Blagur Awen Ben Bowen/Pethau wn
Gwedd
| ← Gardd Eden | Blagur Awen Ben Bowen gan David Bowen (Myfyr Hefin) |
Rhosyn haf yn ddrysni o hyd → |
PETHAU WN.
GWN am gân aderyn
Gwn am bechod dyn;
Gwn am wên blodeuyn,
Gwn am riddfan mun.
Gwn am gwmwl arian
Cysgod gwynfyd gwell;
Gwn am lygad aflan,
Gwynfa o hyd ym mhell.
1900.(Anorffenedig)