Blagur Awen Ben Bowen/Cadeiriad Eurwedd
Gwedd
| ← Beddargraff William Bowen | Blagur Awen Ben Bowen gan David Bowen (Myfyr Hefin) |
Englynion anrhegu → |
CADEIRIAD EURWEDD, LLANELLI,
yn Maescanner, Dafen, ar ei fuddugoliaeth yn
Llanddewibrefi.
Miwsig heno'n Maescanner—ga Eurwedd
Dania gariad llawer;
O enau miliwn moler
Eurwedd y bardd yn gerdd bêr.
Llanddewi-brefi brofodd——hwn i fod
Yn fardd—pymtheg drechodd;
Yn awenwr esgynodd
I drothwy i fyd wrth ei fodd.
Yn wir i ddyn, Eurwedd yw—y gwron
Gerir fwyaf heddyw
Am ei waith; ond yn fy myw
Gwr cadair, nid gwraig ydyw.
Awst, 1897.