Blagur Awen Ben Bowen/William Bowen, Cefncaeau, Llanelli (2)
| ← William Bowen, Cefncaeau, Llanelli | Blagur Awen Ben Bowen gan David Bowen (Myfyr Hefin) |
Elizabeth Ann Isaac, Pentre → |
ER COF AM WILLIAM BOWEN, CEFN CAEAU, LLANELLI.
Greulawn Angau! Greulawn Angau,
Paham daethost gyda'th gledd
I drywanu ein calonnau
A thrwy'th waith lofruddio'n hedd?
O erch golled! Do, fe gipiaist
Ffwrdd yr anwyl, anwyl un;
Tran amddifad fe'n gadewaist
Mwy o gael ei gwmni cun.
Gwag yw'r aelwyd, gwag yw'r eglwys,
Pob man welaf sydd mor brudd
A thrwy'r bwlch wnaed drwy ei golli
Ffrydia dagrau ar bob grudd:
Ow! machludodd haul y teulu,
'Rhwn a'u llywiai'n gain eu gwedd;
Calon Natur sydd yn torri
Wrth weld William yn ei fedd.
Yn yr eglwys yn Maescanner,
O'i gymeriad drwy ei oes.
Tynodd ddarlun mewn ysblander
O'r hoff Un fu ar y groes;
'Roedd yn flaenor uwch pob geudeb,
Ail i'r angel praff o'r nef;
Afon fwyn o wir dduwioldeb
Lifai yn ei roddion ef.
Rhagfyr, 1894.