Blagur Awen Ben Bowen/Er cof am James Morgan, Maerdy
Gwedd
| ← Marw goffa William Reynolds, Treorci | Blagur Awen Ben Bowen gan David Bowen (Myfyr Hefin) |
David Isaac Jones → |
ER COF AM JAMES MORGAN, MAERDY,
Yr hwn gyfarfu â'i ddiwedd wedi gorffen ei
dydd gwaith drwy syrthio yn ol i'r pwll,
Hydref, 1896.
Er nerth—Duw—ei obaith Iesu,
Y cyfiawn a obeithia pan byddo yn marw.
Cwynai awel lem yr Hydref
A machludai Haul y Dydd;
Genau'r glowr yn sibrwd gartref
Tra o'i waith yn dod yn rhydd;
Gartre yr oedd bwrdd taenedig,
Trem i gyd oedd priod cu;
Eto, cwympo'r ffrynd caredig
Fynnodd Ior o'r ddamwain ddu.