Blagur Awen Ben Bowen/Dydd fy ngwlad
Gwedd
| ← David Isaac Jones | Blagur Awen Ben Bowen gan David Bowen (Myfyr Hefin) |
Gwelaist → |
DYDD FY NGWLAD.
I.
Y MAE dydd fy ngwlad yn gwawrio;
Cenfydd hithau'r "Seren fore;"
"Byd dan flodau'n ymddisgleirio,"
Ac mae haul fy ngwlad yn rhywle.
II.
Gwn fod trefniad ac amseriad
Gan y nef wrth roi ergydion;
A chlyw meinglust dyner cariad
Ergyd Duw yn guriad calon.
1899.