Blagur Awen Ben Bowen/Y Parch T Davies, Fforddlas
Gwedd
| ← David Thomas (Penofydd), Tonyrefail | Blagur Awen Ben Bowen gan David Bowen (Myfyr Hefin) |
Y diweddar Edward Meredith, Llwynpia → |
CROESAWU Y PARCH. T. DAVIES, FFORDDLAS, I MORIAH, PENTRE.
Ior anwyl! rho i'r uniad—wen fwyndeg
Hen fendith dy gariad;
Ysgwyd law â'r croesawiad
Heddyw yw awr ein boddhad.
Os dirmyg a'i ystormydd—ga y brawd,
Boed gwybr iach ei grefydd
O law ei DDduw'n oleu ddydd,
Uwch ei ben yn wych beunydd.
Dywenydd i'r brawd anwyl,
Awel y nef lanwo'i hwyl;
Duw yn rhwydd: dyna'r weddi
Wna'i sedd yn fy mynwes i.