Neidio i'r cynnwys

Blagur Awen Ben Bowen/Bwthyn Pantycelyn

Oddi ar Wicidestun
Diwygiwr newydd Blagur Awen Ben Bowen

gan David Bowen (Myfyr Hefin)

Y dyn da

BWTHYN PANTYCELYN.

I DY fwthyn bychan, golau,
Gwesgaist dragwyddoldeb mawr;
Troa'th gamrau lwybrau blodau
Ac arweinia'th lygad wawr;
Gwawr i'r Nef ymdeithio i Gymru;
Llwybrau i Gymru fynd i'r Nef;
Dest a'r wawrddydd wen a'r canu
Wedi'r nos a'r dymhestl gref.

O MSS. Pantycelyn.
1899.


Nodiadau

[golygu]