Neidio i'r cynnwys

Blagur Awen Ben Bowen/Allor diwylliant

Oddi ar Wicidestun
Beth yw'r byd Blagur Awen Ben Bowen

gan David Bowen (Myfyr Hefin)

Y Diwygiwr

ALLOR DIWYLLIANT.

AT grud Diwygiwr eto-i roi mawl
Ac Offrwm hedd iddo,
Daw'r oesoedd dan ymdrwsio
Drwy fawrhad ar ei fro o.

Yn eu plith am fendith fawr
Diwylliant gwyd ei allawr.


Nodiadau

[golygu]