Neidio i'r cynnwys

Blagur Awen Ben Bowen/Fy mynydd

Oddi ar Wicidestun
Syniad anian Blagur Awen Ben Bowen

gan David Bowen (Myfyr Hefin)

Y Gwanwyn

FY MYNYDD.
(Moel Cadwgan)

1.
GER fy mwth anhebgor
Llwm yw'm mynydd hen;
Byd yn mynd yn drysor
Yntau'n colli'i wên.

II.
Ynddo'm siomedigaeth
Wel ei charreg fedd;
Mae oes aur fy hiraeth
Eto'n byw'n ei wedd.

III.
Grefyddolder Cymru
Faint o'th dlysni clir
Fynna Duw offrymu
Ar allorau'r Gwir.

21 ix. 98.


Nodiadau

[golygu]