Blagur Awen Ben Bowen/Rhyfel
Gwedd
| ← Collil | Blagur Awen Ben Bowen gan David Bowen (Myfyr Hefin) |
Siom → |
RHYFEL.
GYMRU, tua'r rhyfel
Gyrr dy lengau rhydd,
Buddugoliaeth dawel
Wawria ar Gymru Fydd.
Cwmwl yw amheuaeth
Wisg enfysau Duw;
Plyga i wasanaeth—
Cei wrth farw fyw.
Gymru, tua'r rhyfel—
Chollodd Ffydd erioed,
Buddugoliaeth dawel
Sydd yn swn dy droed.
Cadfaes yw amheuaeth—
Rhaid yw brwydro i fyw;
Gwel dy fuddugoliaeth—
Tragwyddoldeb Duw.
Gymru, cofia frwydro—
Brwydra ar ddihun;
Paid ag ofni nofio
Yn dy waed dy hun.
Duw a'r byd ga'th godi
Gymru ar dy draed;
Ni ddaw heddwch iti
Ond dros fôr o waed.
Methodd dy feudwyaeth
Ddringo i Hermon gwell;
Eill dy ymneillduaeth
Ddringo eto mhell?
22ain o Fedi, 1899.