Blagur Awen Ben Bowen/Y Gwanwyn (eto)
Gwedd
| ← Y Gwanwyn | Blagur Awen Ben Bowen gan David Bowen (Myfyr Hefin) |
Y nwy → |
Y GWANWYN.
Y GWANWYN euraidd a gawn yn iro
Wael wisgoedd anian o lesgedd huno;
Ar hyd y gaeaf oer adeg gwywo
O'i addien harddwych ca'dd ei annurddo;
Ond daw y gwanwyn a diwyg yno
Yn gain, a natur gan wenu eto;
Nes mae bob glyn, bryn, a bro—mewn urddiant
Llawn o ogoniant gan ddillyn geinio.
Ebrill, 1894.