi dyfod i ben fy nhennyn," griddfannodd, gan godi i fyny o'i gadair a gwasgu ei ben rhwng ei ddwylo, â golwg orffwyllog arno, "'Rydw' i'n mynd yn wallgof a fedra' i ddim dal dim rhagor, 'does dim amdani ond—ond—"; a suddodd yn swp i'w gadair. "O! Dduw," griddfannodd, "sut y medra'i wneud? Gresyn na buaswn i wedi gadael iddynt fy moddi—mi fuasai popeth drosodd yrŵan."
Estynnodd at y wisgi wrth ei benelin, ond tynnodd ei law yn ôl fel petai'r botel yn wiber. "Na," meddai, "'wyneba' i mo' Marnwr yn feddw ychwaith."
O dipyn i beth ymdawelodd, a daeth golwg benderfynol i'w lygad. Estynnodd inc a phin dur a phapur ysgrifennu. "Chaiff Roberts mo'm job i ar f'ôl i beth bynnag," meddai, "ac mi ofalaf y caiff o'i dâl am fy ngyrru i o'r byd yma hefyd."
A rhoes Ifans i lawr, air am air, stori y twyllo a'r torri i mewn i Gae'r Pant, a'i hanes ar ei ffordd adre oddiyno, yn dyfod ar draws Parri a Roberts yn dwyn ei ddefaid, ac yn hwylio ei foddi, ac ymweliad Roberts y noson honno i geisio cael arian ganddo, a'i flacmelio; a gorffennodd fel hyn: "Dyma'r gwir, ar fy llw, air am air, a minnau ar fin tra-gwyddoldeb, ac o fewn ychydig funudau i wynebu fy Marnwr, a Duw a drugarhao wrthyf."
Plygodd y dalennau, rhoes hwy mewn amlen, ac ysgrifennodd arni:
"Dr. J. H. WYN (Crwner)."
Ond pan oedd yn mynd i'w chau, clybu dwrw o lofft Mrs. Huws, a thrawodd y llythyr yn frysiog ym mhoced ei gesail, a gwrandawodd am dipyn, ond ni ddaeth rhagor o sŵn o'r llofft. "Wel," meddai, "diolch am hynna, yr oedd arnaf ofn ei bod am godi,—Mrs. Huws druan, gobeithio y gwna hi faddau imi, ac nad effeithia helyntion heno ddim ar ei hiechyd. Wel, dyma'r diwedd." Cododd, ac o drôr yn y dreser, estynnodd getrisen a darn o linyn cryf, ac eisteddodd drachefn. "Rhaid imi roi'r gwn â'i stoc i bwyso ar lawr," meddai, "a phlygu fel bydd ei ffroen yn dyn ar fy mrest i, gyferbyn â'm calon, a rhwymo'r cortyn am y triger ac o dan y gadair a dyfod ag o dros y sêt a—Wel, dyma'r terfyn.
A rhoes un olwg ar y gegin, a rhyw gymysgedd o brudd-der a phoen annirnadwy yn ei drem. Yna cododd, ac aeth i gongl y gegin lle yr oedd cloc wyth niwrnod, ac o'r cyfwng rhwng y cloc a'r dreser estynnodd wn dau-faril, a chychwynnodd tua'r gadair dan ei agor; ond gwelodd y ci ef yn estyn y gwn a chododd yn gyffrous oddiar y mat, lle y gorweddai, gan ysgwyd ei gynffon yn llawen—yn union fel y gwnâi, pan fyddai Ifans yn estyn y gwn i fyned allan i saethu. Daeth rhyw dyndra poenus i wddf Ifans, ac meddai, "Na, Gel bach, gorwedd 'y ngwesyn i, 'chawn ni byth fynd allan i'r ponciau efo'n gilydd eto."
Ac eisteddodd i lawr yn y gadair, a'r ci o hyd yn sefyll ac yn syllu yn ddisgwylgar arno. "Pwy fuasai'n credu," meddai, gan estyn y getrisen, ac edrych arni ar gledr ei law, "y gallai peth mor ddiniwed yr olwg, wneud y fath wahaniaeth." Rhoes y getrisen yn y baril de. "Mae'r haels yn gwasgaru tipyn mwy trwy hwn," meddai yn ddistaw, "a mi fydd yn anos methu'r galon felly."
Caeodd y gwn, rhwymodd un pen i'r cortyn am y triger, a phlygodd ymlaen i godi'r pen arall o dan ffon y gadair, ac wrth wneuthur hynny, gwelodd lythyr o dan y bwrdd.
"Wedi syrthio ar lawr rywbryd heno, mae'n debyg," meddai wrtho'i hun, "a Mrs. Huws wedi anghofio dweud amdano, ond," ychwanegodd yn chwerw-drist, "pa wahaniaeth i mi yrwan oddi wrth bwy y mae o?"
Ond serch hynny, ymestynnodd i'w godi, yn reddfol, heb wybod yn iawn pam y gwnâi, a'r funud y gafaelodd ynddo, cynhyrfodd drwyddo, oblegid canfu fod rhywbeth yn yr amlen, ac adnabu'r llawysgrifen arni. Crynai gymaint yn ei gyffro, fel mai prin y medrai ei agor, "Duw â'm helpo i," griddfannodd, "os ydw' i yn camgymryd."
Tynnodd gynnwys yr amlen allan, ac meddai, "Ie, fel mae byw fi, Lewis Gruffydd, Cae Mur, eleni eto, oherwydd ei gryd cymalau yn methu dyfod i ginio'r rhent, ac wedi ei gyrru hi ymlaen llaw, ac mewn papurau pumpunt hefyd-dyma nhw, ddeuddeg ohonynt."
Eisteddodd Ifans am gryn bum munud, gan syllu yn syth o'i flaen, â'r papurau yn ei law. Yna cododd yn sydyn, a thynnodd y getrisen allan, a rhoes y gwn yn ôl rhwng y cloc a'r dresar, a throes Gel yn araf—siomedig oddiwrtho, a chyda rhyw sŵn bach cwynfanus, gosododd ei hun i orwedd drachefn ar y mat.
Aeth Ifans yntau ac eistedd yn y gadair, â'r botel wisgi wrth ei benelin. "Dyna wnaeth yr hen Ddic Jôs er ys talm," meddai, "pan godwyd gwarant arno, mynd at y Cei yn y Dre, a gosod ei gôt a'i het ar y wal, â charreg arnynt, a phobl yn meddwl ei fod wedi ei foddi ei hun, a'r plismyn a phawb yn chwilio yn galed am ei gorff, ac yntau yn y cyfamser yn ei gwadnu hi am Lundain i ddal llong i Awstralia, a phan welodd tri o longwyr o'r Felinheli ef mewn rhyw dafarn yn Sydney, ym mhen rhai blynyddoedd, a mynd ato fo a siarad yn Gymraeg, a'i alw fo wrth ei enw, 'chyffrôdd yr hen Ddic ddim o gwbl, dim ond edrych arnynt yn siriol a dweud wrthynt yn Saesneg: "I am very sorry, gentlemen, that I can't understand Russian, but we'll have a drink together all the same." P'am na fedraf innau wneud yr un fath?"
"Ac eto, er bod ugain mlynedd er hynny, mi welai pobl drwy'r peth ar unwaith. Na, mi heliaf fy mhethau at ei gilydd, ac amser brecwast mi ddywedaf wrth Mrs. Huws fy mod yn gorfod mynd i ffwrdd, ac na fydda' i ddim yn f'ôl efallai tan fore'r rhent; mi rydd hynny imi—arhoswch chwi, un,-dau,-tri,-tri bore. Mi fydd y banc yn agored ddeg, a dyma drigain punt Lewis Gruffydd, bendith arno fo, a'r hanner canpunt yn y banc, yn fy enw i beth bynnag, efallai y byddai'n well imi beidio â'u codi i gyd, a'r tipyn sydd gen' i yn y tŷ yma. Yrŵan, y 'Merica, South Africa, ynteu Awstralia? Dyna'r cwestiwn. Wel, fe ddibynna hynny ar i ba un o'r lleoedd hyn y caf long gyntaf. Pacio yrwan, a rhaid i mi beidio â mynd â llawer o bethau—wed'yn i'm gwely, ond nid i gysgu,—mi gaf ddigon o hynny yn nes ymlaen.
PENNOD XIV
CHWALFA
PAN ddywedodd Ifans wrth ei howscipar amser brecwast ei fod yn mynd i ffwrdd am ychydig ddyddiau, meddyliodd ei fod yn mynd i gael tipyn o drafferth i'w thawelu, ac yr oedd yn amlwg nad oedd ei dedwyddwch newydd wedi ei rhwystro hi i amau nad oedd popeth yn iawn, a bod rhywbeth ar feddwl Ifans.
Ond gwnaeth Ifans un sylw a arbedodd iddo drafferth fawr, ac a ddaeth â heulwen i wyneb Mrs. Huws. "mi fydd meddwl eich bod chi, Annie, yn fy nisgwyl i'n ôl, yn gwneud y daith y tro yma yn dra gwahanol i bob un o'i blaen." A chusanodd hi ar hiniog y drws, a chychwyn cerdded yn heini i lawr y lôn at y ffordd fawr.
"Siawns gen' i," meddai wrtho'i hun, "na byddaf, gyda thipyn o lwc, cyn pen ychydig iawn yrŵan, yn rhydd o'm helbulon, a Duw a ŵyr, y cymeraf dipyn mwy o ofal y tro nesaf. Yr ydw' i wedi dysgu fy ngwers, os gwnaeth neb, er. —Pwy felltith ydyw hwnacw?"
A safodd Ifans i syllu'n galed ar ryw ddyn, a welai draw yn dyfod yn gyflym i'w gyfeiriad, ac wedi gweled Ifans yn sefyll, yn codi ei law arno, ac yn dechrau rhedeg tuag ato, dan weiddi rhywbeth.
"Ie, ar f'enaid i," ochneidiodd Ifans, "y fo ydyw hefyd, y llymgi Roberts yna-ond yr wyt ti'n rhy hwyr, fy machgen i." A chychwynnodd Ifans redeg, a dal i redeg, nes y dechreuodd gyfarfod pobl ar y ffordd.
Pan welodd Roberts Ifans yn rhedeg, rhedodd yntau yn gyflymach, ond ychydig iawn a enillai arno. "Rhaid imi ei ddal a dweud fy neges wrtho," meddai, dan sychu ei chwys, "neu fe'm lladda Parri fi. Hen dro na buaswn i wedi codi ddeng munud yn gynt."
Yr oedd Ifans erbyn hyn ar gyrraedd cwr y dre, a thaflodd olwg dros ei ysgwydd, a gwelai ei elyn draw, rhyw chwarter milltir o'i ôl, ac wedi sefyll. "Mae'r gwaedgi wedi chwythu ei blwc," meddai, "mae'n amlwg nad ydyw am fentro i'r Dre. Wel, mi gaf lonydd ganddo ef bellach, siawns gen' i." A chychwynnodd hyd y stryd fawr, a throi ar y chwith i Stryd y Banc, heb ddychmygu mai wedi sefyll yr oedd Roberts ar groesffordd, i ddisgwyl cerbyd a ddeuai o gyfeiriad arall ar ei daith i'r Dre—a phetai Ifans wedi dal i edrych i gyfeiriad Roberts am chwarter munud yn hwy, buasai wedi ei weled yn neidio i'r cerbyd, ac yn cyflym nesu ato.
"Yr ydw' i wedi colli fy ngwynt ar ôl cythru o flaen Roberts y felltith yna," meddai Ifans, "ac yr wyf yn chwys diferol, mi gymeraf bwyll o hyn at y banc."
Ac fel yr oedd pethau yn mynnu bod, i siop yn Stryd y Banc yr oedd y cerbydwr a godasai Roberts hefyd yn mynd, a phan oedd y cerbyd yn troi i'r stryd honno, disgynnodd llygad Roberts ar Ifans ar unwaith. "Diolch," meddai wrtho'i hun, "ac mi ofalaf na chollaf i mohono hefyd. I'r banc y mae o'n mynd hefyd. Wel, mae arnaf innau eisiau mynd yno, a siawns gen' i na chaf groeso gan y rheolwr heddiw pan glyw o am fy nghanpunt i; yr oedd o'n ddigon cas echdoe beth bynnag, ynghylch fy overdraft. Brenin Mawr! Tybed bod Ifans yno ar yr un neges—wel, 'tawn i'n marw, dyna fi wedi 'i hitio hi, mynd yno mae 'machgen i, i fancio'r arian gafodd o yng Nghae'r Pant."
Erbyn hyn yr oedd Roberts yn agor hanner drws nesaf i mewn y banc, a'r peth cyntaf a glybu oedd llais y casïer yn gofyn, "Sut y cymerwch chwi'r arian Mr. Ifans?" ac yntau yn ateb, "Mewn papurau pump, a deg, os gwelwch chi'n dda."
Safodd Roberts yno i edrych ar Ifans yn gwthio'r papurau i bwrs a ymddangosai iddo ef, o'r lle y safai, yn bur llawn eisoes, a chyn i Ifans droi i gychwyn allan, llithrodd yn ôl yn ddistaw drwy'r drws, a pan oedd Ifans yn dyfod drwyddo, pwy oedd yn ei ddisgwyl ond Roberts, â golwg ryfedd arno. "Fel hyn y mae ei deall hi, Peace?" sïodd. "Fforciwch rai o'r—
A dyna'r cwbl a gafodd ddweud, oblegid daeth cyfnewidiad syfrdanol dros Ifans, gollyngodd ei fag, ac ymddangosai fel petai wedi mynd yn llythrennol wallgof.
"Aros di'r lleidr budr," ysgyrnygodd, a chyn i Roberts wybod beth a ddigwyddasai, yr oedd Ifans wedi neidio iddo, a'i fwrw i lawr dau ris carreg drws—allan y banc, nes ei fod yn rowlio yn y gwter. A chyn iddo fedru cael ar ei draed, yr oedd Ifans ar ei gefn wedyn, ac â'i law chwith yn ei lindagu, a'i bwyo yn ei wyneb a'i ddwrn de. Y tebyg yw y buasai wedi ei ladd onibai bod Sarjant Bowen a phlisman yn digwydd pasio ar y pryd; ac nid ar chware bach y llwyddodd y ddau gyda'i gilydd, i'w drechu; yn wir bu'n rhaid rhoi'r cyffion am ei arddyrnau yn y diwedd. Ac yn ôl pob tebyg, teimlo'r rheini am ei freichiau a ddaeth ag ef ato'i hun.
Pan sylweddolodd beth a ddigwyddasai, a bod bagad o bobl wedi ymgasglu, plygodd ei ben, ac meddai yn ddistaw, "Ewch â fi oddiyma os gwelwch chwi'n dda,'rôf i ddim trafferth o gwbl i chwi."
"Ewch ag o i—y—acw, Puw," ebe'r Sarjant, "mi drefnaf innau i gael Roberts at y meddyg; mi ddof ar eich ôl yn y munud."
A chychwynnodd y ddau ar hynny.
Ond cyn eu bod wedi mynd mwy na rhyw gan llath, pwy a ddaeth i'w cyfarfod ond Parri y Bwtsiar!
Ac yn holl yrfa gythryblus y gŵr hunanfeddiannol hwnnw, ni bu'n nes iddo gael gwasgfa, na phan welodd o Ifans yn dyfod yng ngofal plisman, â'i goler wedi datod, â golwg aflêr arno, a'r gefynnau am ei arddyrnau, a phedwar neu bump o fechgyn chwilfrydig yn ei ganlyn ar feisyclau.
Heb feddwl beth oedd yn ei wneud, safodd Parri a rhythu arnynt yn pasio; cyffyrddodd y plisman yn ei helm yn barchus, a digwyddodd Ifans godi ei ben, a'i weld, ac edrychodd fel teigr arno.
"Yr ydw' i yn actio fel ffŵl," ebe Parri wrtho'i hun, "yn rhythu arnynt fel hyn." Ond pan edrychodd o'i gwmpas, gwelai bawb arall yn gwneud yr un peth. "Na," meddai, "peth hollol naturiol oedd imi wneud hynny, ond 'doeddwn i ddim yn lecio golwg Ifans o gwbl." Amneidiodd ar un o'r bechgyn a'u dilynai, i ddyfod ato, a gofynnodd iddo beth oedd yn bod.
"Mr. Ifans y Stiward," meddai'r bachgen yn gynhyrfus, "wedi bod yn cwffio efo rhyw ffarmwr."
Heb betruso rhagor, troes Parri i lawr un o'r strydoedd cefn, a chyflymu tua'r siop, dan dynnu ei wats allan.
"Daliwch y car ar unwaith," meddai wrth y gwas, ac aeth i'r tŷ, estynnodd fag wedi ei lenwi yn barod, a mân bethau eraill o'r drôr, a rhoes gôt ysgafn amdano. "Am y stesion cyn gynted byth ag y medrwn ni, Richards," meddai, gan neidio i'r car, "Mae'n rhaid imi fod yn Birmingham y prynhawn 'ma. Rhowch y rêns i mi," a rhoes chwip ar y ceffyl a chodi carlam, a phan oeddynt yng ngolwg y stesion yr oedd y trên yn cyrraedd. "Rhedwch a gofynnwch i'r giard beidio â mynd am foment," meddai, "tra byddaf yn cael ticed i Birmingham."
"Mi gaf y newid eto," meddai wrth y gwerthwr ticedi, a rhuthrodd ar draws y platfform, a'i fwrw ei hun i gerbyd y daliai y stesionfeistr ei ddrws yn agored iddo, pan oedd y giard yn chwibanu, ac yn rhoi arwydd i'r trên gychwyn. "Mae'ch bagiau chwi ar y rac, syr," meddai'r stesionfeistr, gan roi clep ar y drws, tra ceisiai Parri ddiolch iddo.
Yn y cyfamser, cyraeddasai y plisman ac Ifans y rheinws, a chyn eu bod wedi mynd i mewn, galwodd y sarjant yno, ar ei ffordd i rywle, ac o weled golwg mor enbyd o ddigalon ar Ifans, cyffyrddwyd ei galon-a rhaid cofio hefyd fod Mr. Ifans yn ddyn a berchid ac a anrhydeddid yn gyffredinol, yn wir, ystyrid ef yn un a fyddai yn fuan iawn ar fainc yr ustusiaid. "Mr. Ifans," meddai'r Sarjant, "mae'n ofid calon i mi fod wedi gorfod eich gyrru chwi drwy'r stryd efo'r rhain am eich arddyrnau—tynnwch nhw ar unwaith, Puw, a mi wnaiff y musus yma gwpanaid o de i chwi yrwan. Mi fyddaf innau yn f'ôl gyda hyn."
Dangosodd gwraig y sarjant hynawsedd mawr tuag ato, ac ni bu Ifans erioed yn falchach o gwpanaid o de, er ei fod yn ddrych o dristwch i edrych arno.
Toc, daeth yr Arolygydd Jones ei hun i mewn o rywle, ac er ei fod wedi cael hanes yr helynt, ni chymerth arno wrth ddyfod i mewn i'r gegin, ei fod yn gwybod dim.
"Bore da, Mr. Ifans," meddai, heb ddangos ei fod yn sylwi ar ymdrech Ifans i beidio â thorri i lawr wrth geisio ateb. "Musus bach," meddai wrth wraig y sarjant, "wnewch chwi ddim anghofio cenau mor gas ydw' i am y tro, a thrugarhau wrth yr hen super druan, a rhoi cwpanaid o de iddo fo?" A thra bu yn ei hyfed, siaradai yn ddi-baid, er bod Ifans yn ceisio torri ar ei draws o hyd, i ddatgan ei ofid, a'i gywilydd ohono ei hun.
"Cwpanaid o de ardderchog, Musus," ebe'r arolygydd, "ac yr ydw' i yn sicr y gwnewch chwi faddau inni am godi ar unwaith fel hyn, cyn gynted byth a'n bod ni wedi cael bwyd. Mi awn ni drwodd ein dau i'r offis, Mr. Ifans."
Sibrydodd y plisman wrth yr arolygydd, "Chafodd o mo'i chwilio, syr, ond fûm i ddim o'i olwg o gwbl."
"Super annwyl!" meddai Ifans, "yr ydw' i wedi ei gwneud hi. Wn i ddim beth ddaeth trosof, ond . . . ond . . ." A thorrodd Ifans i lawr yn lân. Ac er i'r arolygydd roi amser, a help iddo, ni chafodd ddim gan Ifans, ond datgan ei ofid drachefn, a thrachefn, eithr heb roi dim gwybodaeth o gwbl.
"Wel, Mr. Ifans, mi drefnaf i gael dau ustus yma,"—a gwingodd Ifans, "dim ond ychydig funudau fyddan' nhw ac wed'yn mi gewch fynd adre. Mae yna ryw un peth bach arall; mae'n ddrwg gen' i, ond yr ydym ni'r plismyn fel y gwyddoch, yn rhwym wrth reolau hefyd. Rhaid i mi ofyn i chi drosglwyddo popeth sy'n digwydd bod gennych efo chi, a mi wnawn ni restr ohonynt."
"Beth ydych yn feddwl, Super?" gofynnodd Ifans mewn syndod.
"O, dim ond 'matter of form.'
Mi'u cewch nhw'n ôl i gyd pan fyddwch chi'n mynd allan; mi fyddwn yn gwneud hyn efo pawb ddaw i mewn."
"O! ie, siwr iawn," ebe Ifans, "Roeddwn i wedi anghofio." A dechreuodd fynd trwy 'i bocedi ac estyn ei wats a'i gyllell, agoriadau, ei bwrs, tipyn o arian, ac o boced cesail ei gôt, yn ddiwethaf oll, tynnodd dri neu bedwar o lythyrau, a'u gosod ar y bwrdd. "Dyna'r cwbl, Super," meddai gan eistedd i lawr, ond ar hynny, gyda rhywbeth rhwng sgrech ac ochenaid, neidiodd i fyny, ac at y bwrdd gan geisio cythru i'r llythyrau.
Ond bu'r arolygydd yn gyflymach nag ef, a chyn i Ifans gael gafael yn y llythyrau, yr oedd llaw yr arolygydd arnynt.
"Chewch chi mo'r—y fi piau—'does gennych chi ddim hawl ar y llythyrau i," gwaeddodd Ifans yn gynhyrfus, a golwg ofnadwy ar ei wyneb.
"Beth ydyw'r mater, Mr. Ifans?" gofynnodd yr arolygydd yn syn, "wnawn i ddwyn dim,"
"Rhowch y rheina i mi," llefodd Ifans, gan wthio'r plisman yn ôl, a rhuthro ar yr arolygydd a dechrau ymdrechu ag ef. Daethai cyfnewidiad anhygoel dros y carcharor.
Prin y credid mai'r un ydoedd y creadur gwallgof a ymladdai fel teigr, â'r gŵr tawel, trist, a ddaethai mor ddi-stwr i'r rheinws. Ac nid cyn i'r plisman afael ynddo o'r tu ôl a'i dynnu ar wastad ei gefn ar lawr a rhoi'r snapiau am ei arddwrn, y cawsent y llaw uchaf arno, chwaith.
Ac wedyn daliai i fytheirio, ac ysgyrnygu ei ddannedd arnynt, heb fedru dweud yr un gair dealladwy.
"Beth felltith sydd arnoch chwi ddyn?" gofynnodd y plisman, wedi dechrau colli ei dymer, a rhoi plwc a thro ciaidd ar y snapiau.
Ond cyn pen hanner munud, yr oedd Ifans drachefn yn aflonyddu ac yn tantro. "O'r Tad," ebe'r arolygydd, gan godi'n sydyn, â golwg benderfynol arno, "yr ydym wedi cael hen ddigon ar y lol yma. 'Rŵan, Puw."
Ac ym mhen hanner munud, yr oedd Ifans dan glo yng nghell carchar y Dre-a'r arolygydd yn trefnu ei bethau cyn eu rhoi yn ei ddesg dan glo; ond ar hynny, dyma ŵr pwysig yno i'w weled, a chollodd yr arolygydd ddwyawr o amser amhrisiadwy, ac efallai gyfle euraid ei fywyd hefyd.
PENNOD XV
Y PETH A HEUO DYN
"WEL," meddai'r Arolygydd Jones, ar ôl i'r ymwelydd fyned, "dyna orffen y busnes yna; yrŵan mi gaf gyfle i drefnu pethau Ifans; petai o heb golli ei limpyn, mi fyddai cwrt wedi bod arno ers meitin, a'i achos wedi ei ohirio, ac yntau gartre. Beth gebystr," gofynnodd yr arolygydd, gan droi'r llythyrau, "ddarfu gynhyrfu cymaint ar 'y machgen i? O! mi welaf, yr arian papur yma debyg iawn; gwarchod ni, faint sydd yma ohony' nhw? Ofn oedd arno, mae'n debyg, inni gadw rhai ohon. Hylo! Beth andros ydyw hwn? Llythyr i Doctor Wyn, y crwner! Heb ei gau hefyd. . . ."
Ac os gŵr rhadlon a thipyn yn hamddenol, ydoedd yr arolygydd fel rheol, medrai symud yn dra bywiog, pan fyddai galw; ac yn sicr ni symudodd erioed fawr cyflymach nag y gwnaeth, wedi iddo ddarllen y llythyr a ysgrifenasai Ifans y noson cynt, ac a anghofiasai ei gau, ac a welid yn awr ar y bwrdd o flaen yr arolygydd.
"Puw," meddai, a chlywodd Ifans ef o'i gell, "ewch i ddweud wrth Humphreys y bwtsiar fod arna' i eisiau ei weled wrth siop J. E. Parri ar unwaith."
Dan gerdded dipyn cyflymach nag arfer, ceisiai'r arolygydd benderfynu sut yr agorai'r drafodaeth efo Parri, ac fel y nesâi at y siop, myned yn anos i'w datrys yr oedd pethau, ac fel y cynyddai'r anawsterau, felly hefyd yr arafai camau Jones.
"Wel, wir," meddai yn y man, "wn i ddim sut i fynd o gwmpas pethau." Ar hynny gwelai Richards, pen gwas Parri, o flaen y siop, ac wedi cyfarch gwell iddo, a sôn am y tywydd mewn tôn braidd yn uchel, a dal i edrych i mewn i'r siop, gan ddisgwyl gweled y cigydd ei hun, gofynnodd: "A sut mae Mr. Parri heddiw?"
"O! mae o'n dda iawn wir, super," atebodd y gwas, "neu mi 'roedd o beth bynnag."
"Beth ydych yn feddwl wrth 'mi 'roedd o'?"
"Wel, mae o wedi mynd i Birmingham efo'r tren hanner awr wedi deg bore 'ma."
"I—Birmingham? "
"Y—beth ddywedsoch chwi? Sut gwyddoch chi mai i Birmingham y mae o wedi mynd?" gofynnodd yr arolygydd dipyn yn wyllt.
"Mi'i clywais o yn gofyn am diced, a fi gyrrodd o yn y car, cael a chael wnaethom ni i ddal y tren; a barnu wrth y brys oedd arno, mi fuasai'r byd ar ben, petasai o wedi colli'r tren, a phetasai'r polîs wedi ei weld o yn gyrru, mi fuas.—"
Ond yr oedd yr arolygydd wedi mynd cyn i'r gwas orffen y frawddeg, a gwelodd ef yn neidio i gerbyd Humphreys y bwtsiar ifanc, ac yn rhoi slâs ar y ceffyl, ac yn gyrru ar garlam i rywle.
"Brenin Trugaredd!" ebe'r gwas mewn syndod, "oes yma glefyd gyrru wedi dyfod i'r Dre? Os oes, 'doedd dim rhyfedd i meistr ei gael o: yr oedd o yr union un i'w gael o, ond am yr hen super druan, dyna'r peth diwethaf 'fuaswn i'n feddwl fuasai yn dwad arno fo beth bynnag."
"Mae arna' i eisiau i chi ddweud wrthyf, Humphreys," ebe'r arolygydd, "sut y bu i chi brynu busness Parri, a sut yn union y talasoch chwi amdano, a hynny tra byddwn ni'n mynd oddiyma i'r banc—a heb ofyn p'am. A gafodd o'r ddau bapur ugain punt? Ynteu trwy'r banc y tal'soch chi iddo?" A dywedodd Humphreys bopeth.
"Arhoswch amdanaf," meddai wrth fynd i lawr o'r car i'r banc, "mi fydda' i allan eto ymhen chwarter awr."
Bu'r arolygydd gyda rheolwr y banc yn ei ystafell breifat am ddeng munud, ac yna daeth yn ôl. "Humphreys," meddai, yr oeddech chi acw yn gofyn ffafr go fawr gen' y noson o'r blaen, ac mi'i cawsoch hi—yr wyf innau am ofyn un i chwithau yrŵan. Ddowch chi efo mi yn eich car i'r stesion ac i chwilio am Prys y Plisman, ac wedyn i Fryn-y-Felin, a Thŷ'n-y-maes, ac efallai i Gae'r Pant, er bod arna' i ofn y dyrysa hynny eich cynlluniau chi am y diwrnod?"
Cyn pen dwyawr, yr oedd yr arolygydd wedi galw ym Mryn-y-Felin ac wedi cael sgwrs efo Mrs. Huws, a deall am ymweliadau diweddar Roberts, Tŷ'n-y-maes a rhywbeth felly. Aeth tua Thŷ'n-y-maes, ac ar ôl holi tipyn ar Mrs. Roberts, dywedodd wrthi hithau, fel y dywedasai wrth Mrs. Huws, am yr helynt rhwng Roberts ac Ifans, a rhoes hynny fel rheswm dros yr ymweliad, ac ar hynny dyma Roberts ei hun yn cyrraedd yng ngherbyd cymydog.
"Newydd fod yn dweud wrth Mrs. Roberts," meddai'r arolygydd, "eich bod wedi brifo yr ydw' i. Mae'n dda iawn gen' i eich gweld gymaint yn well."
"O! ie," ebe Roberts, a dyna i gyd, ac yr oedd yn amlwg bod ôl rhywbeth heblaw ymosodiad Ifans Bryn y Felin arno. "Diolch i chwi Humphreys," meddai'r Arolygydd Jones, rhyw ganllath oddi wrth y rheinws, "mi gaf gyfle i ddiolch mwy i chi eto o bosibl; mi gerddaf weddill y ffordd."
"Wel," meddai wrtho'i hun, "dyna fi wedi gwneud popeth a fedraf, ac efallai fy mod wedi gwneud gormod, ac os na byddaf yn lwcus, mae'n debyg y caf gerydd a gwawd y prif gwnstabl. Mi'r ydw' i yn gwybod fy mod wedi cymryd risc, a mynd dros derfynau fy awdurdod, ond mi'r oedd yn werth gwneud. Wel, mi af i weld y teigr yn ei gawell yrŵan, i edrych a ydyw wedi dofi tipyn. . . . Diain innau, dyma Puw yn dyfod oddiar ei fît. "Puw, dowch i weld sut drefn sydd ar y bwystfil, mae'n well i chwi ddwad efo mi, rhag ofn iddo fy llarpio i. Ha! ha! Mae o'n bur ddistaw."
Agorodd yr arolygydd y twll-sbïo, a oedd yn y drws, a dychrynnodd drwyddo; a chyn i Puw fedru rhoi'r agoriad yn y drws, cipiodd yr arolygydd ef o'i law, heb ddweud dim, ac agor y drws. A dyna lle'r oedd Ifans yn union o'u blaen, â'i ddau lygad yn llydan agored yn rhythu arnynt, a'i gefn ar fur pellaf y gell, a'i draed rhyw droedfedd oddi wrth y llawr, yng nghrog wrth ei grafat, a hwnnw wedi ei rwymo wrth un o farrau heyrn y ffenestr.
Eiliad fu'r ddau yn ei dynnu i lawr, ond yr oedd yn amlwg ei fod wedi marw ers meitin. . .
"Wel, dyma bicil," meddai'r arolygydd wrtho'i hun, wedi rhoi cyfarwyddiadau i'r plisman, a mynd i'w swyddfa, "It never rains but it pours,' ac yn ôl a welaf i, mae hi yn ddilyw arna' i heddiw. Rhaid cael cwest, a beth felltith ydw'i i wneud efo'r hen lythyr yma 'rŵan? Hwn ydyw fy esgus i dros wneud popeth a wneuthum i y prynhawn yma, ac yrŵan mae o'n debyg o ddifetha fy holl gynlluniau i eto, damia fo; mi ddylwn ei ddangos o i'r Chief, a 'wna i mo hynny chwaith, na wnaf ar f'end innau. Chaiff o ddim hwyl am fy mhen i, os ydyw Ifans wedi dweud celwydd, a 'chaiff o mo'r clod am ddal Parri ychwaith, os medra' i brofi fy achos; fi sy'n cael y drafferth i gyd, yn rhedeg ac yn rasio, ac yntau yn eistedd ar ei ben ôl yn ei offis, neu yn cael ei ddreifio yn ei gar i bob man. Na, mi gadwaf y llythyr yma gartre yn fy seff, a mi'i defnyddiaf o fel y gwelaf yn orau."
Ond ar hynny, dyma blisman i mewn i ddweud wrth yr arolygydd fod Mr. Franklin, prif stiward Syr William Anton, yn gofyn a gai ef ei weled; a chyn pen ychydig iawn o amser, yr oedd yr arolygydd wedi clywed digon i wybod bod rhan helaeth o lythyr Ifans, beth bynnag, yn wir,—a phetai Ifans ddim ond yn gwybod, yr oedd tynged yn glosiach ar ei sodlau nag yr ofnai, oblegid ychydig ddyddiau cyn hynny, dechreuasai'r penstiward chwilio i mewn i faterion y rhenti, mewn canlyniad i lythyr a dderbyniasai Syr William ei hun gan un o'r tenantiaid.
Byr a ffurfiol iawn a fu'r cwest, ar Ifans, Bryn y Felin; barnwyd i'w feddwl roi dan bwysau ei bryder wrth weled dydd datguddio'i dwyll yn agoshau, a llwyddodd Roberts i ateb pob cwestiwn a ofynnwyd iddo yn ddeheuig iawn.
Eithr fel y gellir tybied, yr oedd Roberts yn myned drwy amser pur bryderus, ac er bod hunanladdiad Ifans wedi rhoi rhyddhad mawr iawn iddo, yr oedd ymadawiad Parri, a'r newydd bod J. H. Humphreys wedi cymryd ei holl fusnes ganddo, yn peri gryn ddyryswch a phenbleth iddo.
Gwaeth na hynny, methai yn lân â deall paham yr oedd y plismyn yn crwydro fel yr oeddynt hyd diroedd pori Parri, ac yn loetran cymaint ar y terfynau. Yr oedd yr Arolygydd Jones, hefyd, yn gwneud rhyw esgus beunyddiol dros ddyfod i Dŷ'n-y-maes; yn wir, âi ei esgusion dros ddyfod yno yn deneuach bob tro, ac er na chyhuddodd yr arolygydd ef o wneud dim o'i le, edrychai yn rhyfedd arno wrth siarad ag ef, a chai ysbeidiau o ddistawrwydd, a wnai i Roberts deimlo yn wir anghysurus, a bron na chymerai Roberts ei lw ei fod yn gwneud ensyniadau hefyd.
"Brenin Nefoedd!" meddai Roberts wrtho'i hun, "mae o fel petai o'n gwybod rhywbeth, ydyw'n wir, ond sut y medrai o? Na 'choelia'i, nid awgrymu y buasai petai o yn gwybod, ond dweud yn blaen, a 'nghyhuddo i; mi fuasai'n rhy dda ganddo gael gwneud."
"Mae Roberts yn dechrau cracio, ydyw wir," ebe'r arolygydd yn foddhaus wrtho'i hun, "mae o'n siwr o gyffesu cyn bo hir, a mi gaf innau fy haeddiant llawn am fy ngallu a'm clyf'reiddiwch. Ha! Ha! Mi ddylwn roi carreg ddrud ar fedd Ifans. Wel, yr hen Chief, yr ydych wedi poeni digon arna' i ynghylch methu dal y lladron defaid a gwartheg, ac awgrymu nad ydw' i'n dda i ddim llawer. Ar ôl hyn efallai y bydd rhywun yn awgrymu ei bod hi'n amser i chwithau gilio o'r ffordd i wneud lle i Superintendent Jones."
Ac yr oedd yr arolygydd yn ei le; yr oedd Roberts yn cracio, ac onibai am amgylchiad annisgwyl iawn, buasai cynlluniau'r arolygydd wedi llwyddo: ond ymyrrodd ffawd ym mhlaid Roberts, na, efallai y byddai dweud hynny yn ormod. Wel, ymyrrodd yn erbyn yr arolygydd am y tro beth bynnag.
Pan gyrhaeddodd Parri i Gaer, yn lle aros yn y tren a mynd ymlaen i Lerpwl, nac ychwaith, newid i dren Birmingham, croesodd y platfform i dren Birkenhead a disgyn yn Rock Ferry, a mynd gyda'r tren tan yr Afon Mersey i'r Central Station; ac yr oedd yno dipyn cyn i ddisgrifiad yr Arolygydd Jones ohono gyrraedd stesion Caer, hefyd.
O'r stesion, aeth i siop Lewis, ac yno prynodd dopcôt a het, ac amryw fân bethau. Yna aeth ar ei union i Westy'r London and North Western, yn Lime Street, a chymerodd ystafell wely ddwbl am noson, gan arwyddo'r llyfr fel William Evans, Llandudno, a thalu ymlaen llaw am yr ystafell.
"My friend, who is sharing the room with me, will be here directly," meddai wrth y ferch ieuanc wrth y ddesg.—"Mr. Hughes from Bangor. Will you tell him what room I've taken, please?"
"I am going off duty in five minutes, but I will let Miss Lees know, when I am relieved," ebe hithau.
"Dyna dipyn o lwc," meddai Parri wrtho'i hun, gan gychwyn tua'r lifft.
Wedi cael i'w ystafell, cloes Parri y drws, ac ar ôl tynnu ei gôt a'i wasgod a'i goler, agorodd barsel bychan, a thynnodd siswrn allan, ac ymhen rhyw ddeng munud, yr oedd ei farf ddu ar y bwrdd ymolchi, ac yntau yn ei thorri yn fân â siswrn, ac yn ei thaflu yn ddyrneidiau drwy'r ffenestr i'r gwynt.
"Mi gâf waith siafio'r bonion efo'r rasal newydd yma," meddai, "ond mi laddra' i ddigon, mi fydd hynny yn help."
Ac ymhen rhyw dri chwarter awr, yr oedd gŵr ag wyneb glân yn cario côt uchaf ar ei fraich, a het yn un llaw, a bag yn y llaw arall, yn dweud wrth ferch ieuanc wrth y ddesg, "I am sharing number 28 with Mr. Evans, but I haven't signed the register."
Wedi gwneud hynny, cerddodd yn hamddenol drwy'r drws oedd yn arwain o'r gwesty i blatfform y stesion.
"Strange," ebe'r gŵr mewn lifrai oedd yn gwarchod, "but I never saw him coming in."
"Neither did I," ebe'r ferch ifanc a oedd newydd gymryd lle'r llall, "but Miss Morris had left a note about him, and the room has been paid for in advance, but you might as well go up to room 28 to see that everything is alright."
Ac ymhen tri munud yr oedd y pen porter yn ei ôl.
"Everything in order, Miss Lees, the other gentleman did not happen to be in his room just then, but his hat and over-coat were there."
Erbyn hyn yr oedd Parri wedi codi ticed i Lundain, ond fel bu'r digwydd pan oedd yn troi oddiwrth y twll codi ticedi, startiodd drwyddo, oblegid pwy welai yn dyfod yn ymyl, ac yn union i'w gyfeiriad ond Mr. James, a gadwai siop ddillad o fewn tri drws iddo yn y Dre.
Ac yn y sioc, heb gofio am foment ei fod wedi torri ei farf, a'i ddieithrio ei hun, cychwynnodd yn fyrbwyll ar draws y platfform tua'r giat oedd yn arwain i blatfform tren Llundain, a hynny pan oedd tryc trwm dan lwyth o gelfi yn cael ei wthio'n gyflym heibio, a chyn iddo fedru ei achub ei hun, yr oedd yn rowlio dan y cerbyd, ac un o'r olwynion haearn wedi myned dros ei goes.
Er bod ei wyneb fel lliain, a phoen enbyd yn ei goes, cododd cyn i bobl ddechrau ymgasglu, a chychwynnodd am y tren gan ddweud, "I am not hurt—everything is alright." Ond pan ddangosodd ei diced, "That is not your train, sir," ebe gŵr y ticedi, yn garedig, canys gwelsai ef y ddamwain. "You have at least twenty minutes before it is due to depart—you have time to get a cup of tea; hope you are not hurt, sir."
"No, thank you," ebe Parri gan droi draw, a brathu ei wefusau nes tynnu gwaed bron, yn ei ymdrech i beidio â griddfan yn ei boen, a throes at fynedfa ochr y stesion, ac aeth i'r cab cyntaf a welodd. "Princes Road," meddai wrth y gyrrwr, heb wybod yn iawn beth oedd yn ei wneud.
"Mi fyddaf cyn saffed yn hwn ag yn unman," meddai, "a diolch am gael eistedd i lawr, a chael o blith pobl."
Wrth iddynt fyned i fyny, teimlai Parri ei goes a'i droed yn wlyb, a gwyddai ei fod yn gwaedu. "Rhaid imi wneud rhywbeth i hon," meddai, "mi af i un o'r parciau 'ma, 'fydd yno fawr neb yr adeg yma o'r flwyddyn, ond mae hi'n dechrau t'wllu a mi fyddan' yn cau'r giatiau—na wir, gan gofio, mi fydd Sefton Park yn agored yn y nos. "Sefton Park" gwaeddodd ar y gyrrwr.
Wedi cyrraedd yno, ymlusgodd tuag un o'r seddau, dechreuodd archwilio'i goes a chafodd fod archoll mawr arni, ac wrth iddo ei dinoethi, gan feddwl ymgeleddu tipyn arni, dechreuodd waedu mwy, a saethodd y fath bang o boen drwyddi nes llithrodd Parri yn ei ing yn llyg i'r llawr.
Pan ddechreuodd ddyfod ato'i hun, yr oedd ei goes wedi peidio â gwaedu, ac yn brifo llai, ac meddai, "Mae'n well imi adael iddi fel y mae hi, na gwneud dim iddi neu fe ail-ddechreua waedu eto-mi gaf 'i golchi hi heno. Mi gymra' i gab eto i Edge Hill, ac mi af oddiyno i Lundain—fydd hi ddim yn ddoeth imi fyned i Lime Street heno.
Ond bu'r daith at giatiau'r parc, a'r sefyll i ddisgwyl am gerbyd, bron iawn yn ormod iddo; ac yn y cab, penderfynodd beidio â myned dim pellach na Manchester y noson honno. "Mae 'na ddau neu dri gwesty yn ymyl y stesion," meddai, "a siawns gen' i na fedra' i gerdded i un ohony' nhw."
Ond erbyn cyrraedd Manchester, canfu y byddai cerdded o'r stesion i'r gwesty nesaf, er mor agos ydoedd hwnnw, yn ormod iddo, a chymerth gab drachefn o'r stesion dros y bont i'r gwesty.
Ac yn ei ystafell mewn poen mawr, aeth ati i lanhau ei goes a'i bathio. "Y gwely fydd y lle gorau i mi," meddai, a chanodd y gloch. "Bring me a cup of tea, please," meddai wrth y porter a ddaeth i fyny. "and get me a bottle of iodine, too, if you can.'
PENNOD XVI
PARRI YN EI ELFEN
BU'N rhaid cael meddyg i'r gwesty at Parri y bore wedyn, ac am bum niwrnod arhosodd yn ei wely. Ond o dipyn i beth, dechreuodd y briw ar ei goes ildio i'r driniaeth, a chafodd godi, ond nid aeth i lawr i'r un o ystafelloedd cyhoeddus y gwesty ychwaith, a chymerai ei brydau yn ei ystafell wely, ac felly parhaodd nes teimlo'n ddigon da i fyned ymlaen i Lundain.
Ac er gwaethaf ei helynt, ni fethodd un diwrnod â gyrru un o weision y gwesty allan i nôl y Manchester Guardian, gan bwysleisio bod yn rhaid iddo gael y 'Welsh Edition.' Felly, gwelodd hanes trychineb Ifans Bryn y Felin a dyfarniad y cwest, ac yn naturiol iawn, teimlai yntau ollyngdod mawr. Cafodd ragor o'r manylion yn argraffiadau'r prynhawn a'r nos o bapurau Manchester. "Mae'n dda i mi," meddai, "mai fel'na y digwyddodd pethau, er nad oes dim diolch i Roberts Tŷ'nymaes 'chwaith, gan mai fo sy'n uniongyrchol gyfrifol am i Ifans ei grogi ei hun, a'r holl helynt—ac er bod Ifans yn farw, yn fy siwtio i'n well o lawer nag Ifans yn fyw, Beth 'dydyw hynny yn newid dim ar wendid Roberts yrrodd y ddau i yddfau'i gilydd tybed? A minnau'n meddwl fy mod i wedi gwneud pethau'n ddiogel. Tybed bod Roberts yn feddw ben bore felly? Beth mae o yn ei wneud erbyn hyn, tybed? A beth ddywedodd o yn y cwest ar Ifans, hynny ydyw, os cafodd o'i alw iddo? Dim llawer mi wn: a dim i'w fradychu ei hun, mi wranta."
"Na, os ceidw Roberts rhag y ddiod, mae o'n siwr o fod yn ddiogel. Mae digon o allu ynddo. Lle mae o'n meddwl fy mod i tybed? A beth ddywedodd o pan welodd o Humphreys hyd fy nhiroedd i? Wel, fo'i hun, a neb arall, sydd i'w feio am bopeth, ond, dim rhagor o bartneriaid i mi."
Bu Parri yn ystyried yn hir, pa un ai mynd i'w hen lety Llundain, ynteu cymryd llety newydd a fyddai orau iddo. Sylweddolodd y synnai gŵr y gwesty ei weled wedi newid cymaint, ond nid oedd ar Parri awydd myned i le newydd; adwaenai bobl ei hen lety, ac nid oedd berygl iddynt ei gysylltu â'r J. E. Parri oedd ar ffo, ped hysbysebai'r awdurdodau amdano, ac i beth y buasai yr awdurdodau yn gwneud hynny? Nid oedd dim perygl i Roberts ddweud dim, oblegid golygai hynny gymaint i Roberts ag iddo yntau; ond yr oedd Parri am fod yn bur ofalus am dipyn serch hynny. Felly, ymhen ychydig ddyddiau, cyrhaeddodd ei hen lety yn Llundain, â'i goes yn llawer iawn gwell, ond bod golwg pur wael arno; yr oedd ganddo rhyw wayw rhyfedd ym môn ei freichiau, ac yn ei ysgwyddau, a rhyw anesmwythdra yn ei wddf a'i wegil, a thybiai ei fod wedi cael drafft drwy ffenestr y gwesty ym Manchester.
Nid oedd gŵr y gwesty yn ei adnabod i ddechrau, ag yntau heb ei farf, ond pan ddechreuodd siarad, adnabu ef ar unwaith. "I would never have known you, sir," meddai, "but for your voice."
Penderfynodd Parri fyned i orffwys yn gynnar, a chymryd yr arian oedd ganddo i'r banc y bore wedyn, oblegid buasai y swm mawr a gariai yn gryn bryder iddo. "Rhaid i mi fynd i'm dangos fy hun i'r bancer, heb fy marf," meddai, "gan mai yma y llechaf am sbel nes cael gwybod sut y try pethau gartre, a rhywbeth felly."
Noson ddigon anesmwyth a gafodd, oblegid dal i waethygu'n raddol yr oedd y poenau yn ei wegil. Modd bynnag, yr oedd yn y banc bore drannoeth, ychydig wedi iddo agor, a buan y profodd mai efe oedd James Jenkins. Dangosodd Mr. Wills, y rheolwr, gwrteisi mawr tuag ato, a gwahoddodd ef i mewn i'w ystafell breifat. Yno eglurodd Parri fod ganddo swm lled sylweddol o arian i'w dalu i mewn, ac agorodd ei fag, a dechrau tynnu allan nodau pumpunt a deg, ac yn eu plith y ddau nodyn ugain punt a gafodd Humphreys gan ferch yr Arolygydd Jones, a chyfrifodd y rheolwr hwy.
Ymhen ychydig, gofynnodd y rheolwr iddo'i esgusodi am foment; a phan ddaeth yn ôl, â gwên siriol ar ei wyneb yr oedd Mr. Earle, y cyfrifydd, gydag ef. Wedi i'r rheolwr eu cyflwyno i'w gilydd, ac i'r cyfrifydd fyned o'r ystafell, meddai'r rheolwr, "We are very glad to learn, Mr. Jenkins, that we shall be seeing you quite often, now that you are staying in London for some time."
Ac wrthi yn ymgomio yr oeddynt pan ddaeth cnoc ysgafn ar y pared rhwng ystafell y rheolwr ag ystafell gyhoeddus y banc. Agorodd y rheolwr banel bach, ac estynnodd un o'r clercod gerdyn iddo.
"Show the gentleman in," meddai'r rheolwr, gan roi'r cerdyn ar ei ddesg, a chyda hynny dyma ddrws yr ystafell breifat yn agor a gŵr tal ysgwyddog yn camu i mewn. Nid oedd eisiau edrych ddwywaith arno, i weled mai plisman yn ei ddillad ei hun ydoedd.
"We are very sorry, Mr. Jenkins," meddai'r rheolwr, "but we've had instructions to notify the police if these notes . ." Ond dyna'r cwbl a gafodd y rheolwr ei ddweud, oblegid yr oedd Parri wedi codi dan chwerthin yn galonnog dros y lle, a gwthio'i gadair yn ôl, a chlywai'r casïer y tu ôl i'r cownter, a Mr. Earle a safai y tu allan yn ymyl drws breifat y rheolwr, lais uchel yn dweud yn llawen, "Old Frank!—as my name is Jim Jenkins. And how are you, old fellow?" A llais llawen arall yn dweud, "Jenks, by all that's sacred, and how the devil? O! do forgive us, Mr.—y—y—Manager, we haven't met for fifteen years." A bu chwerthin mawr a miri, a thwrw codi a symud cadeiriau yn cyrraedd hyd yn oed y clercod yng nghefn ystafell gyhoeddus y banc, ac edrychodd y rheini ar ei gilydd gan nodio a wincio, gan na chlywid yn aml, hwyl a miri mawr felly yn dyfod o ystafell breifat y rheolwr.
Yna agorodd y drws, a safodd Parri ar yr hiniog gan ddweud dros ei ysgwydd wrth y swyddog yn yr ystafell dan chwerthin, "I shan't be five minutes, and the swindler must be given a day's grace, whoever he is, as Frank Dunn—detective or not—must spend to—day with me-celebrating, and don't you let him leave before I fetch him, Mr. Wills." A chaeodd Parri'r drws a chychwyn allan, gan nodio yn siriol ar Mr. Earle wrth basio.
Yr oedd y cerbyd a logasai i ddyfod ag o o'r gwesty i'r banc, yn ymyl y drws yn ei ddisgwyl, yn ôl y trefniant. Camodd Parri iddo, a chyn ei fod wedi mynd ragor nag ugain llath, meddai wrth y gyrrwr, "There's a fiver for you, and if you can make Paddington in ten minutes there will be another too for you—it is a matter of ten thousand pounds to me, if I can catch—."
Ond mae'n amheus a glywodd y gyrrwr ddim am "ten thousand pounds" Parri, oblegid cyn gynted ag y deallodd am y pumpunt arall, rhoes slasen ar y ceffyl, nes bod hwnnw yn llamu ymlaen fel hydd.
Ymhen rhyw ddau funud wedi i Parri adael y banc, cafodd Mr. Earle achlysur eilwaith i guro ar y panel rhwng pen y cownter ac ystafell breifat y rheolwr, ond heb gael ateb. Gan fod y mater yn bwysig, curodd eilwaith, a thrachefn; ond ni chydnabu'r rheolwr ei guro.
Mewn cryn benbleth, curodd y cyfrifydd y drws, ond ni chafodd ateb, ac yn betrusgar, cilagorodd ef, a bu bron iawn iddo gael gwasgfa, oblegid o'i flaen, yn berffaith lonydd, gorweddai'r ditectif ar ei hyd ar lawr yr ystafell, ac ar ei gadair eisteddai'r rheolwr yntau, â'i ben, a rhan uchaf ei gorff, wedi syrthio ymlaen ar ei ddesg.
Nid cynt y clywodd Parri'r rheolwr yn dweud, "Show the gentleman in," nag yr amheuodd fod rhywbeth o'i le, ac ar amrantiad dyma holl adnoddau y troseddwr peryglus i'w gynorthwyo. Cafodd gip ar yr enw ar y cerdyn, pan roes y rheolwr ef ar y bwrdd; sylweddolodd beth oedd y "gentleman," chwedl y bancer, ar unwaith, ac erbyn bod y bancer yn dechrau egluro, yr oedd yntau yn barod.
Torrodd allan i chwerthin yn uchel, gan edrych ar y swyddog fel hen gydnabod, dan neidio ar ei draed a gwthio'r gadair yn ôl, a than wneuthur hynny, gwthiodd rywbeth tebyg i bistol bychan i wyneb y rheolwr, â'i law chwith, a'r un eiliad, â'i law dde, un cyffelyb i wyneb y ditectif, ac ar yr un amrantiad fflachiodd o'r pistolau, bwff bychan llwydwyn.
Plygodd y rheolwr ymlaen, dechreuodd coesau'r plisman, yntau, roi odano, ond cyn iddo daro'r llawr, camodd Parri ymlaen, a daliodd ef, a'i ollwng i lawr yn esmwyth.
Dan wneuthur hyn oll, siaradai a chwarddai Parri yn uchel, yn ei lais ei hun, bob yn ail ag mewn llais gwahanol; cipiodd bentwr o'i arian papur oddiar y ddesg, agorodd y drws, safodd yno i gymryd arno siarad am ychydig, ag allan ag o.
A phetasai Roberts Ty'nymaes yno, cawsai esboniad ar beth a ddigwyddasai iddo fo ac i Ifans, a'r sarjant a'r plisman, oherwydd taniai'r pistolau bychain, yn hollol ddi-glec, nwy gwenwynig, a barai lwyr anymwybyddiaeth am bum munud o leiaf.
Tra ceisiai'r staff wneud popeth a allent i'r plisman, a'r rheolwr, nes i'r meddyg gyrraedd, daeth y plisman ato'i hun, a gofynnodd yn gynhyrfus: "Where is he?"
"He has escaped," meddai Earle mewn tôn chwerw, "but. . . "
"How did he go?" gofynnodd y swyddog ar ei draws. "The cab," atebodd Earle, "that brought him here, was waiting for him, but we informed the police..."
Ond nid ymddangosai'r plisman fel petai'n gwrando, ac ymdaenodd gwên foddhaus dros ei wyneb. Ac yn naturiol iawn, tybiodd Earle mai gwên gymeradwyol ydoedd am ei flaengarwch ef, yn gyrru am y polîs. Ar hynny, dyma gyd-swyddog i'r ditectif i mewn, a meddyg.
"He must be an old bird," meddai'r ditectif, "he worked like lightning, never saw anything smarter, but how the deuce did he get hold of the gas-pistol? That is a pretty rare toy, in England."
"Mae'r ciabi yma yn gyrru gormod," ebe Parri wrtho'i hun, dan ddal ei afael yn ochr y cerbyd, fel y gweai'r gyrrwr drwy'r traffig, nes bod y car yn neidio o'r naill ochr i'r llall. "Os deil o i fynd fel hyn, mi fyddwn yn y stesion cyn pen dim—mi fuasai'n well gen' i fynd i rywle arall, ac ymgolli yn y ddinas yma, ond waeth faint a rown i i'r ciabi yma. am dewi, dweud wnai o ymhle y byddai wedi fy rhoi i lawr, yn enwedig os cynigid tâl iddo, a 'feiddia' i ddim mynd i'm gwesty, mae'r bancer yn gwybod am y fan honno. Cael a chael, wnes i i ddwad o'r gongl gyfyng yna, ac i'm dau hen ffrind ffyddlon y mae imi ddiolch, a mi lwythaf y ddau eto 'rŵan, rhag ofn y bydd galw am eu help eto.
"Mae'n rhaid bod rhywbeth go fawr wedi cymryd lle er pan adewais i'r cartre. P'am rhoi gorchymyn i'r banc stopio'r nodau? Nid rhai drwg oedden' nhw, siawns gen' i. Na, mae rhywbeth wedi digwydd, a rhaid i minnau gymryd yn ganiataol bod y polîs ar fy ngwaed i cyn yrwan—a mi gerddais i'r trap cynta' fel cath ddall. Ac eto. Pwy . . .? Y. . .? Beth sydd wedi dwad heibio imi, mae nhw ar fy ngwaed i 'rwan beth bynnag,—dyma finnau yn talu am gael fy ngyrru i'r ail drap—Paddington ydyw'r stesion nesaf i'r banc wrth gwrs—mi fyddan' yno'n fy nis. . . Hei ." gwaeddodd, gan geisio codi'r drws bychan uwch ei ben, yn nho'r cab. "Cabby! I say, Cabby! Stop." Ond nid ymddangosai'r gyrrwr fel petai'n ei glywed, eithr annos y ceffyl i fynd yn gyflymach. "Dyma fi'n siwr yrŵan," meddai, "mae'r cwbl wedi ei fficsio wrth gwrs. Ar hynny, edrychodd i fyny, a gwelodd y rêns uwch ei ben; cododd ar ei draed, ac ymestynnodd, i fyny ac â'i law dde rhoes blwc ar y rêns o law'r gyrrwr, a thynnu arnynt â'i holl nerth, nes bod traed ôl y ceffyl yn llithro odano, gan ei adael ar ei golyn, fel ci; ac er bod Parri wedi ei baratoi ei hun gorau medrai erbyn y stopio sydyn, a gafael â'i law chwith yn ochr y cerbyd i'w arbed ei hun, neidiodd y dau hanner drws yn agored a thaflwyd Parri allan, ond disgynnodd ar ei draed—a hynny pan oedd y gyrrwr, yntau, yn disgyn i lawr o'i sêt uchel y tu ôl, dros ochr y cab, ac onibai i Parri dorri peth ar ei godwm, y tebyg yw y buasai wedi ei anafu yn ddifrifol; ond hanner daliodd Parri ef, a'r un foment gwaghaodd un o'i bistolau i'w wyneb. Yna taflodd olwg frysiog ar y ceffyl, a oedd yn prysur gael ei draed ôl dano, a hyd y gwelai, nid oedd ddim llawer gwaeth. "Diolch," meddai, " 'does yna fawr ddim drwg wedi ei wneud i'r car, ac y mae'r siafftiau a'r harnais yn gyfan hefyd." Erbyn hyn, yr oedd amryw wedi dyfod atynt. "Nothing serious," meddai Parri wrthynt, "and no bones broken. Poor cabby—he's just knocked out, that's all. Help me to put him in the cab, someone; I'll drive—luckily I am able to drive myself—we'll take his overcoat off first, and put it over him; mine, too, I think—must keep him warm after the shock." Wedi ei osod o i hanner gorwedd ar y sêt, caeodd y drws, a dringodd i fyny i sêt y gyrrwr, ac ymaith ag o.
"Wel," meddai yn y man, gan droi i stryd ochr, "dyma fi o fewn canllath i'r stesion." A thynnodd i fyny wrth y cyrb, "Dyma le go dawel, ac ychydig o bobl o gwmpas.'
Neidiodd i lawr, ac ymhen ychydig eiliadau, yr oedd côt drom y gyrrwr amdano, a'i het galed o am ei ben, a'i gôt yntau dros y gyrrwr, a'i het feddal ddu o ar lawr y cerbyd. Gwthiodd bedwar papur pumpunt i boced ei wasgod, â'u hanner allan, rhoes ddau arall yn ei law-"Un ar lawr eto," meddai wrtho'i hun, "ac os medra'i ddianc am bymtheg punt ar hugain, mi fyddaf wedi gwneud hynny yn rhad. Wel, dyma gynnwys hwn eto i'th gadw'n ddiddig am dipyn bach yn rhagor." A gwnaeth yr ail bistol eto'i waith yn effeithiol.
"Dipyn yn dyn ydyw'r gôt meddai Parri, dan ddringo i sêt y gyrrwr, a chychwyn am y stesion, ac y mae'r het yn pwyso ar fy nghlustiau i hefyd, ond mae hynny yn beth cyffredin iawn i'r cabis yma, ond os ydyw ei wyneb o yn dewach na f'un i, 'does ganddo ddim locsyn na mwstas wrth ryw lwc. Wel 'rwan amdani, dyma ni yna, damia'r boen yma yn fy ngwegil, heblaw am hwn, mi fuaswn yn fy elfen, buaswn wir."
"Fel y gyrrai i'r stesion, gwelai ddau blisman yn union o'i flaen, "Ie," meddai wrtho'i hun, "dyma nhw yn disgwyl. Sut y cafodd y ddau wybod tybed? Mae hynny yn bwysig iawn i mi."
Dan ymson fel hyn, gyrrai yn union at y plismyn, gan wneud arwyddion arnynt, a nodio a wincio, a phwyntio i lawr at y teithiwr yn y cab odano, fel, erbyn iddo dynnu ar y rêns i atal y ceffyl, yr oedd y ddau swyddog un bob ochr i'r cerbyd, ac erbyn i Parri ddyfod i lawr o'i sêt, yr oeddynt wedi agor y drws.
"Why, he's unconscious," meddai un ohonynt.
"No bloomin' fear," meddai Parri, "e's putting one over ye', 'e is. Ye' better put the darbies on him, or he'll give ye' the slip, and 'e will, I tell ye'—I suppose ye'll wont me to stay 'ere. Well, keep an eye on me gee, will ye', while I go to the station to wire the boss, an' tell 'im 'ow I'm fixed. I was to fetch a fare from Euston."
A diflannodd Parri i'r stesion.
Erbyn hyn, yr oedd un o'r plismyn wedi codi'r gyrrwr ar ei eistedd, a hwnnw yn dechrau ymysgwyd, ond yn sâl iawn gan effeithiau'r nwy gwenwynig ac yn taflu i fyny, ond heb fedru dweud dim.
Ym mhorth y stesion, gwelai Parri drên wrth y platfform nesaf ond un, ag arwyddion amlwg ei bod yn hwylio cychwyn allan. Galwodd ar borter a welai heb fod nepell oddi wrtho, a gofynnodd iddo: "Where is that train for?" "South Wales Express. First stop Reading," meddai y porter. "Here you are," ebe Parri, gan roi'r pres cludiad yn ei law, a sofren felen dros ben, "Get me a 'first' to Reading, please; while I find a seat."
Edrychodd y porter am eiliad ar y sofren felen ar gledr ei law a chychwynnodd am y bwth ticedi fel petai wedi ei ollwng o wn.
"Rhaid cael cerbyd gwag i'm pwrpas i," meddai Parri, "ac os daw'r porter yn ôl mor gyflym ag yr aeth o, mi gaf ddigon o amser i fynd i mewn ac allan yr ochr arall, ac ar draws y rheiliau, a hynny cyn i'r rhan yma o'r lein fod yng ngolwg y platfform yma. Dyma gerbyd gwag; mi adawaf y dopcôt a'r het ar . . . O! Arglwydd Mawr, beth wna' i?"
A theimlai Parri y fath bang o boen yn ei wegil nes ei fod yn llythrennol wywo ganddo.
"You are ill, sir," ebe'r porter, a oedd newydd gyrraedd efo'r ticed, "you are not fit to travel, sir." Ond nid ymddangosai Parri fel petai'n ei ddeall o gwbl, eithr edrychai yn syfrdan o'i flaen. A gafaelodd y porter yn ei fraich, a'i arwain i sêt yn ymyl yr ystafell ddisgwyl.
PENNOD XVII
A PHARRI YN Y FAGL
Ni wnaethai Parri gamgymeriad, yr oedd gyrrwr y cerbyd wedi cael ei "fficsio," chwedl yntau. Cychwynasai dau dditectif am y banc, pan gaed y neges oddiwrth y bancer.
Gwelsent y cerbyd. gwag, y tu allan, ac ni buont yn hir cyn cael gwybod mai disgwyl dyn a oedd i mewn yr ydoedd. Rhoes y ditectif gyfarwyddiadau neilltuol i'r gyrrwr, a threfnodd i'w gyd-swyddog ddilyn y cab ar feisicl.
Ac ymhen ychydig iawn o funudau wedi iddo gychwyn canlyn y cerbyd, yr oedd y swyddog hwnnw (Cymro, gyda llaw) wedi colli pob blas at ei orchwyl.
Ac meddai wrtho'i hun, dan badlio nerth ei fywyd: ""Doedd gyrru fel ffŵl ddim yn un o'r cyfarwyddiadau a gafodd y ciabi. Tybed fod y cono yn y cab wedi rhoi pres iddo am fy ngholli? Wel, 'tawn i . . ." Ond ar hynny, daeth atalfa ddisymwth ar rediad ei feddwl, gan glec fawr tiwben olwyn flaen ei feisicl yn rhwygo, a thaflwyd y swyddog dros gyrn y beisicl, nes ei hanner syfrdanu gan rym y godwm.
Ond neidiodd i fyny, a chythru ar ei feisicl drachefn, gan feddwl cadw ar drywydd y cerbyd a oedd eisoes yn mynd o'r golwg draw, ar waethaf ei deier fflat; ond yn y godwm yr oedd cyrn y beisicl wedi rhyddhau, a chyn gynted byth ag y cychwynnodd y swyddog, daeth y cyrn i ffwrdd yn ei ddwylo, a chwympodd eilwaith, a disgyn y tro hwn yn drymach na'r waith gyntaf.
Cododd gyda llw, ac er bod ganddo boen yn ei goes, cychwynnodd redeg, a gweiddi ar rywun a welai yn marchogaeth beisicl o'i flaen, ond methai yn lân â thynnu ei sylw, a throes i edrych a welai rywun arall o'i gwmpas ar feisicl, a sylwodd fod pawb o'i amgylch yn edrych arno, ac yn gwenu o glust i glust, a dechreuodd deimlo dipyn o oerni yn ei glun, ac edrychodd i lawr, a gwelodd fod rhwyg fawr yn ei drywsus yn cyrraedd o'i glun i lawr i waelod ei goes. "Ie, chwerddwch, y ffyliaid," meddai'r swyddog ynddo'i hun yn chwerw, "os bydd hynny'n rhyw gysur i chi, ond peidiwch â meddwl fy mod i'n hidio dim, a phetaech chi ddim ond yn gwybod, nid fy nhrywsus i wedi torri sy'n fy rhwystro i i fynd ar ôl y cab ychwaith, ond y ffaith na wn i ddim ffordd i fynd, dyna—hylo, dyma Frank."
Ac o gerbyd oedd newydd stopio yn ei ymyl, camodd y ditectif a aethai oddi wrtho i mewn i'r banc, allan, ac meddai â'i bwysau ar ochr y cab: "What's this Taffy? And how—"I've lost the cab, Frank," meddai'r Cymro ar ei draws, yn gynhyrfus, "but I'll explain later. Have you an idea where they were heading for? Cabby drove like a demon, whatever—."
"Oh, don't get excited old man, we'll collar him. I take it that he made straight for Paddington, but the cabby knows what to do, if he changes his mind. Jump in, Taffy, you might as well be in at the kill—we'll fix your pants on the way. Oh, dash it all"—a siglodd y swyddog ar ei draed, "help me up, Taff, I'm a bit dizzy; it's the effect of that stuff the bloke fired. Oh! I forgot, you haven't heard—I'll tell you on the way."
A than fynd, dywedodd hanes yr helynt yn ystafell breifat y banc, ac nid oedd wedi gorffen pan gyraeddasant iard y stesion.
"Oh! they've landed him right enough," meddai'r swyddog dan gerdded tua'r cab, ac edrych ar y plisman yn cynnal y gyrrwr druan, a hwnnw yn edrych yn bur wael hefyd. "He must have taken poison, sir," ebe'r plisman, "to be as sick as this."
"Poison?" gwaeddodd y swyddog, "poison! Who the devil have you there?"
"We acted on your instructions, sir—from the bank, and conf. . ."
"Oh! you blithering idiots," ysgyrnygodd y ditectif, "this is the driver, Where is the fare? Where?"
"B-but the driver has just gone inside the station to telegraph. . ."
Ond yr oedd y swyddog eisoes yn rhuthro am y fynedfa i'r stesion, a'i gyd-swyddog o Gymro wrth ei sodlau, wedi anghofio'r cwbl am y boen yn ei glun, a'r rhwyg yn ei drywsus.
"You go ahead, Taffy, and make enquiries further on, my head is beginning to spin again. I'll question the ticket collector, and follow you."
A chyn pen ychydig iawn, cafodd y swyddog wybod digon gan ŵr y ticedi, i'w yrru nerth ei draed, ymlaen hyd y platfform, ond ar hynny daeth y fath benysgafndra arno, fel mai prin y llwyddodd ei goesau i'w gario at sêt, cyn rhoi odano.
Ac fel y bu'r digwydd, at yr union sêt yr eisteddai Parri arni, ac yn awr yn dechrau dyfod ato'i hun.
Erbyn hyn yr oedd y swyddog o Gymro wedi cael gafael ar y porter, ac yn rhedeg yn ôl gydag ef hyd y platfform, i ddweud nad oedd Parri wedi mynd efo'r tren, ond ei fod wedi ei gymryd yn wael, ac mai chwilio am frandi iddo 'roedd y porter pan ddaeth ar ei draws. Ond ar hynny, gwaeddodd y porter: "Here he is, sir," "Yes, don't I know it," meddai'r ditectif gan gythru at ei gyd-swyddog a welai yn eistedd yn welw-wyn ar y sêt, a gofyn iddo: What's the matter Frank? I say, Frank, what's come over you?"
"Oh, the effects of that cursed gas, I suppose, but I'll be better in a moment. Did you—
"Hey!" meddai'r Cymro wrth y porter, "what are you tugging at my coat for, man?"
"You've got the wrong fellow, sir," meddai, "that's the chap you want, sitting at the other end of the seat, there."
"What?" meddai'r swyddog, "that bald-headed chap, without an overcoat, there?"
"Yes," meddai'r porter, "Yes, I tell you that's the fellow." "Frank," ebe'r swyddog, "do you feel well enough to take a peep at ." Ond cyn iddo orffen yr oedd Frank, chwedl yntau, nid yn unig wedi cymryd "peep" ond wedi neidio ymlaen, ar waethaf ei benysgafnder—ond cyn iddo'i gyrraedd, gwelodd Parri ef, a chododd ar ei draed gan gychwyn
"After him, Taffy. After him. Oh! blast this giddiness," A suddodd y swyddog i lawr ar y sêt, gan ochneidio.
Ond yr oedd y Cymro eisoes wedi cyrraedd Parri, ond cyn iddo fedru gafael ynddo, yr oedd Parri wedi disgyn ymlaen ar ei wyneb ar slabiau cerrig y platfform, ac yn ymdreiglo fel petai mewn poenau arteithiol, a'i wyneb yn cael ei ddir-dynnu bob llun, tra craffai'r ddau swyddog a'r porter arno.
"Well," meddai'r Cymro yn ddigyffro, ond yn bur wyliadwrus, "let him do his stuff, but he's not doing a bunk again. I'll see to that."
Ond yr oedd yn amlwg erbyn hyn nad ffugio yr oedd Parri, oblegid dirdynnid ef yn erchyll, ac ymddangosai ei wyneb fel pe wedi troi o'r tu chwith, a'i lygaid fel pe am neidio o'i ben.
"No, it's not a fake," ebe'r ditectif arall, "he is epileptic. Send for the ambulance, Taffy. I'll watch him."
Ac ymhen ychydig iawn o amser, yr oedd Parri mewn gwely yn un o ysbytai Llundain, a phlisman yn ei wylio, tra archwiliai'r meddygon ef.
"Tetanus," meddai un o'r meddygon, "and hopeless. That wound in his leg, I suppose, and there is another older wound in his arm too—I wonder?"
Gwyddai'r meddygon yn iawn mai drwy un o'r briwiau, yr aethai pryfetyn y lock-jaw i'w gyfansoddiad, ond nid oedd modd iddynt wybod ychwaith mai o bridd clawdd cae J. H. Humphreys, y bwtsiar, yr aethai, y noson y rhoes Parri'r defaid yn ei gae, ac yr agorodd y weiren bigog ei fraich.
Fel y dywedwyd eisoes, medrai'r Arolygydd Jones symud yn gyflym weithiau, a gwneud ei waith yn bur drwyadl, gan nad beth a ddywedai'r prif gwnstabl; a'r diwrnod y dif-lannodd Parri, wedi cael gwybod gan Humphreys ei fod wedi talu'r ddau bapur ugain punt a roesai ef i'w ferch, wrth setlo efo Parri, ac yntau yn cofio'u rhifau; trefnodd gyda'r banc i roi holl beirianwaith y sefydliad cymhleth hwnnw i atal twyllwyr, ar waith.
Gwir fod Jones wedi gwneud hyn oll ar ei gyfrifoldeb ei hun, ond cyn bo hir, byddai perygl mawr i'r prif gwnstabl gael gwybod—ond daliai'r Arolygydd Jones i gredu y medrai wneud rhywbeth o'r wybodaeth a gawsai yn llythyr Ifans. "Fuasai dim perygl," meddai, "i ddyn ar fin tragwyddoldeb, fel y dywedai, lunio straeon celwyddog fel yna am neb."
Efallai na syrthiasai Parri i'r trap mor rhwydd ychwaith, onibai fod ei ddamwain yn Lime Street a'i anhwyldeb ofnadwy, wedi gwanychu cymaint ar ei gorff, a phylu peth ar ei feddwl.
PENNOD XVIII
CATH A LLYGODEN
"WEL," meddai'r Arolygydd Jones wrtho'i hun, "mae deng niwrnod wedi pasio, a dim golwg ar Parri, na dim gair yn ei gylch. Mae'n helynt o beth iddo gael dianc, ond eto, beth arall fedrwn i ei wneud? Wel, mi fydda' i'n sicr o Roberts, beth bynnag, a 'rwan gan 'i bod hi'n edrych yn o dywyll am i'r bwtsiar ddwad i'r golwg, mi af at Roberts i roi dipyn o help iddo fo glirio'i frest; gresyn na chawn i ddweud am y llythyr—mi fuasai hynny yn sbario'r holl drafferth imi, ond mae'n rhaid imi roi peth o'i gynnwys iddo fo, i'w helpu."
"Aros tan fydd hi'n 'o hwyr fyddai orau i mi—mi fydd yn addfetach yr adeg honno—mi af yno tua naw heno, a mi fydd fy ngweld i ar hiniog y drws yr adeg honno o'r nos, yn dipyn o sioc iddo, efallai; ac yn help i lacio'r cloeau. Mi ofynna' i iddo fo'n awgrymiadol, welodd o Ifans Bryn Felin yn rhywle y noson y torrwyd i mewn i Gae'r Pant, ac oni bydd hynny yn ddigon, mi ofynna' i wedyn welodd o Parri'r Bwtsiar ynteu."
Ar hynny, dyma gloch y teliffon yn canu, ac am y waith gyntaf yn ei oes, cafodd yr Arolygydd Jones siarad ar y ffôn yn uniongyrchol â Scotland Yard, ac ymhen yr awr, mewn canlyniad i'r sgwrs, yr oedd yn y tren yn cyflymu tua Llundain.
"Strôc go dda," meddai Jones, "oedd imi feddwl eu rhoi ar waith i stopio pwy bynnag fuasai'n treio newid y nodau, ond 'cha'n nhw byth wybod beth a barodd imi fyned i'r banc ychwaith. Lwc ynte, oedd i Nansi ofyn am fenthyg y ddeucant i mi; na, mi fydd hon yn bluen imi, bydd, myn coblyn i, ac oni olyga hyn bromosiwn i mi, mi fynna'i wybod p'am. Ond Dangerously ill, not expected to recover, dyna ddeallais i ar y teliffon, os deallais i'n iawn ynte, mae mor anodd deall y cocnis 'ma. Gobeithio na wnaiff Parri ddim marw cyn imi gyrraedd beth bynnag, ond marw neu beidio, os oes ganddo lock-jaw, 'fydda'i fawr nes i'r lan, 'fedr o ddweud dim wrthyf. Sut andros y cafodd o beth felly tybed?"
Ymhen rhyw ddeng awr wed'yn, dilynnai'r arolygwr un o borteriaid ysbyty yn Llundain, rhwng slabiau llechi y marwdy, nes cyrraedd un arbennig. "Here we are," ebe'r porter, gan godi'r lliain oddiar ffurf dyn a orweddai ar lechen; ac yn y llwyd-olau, edrychodd yr arolygydd ar y corff, a syllu'n, syn ar yr wyneb gwelw.
"I don't know this man from Job," meddai.
"Can't we have more light?"
Ac wedi i'r porter nôl lamp arall, ac i'r arolygydd gael golwg well arno, a gweled ei ben moel, a'i law chwith heb y bys canol, meddai, mewn syndod, "By jingo! It is Parri after all; well, I'm dashed! Had I seen him with his hat on, I would never have known him." Bu'n rhaid i'r arolygydd aros yn Llundain am rai oriau i drafod mater Parri ac i roi tystiolaeth yn y cwest, oblegid ef oedd yr unig un a'i hadwaenai, ac yr oedd yr awdurdodau yn fusneslyd iawn, a'r bancer, yntau hefyd; ac ar ei waethaf, bu'n rhaid i'r arolygydd ddweud am rai pethau a'i blinai ynglŷn â Pharri, a'i fod yn amheus ohono ers tro byd; ond medrodd gadw rhag dweud dim am y llythyr, ac yr oedd y ffaith bod Parri yn mynd dan enw arall, ac yn bancio yn yr enw hwnnw yn ddigon i ddweud bod rhywbeth o'i le—ar wahan i'r ffaith ei fod yn cario'r pistolau efo fo.
Cafodd yr arolygydd ddigon o waith i'w feddwl ar ei daith adre. "Wel, wir," meddai wrtho'i hun, "mae pethau'n ddigon dryslyd, ac y mae'n amlwg i bawb yrŵan fod Parri yn un drwg, ac yn un drwg iawn hefyd, ond sut y medr rhywun brofi y busnes dwyn yma? A beth ddyweda' i wrth y Chief a wnaeth imi ei amau. A sut y bu imi fynd mor bell â threfnu efo'r banc i stopio pwy bynnag a newidiai'r nodau? A hynny heb sôn wrtho ef."
"A dim cês yn y diwedd. Mae'n rhaid imi gael cyffes Roberts, petwn i'n gorfod ei agor o. Mi af ato ar ôl mynd adre, a mi'i dychrynnaf o i farwolaeth, gwnaf, fel mae byw fi."
Erbyn iddo gyrraedd y tŷ, yr oedd J. H. Humphreys yno gyda Nansi, a thra oedd y ferch yn paratoi pryd o fwyd i'w thad ar ôl ei daith faith, dywedodd wrth Humphreys am ei amheuon ynghylch Parri, ond heb grybwyll dim am y llythyr.
Yr oedd cariad y ferch wedi ei syfrdanu pan glywodd.
"A 'rwan," meddai'r arolygydd, "mae arna' i eisiau i chwi fy helpu. Mae fy nyfodol i, a dyfodol Nansi, a bellach eich dyfodol chwithau hefyd, yn mynd i ddibynnu ar fy llwyddiant i gyda'r achos yma. Yr ydw' i'n berffaith sicr bod Parri a Roberts yn lladron defaid, a gwartheg hefyd o ran hynny, ac y mae arna' i eisiau i chi chwilio a chwilota'r hen gaeau yna i gyd, a'r siop, a Phen-y-cae-a phob twll a chongl; yr ydych wedi prynu popeth sydd yn y tŷ, onid ydych?"
"Do," atebodd Humphreys, "ond ychydig iawn o ddodrefn sy' ym Mhen-y-cae,-ym Mron-y-wawr y mae'r rheini, ac yr oedd o wedi gwerthu pethau'r fan honno i ryw siop ddodrefn yn y Dre; ond mi ofala' i am gadw fy llygad yn agored, ac os gwela' i rywbeth, mi gewch wybod ar unwaith."
"Nansi," meddai'r arolygydd, ar ôl iddo orffen bwyta, "mi 'rydw' i am fynd i orffwys am ychydig yrŵan-'chefais gysgu fawr ddim ers nosweithiau; os cysga' i, gofala am fy neffro i hanner awr wedi saith, cofia; mae arna' i eisiau mynd i weled Roberts Tŷ'n-y-maes tua hanner awr wedi wyth. Mi fydd yn noson braf yn ôl pob golwg, ac aros di, mae'r lleuad yn llawn heno hefyd,—dest y peth. Cofia di, dim munud ar ôl hanner awr wedi saith."
Yr oedd ffit ddigalon ar Roberts Tŷ'n-y-maes yn croesi trothwy y Crown y noson honno, oblegid daethai ei ofnau bod yr Arolygydd Jones yn gwybod rhywbeth, yn ôl; ac yr oedd y straen yn dweud arno.
"Pe cawn i dipyn o drefn ar fy mhethau," meddai wrtho'i hun, "fe symudwn i oddiyma i fyw hefyd. P'am andros y cymerodd Parri'r goes tybed, ac y gwerthodd o'r sioe i gyd, heb ddweud yr un hanner gair wrthyf? Ond am ei fod o wedi fy nwbl-groesi i, naddo erioed, 'doedd o ddim yn un a wnâi hynny, beth bynnag. Mi gadwa' i at fy un botel bob nos, nes bydd y miri drosodd."
Ond cyn pen chwarter awr, yr oedd Roberts wedi torri ei adduned yn yfflon, oblegid pwy ddaeth i mewn bron cyn gynted ag yntau, ond cyfaill iddo—porthmon ceffylau o dueddau Amwythig, a phrin yr oedd o wedi eistedd, cyn torri'r newydd am farw Parri yn Llundain; ac fe ddisgynnodd Roberts dipyn ym marn y porthmon a'r yfwyr eraill, oherwydd ei ddideimladrwydd o glywed y newydd. Yn wir, yr oedd yn amlwg i bawb fod y newydd wrth fodd ei galon, a mynnai dretio pawb o'i gyfeillion.
A phan adawodd y dafarn ychydig wedi wyth, dyna fu testun y sgwrs am dipyn.
"I knew," meddai y porthmon, "that they were not what we call friends, but I never thought things were as bad as that between them either. Why, he seemed to be enjoying the news of old Parry's terrible death."
Fel y dynesai Roberts at ei gartre, torrodd allan i ganu, oblegid teimlai bellach ei fod yn ddiogel iawn—efo Ifans a Pharri oddiar y ffordd.
"Yr ydw' i wedi pryderu yn ofer," meddai, "a phetasai gan yr hen Super rywbeth yn f'erbyn i, mi fuasai wedi gaf—."
Ar hynny, yn ymyl giât yr iard, gwelai rywun yn dyfod i'w gyfarfod; ac mor olau ydoedd, fel yr adnabu'r arolygydd ymhell cyn iddo'i gyrraedd.
"Wel, 'tawn i'n marw," meddai wrtho'i hun, "dyma'r hen fastiff yma eto."
"Wel, Roberts," meddai'r arolygydd dipyn yn ffurfiol, 'rydych chi mewn hwyl go dda ddyliwn; yr oeddwn yn eich clywed chi'n d'od ers meitin, dan ganu."
"Wel, ie, Super," ebe Roberts, "mae hi'n noson mor braf, er yn wir na ddylwn i ddim ychwaith, a 'nghymydog nesaf i wedi marw."
"Be? Y? Sut? Pwy ydych yn feddwl?" gofynnodd yr Arolygydd Jones yn syn, wedi ei syfrdanu bod Roberts yn gwybod.
"Chlywsoch chi ddim, Super?" gofynnodd Roberts, "Chlywsoch chi ddim am Parri'r Bwtsiar?"
"O, do!" meddai'r arolygydd, "ond 'wyddwn i ddim fod y stori allan ychwaith. 'Does dim ond ychydig oriau er pan gyrhaeddais i adre o Lundain. Mi ddanfonwyd amdana' i at Parri—mi'r oedd arno fo eisiau 'ngweld i cyn marw."
"Felly'n wir," ebe Roberts, "eisiau'ch gweld chi, naturiol iawn, ynte? Dywedwch i mi, oedd ganddo fo deulu o gwbl, Super?"
Heb gymryd sylw o gwestiwn Roberts, meddai'r arolygydd mewn tôn dipyn yn llym: "Mae yna bethau go ddifrifol, Roberts, ynglŷn â'r busnes, difrifol i chi hefyd, Roberts."
"Oes wir, difrifol iawn, Super bach, da y gwn i," ebe Roberts, "â phawb yn gwybod ein bod ni allan â'n gilydd—a ninnau'n gymdogion hefyd; ond wir, arno fo 'roedd y bai, cofiwch; yr ydw' i ar delerau da efo 'nghymdogion eraill i gyd; ond 'wn i ddim beth i'w wneud, na wn i wir,—mi fuaswn yn lecio mynd i'r cynhebrwng, ac eto, fuaswn i ddim. Ydyw, y mae o'n beth difrifol i mi, Super, nad oedd dim da rhyng—."
"Efallai bod mwy o dda rhyngoch chi, nag oedd neb yn feddwl," meddai'r arolygydd yn awgrymiadol.
"Na, wir," ebe Roberts, "gresyn na buasai, ag yntau wedi dyfod i ddiwedd mor ofnadwy. Wel, Super, rhaid i chi faddau i mi wir, rhaid i mi fynd —."
"Os nad oedd da rhyngoch chi," meddai'r arolygydd, wedi dechrau colli ei dymer wrth weld Roberts mor wyneb galed, "efallai bod drwg rhyngoch chi'ch dau."
"Dim efallai amdani, Super bach," ebe Roberts dan fynd, ""Does dim sy' sicrach na hynny, ac fel y dywed'soch chi, mae hi'n ddifrifol iawn arna' i, a phawb yn gwybod. Nos dawch, Super, nos dawch."
Ac ymlaen â Roberts tua'r tŷ, gan adael yr arolygydd ar hynny.
"Wel, dyna hogyn," meddai'r arolygydd, a thipyn o edmygedd yn treiddio drwy'i siom a'i dymer ddrwg, "a phetwn i'n amau cynnwys llythyr Ifans o'r blaen, mi 'i credwn o, ar ôl gweld actor mor dda ydyw Roberts. Wel, myn cebyst, fe lithra o 'ngafael i eto, mae o'n berffaith ddiogel—ac y mae o'n gwybod hynny hefyd, dyna p'am yr oedd o 'ngymaint o lanc. Mi wnaeth bopeth ond rhoi clec ar ei fawd arna' i, do 'tawn i byth o'r fan yma." A chychwynnodd yr arolygydd adre.
"Dyna fi yn sicr o ddau beth yrŵan," meddai Roberts wrtho'i hun y tu ôl i gilbost y giat, wrth wylio'r arolygydd yn cychwyn i ffwrdd. "Yn gyntaf, ei fod o'n gwybod rhyw—beth am Parri, ac wedi fy amau innau, ac yn ail, ond yn dra phwysig i mi, na fedr o ddim gwneud dim byd imi. Wel, mi gysga'n dawelach heno nag ydw' i wedi wneud ers tro."
PENNOD XIX
GWASTADHAU'R CYFRIFON
NID aethai'r arolygydd fwy na rhyw chwarter milltir, cyn cyfarfod darpar ŵr ei ferch, a chanfu hwnnw ar unwaith fod yr arolygydd mewn hwyl ddrwg, ac meddai wrtho rhwng difrif a chware, " 'Rydw' i am newid fy ngwaith, Super,—ac am fynd yn blisman."
"Mae can croeso i chi, 'machgen i," ebe'r arolygydd yn sur, "ond os gwnewch chi, mi wna i 'ngorau i berswadio Nansi i roi gorau i chi."
"Mi wnawn i blisman ar binsh . . ."
"Mi wnaech un gwell na mi, beth bynnag," ebe'r arolygydd ar ei draws yn chwerw, "ond 'does dim hwyl lolian arna' i heno. I b'le 'rydych chi'n mynd y ffordd yma?"
"Ond i'ch cyfarfod chi, debyg iawn," meddai Humphreys. "Felly wir, meddwl bod arna' i ofn, debyg gen' i," ebe'r arolygydd, gan gychwyn yn ei flaen ac ychwanegu,—"neu ofn imi gael strôc efallai, gan 'y mod i'n mynd yn rhy hen i'm job."
Gwenodd Humphreys a gafael yn ei fraich, ac meddai: "Gwrandewch arna' i am funud, Super."
A chyn pen ychydig iawn o amser yr oedd y ddau yn cychwyn am Dŷ'nymaes gyda'i gilydd, a phrin y medrai Humphreys ganlyn yr arolygydd, gan mor cyflym y cerddai.
Yr oedd gwraig Roberts wedi mynd i dŷ cymdoges, ac yntau newydd eistedd i lawr yn y gegin, a throi'r lamp i fyny, a llyncu diferyn o wisgi, ac yn hwylio tanio ei getyn, pan glywodd guro ar y drws, a pan agorodd, pwy welai yn sefyll yno, ond yr arolygydd a Humphreys.
"O!" meddai Roberts, dipyn yn sbeitlyd, "wedi anghofio rhywbeth, Super?"
"Nage," ebe'r arolygydd yn siriol, "meddwl rhoi gorau i'r gwaith plisman yma, a mynd yn bartner efo Humphreys, i ddal tir a bwtsiera tipyn. Ha! ha! ha!"
"Go dda wir," meddai Roberts, "ond wedi i Humphreys gymryd y tir a busnes Parri, efallai y caf innau hefyd ddwad i'r cwmni—ond ddowch chi ddim i mewn? 'Dydyw'r wraig ddim gartref."
"Wel, os felly, mi ddown ni ynteu," ebe'r arolygydd.
Wedi iddynt eistedd a thanio'u catiau, a sôn tipyn am y naill beth a'r llall, gofynnodd yr arolygydd yn sydyn, "Fydd gennych chi rywbeth i ddweud wrth y Pabyddion, Roberts?" "Wrth y Pabyddion?" gofynnodd Roberts, â golwg byslyd arno.
"Ie, ydych chi'n credu yn y busnes cyffesu pechodau yma, er enghraifft?"
Ceisiodd Roberts wenu, ond yr oedd yn amlwg ei fod ychydig yn anghysurus. Eto gwnaeth ymdrech i basio'r peth heibio fel tipyn o hwyl. "Wel, 'wn i ddim wir, ond mae arna' i ofn na chai'r un plisman wrando eu cyffes beth bynnag."
"Go dda, 'rwan, Roberts," meddai'r arolygydd dan chwerthin, "go dda wir, am y buasent yn gwneud defnydd o gyffesion pobl ynte? Beth am fwtsieriaid, Humphreys?"
"Wn i ddim wir," ebe Humphreys, "wn i dd—."
Ond troes yr arolygydd yn sydyn at Roberts, ac meddai ar draws Humphreys, "Wyddoch chi fod J. E. Parri yn gwrando pobl yn cyffesu?"
Sythodd Roberts yn ei gadair, a newidiodd ei wedd: "Be' ddiawl ydyw rhyw lol fel hyn?" gofynnodd.
"Ond hyd y gwn i," ychwanegodd yr arolygydd, heb gymryd sylw o gyffro Roberts, "fydd yr offeiriaid ddim yn gofyn i'r Pabyddion seinio'u cyffes . . ."
Am foment, meddyliodd yr arolygydd a Humphreys, yn sicr, fod Roberts yn mynd i neidio iddynt, oblegid cychwynnodd o'i gadair, â golwg beryglus arno, ond yr un mor sydyn, stopiodd, ac edrychodd ar yr arolygydd, â'i lygad yn meinhau, a daeth golwg gyfrwys i'w wyneb: "P'am na chymerwch chi fi i'r ddalfa, Super?" gofynnodd dipyn yn sbeitlyd.
"Wel," ebe'r arolygydd yn llon, "meddwl yr oeddwn i, Roberts, y carech chi gael un noson arall gartre."
"Gwelwch yma, Super," ebe Roberts, gan godi oddiar ei gadair, "fe wyddoch chi'n iawn fod Parri a minnau yn elynion, a phwy sydd yn mynd i goelio dim mae o wedi sgri—y—wedi ddweud. Mi'i deliais i o yn dwyn—i chi gael gwybod, a mi fu'n rhaid iddo fo roi hynny i lawr ar bapur hefyd, neu yr oeddwn i am roi'r peth yn llaw'r plismyn, ond mi beidiais, a dyna i chi oedd gwir achos y drwg—deimlad oedd rhyngddo a mi. Ymhen rhyw fis wed'yn, dyma fo'n dechrau fy mhasio i heb edrych arna' i—mae'r papur seiniodd o yn fy sêff i byth."
Ni feddyliodd Roberts fod y newydd yma wedi effeithio cymaint ar yr arolygydd—oblegid medrodd ymddangos yn ddi-gyffro, a gofyn mewn tôn ddidaro—mor bell ag y gellid barnu—"A gaf i weld y papur, Roberts?"
"Cewch—a'i ddarllen o hefyd pan fydd gofyn amdano," atebodd Roberts. Ac ychwanegodd yn ffug-ddifrifol, "Wir, mae'n well i chi fynd â mi heno, Super, rhag i bobl fy ngweld i, a chyn i'r wraig ddyfod adre."
"Na wir," ebe'r arolygydd, "efallai na fuasech chi ddim yn hidio llawer am gysgu yn y gell lle y crogodd Ifans Bryn y Felin ei hun, rhag iddo ddwad yno i orffen eich tagu chi, neu eich boddi chi, efallai. Nos dawch, mi gawn orffen ein sgwrs eto. Dowch Humphreys." Ac aeth y ddau allan.
"P'am na fuasech chi'n ei gymryd o i'r ddalfa heno?" gofynnodd Humphreys i'r arolygydd, mor fuan byth ag yr oeddynt drwy lidiart yr iard.
"Humphreys bach," meddai yntau yn chwerw, "Lle mae fy warant i? Lle mae fy mhrofion i? Y? Un peth ydyw fy mod i'n gwybod bod Roberts yn lleidr, peth arall ydyw imi fedru profi hynny—a mae'n rhaid i'r gyfraith gael profion. Pan ddarfu i chi ddangos y papur gawsoch chi yn sêff Parri, mi feddyliais fod y ffordd yn glir, ac y buaswn i'n cael cyffes Roberts i gyd, ond yn lle hynny, dyma 'machgen i'n sôn am bapur tebyg wedi ei arwyddo gan Parri. Mae hi'r un fath a phetasai'r ddau wedi bod yn chware'r gêm honno—beth fyddan' nhw yn ei galw hi hefyd? O! ie-'Confidences' ynte. Mae Roberts yn sicr o 'ngwneud i—ydyw 'tawn i'n marw."
Ar ôl i'r arolygydd a'r cigydd adael Tŷ'n-y-maes, y peth cyntaf a wnaeth Roberts oedd mynd i'r sêff i nôl cyffes Parri. "Rhaid imi dorri allan darn diwethaf nodyn Parri, neu'i blygu o fel na wêl o mo'r cyfeiriad ata' i—a'i ddal o iddo fo felly, heb ei roi o'm llaw, wrth gwrs, ac wed'yn mi fyddaf yn weddol ddiogel. Sut felltith?—A beth felltith mae'r hen Super yna yn wybod? Ond yr ydw' i'n sicr bod ganddo grap ar bopeth—hyd yn oed ar y miri wrth y llyn—ond nad oes ganddo ddim prawf pendant. Wedi cael hyd i'r hen bapur y felltith yma y mae o 'rydw' i'n siwr. Wel, fydd hynny ddim."
Erbyn hyn yr oedd Roberts wedi cael gafael ar yr amlen a gynhwysai bapur cyffes Parri, ac meddai wrth ei agor: "Wel, mi fedra' i wadu mai fi seiniodd bapur Parri, os daethant o hyd iddo, ond 'fedr Parri ddim gwadu hwn—yr ochr hon i'r bedd beth byn—. Y Nefoedd Fawr! Nid dyma'r papur, 'does yma ddim ar hwn." A dechreuodd Roberts chwilio yn wyllt ymhlith papurau ei sêff, ond yn gwbl ofer. "Duw â'm helpo i!" ochneidiodd, "Beth wna' i yrŵan? Sut y gwnaeth y diafol Parri yna fi, a minnau yna efo fo drwy'r amser? Mi'i gwelais o'n rhoi'r papur i mewn, â'm llygad fy hun." Ac ni ddaeth i feddwl Roberts o gwbl sut y twyllasai Parri ef.
Di-gwsg iawn fu'r noson i Roberts, a theimlai fod colli cyffes Parri yn tynnu'r tir o dan ei draed yn llwyr, ac y byddai'n rhaid ail—gynllunio.
A'r bore wedyn, cyn i'r Arolygydd Jones orffen ei frecwast, yr oedd Roberts yn gofyn am ei weld. "Super," meddai, "mi wnaf gytundeb â chwi—mi'ch rhof chwi ar y ffordd i brofi mai Parri'r Bwtsiar oedd yn gyfrifol am yr holl ddwyn sydd wedi bod yn mynd ymlaen y ffordd yma, a'r ochr draw i'r wlad, ac o'r trenau anifeiliaid i Fanchester, yn ystod y tair a'r pedair blynedd diwethaf yma—ar un amod."
"Beth ydyw honno Roberts?" gofynnodd yr arolygydd. "Eich bod yn fy nghadw i o'r miri."
Ymddangosai'r arolygydd fel petai am wrthod y cynnig; ac ychwanegodd Roberts, "Super, y mae o'n gyfle digyffelyb, a phromosiwn yn sicr i chi, oblegid yr oedd Parri yn un o'r criminaliaid medrusaf a wisgodd esgid erioed, a mi ddychrynnwch pan glywch chi beth . . ."
"Roberts," ebe'r arolygydd gan estyn ei law iddo, "'rydych yn gofyn peth anodd iawn, ond mi dreiwn ni wneud bargen. Mae yna gwrt am hanner awr wedi deg y bore' ma, mi fydd drosodd erbyn amser cinio. 'Fedrwch chi fod yma erbyn hanner awr wedi un, inni gael sgwrs? Dowch am gwpanaid o de yrŵan, tra byddaf innau yn gorffen fy mrecwast ac yn fy hwylio fy hun."
A chymaint oedd boddhad Roberts ar ôl ei ymweliad â'r arolygydd, fel y troes i Westy'r Victoria, gan addunedu ar yr hiniog na chymerai ond y nesaf peth i ddim i'w yfed yno; ond wedi bod yno am dipyn, anghofiodd ei adduned i raddau helaeth, ac yn sicr nid oedd ar ei orau pan gychwynnodd tua thŷ'r arolygydd erbyn yr adeg benodedig. Meddai wrtho'i hun ar y ffordd drachefn a thrachefn: "Mi wyddwn y medrwn i daro bargen efo'r hen super. Mae gan bawb ei bris, a mae'r hen ddyn yn sâl eisiau promosiwn."
"Wel Roberts" ebe'r arolygydd yn siriol, ym mharlwr ei dŷ, "Dyna ni, ond wyddoch chi beth? Andros o ddyn oedd Parri, a sut y medrai o wynebu ei farnwr, ar ôl eich blacio chi fel y mae o wedi gwneud, wn i ddim. Pan oeddwn i acw neithiwr, yr oeddwn i'n meddwl . . . ond dyna fi eto, yn siarad—rhowch imi gael eich stori chi."
"Beth am yr amod, Super?" gofynnodd Roberts.
"Yr oeddwn i'n meddwl ein bod ni wedi setlo hynny," ebe'r swyddog gan ostwng ei dôn, ond dan wincio hefyd.
"Wel, 'rwan amdani ynteu," ebe Roberts yn hwyliog, "paratowch eich hun am sioc." A dywedodd Roberts ei stori yn bur lithrig. Ac yn sicr ni buasai wedi bod mor rhydd, onibai am ei ymweliad â Gwesty'r Victoria. Fe'i teimlai ei hun yn cael hwyl ar bethau, ac yr oedd gweled syndod, rhyfeddod, a syfrdandod, mor amlwg ar wedd yr arolygydd yn rhoi gryn foddhad iddo hefyd. Ni buasai modd cael gwell gwrandawr. Roberts druan! Bychan a feddyliai ei fod wedi rhoi ei draed ynddi gryn hanner dwsin o weithiau. "A dyna ni bellach, Super, wedi gorffen," meddai, "yr unig dro y bûm i mewn cysylltiad ag o—y cenau drwg iddo,—oedd noson Bryn y Felin, a 'ddwynwyd yr un ddafad y noson honno. Yr oedd defaid Ifans druan yno i gyd—petasen 'nhw yn ddefaid iddo fo hefyd—pan ddaeth y dyn oedd piau nhw i'w nôl. Gelwch fi'n lleidr os mynnwch chwi—'rydw' i'n cydnabod imi fod yn fy meddwl y noson honno, ond 'dydy' cyfraith Prydain Fawr yn cosbi neb am feddwl Super, wrth lwc, ynte? Hy! Hy!"
A chwarddodd Roberts dipyn yn nerfus—lywaeth felly. Wedi ychydig o eiliadau o ddistawrwydd, gofynnodd yr arolygydd yn sydyn, "Peth rhyfedd i Parri ofyn i chi fynd yn bartner iddo fo'r noson honno, Roberts?"
"N—na, dim rhyfedd o gwbl super," ebe Roberts, "Ond—ond yn 'i ddyled o 'roeddwn i."
"O! mi welaf," ebe'r arolygydd, dan godi yn araf deg a chroesi i gyfeiriad y drws, a Roberts yn ei ddilyn â'i lygaid, dipyn yn anesmwyth. "O! wedi cael benthyg arian ganddo fo 'roeddech chwithau fel llawer—rêl hen Iddew oedd o ynte, Roberts?"
"Ie, ie'n wir, super," ychwanegodd Roberts, dan ddechrau sirioli, "rêl hen Iddew, ie, Iddew, rêl down."
"Peth rhyfedd iddo fo," meddai'r arolygydd dan agor y drws, "roi benthyg i chi hefyd, a chwithau yn gymaint o elynion."
"Ond 'dydych chi ddim yn gweld, Super—ofn i mi ddangos y papur â'i gyffes o arno yr oedd o."
"O! siwr iawn—ond peth rhyfedd na buasai gwybod bod y gyffes gennych chi, Roberts, yn ddigon i'w rwystro—fo eich gorfodi chwi i fynd yn bartner efo fo i ddwyn y noson honno. Lle mae'r papur Roberts? Rhowch imi ei weld
Erbyn hyn yr oedd Roberts wedi codi, ac yn edrych yn amheus iawn ar yr arolygydd: "Gwelwch chi yma, Super, os nad ydyw fy stori i yn ddigon heb. . .
Ond cyn iddo orffen y frawddeg, dyna blisman i mewn, ac o'r tu ôl i gwpwrdd llyfrau mawr ym mhen draw yr ystafell, camodd dau o ustusiaid heddwch y Dre allan, ac edrychodd Roberts arnynt, â'i lygaid bron â neidio o'u socedi.
"Wel, foneddigion," ebe'r arolygydd gan estyn papur iddynt, "'Rydych chi wedi clywed digon mi gredaf i arwyddo'r warant."
Ond ar hynny, gyda gwaedd erchyll, a chyn i'r plisman fedru ei rwystro, cythrodd Roberts i gadair drom, a rhuthrodd ar yr arolygydd.
"Y 'sglyfaeth budr," gwaeddodd, "y Judas Iscariot!" A thrawodd ef ar ei wegil â'r gadair, nes bod yr arolygydd yn suddo i'r llawr.
Paratodd y plisman a'r ustusiaid am' ysgarmes enbyd, ond ymdawelodd Roberts ar hynny, ac estyn ei freichiau at y plisman, "Cymerwch fi i'r ddalfa," meddai, "a handcyffiwch fi, a beth bynnag sy'n fy nisgwyl, mi fydd meddwl fy mod i wedi lladd y neidr yma, yn gysur mawr imi, ac yn help imi wynebu pob peth."
"Wel," meddai'r arolygydd wrtho'i hun ym mhen chwe mis wed'yn, pum mlynedd gafodd o ynte, ond mi 'roedd o'n haeddu rhagor, o lawer, am dorri asgwrn fy ysgwydd i, a rhoi deufis yn yr ysbyty imi, ond os caf i le'r Chief, mi'i gadawn hi ar hynna—ac yn ôl pob tebyg mi'i caf o hefyd.
"Pry ofnadwy oedd Parri, ond gresyn na chawsai yntau ei roi o flaen ei well, ac eto mi gafodd farwolaeth ddychrynllyd, yn ôl yr olwg oedd arno. Yr unig un yr ydw' i'n tosturio tipyn wrtho, ydyw'r hen Ifans druan,—hen fôi clên, ac mi wnaeth dro gwell efo mi, na neb, heb geisio wrth gwrs. Ofn cael ei gyhuddo o ladd yr hen Hopcyn—nage-o ladd Martha Hopcyn, wnaeth i Ifans, ei grogi ei hun, er bod ei ofnau o mae'n bur debyg, yn ddisail. Ond mi'r oedd yn eitha' gen' i fy mod i yn yr ysbyty, pan fu Mrs. Hopcyn farw hefyd; mi fuaswn i'n teimlo yn ddigon rhyfedd mi wn, a minnau yn gwybod am ymweliad Ifans â Chae'r Pant, ond marw o sioc, o weld ei gŵr wedi ymgrogi, basiwyd yn y cwest. Ei chalon hi'n ddrwg ers blynyddoedd, meddai'r meddygon. Ac y mae nhw'n siwr o fod yn gwybod. Hy! Wel, 'chafodd hi mo'i lleferydd yn ôl, a chaiff hi mohono fo 'rwan, mae hynny yn bur sicr. Felly dyna ben ar bethau."

Nodiadau
[golygu]Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.