Blagur Awen Ben Bowen/Y caneuon cyntaf
| ← Mebyd ac enwad | Blagur Awen Ben Bowen gan David Bowen (Myfyr Hefin) |
Yr englynion cyntaf → |
III. Y CANEUON CYNTAF.
DAETH o hyd i anhebgorion bywyd da a llengar yn ieuanc iawn. Tystiolaetha ei gynhyrchion hyn. Ymhlith rhai o'i bethau cyntaf ceir nifer o benhillion ar "Weddi Ddirgel," "Diwydrwydd," a'r "Llyfrgell." Tybed fuasai yn bosibl i unrhyw fardd ieuanc ddymuno a chanu ar destyn mwy pwrpasol na "Gweddi Ddirgel" i gychwyn? Er mwyn rhoddi engraifft o hono fel bardd yn ieuenctyd ei ddydd, ac er mwyn dangos rhai o sylfeini cryfion ei gymeriad, fe gyhoeddwn y caneuon canlynol fel yr ysgrifennodd hwynt.
GWEDDI DDIRGEL.
Rhywbeth llawn o swyn i'r Cristion
Yw cael presenoldeb Duw,
Mewn dirgelfan, o swn dynion,
Dyma'r fan lle'r hoffa fyw;
Yma, mae yn cymdeithasu
Gyda'i Dduw yn wresog iawn;
Ac yn cael yn haeddiant Iesu
Wledd o basgedigion llawn.
Yn y dirgel ymarfoga
Ag arfogaeth dwyfol râs,
A thrwy allu rhain gorchfyga.
Gryfaf allu'r diafol câs;
Ac er amled yw y rhwystrau
Sy'n ei aros ef bob dydd,
O dan wenu fe'u gorchfyga,
Nid oes dim ddiffodda'i ffydd.
Gristion anwyl! os am gyrraedd
Hardd drigfannau'r nefol wlad,
Cofia'r weddi ddirgel euraidd,
Hon rydd iti wir fwynhad;
A phan fydd dy gorff yn huno
O dan glo yr oeraidd fedd,
Bydd dy enaid glân yn nofio
Moroedd o dragwyddol hedd.
Dydd Mawrth, Mawrth 27, 1894, yw'r dyddiad sydd oddi tanynt. Tua phymtheg oed oedd, felly, yn eu cyfansoddi. Yna wedi gosod y grediniaeth i lawr fod y weddi ddirgel yn un o hanfodion bywyd da, try ei olygon i raddau i gyfeiriad arall, a gwel wedyn fod yn rhaid i bob un fod wrthi yn ddiwyd ac yn ddyfal i ennill y gamp. O dan gymhelliad y grediniaeth hon y cyfansoddodd ei benhillion ar "Ddiwydrwydd" tua'r un adeg.
Mae diwydrwydd gwir i'w ganfod
Drwy holl natur ym mhob man,
O'r hen dderwen ddewr ei hanfod,
Lawr hyd at y blodyn gwan;
Y wenynen ddiwyd, addien,
A'r morgrugyn bychan, gwan;
Roddant wersi inni'n llawen,—
Trwy ddiwydrwydd dowch i'r lan.
O edrychwn ar y cewri,
A pha fodd yr aethant hwy
O erch waelod hen bwll anfri
I anrhydedd heb un clwy;
Ai trwy fod yn ddiog diog
A gwangalon ym mhob man?
'Dwed y rhwystrau orchfygasant,—
Trwy ddiwydrwydd aethant lan.
Os ym 'nawr yn isel isel,
Mewn dinodedd tywyll du,
A hen greigiau mawr aruchel
O anhawster ar bob tu,
Wedi ceisio dringo weithiau,
Methu wedyn yw ein rhan,
Dringwn eto drwy y rhwystrau,
Trwy ddiwydrwydd awn i'r lan.
Dacw Gristion mewn mawr rwystrau,
Yn ymdrechu'n galed iawn,
Mae am rodio drwy ei ddyddiau
Yn ardderchog lwybrau'r Iawn,
A thrwy galed ymdrechiadau
Nef y nefoedd ddaeth i'w ran,
O! cyd—ddringwn hyd awr angau,
Trwy ddiwydrwydd rhaid mynd lan.
Cariodd yntau y gredo uchod allan ar hyd ei oes. Ni wyddai efe nemor i ddim am yr oriau segur; gwyddai o'r gore beth oedd oriau distaw neillduaeth, a'r rhai hynny oedd oriau euraidd bywyd iddo ef. Ysgrifennodd a darllennodd lawer ar waelod y pwll glo; yr un modd ar fwrdd y llong wrth fynd a dod o'r Affrig. Ysgrifennodd a darllennodd lawer ar ei wely cystudd. Trodd hwnnw droion yn llyfrgell, fel y gwnaeth Sion Wyn o Eifion a Ieuan Gwynedd gynt. Cafodd yntau weledigaethau heirdd oddiarno, a theimlodd mai "dan law Duw dyna le da," a gwelodd gyfyngder dyn" droion yn cael ei droi yn awr Duw."
Dywedodd un awdur, dro yn ol, mai dyn anonest yw'r dyn hwnnw droa oriau gwaith yn oriau myfyrdod, am mai arall a'u piau. Druan o hono; beth ddywedai pe gwelsai ambell i dalcen glo o dan y ddaear wedi ei gyfrodeddu a llinellau barddonol—ambell i "ddrws" wedyn wedi ei gyfrodeddu a nodau cerddorol, fel y darfu i Gwilym Gwent wneud droion. 'Does gan yr awdur uchod yr un syniad am y gwaith meddyliol wna ambell i fardd o lowr rhwng y troion yng ngoleuni y lusern bwl" chwedl Myfyrfab. Nid angof fydd y darnau barddonol gyfansoddwyd yn y talcen glo yng Nglofa Ty'n y Bedw.
Ym Mehefin, 1893, agorwyd llyfrgell glowyr Ty'n y Bedw a'r Pentre. Buan y dilynodd glowyr Parc a Dare. Wedi codi y llyfrgelloedd a nodwyd, wele Ben ati i ganu cân o glod i'r llyfrgell, a chafodd wobr mewn cwrdd llenyddol yn Nhreorci, Tachwedd 24ain, 1894, am dani. Teimlodd swyn wrth ei henwi," ond "mwy wrth fyfyrio ynddi."
Ardderchog lyfrgell! Mae swyn wrth ei henwi
Ond mwy wrth fyfyrio yng nghanol ei stôr;.
Ein holl gyhoeddiadau a'n llyfrau geir ynddi,
Ond coron ei chyfoeth yw Beibl ein Hior;
I'r tlawd na all brynu y llyfrau goreuon
Gostynga yn isel i'w ddysgu heb ball,
A'i gallu rhyfeddol yn ddoethach gwna'r doethion,
A dan ei dylanwad y ffyliaid wna'n gall.
Mor hyfryd yw gweled ein gweithwyr dewrfrydig
Yn codi llyfrgell wna rinwedd i lu;
A thrwy gael ei chodi, yn dâl cwyd hi hwythau
Dros risiau gwybodaeth hyd bínacl bri;
Rhyw ffynnon hael ydyw, o'r hon prydferth dardda
Yn beraidd ac iachus fyw redlif o ddysg;
Neu heulwen drylachar yr hon a belydra
Oleuni meddyliol yn ddisglair i'n mysg.
Mae hon wedi magu gwyddonwyr, seryddwyr,
Athronwyr a phrif ddiwinyddion pob oes;
Y rhai, drwy'u gwybodaeth, ddaliasant heb gyffro
Yn anorchfygedig yngwyneb pob croes,
Fendigaid foneddes! O dan ei meithriniad
Mae cewri'n bresennol yn codi i'r lan;
Edrychwn edrychwn ymlaen i'r dyfodol,
A gwelwn wir arwyr yn llanw pob man.
O anwyl lyfrgell! Dos rhagot mewn llwyddiant,
A'th werthfawr drysorau fo'n llanw pob gwlad;
A chlodydd o bobman a'th fythol goronant,
Frenhines dyngarwch, dy nef yw lleshad,
Os ydwyt yr awrhon yn hen drwy dy ddyddiau,
Yr wyt yn dra hoenus ac ieuanc i waith;
A phaid byth heneiddio, nes byddo dynoliaeth
A cherbyd aur amser ar ddiwedd eu taith.
Gwelwch wrth y penhillion hyn fod y bardd ieuanc yn tyfu, ac yn aeddfedu, ac iddo adeiladu cymeriad cryf oddiar y sylfeini a nodasom.