Blagur Awen Ben Bowen/Mordwyo i'r nef
Gwedd
| ← Hunan-aberth | Blagur Awen Ben Bowen gan David Bowen (Myfyr Hefin) |
Afonydd → |
MORDWYO I'R NEF.
Mi gofiaf am wladfawr sydd ym mhell,
Ddaw yn ei ol i Gymru ddiwedd oes,
I Gymru unig wlad ei galon ef,—
I Gymru deifl ei chysgod ar bob ton,—
Deifl drwy ei feddwl heulwen ar bob storm,
Ac felly y mordwyaf finnau i'r Nef.
1899.