Blagur Awen Ben Bowen/Y Gwanwyn
| ← Fy mynydd | Blagur Awen Ben Bowen gan David Bowen (Myfyr Hefin) |
Y Gwanwyn (eto) → |
II. CERDDI NATUR.
Y GWANWYN.
Y GWANWYN a ddwg wenau
Da Anian glyd inni'n glau:
Deffry hithau tan ganu
Iraidd gerdd mewn eurwedd gu.
Diail eurwych deloriaeth
Ddaw yn ffrwd gwir addien ffraeth
O'r goedwig eurog—gadarn
Yn dwyn nefol—ddawn bob darn.
Ar y glasdir gwir glwysdeg
A dawn mwyn hynod o deg,
Yr adar yn gôr hudawi
I'w Hior mwyn sy'n rhoi eu mawl;
A'r wyn glain yn gain eu gwedd
Doant pob eurwych duedd;
Pranciant ar ben pob bryncyn
Mor gu, nes denu serch dyn;
A blodau mewn gwenau gawn
O eurliw mawr yn orlawn;
A'r awelon mwynion mad
I'w swynion rydd gusaniad;
A'r heulwen trwy yr entrych
Yn gu sy'n hardd wenu'n wych;
Mae natur yn blaguro.
Ym mhob glyn, bryn, drwy bob bro;
Eneiniwyd pawb gan hoenedd
Yn eurgain gwiwgain eu gwedd;
'E geir yr hen wr sy'n gant
Yn nofio mewn mawr nwyfiant;
Hynodawl deg hin ydyw
'N hafaidd iawn. Ai Nefoedd yw?
Mawrth 30, 1894.