Neidio i'r cynnwys

Blagur Awen Ben Bowen (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Blagur Awen Ben Bowen (testun cyfansawdd)

gan David Bowen (Myfyr Hefin)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Blagur Awen Ben Bowen
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
David Bowen (Myfyr Hefin)
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Ben Bowen
ar Wicipedia


BEN BOWEN YN LOWR.


BLAGUR AWEN
BEN BOWEN.

Dan Olygiaeth ei frawd

MYFYR HEFIN.



Caernarfon: Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig, Cyf.

RHAGAIR

GWEDDILLION Barddoniaeth Ben Bowen, adewais allan o'r gyfrol gyhoeddais un mlynedd ar ddeg yn ol, geir yn y gyfrol hon yn benaf. Bernais, yr adeg honno, mai amhriodol fuasai cyhoeddi blagur ei awen ieuanc, ac y buasai i'w hanaeddfedrwydd dynnu oddi wrth werth y gyfrol. Erbyn hyn, deallaf fod llawer o fy nghyd— wladwyr wedi dechreu cael blas ar ei farddoniaeth, ac am wneud astudiaeth o honi hi, ac o hono yntau; ac yn awyddus felly am gael golwg ar bob peth a ysgrifenodd. Rhigymai yn llanc yn yr ysgol; ond pan oedd tua pedair ar ddeg oed, dechreuodd gredu fod ganddo rhywbeth gwerth ei osod ar bapur. Y rhai hynny, gan mwyaf, geir yn y tudalenau hyn. Ceir ei bryddest gyntaf, ei englyn cyntaf, ei awdl gyntaf, ei farwnad gyntaf; ond nid yw ei bennill cyntaf yma; aeth ei fam anwyl—yr hon a gollodd mor ieuanc, â'r pennill hwnnw ganddi, i'w adrodd wrth un o feirdd y nef; ac am wn i nad y pennill hwnnw barodd iddi broffwydo mor sicr y buasai ei bachgen Ben yn wron byw ryw ddydd. A wnei di, ddarllenydd parchus, ddarllen y rhai canlynol fel pethau bachgen. Cofia gyfaddefiad Paul.

Oddiar gyhoeddiad y gyfrol des o hyd i lawer pennill ac englyn lechasent ym mhlith ei lawysgrifau. Ces un neu ddau oddi wrth gyfeillion Ben hefyd. Derbynied y cyfryw fy niolch.

Daeth y rhan fwyaf o gynnwys y gyfrol hon allan ar dudalenau y Cymru a'r Darian. Nid oedd un bwriad ynom y pryd hwnnw i'w cyhoeddi yn llyfryn rhagor na'u cadw mewn diogelwch.

Gyda gweddillion ei farddoniaeth cyhoeddir hefyd Bennod o Weddillion ei "Gofiant." Galw mawr sydd am ei "Gofiant a'i Farddoniaeth." Nid oes wythnos yn mynd heibio na fydd rhywun yn holi am gopi; ond y mae rhai cannoedd o gopiau o'i "Ryddiaith" ar law, a disgwyl gweld y rhai hynny yn mynd o'r ffordd ydym cyn dod ag ail argraffiad o'i Gofiant a'i Farddoniaeth allan. Tan hynny, credwn y geill y Bennod o Weddillion ei Gofiant fod o wasanaeth i'r ymholydd.

Cyhoeddir y nodiadau ar "Lyfr Du" Ben er mwyn dangos i ieuenctyd Cymru y modd y treuliai Ben ei oriau hamdden fel llanc o lowr. Cyfrol i ieuenctyd ein gwlad y carem i'r gyfrol hon fod am mai cynyrchion y llanc Ben geir ynddi yn bennaf dim. Carem felly pe na ffurfiasid barn derfynol am Ben oddi wrth y gyfrol hon. Boddlonwn i Ben gael ei ddedfryd oddi wrth ei "Gofiant a'i Farddoniaeth" a'i gyfrol "Rhyddiaethol" ond nid wrth hon. Fel y dywed Mr. Owen M. Edwards yn ei nodion at Ohebwyr yn y Cymru wrth un o ieuenctyd Cymru:—"Cymerwch galon. Darllenwch ganeuon cyntaf Ben Bowen a gwelwch er gloewed ei athrylith mai'n araf y datblygodd yntau, a thrwy fyfyrdod dwys ac ymdrech galed."

Dyna ydym am i'r gyfrol hon fod yn bennaf, fel y geill Ben drwy ei hanes a'i waith fod yn ysbrydiaeth i lu o lanciau Cymru i fynd ymlaen, ac fel efe i aros llawer "gyda'u llyfrau a'u Duw."

Dan Faner Cymru Fydd.
D. BOWEN (Myfyr Hefin).
HOREB,
PUM HEOL,
LLANELLI,
Mai 1af, 1915.


I Gofio
EIN HEWYTHR MR. BENJAMIN REES.
Ffrynd a pherthynas ein mam.
Car i Ben a'n teulu.
Samaritan i ninnau yn ein hymdrech am addysg.
Plentyn i Dduw a diacon i'r Bedyddwyr yn Noddfa Timsaran.
Hunodd yn yr lesu o dan ein cronglwyd
Gorffennaf 28, 1914, yn 77 mlwydd oed.
Ar ei ddychweliad yn ol o'r Weriniaeth Arianin,
De America, y cyfarchodd Ben ef yn yr englyn canlynol:—


"Uwch eigionau iach ganodd,—o'r môr mawr
Mi wn Cymru welodd;
Yn ei ddiluw addolodd—ei Dduw'n llon.
A môr o gofion yng Nghymru gafodd."


CYNHWYSIAD


BEN BOWEN.


NODAU O DELYN A DORWYD YN GYNNAR.


I. RHAGYMADRODD.

MGAIS yw hon o'n heiddo i gasglu briwfwyd cofiant a barddoniaeth Ben Bowen. Mae nifer helaeth o ffeithiau ac o ddigwyddiadau yn sicr o fod yn help i alluogi'r ysgrifennydd, pwy bynnag fyddo, i ysgrifennu cofiant teilwng. Hebddynt y mae cofiant yn amhosibl. O'r ochr arall buont yn fagl i aml un droion, nes y cuddiasant lwybr yr hanes â phentyrau o ffeithiau sychion. Cydnabyddwn mai yng ngoleuni ffeithiau a digwyddiadau yr esbonir cymeriad orau; a chredwn y bydd y ffeithiau a'r digwyddiadau ddygir ger eich bron am Ben Bowen yn rhyw gymaint o help i chwi a ninnau ei ddeall yn well. Nid ydym am ddweyd fod llawer o gymylau o'i amgylch fel ag i beri unrhyw aneglurder ynddo. I ni, yn naturiol, yr oedd heulwen ar ei wyneb yn barhaus, a thorriad dydd o hyfrydwch yn swn ei lais bob amser, a phob ymgom yn codi ynom awydd am ymgom wedyn.

Nid ydym am ddweyd ein bod yn deall yr hyn oll a ddywedodd, ac a ysgrifennodd. Er ieuenged ydoedd, rhaid ym— deithio gam neu ddwy ymhellach i'r dyfodol, yn ol barn y mwyafrif, cyn y deallir ef oll yn oll. Gwyn fyd na chofiasem hanner ei ddywediadau. Ystyrrir ef erbyn hyn fel yr "Addewid fwyaf gafodd Cymru erioed," a'i awen fel Awen braffaf Cymru Fydd." Dro yn ol y dywedai Owen M. Edwards, "Ca Ben Bowen le mewn cân fel ca Tom Ellis mewn hanes." Rhyfedd cyn gynted y dechreua ei broffwydoliaeth ddod i ben. Ar raglen Eisteddfod Cymry Johannesburg, Mehefin (1905) cyhoeddwyd darlun o Ben a Tom Ellis ar yr un tudalen—wyneb yn wyneb, fel dau genius ieuanc Cymru.

Ysgrifennai Elfed i'r Daily Chronicle am Fedi 23ain, 1905, fel y canlyn am dano,―

"No voice has so thrilled the heart of Wales as this, and now that he has passed into silence it thrills yet more exquisitely. He is in permanent possession of his place in Welsh literature, not only or chiefly for what he has done, but for the promise of doing which has in it such eternal hope,—such unfading strengen. When Wales rests a little in the midst of its religious revival it will find here the song that was more a song of the first dawn than the singer knew. Maturer poetry there has been produced in Wales during the last ten years, but nothing that has in it more of the very soul of poetry. We are sure all the time that we are in the garden of the muses."

Cyhoeddodd Celt Llundain ef fel y. "Meddyliwr mwyaf godwyd yn enwad y Bedyddwyr." Cydnabyddodd yr Athro Witton Davies ef fel y dyn mawr rhyfeddol hwnnw." Ac un o feddylwyr mwyaf heddyw ddywedodd am ei "Bant y Celyn" mai dyma'r cyfansoddiad rhyfeddaf gynhyrchodd yr athrylith Gymreig yn yr ugeinfed ganrif." Y Parch. Dr. Owen James, America, ddywedodd,—

"Efallai nad gormodiaeth fyddai dweyd fod y person disgleiriaf ei gyneddfau, a mwyaf ei bosibliadau yn yr holl fyd rhwng y flwyddyn 1879 a'r flwyddyn 1903 yn byw yn Nhreorci, Cwm Rhondda.

Cylchgrawn Myfyrwyr y Bala a ddywedai,―

"Bardd uwchraddol ydoedd. Un o'r ychydig hynny nad ymddangosant yn aml yn ffurfafen gwlad. Perthyn iddo feddwl anturiaethus, arddengys dreiddgarwch a beiddgarwch. Gormod o'r tywydd braf sydd a'i awelon yn rhy lariaidd i greu'r crychni lleiaf ar wyneb y llyn sydd yn ein barddoniaeth, a rhy ychydig o'r ystormydd sy'n peri i'r donn godi yn ei chwman, a throi yn fawl i'r Ior wrth ymlafnio tua'r traeth. Y cyfuniad yma hwyrach o feddylgarwch eithriadol a esyd Ben Bowen i sefyll yn rheng flaenaf y beirdd a welodd ein gwlad. Mae'n amlwg fod ei sylwadaeth a'i graffder yn nodedig, a cheir o dan yr oll bersonoliaeth gref. Tery dant o gymdeithas agos a natur. Ceir hyn yn amlwg yn rhai o'i awdlau. Teimlwn, rai prydiau, fel pe baem yng nghymdeithas yr hen feirdd. Cawn darawiad yn awr ac eilwaith, fel geir yn Dafydd ap Gwilym a Thudur Aled. Er dyddiau Dafydd ap Edmwnt, mawr yw'r stwr sydd wedi bod ym mysg beirdd eisteddfodol o barth i'r hen fesurau, Gadawyd nifer o honynt i farw yn y gred mai yng ngafael mudandod y dylent fod byth. Yn hyn, drachefn, dechreuodd Ben Bowen gerdded llwybr newydd. Rhoddodd adgyfodiad gwell i aml un o fesurau Dafydd ab Edmwnt, a thafod hyglyw i ambell i hen fesur y credai rhai na pherthynai tafod iddynt."

Meddai Syr Marsiant Williams, yn y Nationalist am Fedi, 1908,—

"In fact neither Ceiriog nor Islwyn was a perfect master of style from a grammarian's point of view. . . . . But, but they were the greatest Welsh poets of their generations, and no one has risen to challenge their supremacy. Had Ben Bowen lived! But there, why should I prophesy? This is the hour for sorrow, for poor Ben Bowen died in the blossom of his youth full of promise, O what a fall was there my countrymen.'"

Ac meddai Mr. Tom Jones, un o ysgolfeistri y Rhondda, yn y Rhondda Leader,—

"His poetry is unique because of its ever newness and freshness, ever breathing and uttering the sublimest truths which are the heritage of his race and the earnest of the dawn he so fondly loved. Its whole being rose from that innate life of his, directed and environed by that majestic, divine intuition, so characteristic of all prophetic poets. Herein he bears a fellowship with Wordsworth, Keats and Browning. He was the creator of a new school of poetry in Wales: he ushered in the new light of liberty and freedom: he was ever reaching for the dawn. He was a child of the future and the heir of the past. Sings he not thus,—

"'Rwyf yn blentyn y dyfodol
Sy'n etifedd y gorffennol."


II. MEBYD AC ENWAD.

HYD y gwyddom, ni ddigwyddodd i'r un seren neilltuol ymddangos ar ddydd ei enedigaeth; ond fe fu engyl o lawenydd yn canu yng nghalonnau y teula.. Wrth odre Moel Cadwgan yn Nhreorci y ganwyd ef, Hydref 19eg, 1878. Nid hir y bu cyn dechreu'i ddringo. Hoff oedd o'r myn- ydd erioed. Treuliai oriau ar ei lethrau pan yn blentyn, a'i awydd olaf oedd cael pabell ar ei fynwes, er ceisio gwella'i glwyf.

"O! 'rwy'n caru pwyso 'mhen
Yma o hyd ar ei obenydd,
Rhwng chwareuon rhydd y nen.
Beth fel trymgwsg y mynyddoedd
Sydd yn gallu deffro dyn?
Miwsig Gwynfa yw'r distawrwydd
Adnewydda'r galon flin."


Ar arffed ei fam y dechreuodd ddysgu. Hyhi gafodd ei holi gyntaf ganddo, a gallasai hithau, yn herwydd lliosogrwydd ei holiadau orchymyn, fel Golyddan ieuanc gynt,—"Peidiwch holi heddyw." Er hynny, breintiwyd ef â mam oedd yn fedrus ar y ddawn o ateb cwestiynau. Bu felly yn alluog i'w hyfforddi a'i dywys i borfeydd gwelltog diwylliant a chred. Yr oedd ei fam yn un Biwritanaidd iawn,—yn credu mai ar yr aelwyd, ac yn y capel, y gellid rhoddi yr hyfforddiant ddiogelaf i'r plentyn. Profodd gyrfa bywyd Ben Bowen fod ei chredo yn iach. Yr oedd yn bregethwr ganddi oddiar pan y dechreuodd barablu, ac hoff oedd ddangos ei ben hir a'i dalcen uchel i bwy bynnag a ddeuai i'r ty, a chan dynnu ei bysedd tyner trwy ei wallt euraidd, dywedai, Dyma ddyn mawr ddaw hwn."

Er ei bod yn hoff o farddoniaeth, ni freuddwydiodd wrth ei alw yn Ben Bowen fod ei enw yn fwy barddonol nag ugeiniau o ffugenwau. Cyhoeddwyd, a chynganeddwyd ei enw yn "Ben Bowen y bardd ar yr aelwyd, ac ar y chwareule o flaen capel Hermon, Treorci, cyn adeiladu yr ystryd honno sy'n gwynebu y capel, a chan lowyr lu yng Nglofa Ty'n y Bedw, cyn i Brynfab erioed wneyd sylw o hono, er i Brynfab dalu sylw cynnar iawn iddo. Ond ni wyddent hwy eu bod yn cynghaneddu yr enw wrth ei alw yn Ben Bowen y bardd" fel Brynfab wrth gwrs.

Fe'n cyfiawnheir yn ddiameu gan bawb am yr ymdrech sydd ynom am ddiogelu cymaint ag sy'n bosibl o'i hanes, ac o'i gynyrchion, pe tae yn unig ar gyfrif mai "telyn a dorwyd yn gynnar" ydoedd yntau, a'i "miwsig wedi swyno'n cenedl droion." Hefyd, am mai gweithiwr ieuanc oedd, a dorwyd i lawr a'i blans ar ei hanner." Tynnodd blans manwl allan yn ei fore bore. Gorffennodd Schiller un o'i fwriadau ef cyn cyrraedd o hono ei bymthegfed mlwydd oed. Dyna'i oedran, mae'n debyg, yn gorffen ei arwrgerdd i Moses. Tynnodd Ben hefyd gynllun drama Gymreig allan, ond ni ysgrifennodd air o honi ar lenn. Clywsom fraslinelliad o honi. Yr oedd wedi gosod ei nod ar y gadair a'r goron genhedlaethol, ac am eu meddiannu cyn dechreu cario ei gynlluniau allan.

Tynnodd gynlluniau allan i weithio yn ei enwad ei hun. Pe yn iach, buasai wedi hen ysgrifennu a thraddodi darlith ar Vavasor Powell, ac wedi hen ddechreu traethu ar ragoriaethau Cynddelw. Gofidiodd am nad oedd ei awdl ar "Ddistawrwydd" yn daran yng nghlustiau y genedl Gymreig, a'i weithiau llenyddol i gyd wedi hen ddyfod allan drwy oleuni dydd y wasg, ac yng ngafael y bobl. Ystyriai Cynddelw yn un o'r dynion mwyaf gododd y genedl, ac heb os yn un o feddylwyr mwyaf y Bedyddwyr. Ar un o dudalennau MSS. ei bryddest ar Bantycelyn ceir nodiad ddengys mai hyn oedd ei bender— fyniad mewn cyfnod diweddarach, nodiad ddaw a gofid i ninnau o feddwl am dano yn marw a'i "blans" ar ei hanner, fel y dywedodd ar ol hyn.

"Testynau."
"Pan ddaw yr adeg bydd i mi wneud papurau ar y canlynol,—

(1) Cymru y Bardd.
(2) Pwy yw bardd Cymru?
(3) Neges Cymru.
(4) Beirdd Enwad anghofus.
(1) Dewi Wyn o Eifion, Cynddelw, Ioan Emlyn.
(2) Ceiriog, Myfyr Emlyn, Ceulanydd.


Dosbarth (1) ddengys yr angerddol yn mynd yn aberth i'r pulpud ond nid heb y fendith.
Dosbarth (2) ddengys y telynegol yn mynd yn aberth i'r Eisteddfod ond nid heb y fendith."


Ychydig feddylid, tuag adeg ei fedyddiad ym Moriah, Pentre, y buasai efe byth yn tyfu yn Fedyddiwr mor eangfrydig, ac yn un fuasai yn peri cymaint o gynnwrf ar gwestiwn y cymundeb. Credodd efe yr adeg honno, er nad oedd ond pedair ar ddeg oed, nad oedd y drydedd bennod o Fathew, fel y gwelir hi gennym ni yn y cyfieithiad presennol, yn ddigon cadarn ar y pwnc o Fedydd. Mynnodd ddysgu y bennod honno yn ol cyfieithiad John Williams yn yr "Oraclau Bywiol," lle y cyfieithir bedydd yn drochi, neu dansuddiad, a'i hadrodd un nos Sul ar ddechreu'r odfa o flaen y bedydd. Os y daeth cyfnewidiad dros feddwl y Bedyddiwr ffyddlon, ni chyfnewidiodd ei serch a'i gariad o gwbl at ei enwad fel ag i beri yr holl gamesbonio hwnnw gynt,—

"O! fy enwad, 'rwy'n dy garu,
Ac yn methu, methu cefnu;
Ac os wyf yn cyfeiliorni,
Oni ddylet faddeu imi?"


Ni feddyliodd efe erioed am geisio difodi dim oedd yn perthyn i'w enwad. Am ei wella, a'i eangu, yr oedd efe, i'w alluogi i gymeryd maes eangach o dan ei draed ym mrwydrau'r genedl. Dyna pam y bu efe farw'n Fedyddiwr, ie, "er mwyn eangu cylch meddyliol y Bedyddwyr," a hynny yn unig, a dyna'i gyfaddefiad yn un o'i lythyrau.

Dechreuodd lenydda yn fore. Ar gyfer dosbarth Beiblaidd gynhelid ym Moriah, Pentre, dan lywyddiaeth Mr. Griffith Jones (Abertridwr yn awr), y dechreuodd ysgrifennu. Dosbarth Beiblaidd i blant ydoedd, a chafodd amryw o lyfrau a rhai darluniau, megis Spurgeon, &c., gan yr athraw caredig hwn yn rhoddion am ei weithgarwch a'i ffyddlondeb. Daethom o hyd i rai o'r ysgrifau mewn ysgriflyfr yn ddiweddar. Ceir yn hwnnw ysgrif ferr ar Jacob, un arall ar Abraham, ac arall ar "Gwyrthiau Crist," a phregeth fechan ar "Y rhai nid oedd y byd deilwng o honynt." O gwmpas y tair ar ddeg, neu'r pedair ar ddeg oed o bellaf, oedd pan y cyfansoddai hwynt. Hawdd canfod y meddyliwr o tanynt; er yn anaeddfed iawn, wrth gwrs.

Dau ofyniad welodd yn yr adnod, sef (1) Pwy a ddeallir ydyw y rhai nad oedd y byd deilwng o honynt; a (2) Beth oedd y rheswm nad oedd y byd deilwng o honynt? Yna â ymlaen i draethu ar arwyr pennod fawr y ffydd—"Westminster Abbey Ysbrydoliaeth," chwedl Rhosynog; ac yn yr ail le profa nad oedd y byd deilwng o honynt am mai dynion sanctaidd Duw oeddynt, ac am na roddodd y byd y parch dyladwy iddynt, ac yna daw ag adnod yn ddiweddglo i'w ymresymiadau, "Mi a'ch dewisais chwi allan o'r byd, am hynny y mae y byd yn eich cashau chwi."

Arferai yr hen frodyr William Jones, Dafydd James, William Young, John Lewis, &c., arweinyddion cyfarfod gweddi y bobl ieuainc ym Moriah, Pentre, yr adeg honno, roddi adnod i bob un o'r bechgyn tua pythefnos ymlaen llaw er mwyn iddynt gael amser digonol i ddarparu. Ac un o'r testynau hynny oedd hon. Fel rheol, ni chelai neb gymeryd rhan ynddynt cyn ei fedyddio; ond cofus gennym am Ben yn cael ei alw un nos Sadwrn gan yr hen frawd parchus Dafydd James; a'r nos Sadwrn hwnnw y daethom ni i sylweddoli fod rhywbeth yn Ben. Mae swn ei weddi ieuanc, goeth, yn glynu yn ein clustiau o hyd. Gwyn fyd na fuasem yn cofio darnau o'i weddiau. Yr oedd yn weddiwr mawr, ac yn credu yng ngallu gweddi, ac yn dal cymdeithas cyson â'i Dduw. I ni, deuai llawer o'i wir fawredd i'r golwg yn ei weddiau. Yr un pryd, credai mewn gweithio ei hunan yn ogystal a gweddio. Gwelai ef weddi ffyddiog mewn gweithio fel mewn gweddio, a chymaint o ffydd mewn disgwyl ag mewn gofyn. Ond tarawodd y tant yn gynnar,

"O 'rwyf yn caru'r Iesu,
Gwnaf bopeth fel gwnaeth ef;
Rhaid gweithio a rhaid caru
I wneud y byd y nef."


III. Y CANEUON CYNTAF.

DAETH o hyd i anhebgorion bywyd da a llengar yn ieuanc iawn. Tystiolaetha ei gynhyrchion hyn. Ymhlith rhai o'i bethau cyntaf ceir nifer o benhillion ar "Weddi Ddirgel," "Diwydrwydd," a'r "Llyfrgell." Tybed fuasai yn bosibl i unrhyw fardd ieuanc ddymuno a chanu ar destyn mwy pwrpasol na "Gweddi Ddirgel" i gychwyn? Er mwyn rhoddi engraifft o hono fel bardd yn ieuenctyd ei ddydd, ac er mwyn dangos rhai o sylfeini cryfion ei gymeriad, fe gyhoeddwn y caneuon canlynol fel yr ysgrifennodd hwynt.


GWEDDI DDIRGEL.

Rhywbeth llawn o swyn i'r Cristion
Yw cael presenoldeb Duw,
Mewn dirgelfan, o swn dynion,
Dyma'r fan lle'r hoffa fyw;
Yma, mae yn cymdeithasu
Gyda'i Dduw yn wresog iawn;
Ac yn cael yn haeddiant Iesu
Wledd o basgedigion llawn.

Yn y dirgel ymarfoga
Ag arfogaeth dwyfol râs,
A thrwy allu rhain gorchfyga.
Gryfaf allu'r diafol câs;
Ac er amled yw y rhwystrau
Sy'n ei aros ef bob dydd,
O dan wenu fe'u gorchfyga,
Nid oes dim ddiffodda'i ffydd.

Gristion anwyl! os am gyrraedd
Hardd drigfannau'r nefol wlad,
Cofia'r weddi ddirgel euraidd,
Hon rydd iti wir fwynhad;
A phan fydd dy gorff yn huno
O dan glo yr oeraidd fedd,
Bydd dy enaid glân yn nofio
Moroedd o dragwyddol hedd.


Dydd Mawrth, Mawrth 27, 1894, yw'r dyddiad sydd oddi tanynt. Tua phymtheg oed oedd, felly, yn eu cyfansoddi. Yna wedi gosod y grediniaeth i lawr fod y weddi ddirgel yn un o hanfodion bywyd da, try ei olygon i raddau i gyfeiriad arall, a gwel wedyn fod yn rhaid i bob un fod wrthi yn ddiwyd ac yn ddyfal i ennill y gamp. O dan gymhelliad y grediniaeth hon y cyfansoddodd ei benhillion ar "Ddiwydrwydd" tua'r un adeg.

Mae diwydrwydd gwir i'w ganfod
Drwy holl natur ym mhob man,
O'r hen dderwen ddewr ei hanfod,
Lawr hyd at y blodyn gwan;
Y wenynen ddiwyd, addien,
A'r morgrugyn bychan, gwan;
Roddant wersi inni'n llawen,—
Trwy ddiwydrwydd dowch i'r lan.

O edrychwn ar y cewri,
A pha fodd yr aethant hwy
O erch waelod hen bwll anfri
I anrhydedd heb un clwy;
Ai trwy fod yn ddiog diog
A gwangalon ym mhob man?
'Dwed y rhwystrau orchfygasant,—
Trwy ddiwydrwydd aethant lan.

Os ym 'nawr yn isel isel,
Mewn dinodedd tywyll du,
A hen greigiau mawr aruchel
O anhawster ar bob tu,
Wedi ceisio dringo weithiau,
Methu wedyn yw ein rhan,
Dringwn eto drwy y rhwystrau,
Trwy ddiwydrwydd awn i'r lan.


Dacw Gristion mewn mawr rwystrau,
Yn ymdrechu'n galed iawn,
Mae am rodio drwy ei ddyddiau
Yn ardderchog lwybrau'r Iawn,
A thrwy galed ymdrechiadau
Nef y nefoedd ddaeth i'w ran,
O! cyd—ddringwn hyd awr angau,
Trwy ddiwydrwydd rhaid mynd lan.


Cariodd yntau y gredo uchod allan ar hyd ei oes. Ni wyddai efe nemor i ddim am yr oriau segur; gwyddai o'r gore beth oedd oriau distaw neillduaeth, a'r rhai hynny oedd oriau euraidd bywyd iddo ef. Ysgrifennodd a darllennodd lawer ar waelod y pwll glo; yr un modd ar fwrdd y llong wrth fynd a dod o'r Affrig. Ysgrifennodd a darllennodd lawer ar ei wely cystudd. Trodd hwnnw droion yn llyfrgell, fel y gwnaeth Sion Wyn o Eifion a Ieuan Gwynedd gynt. Cafodd yntau weledigaethau heirdd oddiarno, a theimlodd mai "dan law Duw dyna le da," a gwelodd gyfyngder dyn" droion yn cael ei droi yn awr Duw."

Dywedodd un awdur, dro yn ol, mai dyn anonest yw'r dyn hwnnw droa oriau gwaith yn oriau myfyrdod, am mai arall a'u piau. Druan o hono; beth ddywedai pe gwelsai ambell i dalcen glo o dan y ddaear wedi ei gyfrodeddu a llinellau barddonol—ambell i "ddrws" wedyn wedi ei gyfrodeddu a nodau cerddorol, fel y darfu i Gwilym Gwent wneud droion. 'Does gan yr awdur uchod yr un syniad am y gwaith meddyliol wna ambell i fardd o lowr rhwng y troion yng ngoleuni y lusern bwl" chwedl Myfyrfab. Nid angof fydd y darnau barddonol gyfansoddwyd yn y talcen glo yng Nglofa Ty'n y Bedw.

Ym Mehefin, 1893, agorwyd llyfrgell glowyr Ty'n y Bedw a'r Pentre. Buan y dilynodd glowyr Parc a Dare. Wedi codi y llyfrgelloedd a nodwyd, wele Ben ati i ganu cân o glod i'r llyfrgell, a chafodd wobr mewn cwrdd llenyddol yn Nhreorci, Tachwedd 24ain, 1894, am dani. Teimlodd swyn wrth ei henwi," ond "mwy wrth fyfyrio ynddi."

Ardderchog lyfrgell! Mae swyn wrth ei henwi
Ond mwy wrth fyfyrio yng nghanol ei stôr;.
Ein holl gyhoeddiadau a'n llyfrau geir ynddi,
Ond coron ei chyfoeth yw Beibl ein Hior;
I'r tlawd na all brynu y llyfrau goreuon
Gostynga yn isel i'w ddysgu heb ball,
A'i gallu rhyfeddol yn ddoethach gwna'r doethion,
A dan ei dylanwad y ffyliaid wna'n gall.


Mor hyfryd yw gweled ein gweithwyr dewrfrydig
Yn codi llyfrgell wna rinwedd i lu;
A thrwy gael ei chodi, yn dâl cwyd hi hwythau
Dros risiau gwybodaeth hyd bínacl bri;
Rhyw ffynnon hael ydyw, o'r hon prydferth dardda
Yn beraidd ac iachus fyw redlif o ddysg;
Neu heulwen drylachar yr hon a belydra
Oleuni meddyliol yn ddisglair i'n mysg.

Mae hon wedi magu gwyddonwyr, seryddwyr,
Athronwyr a phrif ddiwinyddion pob oes;
Y rhai, drwy'u gwybodaeth, ddaliasant heb gyffro
Yn anorchfygedig yngwyneb pob croes,
Fendigaid foneddes! O dan ei meithriniad
Mae cewri'n bresennol yn codi i'r lan;
Edrychwn edrychwn ymlaen i'r dyfodol,
A gwelwn wir arwyr yn llanw pob man.

O anwyl lyfrgell! Dos rhagot mewn llwyddiant,
A'th werthfawr drysorau fo'n llanw pob gwlad;
A chlodydd o bobman a'th fythol goronant,
Frenhines dyngarwch, dy nef yw lleshad,
Os ydwyt yr awrhon yn hen drwy dy ddyddiau,
Yr wyt yn dra hoenus ac ieuanc i waith;
A phaid byth heneiddio, nes byddo dynoliaeth
A cherbyd aur amser ar ddiwedd eu taith.


Gwelwch wrth y penhillion hyn fod y bardd ieuanc yn tyfu, ac yn aeddfedu, ac iddo adeiladu cymeriad cryf oddiar y sylfeini a nodasom.

IV. YR ENGLYNION CYNTAF.

UN o'r englynion cyntaf gyfansoddodd Ben Bowen erioed oedd englyn i'r Haul. Gwelwn erbyn hyn fod paladr yr englyn bron air am air gan Talhaearn; ond gallwn eich sicrhau na welodd efe hanner gair o gywydd Talhaearn i'r "Haul" yr adeg honno, neu ni fuasai wedi caniatau i'w Haul godi ar ffurfafen denau y papur newydd. Fel y canlyn y lluniodd efe ei haul,—

Yr haul sydd yn rheoli—holl anian
A'i lluniau diwyrni;
Bywyd a nawdd ar ein byd ni
Yw dylanwad ei oleuni.


Ebai Talhaearn,—

"Bywyd a nawdd ein byd ni
Yw dylanwad d' oleuni."


Gwelwch fod ychydig o wahaniaeth rhyngddynt. Yr oedd hefyd yn un o'r englynion adroddodd wrth Ceulanydd pan ddygodd ein tad ef ato, er mwyn cael barn Ceulanydd arno fel bardd.

Gwelwch fod ychydig o wahaniaeth rhyngddynt. Yr oedd hefyd yn un o'r englynion adroddodd wrth Ceulanydd pan ddygodd ein tad ef ato, er mwyn cael barn Ceulanydd arno fel bardd.

Tua'r un adeg, a chyn i'w haul fachlud, y cyfansoddodd englyn i'r "Lleuad,"—

Brenhines eres eirian—a nwyfus
Nofia ar y wybrfan;
Yn glyd rhydd oleuni glân
Nes hollol droi'r nos allan.


Daeth yn nes i dre wedyn a chyfansoddodd englyn i "Gartref,"—

Cartref, ail le'r Nef wen yw—daearol
Dŷ eurwych dynolryw;
A hynodol fan ydyw,"
Nefoedd fach nwyfaidd i fyw.


Un o hanfodion cartref erbyn hyn yw cath. Naturiol i un mor hoff o gartref felly gyfarfod ag un o honynt hwy ar yr aelwyd. Yr oedd ei gath ef dipyn bach yn wahanol i'r gath honno welodd prydydd arall o'i flaen, yr hon orweddai bob amser o flaen y tân, pan y dywedodd,—

"Dyma gath heb ei bath yn bod
Yn pobi'i llyged yn lle dal llygod."


Ond yr oedd cath Ben Bowen yn

Heinyf greadur hynod—a neidia
Yn nwydwyllt ar lygod;
A'i moesau wrth ymosod
Heddyw'n glau dry iddi'n glod.


Dyna'r tro cyntaf iddo yntau dreio dal gwobr mewn eisteddfod.

Aeth wedyn o ganol ei gartref i ganol rhyw anialwch. Cwrddodd yno, fel pererin Bunyan, â Llew, ac yn lle treio ei ladd aeth i gyfansoddi englyn iddo. Gwelodd ef yn

Hen gawr gwyllt ffyrnig ei ryw—yw y Llew,
Mor llawen gwna ddistryw;
Safnrithiog gawr enwog yw
Dewr greadur hagr ydyw.


Tra yn anialwch ei ymdrechion clywodd swn Rhaeadr Dewi Wyn "yn synu pen— syfrdanu dyn." Yn hytrach na boddloni ar y swn treiodd yntau gyfansoddi englyn synfawr ei hun i'r Rhaeadr, a dywed cleciadau y cydseiniaid iddo lwyddo'n hynod o dda,―

Y Rhaeadr a'i ruad rhywyllt—aruthrol
Waith rhuol athrywyllt;
Mae'n ddylif o genllif gwyllt
Hyf fawrdrwst o ferw hydrwyllt.


Dyry yr engreifftiau uchod ddarlun o'r sut y treuliai Ben Bowen wanwyn ei fywyd. O gwmpas y tair ar ddeg a'r pedair ar ddeg oed oedd pan yn cyfansoddi rhai o'r englynion uchod.

Wedi tyfu drwy'r cyfnod hwnnw, cododd ei olygon yn uwch i fyny i fyd Ffeithiau a Chred. Aeth i feddwl, ac i fyw o ddifrif. Darllenai yn ddibaid, a chyfansoddai yn achlysurol, nid yn ddyddiol fel y gwnelai gynt. Treuliai wythnosau weithiau heb gyfansoddi llinell o farddoniaeth, a phan elai ati wedyn treuliai ddyddiau didor yng nghwmni Ceridwen. Ni chredai mewn rhuthro ar destyn ar unwaith. Pan y cyffyrddid ef fel rheol â swyn testyn, gadawai i'r testyn suddo yn ddwfn i'w galon; mewn gair, hyd nes yr elai yn rhan o hono. Dywedai wrthym yn fynych, Paid a rhuthro at destyn, aros am ychydig o ddyddiau er mwyn i ti gael gweld sut y byddi yn teimlo ato wedyn. Yna, os y teimli ei swynion yn goglais dy serch, gad iddo suddo i dy galon, fel y gallo fynd yn rhan o honot, yna fe elli ganu o galon iddo wedyn."

V. BEN Y PRYDYDD.

GOFYNWYD yn ddiweddar i un go wreiddiol am nodi y gwahaniaeth rhwng prydydd a bardd. Wel," ebai, "fe wna prydydd bennill neu englyn digrif cyn y caui dy lygaid; ond y mae bardd am oriau i'w feddwl ac oriau i'w ysgrifennu." Beth bynnag am gywirdeb y desgrifiad, yr ydym yn yr adran nesaf am geisio dangos. i chwi fod cryn dipyn o'r prydydd yn "Ben Bowen y Bardd."

Un difyr yw bardd ym mhob oes, tery ei dant mor ddidaro a'r aderyn ar fore o haf. Pryd arall dylifa doniolwch ac ysmaldod dros ei fin, a cheidw ei gyfeillion yn llawen iawn. Er amled cystuddiau Ben Bowen, bendithid ef ag oriau diddan ryfeddol, a chaent groeso ganddo bob amser bron, yn enwedig wedi i'w iechyd dorri lawr. Wedi oriau o ymgodymu â phroblemau cred, neu wedi oriau o boenau dirdynol gan afiechyd, y caffai ei feddwl falm o esmwythâd drwyddynt. Yn yr egwyl rhwng y tonnau hyn y cyfansoddodd lawer o linellau difyr; a chlywsom aml i ddywediad hapus ganddo. Mwynheai ystori dda, ac yr oedd mor hoff a neb of adrodd ystori ei hun. Tybiasom y buasai llawer o'r dywediadau a'r llinellau hyn yn dderbyniol gan ein cyd-wladwyr. Dangosant agwedd ar ei gymeriad, yr hwn yn ddiau a esgeuluswyd i raddau yn ei Gofiant a'i Farddoniaeth. Tybiasom yr adeg honno mai ein dyledswydd fel golygydd oedd cyflwyno'n brawd i'r wlad yn y modd puraf posibl.

Nadolig 1897, cynhaliodd Myfyrwyr Academy Pontypridd eu soiree flynyddol. Yr oedd Ben Bowen erbyn hyn yn un o'r myfyrwyr ei hun. Rhaid oedd i'r bardd-ddisgybl felly gyfansoddi englynion cyfaddas i'r amgylchiad,—

Ymhoewn yma mwyach—rhyw soiree
Amserol gawn bellach;
Magu hoen heb amgenach
Yn saib a hedd wna'r Boss bach.

Hedd ddwg antur ddigeintach—ac wedi
Cawodydd o rwgnach;
Heb wall cyd—ganu bellach
Wna'r boys byw gyda'r Boss Bach.

Lladin sy'n mynd yn llwydach—a'r iaith Roeg
Geir a'i thraed yn llipach;
Ond yma mae'r hwyl yn dwymach
A'i hiasau byw'n drysu'r Boss Bach.

Wel, yn wir, cawn galon iach—a mirain
Taw ni marw," bellach;
Dorra wagnod i rwgnach,
Is eu bedd: ynte'r Boss Bach?

Heb wall ymunwn bellach—a bloeddiwn
Heb ludded na grwgnach;
Awn ac heriwn bob corach,
Oes y Byd fo i'r Boss Bach.


Y "Boss Bach" y galwai y myfyrwyr ar awr chwareus eu hathraw, Mr. Dunmore Edwards, M.A.

Haf 1897 aeth Ben a ninnau at Myfyrfab ein cefnder i dreulio ein gwyliau; ac ar un o'r dyddiau hynny y ceisiasom ganddo ysgrifennu ychydig o eiriau gartref. Heb un gwrthwynebiad cydiodd Ben mewn post-card ac ysgrifennodd yr englynion canlynol gartref at ein tad,—

O nhad bach, mae Dai a Ben—yma'n awr
Mewn hwyl, yn eu helfen
Yn mwynhau gwir gwmni hen
Gawr hoewaf—Mangre Awen.

Yma'n y Fron, mae un o fri—yn byw,
A Ben yn ei gwmni;
A Dai wedyn mor deidi
A chwrcyn, man hyn, am wn i.

Rhyw ysgolor esgeulus—a boy
Heb ei ail; mor hapus
A'r gog wyf; corgi o'i go'
Yw nas carco'r siawns carcus.

Hedd ddwg hynt yn ddigeintach—feddaf fi,
Hedd i fardd a chorach;
I wella fy nghyfeillach
Bywya i Ben bu Dai bach.

Rhed awr o hedd wedi'r hwyl,
Bachan iawn, bachan anwyl.


Ein chwaer Ann gofiai yr englynion uchod. Cyfeiria "bachan iawn, bachan anwyl" at un o arferion diniwed Ben ar yr aelwyd gyda'n tad. Pan barlyswyd ein tad ni alluogwyd ef i siarad nemawr o eir- iau wedi hynny; ond byddai Ben yn aml fel pe yn tynnu geiriau o'i enau. Yr oedd gyda'n tad yn hollol fel mam gyda'i phlentyn. Holai ef weithiau, pa un o'r plant oedd y pet, ac yna, fel rheol, gwelid y tad parlysedig yn tynnu ei law dadol dros ei ben. Wedi ei gael i wneud hynny, elai gam ym mhellach. Rhaid oedd cael ein tad i ddweyd "y machan anwyl i"; ac fel rheol llwyddai gan ein tad i ddweyd hynny. Mewn digrifwch diniwed felly yr hoffai Ben dreulio ei oriau hamddenol ar yr aelwyd. Erys y cyfnod hwnnw yn wynfydedig ym meddyliau bob un o'r teulu fyth. Ar adegau o'r fath y buasai Ben hefyd yn dweyd mai

Bachan nêt yw Dai bach ni;
Ond Ben yw'r good boy inni.


Yn y cyfnod nodedig hwn y brigodd yr haenau tyneraf welsom yn natur garedig ein brawd i'r golwg. Nid anghofiwn ef yn mynd a dod a'n tad o'r capel; dro arall yn ei gludo mewn cludfa bychan pan, oedd yn analluog i gerdded cam; wedi i'n tad wella ychydig wedyn, yn mynd ag ef a'i ysgwydd o dan ei gesail chwith, a braich nhad am ei wddf yntau wedyn, a dyna lle'r oeddent yn mynd yng nghlwm efo'i gilydd; a'i ymgais drachefn gydag ef ar lawr y llofft y bore cyn dod ag ef i lawr dros y grisiau er mwyn ystwytho ei gymalau pan y buasai yn dweyd,—

O nhad bach yn awr neidiwn.
I Barade y bore hwn.


Ond o bopeth, yr hyn aeth ddyfnaf at ein calon oedd ei weled yr wythnos olaf y bu ein tad anwyl fyw, pan yr oedd wedi ei barlysu i bopeth—methu siarad, methu gweled, methu syflyd llaw na throed, dim ond fod yr anadl yn tramwyo ynddo; a phan oeddem fel plant o amgylch ei wely marw yn methu dweyd yr un gair wrtho, y mynnai Ben gadw ei fraich oddi tano er mwyn iddo gael teimlo" meddai ef, "fod rhywun yn ei ymyl ar awr mor gyfyng," er ei fod yn credu fod y Duw a wasanaethodd yn nes na phlentyn iddo, ac yn nes na'i fraich dyner ef. Yr oedd cariad Ben yn angerddol at ein tad.

Danghosodd merch ieuanc o'r enw Jane ei darlun iddo un tro, cydiodd yntau yn y darlun gan ysgrifennu ar ei gefn,—

Gwenau byw mewn gwyneb iach—a llygaid
Lliwgar, be sy'n bertach?
Arnaf chwardd: O! Pwy'n harddach
Na Jane fwyn yn wejan fach?


Dro arall, dangosodd merch ieuanc o'r enw Mary Jane iddo anrheg dderbyniodd oddiwrth ei chariad. Ysgrifennodd yntau ar yr anrheg,

Mary Jane will marry Jim,

ynghyd a'r englyn canlynol i James y carwr ieuanc,—

Ymro Jim mae Mary Jane—yma'n awr.
Mewn mwynhad gorlawen;
A gwelaf fod teg heulwen
Y rhodd o hyd ar ddwy wên.


Aeth merch ieuanc tra adnabyddus i Ben Bowen ar ei gwyliau Haf 1903, ac ar gefn amlen llythyr ysgrifennodd ati,—

Be happy, and not fel bwpach,—dere'n ol
Dirion un, yn llonnach;
Garrie, ple mae'th ragorach
I greu gwynfyd drwy'r byd bach.


Ar ddiwedd llythyr at ferch ieuanc arall yr ysgrifennodd,—

Tybed ceir atebiad cu—i lythyr
Wlithwyd a swyn caru?
Ai annoeth fydd, eneth fwyn,
Ail wanwyn o foliannu?


Cwrddodd, dro arall, â geneth ieuanc hardd, ac yn hytrach na dilyn llwybr y carwr, dilynodd lwybr y bardd, gan englynu fel y canlyn,—

O mor anwyl! mae rhinwedd—yn dy fron
Geidw fri diddiwedd;
A myfi am haf o hedd
A'th fynnaf, eneth fwynedd.


Adeg streic fawr y glowyr yn 1898, aeth nifer o lowyr o'r Ystrad i ffwrdd i Devonshire i ganu, a chasglu ychydig o geiniogau at eu cynhaliaeth hwy a'u teuluoedd, fel yr arferai y glowyr wneud yr adeg honno. Aflonydd iawn oedd meddwl Ben am rai o honynt. Gwyddai fod rhai o honynt yn swil iawn, ac heb fod yn feddiannol ar leisiau rhy soniarus hefyd. Mewn llythyr at un o honynt ysgrifennodd Ben ei freuddwyd cynghaneddol,—

Am wib acw'r cor meibion—a gawn
Am ganu alawon.
A seiniau dwys yn y don
Deifl y diafol o Defon.


Bardd ydwyf yn breuddwydio—torrir streic
Trwy'r streets gennych heno;
Wna cân y streic "wnes y tro—foys? yn wir
Yr Ystrad ddenir i'r 'strydoedd yno.


Cyfeirio wna yn "cân y streic" at y darn Seisnig welir yn ei Farddoniaeth, tudalen 285. Pan ddychwelodd y côr tynasant eu lluniau. Gwahoddwyd Ben i dynnu ei lun ganddynt. Ystyriai hynny yn anrhydedd mawr, o gael ei lun yn gymysg a nifer of lowyr.

Danfonodd y Parch. Gwynhefin Thomas, Pencoed, ddarn o farddoniaeth iddo i'w adolygu. Dychwelodd Ben ef ar fyrr gan ddyweyd,—

Ar ol llawnaf ddarlleniad,
Wynhefin hoff! mae'n fwynhad.


Yr oedd, fel yr hen feirdd, hefyd yn hoff o englyn ag ergyd da iddo, boed hwnnw ddwys neu ddifyr. Yn ystod Gaeaf 1903 cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol ym Methania, Treorci. Gwahoddwyd Ben yno i gymeryd rhan yn y cadeirio. Mr. Joseph Howells (Milwyn), Pentre, oedd y cadeirfardd, ac meddai Ben,―

Llifeirio llinell firain—ddwg gadair
Ddi-gwdyn i "Adsain;"
O'wech, mae pump yn ochain;
A 1 Joe! Champion, myn Jain.


Tra yn treulio y prynhawn ar aelwyd groesawgar Dr. Hughes, Ton, a hwnnw yn ei garedigrwydd arferol yn danfon blychaid o cigarettes i un o brif feirdd Cymru, cyn ei yrru i ffwrdd mynnodd Ben ysgrifennu yr englyn canlynol arno,—

Cigarettes i wr segur, sydd—oddi mewn,
I ddymuno'n ddedwydd
Baradwys hud i brydydd.
A rhoi'r fawl i'r Doctor fydd.


Yr oedd swyn iddo mewn efrydydd, ac ym mhopeth efrydydd. Anrhegwyd ei gyfaill Rhydderch â desc ysgrifennu hardd ar ei fynediad i'r ysgol. Can gynted ag y gwelodd Ben hi dywedodd,—

Anhawdd yw i awen dderch—beidio gweld
Byd gwyn yma'n annerch;
Un hwylus iawn o law serch
Yw, a roddwyd i Rydderch.


Hoff iawn oedd hefyd o ysgrifennu llinell neu ddwy ar ddiwedd ei lythyrau at ei gyfeillion. Ebai ar ddiwedd un o'i lythyrau at Dyfnallt,—

Ond o bawb o ffryndiau Ben,
Y cuaf yw Jack Owen.


Dro arall, tra'n cyfeirio at ei gystudd,―

Fe wyr Ior beth sydd orau,
A rhyw ddydd fe ga'm rhyddhau.


Yn un o'i lythyrau atom ninnau ysgrifennodd,

'Rwy'n caru swyn dy awen gun,
Ond llawer mwy tydi dy hun.


Ebai ar dro arall,—

Seigiau'th funudau segur
A ddaw i Ben yn wledd bur.


Cynghorai ni'n ddoeth iawn drachefn un tro tra oddi-cartref,—

Cei bob pleser, frawd, a thangnef
Wrth fyw cartref oddi—cartref.


Awst, 1898, cyd-dreuliem ein gwyliau haf ar lannau Twrch gyda'n cyfaill Myfyr Twrch. Yr wyl oreu er hynny i Ben oedd treulio ychydig o oriau distaw mewn llyfr. Ond fel rheol rhywbeth syml ei nodwedd ddarllenir yr adeg honno. Ond erthygl ar yr Ymgnawdoliad yn un o lyfrau y Parch. Owen Evans, Llundain, ddarllenai Ben. Wedi ei darllen gwelsom ef yn ysgrifennu englyn uniongred iawn,—

O! Gaddug sy'n ddadguddiad—oni ddeil
Ynddo'i hun esboniad;
Moroedd o Iawn am ryddhad—Dyn a Duw,
Ac un yw Diluw yr Ymgnawdoliad.


Yr un pryd bron yr ysgrifennodd am y Duw—ddyn, mai

Ym mhyrth ei ddyndod
Y profai ei Dduwdod.


Ar un o'r dyddiau aethom i lawr i Bant Teg i weled y Prif-fardd Ben Davies a'i gadeiriau. Cerddai Ben yn y canol rhwng Myfyr Twrch a ninnau,—"Wel, wel," ebai yn sydyn, "dyma fi yng nghanol myfyrdod mewn gwirionedd yn awr."

Rai blynyddoedd yn ol ysgrifennodd y Parch. Aaron Morgan, Blaenffos, a Gwili, nifer o benhillion i Seren Cymru. Y blaenaf ar "Gwaedda," a'r olaf ar "Gên Asen," un am feddwl a'r llall am hyawdledd mewn pregeth. Credai Ben Bowen, er mai bardd—lowr oedd ar y pryd, mai cyfuno'r ddau yn un oedd yn angenrheidiol, ac ysgrifennodd y penhillion canlynol o dan y pennawd "Cynghanedd," a danfonodd hwynt i Seren Cymru mewn atebiad iddynt,―

Swyno fy nghlustiau o frigau y coed
A wnai yr aderyn â'i alaw;
Swyno fy nghalon mor fyw ag erioed
'Run pryd wnai y blodyn distaw.

Haf fu'n addurno y pren mor wyrdd
Cân bulpud i'r tlws aderyn;
Haf gyda'i swynion yn weision fyrdd
Fu'n gweu sídan—fantell y blodyn.

Dysgodd i minnau fod yn y byd
Ddwy ochor i ddalen Bywyd;
Nid yn y "gwaedda" mae'r pwys i gyd
Ond "pa beth a waeddaf" hefyd.

Ac onid cynghanedd, fy mhrydferth fardd,
"Gen asen" yn nwylo Samson,
A'r llwyddiant gwynfydig a hardd,
Ddwg "udgorn" a ffydd Gideon.

Ah! "ni lefarodd dyn erioed
Fel hwn" ydyw'r ddolef o'r dyrfa;
Ond "Iesu a dawodd" sydd yn y llys,
"Llef uchel" sydd ar Galfaria.


Darluniai wr ieuanc un tro yn

Morio o hyd mewn mawr wyll,
Enaid icuanc! mae'n dywyll.


Dynered yr ysgrifennodd at gyfaill pan farw'n tad,—

Llaw angau, nid ei galon, sydd yn arw,
Mae angau'n ddinas noddfa i ddyn yn marw.


Hawdd yw i ni gredu iddo dderbyn llawer o oleuni o wlad y goleuni ar farw. Clywsom bregethwr ieuanc dro yn ol yn ei alw yn Fardd Angau. Nid cedd y bedd i Islwyn ond trothwy'r eilfyd, ac nid oedd flamau'r diwedd iddo yntau

Ond gwreichion y goelcerth sydd
Yn fflam ar fannau'r dyfodol
Ac yn galw ymlaen yn dragwyddol.
Mae cerrig beddau cadfousydd a fu

Yn Ebenezer ein cynnydd ni;
Ac mae'r iaith sydd ar aelwyd heuliau
Ar wefus siaradus blodau.


Ar daflen o MSS. Affrica y cawsom yr uchod.

Daeth hiraeth am Gymru fel hunllef dros ei galon wladgar tra yn yr Affrig. Yr oedd ei ysgyfaint yn galw am haul yr Affrig; ond ei hiraeth yn gwaeddi am rewynt ac eira Cymru,—

O! fel y carwn fwynhau
Rhewynt ac eira fy ngwlad;
Mae heulwen Affrig yn fy nghryfhau;
Ond Cymru rydd imi foddhad.


Yng Nghymru yr oedd ei galon cyhyd ag y bu yno. Yr oedd gormod o Gymru yn ei galon i'r Affrig gael nemor o le ynddi.

Dydd Mawrth, Ionawr 28ain, 1902, ysgrifennodd o Kimberley y nodiad canlynol, a chydgordia hyn a'r oll a ysgrif— ennodd, ac a'i farwolaeth foddlongar,—"Dywedodd Dr. Symonds wrth Mr. Moss neithiwr fod fy lung dde yn waeth nag y carai efe ddweyd wrthyf ei bod. Rhaid gwneud y goreu o un, a phe ai honno, mi blygwn yn dawel i law Duw a marw."

Gwyddai yn dda, fel y desgrifiodd Eifionnydd ef un tro,—

"A'i lung yng ngafael angau."

Lawned o fywyd oedd ei galon er hynny.

VI. YMDDIDDANION.

DEUWN, yn yr adran hon, yn nes at Ben eto, i fyd yr ymddiddanion personol. Yn yr ymddiddanion hyn y cawsom ni lawer o fudd, a llawer o ddifyrwch diniwed, ac o foddhad chwaethus. Tybiasom y buasai llawer o'r dywediadau hynny erys yn ein cof yn dderbyniol gan ei edmygwyr.

Cychwynwn gyda rhyw bedwar o'i ddywediadau dderbyniasom oddiwrth ei gyfaill, y Parch. David Rhydderch, B.A., Llanddyfri, Capel Seion, Pontyberem, yn awr.

1. Yr oedd cyd-fyfyriwr yn canmol gallu athraw mewn rhifyddeg; ond cymerai Ben mai pysgota a rhifo cynnwys y rhwyd oedd hoffwaith yr athraw yn ystod y tymor hwnnw ar y Sabothau. Ac meddai Ben,—"Diau ei fod yn gampwr mewn rhifyddiaeth; ond nid yw yn dysgu'r gamp o rifo ei ddyddiau fel ag i ddwyn ei galon i ddoethineb."

2. Honnai bachgen unwaith mewn cwmni y medrai ef ddysgu iaith estronol drwy'r gramadeg heb ymgymysgu â'r brodorion. Gwyddai mwyafrif y cwmni fod hyn yn hollol groes i farn aeddfed yr athrawon. Gorffennodd y bachgen ddadleu pan y dywedodd Ben wrtho,"—Fedrwch chwi fyth ddysgu'r iaith yn berffaith drwy ramadeg yn unig, byddai yr un mor hawdd dysgu nofio wrth yfed dŵr. Ymdeflwch i blith y brodorion a chewch fwy o amser wedi hynny at bethau eraill."

3. Pelydrai ystyr newydd drwy ambell frawddeg dan lygad Ben—y cyfan yn ffrwyth camgymeriad. Darllenai lyfryn bychan ar Lenyddiaeth Gymreig, a daeth ar draws cyfeiriad at Islwyn, nodiad oedd am ei ddieithrwch a'i ddisgleirdeb. Ond, yn lle darllen,—"Awen yn disgleirio bryd arall," darllenai Ben," Awen yn disgleirio byd arall." Pe darllenid ambell lyfr drwy lygaid byw Ben, ymsythai llawer awdur yng nghanol gogoniant benthyg.

4. Ymbiliai â ffrynd dros gyfaill mewn cyfyngder. Gwyddai nas medrai'r ffrynd wrthod y cais a bod yn onest. Pan welai amheuaeth yng ngwedd y gŵr, dywedodd, "Please give your anwser Yes or No. Remember there is music in a No if it rings forth from an honest heart." Gwyddai mai y galon ddichellgar gyfrifa am ruddfan y byd.

Cynghorai lliaws Ben Bowen tuag adeg "Ystorm y Cymundeb Rhydd" i dewi a son, er mwyn ei enw da, ac er mwyn cadw ei glod i fyny, pryd yr atebodd,—"Ddaeth neb erioed yn dew ar glod, a chadwed pob crechyn ei gloch yn ei boced o'm rhan i. Gwirionedd fel cyfrwng dadguddiad yw fy motto i. Aed corachod a'u clod a'u baldordd i'r man y mynont. Yr wyf erbyn hyn yn clywed hissiau penboethiaid yn y pellder, ac nid oes arnaf fwy o ofn corach o gritic nag sydd o ofn Chamberlain ar Lloyd George."

Yr oedd am deimlo anadl rhyddid ymhob cylch, y cylch barddonol fel y cylch crefyddol. Dengys ei awdl ar "Ymadawiad Arthur" beth oedd ei syniad am y mesurau, ynghyd a'i bryddest ar "Oleuni y Byd," am yr hon y dywedodd,—"Rhedodd allan fel ffrwd o'r graig, ac nid oes lliw waterworks pibau Mesurau Eisteddfodol ar yr un llinell ynddi."

Ond er yr holl ryddid gymerodd, yr oedd yn ofalus iawn o bethau eraill, yn enwedig yn ei ddewisiad o eiriau. Ac onid yw y cyngor canlynol roddodd i fardd-lowr yn engraifft deg o'i syniad am farddoni,— Craffa ar ystyr geiriau. Bydd yn sicr o dy feddwl dy hun. Mynn weld fod y gair iawn yn y lle iawn. Nid llanw dram yw barddoni, ond sorto diamonds a'u trwsio.

Pan oedd yn aros yng Nghaerdydd ysgrifennodd un lythyr lled frwnt ato, atebodd Ben ef gyda throad y post,—"Syr, carwn i chwi gofio mai glo ac nid rubbish sydd yn cael ei dipio yng Nghaerdydd."

Tra yn siarad am ddynion gwyneb— agored a phlaen un dydd y dywedodd,— Fydd neb byth yn rhy blaen, bydd llawer yn fynych yn rhy flunt." A dynion gwyneb-agored a ffri yr hoffai efe gymdeithasu bob amser. Dod i gyffyrddiad ag un gariai lond ei lygaid o ddagrau, ac a gadwai bob ceiniog yn ei boced ac na wnelai gymwynas a neb, barodd iddo ddweyd,—"Ofer cario dagrau ar ruddiau heb gyrn ar ddwylo."

Amddiffyn efrydydd ieuanc anaddfed a'i cymhellodd i ddweyd,,—"Mae diffyg yn brawf o bosibilrwydd gwell."

Mewn cyfeillach grefyddol un tro y dywedodd hefyd,—"Mae mwy yn gofyn i Dduw am fendith nag sydd yn gofyn am waith." Ar dro arall," Mae Duw yn rhoi er mwyn ein cael ni i geisio yr hyn y mae yn gadw." Gwir hefyd y dywedodd, "Rhaid cael dyn i lyncu ysbryd awdur. Parrot sydd yn dysgu ei syniadau."

Bwriadai gyfansoddi pryddest ar Uffern a dechreuodd arni hefyd. Pe tae wedi mynd ymlaen credwn y buasai wedi cyfansoddi pryddest alluog. Bwriadai gael pedair golygfa arni (a) Fore'r creu, (b) Fore temtiad, (c) Fore heddyw, (d) Fore Farn. Credai er hynny nad oedd wedi cael gweledigaeth eglur ar le mor dywyll, a chofiwn iddo ddweyd wrthym un tro nad elai ymlaen a hi. Gofynnais iddo paham. "Wel," ebai, "wrth edrych ar Uffern yng ngoleuni 'Meibl i yr wyf yn rhwym o ganu cospedigaeth dragwyddol, ac wrth edrych arni yng ngoleuni 'Nuw i yr wyf yn rhwym o ganu y Larger Hope." Ond y mae un o'r penhillion ganodd efe wedi setlo meddwl llawer ar y mater,—

"Fwyn Ioan, pwysaist di dy ben yn dlws.
Ar ddwyfron fy Ngwaredwr anwyl i;
A phe bai gwaredigol ddrws,
Apostol Cariad, oni dd'wede ti?"


Cofus gennym am nifer o frodyr mewn eglwys un tro na welsid fyth mo honynt mewn cwrdd gweddi neu gyfeillach grefyddol os na fuasai cwrdd eglwys ar y diwedd, a phe gofynnech i un o honynt hwy gymeryd rhan yn y cyfarfod ni chaech ragor nag ysgydwad pen. Ond cyn gynted ag y dechreuai y cwrdd eglwys, un o honynt hwy fuasai y cyntaf yn cynnyg cadeirydd, ac yn cynnyg ac yn eilio y penderfyniadau yn ol llaw. Wedi un o'r cyfarfodydd hyn, cofiwn i un o'r brodyr droi at Ben i ofyn iddo os yr ystyriai hynny yn iawn. "Nag yw," ebai ar unwaith, hawl brawd i godi mewn cwrdd eglwys yw ei fod yn plygu mewn cwrdd gweddi." Tybed nad oedd yn iawn, a thybed na fuasai gwell graen ar ein heglwysi pe tae brodyr ffyddlon y cyfarfodydd gweddi yn brif siaradwyr y cwrdd eglwys?

Rai blynyddau yn ol, cyhoeddwyd Oriel o Weinidogion y Bedyddwyr ar gynllun hollol newydd yn ol tyb y cynllunydd, ac yr oedd llawer o siarad ac ysgrifennu am yr oriel wedi bod ymlaen llaw. Gwnelid yr Oriel i fyny a choeden fawr, a gosodid canghennau o honi i gynrychioli gwahanol dalentau'r pulpud, sef barddoniaeth, athroniaeth, diwinyddiaeth, hyawdledd, &c., a gosodid darluniau y gweinidogion i hongian ar y canghennau. Pan ddaeth yr Oriel o dan lygad Ben dywedodd ar unwaith, "Wel, wel, dyma hi! Darwiniaeth yr ugeinfed ganrif! Gwneid mwnci's o weinidogion yr Efengyl!"

Tra yn gorwedd ar ei wely yn ystod ei gystudd olaf digwyddodd i ddyn tal, teneu, heb fod ei "floneg yn ei flino" fyned i fewn i dŷ Mr. Jenkin Phillips, Maesgwyn. Drwy fod ffenestr ei ystafell yn gyfeiriedig i'r fan honno, yr oeddid yn gallu gweld y sawl elai i fewn ac allan oddi yno, ac yr oedd ei chwaer Mary yn treulio oriau yn y fan honno, ac yn dweyd wrtho am bob un adnabyddus iddo elai heibio, &c.; ond cyn gynted ag yr aeth y dyn tal, teneu hwn i fewn i lawnt y Maesgwyn, dechreuodd y cwn gyfarth. "Halo," ebai yntau yn sydyn, "beth sydd ar gwn Maesgwyn?" Ac ebai'i chwaer, —O! hwn a hwn sydd yn mynd i fewn yno." "O! wel," ebai yntau, "mae'r hen gwn yn gwybod o'r gore mai twrr o esgyrn sydd yn nesu atynt.

Pwy ddarlunia ei deimladau Mawrth 20fed, 1900 (dydd ben—blwydd ei dad pe yn fyw) tra yn darllen "A Book of Strange Things," a'r bennod ar "Lonely God." Aeth yntau i deimlo ei fod yn unig iawn mewn byd fel hwn heb dad. Daeth y teimlad hwn drosto cyn hyn pan y dywedodd,—

"A dwed fy mhobpeth, dweyd a gwneud,
Mai byd yw hwn fydd mwy heb dad."


Brudded yr ysgrifennodd ar glawr y llyfr,―

Mae'n ddydd pen blwydd fy nhad,
"Duw unig" glywaf fi;
Mae'r byd heb dad, ac O! bruddhad,
"Unig" fy hun yw nghri.


Ond er yr holl ddywedodd, dilys gennym gredu yr erys ambell ddarn o'i bregethau can hired a dim bron. Credai mewn pregethu, ac hoff oedd o'r gwaith. Cennad o ddifrif oedd yn y pulpud. Ni ymgeisiai o gwbl at godi crechwen drwy'r gynulleidfa, er y buasai tonnau o foddineb yn llifo dros wenau y gynulleidfa tra y byddai yn pregethu; ond fel y dywedodd un yn ddiweddar, "pertrwydd ymadrodd, a disgleirdeb a phrydferthwch ei feddwl, oedd yn creu y tonnau hynny." Cofus gennym i frawd ofyn iddo un tro, paham na ddeuai a thipyn o'r humour oedd ynddo i'w bregethau. "O," ebai, "mae lle i wit, ond dim ond i honno fod yn ei lle y mae o'r gorau; ond lle i ddifrifwch ac nid i ddigrifwch yw y pulpud."

Cofiwn am dano yn myned oddicartref i supplyo am y tro cyntaf erioed, ac i eglwys fechan y Bedyddwyr yn Corntown ger Pen y Bont ar Ogwr yr oedd yn myned. Hebryngasom ef dros fynydd Cwmparc cyn belled a gorsaf y rheilffordd yng Nghwmogwy. Er fod ei galon ar dân gan awydd sanctaidd am wasanaethu ei Feistr yn y pulpud, crynai ei wefus er hynny. Pan ddychwelodd yn ol yr oedd gwedd arall ar ei wyneb—nid am iddo gael croeso brwd gan yr eglwys fechan,— nid am iddo dderbyn tâl da am y supply,—os y cofiwn yn iawn wyth swllt neu ddeg oedd hwnnw,—nid am iddo gael addewid am supply arall, y mae hynny yn ysbrydiaeth i'r myfyriwr; ond am iddo gael bod yn gyfrwng yn llaw Ysbryd Duw i argyhoeddi dwy ferch ieuanc i ymuno â byddin yr Oen, yr hyn na welwyd yn yr eglwys honno ers blwyddi, ac fe roddodd hyn ynni adnewyddol ynddo gyda'r gwaith o bregethu Crist.

Safai yn syth yn y pulpud bob amser. Anfynych y tramwyai ar hyd—ddo fel creadur aflonydd, er yn credu yn gymaint a neb mewn ysgogiadiaeth, fel yr oedd yn naturiol disgwyl i un wedi ei godi i fyny o'r crud yn swn adroddiadaeth. Ysgydwai ei law ddehau yn fynych—yr oedd ei lais yn glir, a swniai bob gair a llythyren yn groew. Ac fel yr ysgrifennai Mr. D. Davies, Cwmaman, Aberdâr, atom—"Dim ond un cyfleustra gefais i'w weled a'i glywed, ac y mae yn dda gennyf fy mod wedi ei weled fel y dywedais wrthych yn Aberdâr. Ond anghofiaf byth y dylanwad a gafodd arnaf yn dechreu y gwasanaeth yng Nghymanfa Jerusalem, Ton, Pentre. Y darlleniad mwyaf bendigedig o'r Beibl glywais erioed, a'r weddi fwyaf bwrpasol a glywais ac a deimlais erioed. Ac hefyd yr olwg nefolaidd arno yn y pulpud. O! gymeriad beautiful ddywedai i."

Byrr fu ei oes fel pregethwr. Rhwystrwyd ef gan afiechyd i gario ei gynlluniau allan. Pregethodd unwaith i'r Cymry yn Cape Town, a chadwodd wasanaeth claddu rhai troion. Ysgrifennodd rai pregethau yn Kimberley; ond ni ddaeth a'r un o honynt gartref. Credwn er hynny iddo wneud ei fywyd ar ei hyd yn bulpud, a thraddododd bregethau lu i ni beth bynnag. Trodd ei wely cystudd yn gyrchfan engyl, ac yn gysegr sanctaidd. Gwnaeth gyfaill o angau, a chafodd aml i gyfrinach ganddo. Cyn cefnu arnom wedyn, gofalodd droi gwely angau yn bulpud, a thraddododd bregeth rymus drwy'i farwolaeth foddlongar, a thrwy gystudd caled ond amyneddgar,—

"Os yw cur yn fy llesghau:—os yw'r nos
Oer yn hir: mae'r golau
Yn ymyl Ior yn amlhau,
Iesu wyr beth sy' orau."


Yna, pwysai ei ben yn foddlongar ar ei obenydd. Cyn pen nemawr o oriau ar ol hyn yr ehedodd ei enaid fel darn o bregeth ddisglair i'r wlad lle na fydd neb yn glaf, "na olion y mynych toriad gwaed yn unman;" ond ar yr hwn sydd yng nghanol yr orseddfainc, fel "Oen newydd ei ladd."

Huned fy anwyl frawd, hyd nes y cawn gwrdd ar ragorach aelwyd—dan gysgodion tynerach Tad, a lle na fydd raid ymadael mwy.

MYFYR HEFIN.



Hysbysiad.

Rhyddiaeth Ben Bowen.

ADOLYGIADAU.

"Anodd fydd ei gosod o'r neilldu heb fyned trwyddi o glawr i glawr. . . Trysorau gwerthfawrocaf y gyfrol yw'r pregethau y mae yn y pregethau hyn nerth a swyn bywyd anfarwol."—Yr Hauwr.

"Y mae'r llyfr yn un i ymserchu ynddo ac i'w fawr brisio."—Cardiff Times.

"This work contains sermons, essays, and his English productions. They mark an originality of thought, a combination of the poet and philosopher, a power to grasp principles, and the triumphs and processes of historical movements." The Rhondda Leader.

Y mae'r gyfrol wedi ei rhwymo mewn llian hardd, llythyren aur, gilt tops. Pris, 3s. 6c., gyda'r post, 3s. 10c. Archebion i'w hanfon i—

REV. D. BOWEN (Myfyr Hefin),
HOREB,
FIVE ROADS,
LLANELLY, CARM.

Blagur Awen Ben Bowen.
I. CERDDI BYWYD.

DINIWEIDRWYDD.
(Ysgrifennwyd yn Album Myfanwy).

Ddiniweidrwydd! Beth mor brydferth?
Beth mor fwyn; mor ddiymadferth?
Anfarwoldeb ydyw tlysni
Nid oes marw yn hanes lili;
Sethrwch hi yn sarn dan draed
Cewch ei nôdd yn toddi i'ch gwaed.

Ciliaf rhagot, Ddiniweidrwydd,
Rhag i'm llaw dy droi'n halogrwydd ;
Torri arnaf y mae borau
Arall fyd o'th dyner wenau;
Gymaint sydd o'r nef mewn mun!
Gymaint sydd o'r fun mewn dyn!

Ddiniweidrwydd-ddwyfol lendid,
Pa gyhyd y gwisgi wendid?
Ai dy fod mor ddiymadferth
Sy'n dy wneud i'r byd mor brydferth?
Onid wyt mewn angel iach
Fel yng nghwsg y baban bach?


Pam na cha prydferthwch tyner
Ymbriodi gyda chryfder?
Pam mae ofn yng ngwên y lili
Wrth anadlu anfarwol dlyeni?
Sethrwch lili'n sain dan draed
Cewch ei nôdd yn toddi i'ch gwaed.


FY NGHAPEL.


"I'R Byd medd Cristionogaeth;
A gwelaf eglwys gref
Yn plygu mewn gwarogaeth
I'r fythol effro lef.

O risiau gorsedd Rhufain
Hi fynn esgynfa fawr.
. . . . . . . . . . .

1900. (Anorffenedig).



GOBAITH.

MOSES erbyn pob anialwch,
Caleb wedyn leinw'i le,
Geidw esmwyth dyner heddwch
Yn rhagluniaeth dlos y ne';
Dull pedwerydd ym mhob ffwrnes,
Angel yn y ffau o hyd
Yw dy gwmni, Obaith tyner,
Inni ar ein taith trwy'r byd.
Ym mhob gaeaf, haf a'i wenau
Welwn oll yn dod o draw;
Os ŷm weithiau'n "hau mewn dagrau,"
Medi mewn llawenydd ddaw;

Ym mhob Gethsemane dywell
Byth fel angel gwyn wrth law;
Ac yng ngwydd Calfaria hefyd
Yn yr anrhaethadwy loes,
Rhywun geir o hyd yn aros,
Safai'r gwragedd wrth y groes."
Swyn dy flodau-lwybrau harddant
Hedd-freuddwydion calon merch,
I "baradwys y priodi,"
Rhodio dan enfysau serch.
1893.


GARDD EDEN.

MAE lili'r maes fan draw dan lygad Crist
Yn gennad Cariad Duw at ddaear drist;
Mae hedd cyfrinion Nef yn swn y gwynt
Yn chwythu lle y mynno ar ei hynt.

Y llygad welodd Duw yn llanw'r byd,
A gwanwyn o lawenydd wel mor ddrud,
Yw lleddfu cri cydwybod euog dyn,
A'i llanw â cherdd lawenydd Nef ei hun.

Mae'r bywyd sydd yn falm holl glwyfau'r byd
Yn darddle holl hyfrydwch dyn o hyd,—
Yn plethu holl ofynion Duw yn gân
I'n tynnu 'mlaen i wynfa'r Bywyd Glân.

Y mae gorfoledd Duw wrth greu y byd
Yn etifeddiaeth dyn wrth fyw o hyd.

(Codwyd o MSS. "Gardd Eden")


PETHAU WN.

GWN am gân aderyn
Gwn am bechod dyn;
Gwn am wên blodeuyn,
Gwn am riddfan mun.

Gwn am gwmwl arian
Cysgod gwynfyd gwell;
Gwn am lygad aflan,
Gwynfa o hyd ym mhell.

1900.(Anorffenedig)


RHOSYN HAF YN DDRYSNI O HYD.

OND mwy mae Hedd fel dim i mi,
Mae hoyw gerdd yn siom i gyd;
Awel ni wêl ei thelyn hi,
A rhosyn haf yn ddrysni o hyd.
1901.



BANNAU'R DYFODOL

OND gwreichion y goelcerth sydd
Yn fflam ar fannau'r Dyfodol
Ac yn galw ymlaen yn dragwyddol.

Mae cerryg beddau cadfeysydd a fu
Yn Ebenezer ein cynnydd ni;
Ac mae'r iaith sydd ar aelwyd heuliau
Ar wefus siaradus blodau.
1901.



COLLI.

COLLI'R ardd ac ennill byd,
Colli'r swyn a chael y gwir.
1902.


RHYFEL.

GYMRU, tua'r rhyfel
Gyrr dy lengau rhydd,
Buddugoliaeth dawel
Wawria ar Gymru Fydd.

Cwmwl yw amheuaeth
Wisg enfysau Duw;
Plyga i wasanaeth—
Cei wrth farw fyw.

Gymru, tua'r rhyfel—
Chollodd Ffydd erioed,
Buddugoliaeth dawel
Sydd yn swn dy droed.

Cadfaes yw amheuaeth—
Rhaid yw brwydro i fyw;
Gwel dy fuddugoliaeth—
Tragwyddoldeb Duw.

Gymru, cofia frwydro—
Brwydra ar ddihun;
Paid ag ofni nofio
Yn dy waed dy hun.

Duw a'r byd ga'th godi
Gymru ar dy draed;
Ni ddaw heddwch iti
Ond dros fôr o waed.

Methodd dy feudwyaeth
Ddringo i Hermon gwell;
Eill dy ymneillduaeth
Ddringo eto mhell?

22ain o Fedi, 1899.


SIOM.

Y MAE Gobaith yn siomedig o dan draed fel dalen wyw,
Prin mae dim yn gysegredig ond y bedd yng nghysgod Yw.

1903.


LLWYBRAU ANRHYDEDD.

GAIFF pererin ga yn emyn
Pantycelyn lan,
Nerth i'w teithio—swnio'r delyn?
Daro cân?
1902.



DUWDOD CRIST.

Yм mhyrth ei ddyndod
Y profai ei Dduwdod.
Awst, 1898.



DESC YSGRIFENU.
(Y Parch. D. Rhydderch, B.A., Capel Seion,
Pontyberem yn awr).

ANHAWDD yw i awen dderch—beidio gweld
Byd gwyn yma'n annerch:
Un hwylus iawn o law serch
Yw, a roddwyd i Rydderch.



YR YMGNAWDOLIAD.

O! GADDUG sy'n ddatguddiad—oni ddeil
Ynddo'i hun esboniad;
Moroedd o Iawn am ryddhad—Dyn a Duw
Ac un yw Diluw yr Ymgnawdoliad.
Awst, 1898.


IOR WYR ORAU.

FE wyr Ior be sy orau,
A rhyw ddydd fe ga'm rhyddhau.
1902.


GWELED.

WEDI gweled daw gole
Arianna holl lwybrau'r ne';
Gweled y Nef gwyd galon
Enaid o hyd dan y donn.
1897.



DWY GALON.

Dwy galon gyda'i gilydd
Yn oes aur dragwyddol sydd
Ar hanes yr awenydd.
*****



CYSUR.

Osgo oesau yw cysur.



BETH YW'R BYD.

ER ei bopeth; Beth yw'r byd-i enaid
Lanwo dragwyddolfyd;"
Ofn a'i wae fynn o'i hewyd
Ac oes Ior geisia o hyd.



ALLOR DIWYLLIANT.

AT grud Diwygiwr eto-i roi mawl
Ac Offrwm hedd iddo,
Daw'r oesoedd dan ymdrwsio
Drwy fawrhad ar ei fro o.

Yn eu plith am fendith fawr
Diwylliant gwyd ei allawr.


Y DIWYGIWR.

EFE yw gobaith ei fyd,—dwed o hyd
Fod hud Duw mewn adfyd,
Gwel law Ior yn gloewi o hyd
Groesbren pob hawddgar ysbryd.

A'n daear ni draw i'r Nef
Drydd heddyw drwy ei ddioddef.

A gwel Duw yn gwylio'i daith
A thraidd afiaith i'r ddeufyd.


TREMIO MLAEN.

AR ysol frwydrau oesau—mae fy nhrem,
Af yn nhrwst magnelau.
Am fy Ior, dan ymhyfhau
At Geidwad Diwygiadau.



"MWY NA CHONCWERWYR."

OND mi wn fod yma wae
A'i erchyl lu'n fy ngwarchae;
Ond ofn gyda'i anthem dyrr
Cariad—Mwy na choncwerwyr."



SYNIAD ANIAN.

YN rym i'r Diwygiwr mad
Rhoddes anian hardd syniad.
A broydd dydd breuddwyd hon—fynn efe
Yn fywyd gobeithion;
Dyfnfor hud o fewn y fron
Am hwylio i'r ymylon.


Yr wyth olaf wedi eu codi o MSS. y Diwygiwr.—GOL.

FY MYNYDD.
(Moel Cadwgan)

1.
GER fy mwth anhebgor
Llwm yw'm mynydd hen;
Byd yn mynd yn drysor
Yntau'n colli'i wên.

II.
Ynddo'm siomedigaeth
Wel ei charreg fedd;
Mae oes aur fy hiraeth
Eto'n byw'n ei wedd.

III.
Grefyddolder Cymru
Faint o'th dlysni clir
Fynna Duw offrymu
Ar allorau'r Gwir.

21 ix. 98.

II. CERDDI NATUR.

Y GWANWYN.

Y GWANWYN a ddwg wenau
Da Anian glyd inni'n glau:
Deffry hithau tan ganu
Iraidd gerdd mewn eurwedd gu.
Diail eurwych deloriaeth
Ddaw yn ffrwd gwir addien ffraeth
O'r goedwig eurog—gadarn
Yn dwyn nefol—ddawn bob darn.
Ar y glasdir gwir glwysdeg
A dawn mwyn hynod o deg,
Yr adar yn gôr hudawi
I'w Hior mwyn sy'n rhoi eu mawl;
A'r wyn glain yn gain eu gwedd
Doant pob eurwych duedd;
Pranciant ar ben pob bryncyn
Mor gu, nes denu serch dyn;
A blodau mewn gwenau gawn
O eurliw mawr yn orlawn;
A'r awelon mwynion mad
I'w swynion rydd gusaniad;
A'r heulwen trwy yr entrych
Yn gu sy'n hardd wenu'n wych;
Mae natur yn blaguro.
Ym mhob glyn, bryn, drwy bob bro;
Eneiniwyd pawb gan hoenedd
Yn eurgain gwiwgain eu gwedd;
'E geir yr hen wr sy'n gant
Yn nofio mewn mawr nwyfiant;
Hynodawl deg hin ydyw
'N hafaidd iawn. Ai Nefoedd yw?

Mawrth 30, 1894.


Y GWANWYN.

Y GWANWYN euraidd a gawn yn iro
Wael wisgoedd anian o lesgedd huno;
Ar hyd y gaeaf oer adeg gwywo
O'i addien harddwych ca'dd ei annurddo;
Ond daw y gwanwyn a diwyg yno
Yn gain, a natur gan wenu eto;
Nes mae bob glyn, bryn, a bro—mewn urddiant
Llawn o ogoniant gan ddillyn geinio.
Ebrill, 1894.


Y NWY.

O'r ffrwyno'n wâr, offeryn yw nwy—wna
Ddydd o'r nos in dramwy;
Ond teyrn anfad i'n gwlad wna glwy'
Yw o'i fynediad ofnadwy.
1894.



Y RHAEADR.

Y RHAEADR a'i ruad rhywyllt—aruthrol
Waith rhuol athrywyllt;
Mae'n ddylif o genllif gwyllt
Hyf fawrdrwst o ferw hydrwyllt.



SUDDIAD Y LLONG.
(Gosteg o Englynion).

Newydd long hardd a'n eon—i nwyfus
Nofio ar yr eigion;
A'r môr mawr rydd drwy'r murmuron
Groesawiad hael i groesi'r donn.

Y teithwyr ydynt weithion—yn canu
Acenion dillynion
Trwy eu mor daith, tra mae'r donn
Yn gloywi'u myg alawon.


Yr haul mawr yn wir dirion—dynn ei lun
Dan y lwys hardd wendon;
Tra ar y llestr eurol, llon,
* * * * *

Y môr heli, mor hylon—y dawnsia

Pob tonn gu sy'n llamu'n llon
Nes hoeni pawb â'u swynion.

Mwynion a thawel awelon—swynol
Gussnant bob gwendon;
I'r teithwyr rhydd y lli llon
Syniad am nefol swynion.

Ond Ha! cymylau duon—ar y wybr
Ebrwydd ddaeth yn eon;
A'u gwedd du'n lleddfu'r môr lon
A gwelwi'r teithwyr gwiwlon.

Och y mellt yn chwim—wylltion—ymfflachiant
A saethiant fel sythion
Trylachar seirff,
Uwch y môr er deffro'r donn.

Uwch hylif, glaw o'r uchelion—a ddaw
Yn gynnydd i'r eigion;
Yn hy' mae'r daran eon
Yn gwawchio'i dig uwch y donn.

Y môr mawr yr awrhon—sy' gynhyrfus
Gan erfawr ymchwyddo'n
Un restr at y llestr bach llon
Er ei gael i'w oer galon.

Brawychus, aethus, weithion—yw'r teithwyr
Arteithiol eu hingon;
Gwylltiant, gweddiant," O'n Hion,
Tegha y gorwyllt eigion!"


Chwalu tua'r uchelion—wna'r uthrawl
Lym rwygawl mawr eigion;
Mae angau dig ym mwng y donn,
A dannedd rincia ar y dynion.

Ymrwyga y mawr eigion—yn wancus,
Llynca'r teithwyr tirion!
Drychineb neb ond ein Hion.
Wyr galedi'r gwaelodion.
(1893).


III.CERDDI GWLADGAR.

Y GWLADGARWR.
(Testyn Cadair Cross Inn, Ceredigion. Cynnyg cyntaf Ben Bowen am gadair)

WLADGARWR hoff! Ah destyn gwynfydedig;
Ei ysbryd imi fo'n ysbrydiaeth gref;
Egnion pur ei fywyd cysegredig
A'm llanwo'i draethu 'i fythol urddas ef;
Mae ardderchawgrwydd yn gwefreiddio enw
Yr hyn sy'n deffro holl alluoedd serch;
Rhagorion dyn, a rhiniau'r Nef dryloew
Sy'n gymhlethedig yn ei fawredd derch.

Claer seraff ar y ddaear ydyw ef
Yn arllwys ar ei wlad dangnefedd nef;
Mae'n un o fil ar allor ei serchiadau,
Dan wenu treng ya wrol dros ei hawliau;
Mae'n gwlawio ei ddedwyddwch arni hi,
Dry anial trallod yn baradwys cu;
Efe yw ardderchocaf arwr cariad
Ym mhlith dynolryw, a mawreddog geidwad

Anrhydedd claer ei wlad. Allweddi llwyddiant.
I agor drysau aur haf-balas mwyniant
I'r wlad fynd iddo'n llawen, sy'n grogedig
Wrth wregys hwn. Aiddgarwch byth-chwilfrydig
Ym mhethau 'i genedl hen, a'i holl ragorion
Trybelid enaid, fedd. Serchiadau 'i galon
Yw urddas gloew, daear, llên ei wlad,
A'i chrefydd bur,—ei sanctaidd goron fad.
O! fel y mae yn dyfal chwilio beunydd
Am le i'w hanrhydeddu hi; dihysbydd
Yw dyfnder ei weithgarwch; mae i eiddigedd
Yn tanio dros ei hawliau, a'í hanrhydedd;
Mae ef yn un o'r dwyfol ddynion sydd
Yn ffrynd mewn eisiau, ie'n gariad pur.
Gwn y goddefir imi yma roi
Rhyw ddarlun bychan o'i ddylanwad derch
Sydd yn fy ngwefru â thrydaniaeth fyw.

Pan fo'r cymylau yn ymledu dros
Yr wybren faith, gan leddfu hwyl pob bro,
A gwlawio dagrau 'u llid, a'r dydd mewn braw
Yn cau ei sanctaidd lygad, O! y fath
Olygfa fyw yw gweld yr haul o draw
Yn araf hollti'r cymyl, y rhai sydd
Ar flaen yr aur bicellau'n trengu, a
Diflannu'n llwyr, nes byddo'r nef yn glir;
Pryd hyn, o dan belydrau'r haul, fe dry
Ymweliad y cymylau yn leshad,
A newydd fywyd ar dwf anian fydd,
Felly mae ef, yn haul yn nef y wlad,
Yn difa cymyl siom ac ing yn llwyr,
A throi eu hymweliadau'n fendith pur
Nes byddo'r wlad mewn mwyniant ar ei hol
Yn cnydio ffrwythau o dangnefedd fyth.

Fel mae olwynion lu mewn peiriant grymus,
A'r oll, er budd, mewn cyd-weithrediad hapus
Yn gweithio i'r un amcan, mae amrywiol
Agweddau y gwladgarwr pur a gwrol,
O dan lywodraeth cariad mewn mwynhad
Yn cyd-weithredu i ddychafu'r wlad.

Ai'r milwr yw? I faes y rhyfel erch
I ymladd dros ei wlad yn wrol â;
Ar gartref paradwysaidd try ei gefn,
A cheraint sydd mewn dagrau ar ei ol
A edy ef, ac haul ei obaith am
Eu gweled mwyach wedi machlud dan
Gymylau pryder. Ond ymlaen yr â
Yn hyf a llawen, a'i wladgarol waed
Yn berwi dros iawnderau prid ei wlad;
Yng ngrym ei gariad ati y mae ef
Yn caru rhyfel. Diystyrru wna
Holl lid ei elyn; ei ymweliad sy'n
Ofnadwy storm; trwy'r holl beryglon tyrr
Orchfygol rawd, â gwrdd wroldeb llew;
Ac ni wanhâ ei ddewrder hyd nes bo
Y defnyn olaf o'i wladgarol waed
Yn gwrido'r llawr, ac ar y ddaear oer
Ei gorff a edy'n golofn draetha'i bur
Wladgarwch aiddgar, a'i ffyddlondeb llwyr.

Ai'r gweithiwr yw? Efe yw'r ager sy'n
Ysgogi peiriant masnach yn ei wlad;"
Dirif drysorau, nwyddau o bob math
O'i daear gwyd i'w dwyn i sylw'r byd;
Mae'n trin y ddaear, a gwasgaru'r had
A meithrin ei holl ddolydd, a thrwy hyn
Yn llanw ystorfeydd digonedd i
Ddiwallu eisiau 'i wlad â gwledd barhaus.

Ai'r craff ddyteisiwr yw? Prif swyddog Celf?
Newydd-deb bythol ddwg i sylw'r wlad
Sy'n esgor ar fuddioldeb iddi hi;
Claer seren ddydd diwylliad ydyw ef,
Dyfeisiwr holl beiriannau'r ddaear yw;
Gwna i'r agerdd-long wawdio llid y môr
A herio'r storm i'w rhwystro ar ei thaith;
Fe wna i'r mynydd ban ymostwng dan
Draed y gerbydres chwim; yr hon a red
I agor heol i drafnidiaeth gwlad,
A rhoddi clwm am ei holl barthau hi.
Yng ngwarr y fellten fforchog cydia'n hyf,
A gwna hi yn law-forwyn bur i'w wlad,
I gario ei negesau i bob man,
Gan wawdio meithder ffordd: trydaniaeth ddwg
I greu dydd clir o'r nos, gan herio'r gwyll
I frwydr a'i goleu; a'i orchestion oll
Sydd er dyrchafu 'i wlad i binacl bri.

Ai athraw addysg ydyw? Mae'n cyfrannu
Goludoedd amhrisiadwy o bob dysg
I'w genedl hen, ac am ei hanrhydeddu;
Angerddol awydd yn ei fynwes lysg;
Ei feddwl sy'n drysordy glân o emau
Y rhai ym mlychau aur cynghorion rydd
I'w chyfoethogi hi, a gloewi'i hurddau
A nos ei hanwybodaeth dry yn ddydd.

Mae'n hauwr doeth. Mor ddiwyd yn gwasgaru
Had addysg teilwng dros yr oll o dir
Meddwl ei wlad, o'r hwn urddasol dyfu
Wna cnydiau heirddion o wybodaeth bur;
Mewn llawer mangre diffaith, hardd flagura
Blodeunos nef drwy ei ddiwydrwydd ef;
Aur dlysau bri ar fron ei wlad osoda
Ac fe'i corona â'i athrylith gref.


Ai ef yw'r gwleidyddwr egniol ei natur?
Mae bythol dangnefedd yn llifo o'i lafur;
Yr hwn sy'n mwyneiddio rhandiroedd tylodi
A throi ocheneidiau ei fam-wlad yn ganu;
Mae'n creu ac yn cynnal cyfreithiau'n ddiatal
Fo'n arllwys bendithion o hedd ar bob ardal;
Y rhai fo yn gloewi awyrgylch daioni
Ac ymlid o honi gymylau drygioni;
Dihysbydd dalentau gwladgarol a fedd
A rhanna i'w genedl bêr winoedd o hedd;
Llafurio mae beunydd i godi ei wlad
O ddyfnder dinodedd i fri a mawrhad,
Dros lwybrau aur cariad i froydd dedwyddwch
I ganu ar fryniau digonedd a heddwch."


Onid ef yw'r llenor diflin
Sydd yn llawn gwladgarol dân;
Ymherawdwr yr ysgrifbin
Drwyddo rydd oleuni glân
I oleuo holl gilfachau
Dwfn ddirgelwch pynciau dydd;
Drwy ei holl ysgrifeniadau
Nef-drysorau'n llifo sydd.

Mae chwilfrydedd seraff ganddo
Yn hynafiaeth gudd ei wlad;
'R anhawsterau ga wrth chwilio
Coffrau 'i hanes, sy'n fwynhad
I'dd ei enaid; ei ymdrechion
Sydd dan go.on urddas têr;
Ffrwythau aeddfed ei fyfyrion
Ddeil i'w wlad yn wleddoedd per.


O nwyf wladgarol mae'r athronydd dwfn
Mor lawn ag yw'r tanbeidiaf dẫn o wres;
Angerddol awydd greodd Duw'n ei fron
I ddeall cyfrinachau'r cread oll;

I gysegr sancteiddiolaf natur dyn
Ymdreiddia'n hyf,—yn llewyrch rheswm cryf
Ei holl elfennau cyfansoddol wêl—
Y drwg a'r da yn brwydro yn barhaus
Am oruchafiaeth ar ei enaid mawr
Er bod yn deyrn i'w lywodraethu ef.
I'w hynt chwilfrydig trwy'r ddaearen â,
A gwna i'r creigiau draethu iddo'u hoed;
Mynn ddeall trai a llanw'r môr, a'i uthr
Garwriaeth yntau gyda'r cwmwl hen;
Cyd-deithio â llu'r nefoedd ar eu merth
Gylchrodau eang, i gyfrinion cudd
Eu bywyd a'u dylanwad treiddio wna;
A'u heffaith wêl ym mlagur natur fawr,
Ac o'i dinysbydd goffrau hi, fe ddwg
Feddygiaeth loria'n llwyr anghenfil cryf
O haint arteithiol, sydd yn llechu hwnt
Yng nghaddug ogofeydd marwolaeth erch;
'Rhwn ar ei hyf ruthriadau'n llarpio sydd
Gysuron a gobeithion per ei wlad.

Y cerddor hefyd sy'n wladgarwr pur;
A phan fo nos o ddwfn a llethol gur
Yn lledu dros ei wlad, efe rydd gân
O gydymdeimlad, megis eos glân,
Nes ei nefoli a'i throi'n ddydd boddhad,
Ac ocheneidiau trallod yn fwynhad;
Y delyn bêr yw ei briodferch ef,
Yr hon sydd yn diferu odlau'r nef;
Ei lon gerddoriaeth dery arni hi
Fo'n gwneud i'w genedl hen anghofio'i chri;
Efe yw ymherawdr glân y seiniau
Fo'n gwefru ysbrydoliaeth drwy eneidiau;
Ym mawl y Crewr mae yn ymwynfydu,
Ac ef yw tad y cymanfaoedd canu
Sydd heddyw'n gwefru ac yn ysbrydoli
Dihafal grefyddolder Cymru drwyddi;

Ardderchog fab athrylith ydyw ef,
Yn dysgu idd ei wlad ganiadau'r nef,
A theilwng frawd i'r bardd; y teyrn parhaol
Ar orsedd serch ei wlad, a'i wisg frenhinol
Yw arucheledd glân a nef brydferthwch;
Goleuni yw ei lygaid,—gwyll dirgelwch
Natur oleua; y mae'n medru gweled
Ei holl ogoniant,—teimlo'i swyn,—cyd-fyned
A'i deddfau uniawn hefyd; anfarwoldeb
Sydd yn blaguro yn ei waith; gwroldeb
Ei grebwyll beiddgar sydd mor hyf a'r fellten,
Ac yn gyflymach. Y mae daear addien
Ei wlad i hwn yn nefoedd o orfoledd,
Ac yn gorlenwi 'i fron â phur edmygedd;
Hi yw ei ysbrydoliaeth, mae ei delw
Yn argraffedig yn ei awen loew
Fel mae y nef yn gwenu yn y llynnau;
Mynyddoedd o farddoniaeth sy'n ei weithiau
Mewn mentyll o brydferthwch gwir fendigaid,
Ac ynddynt wythi o oludoedd enaid.
Ar faes y rhyfel yn y pell orffennol,
I danio'r milwr ar ei rawd ddifrodol
I ymladd dros iawnderau 'i wlad, ei galon
Wladgarol ymhyfrydai gynt; ond weithion
Mae'n ymddygyfor gan ryw angerddoldeb
Purach ac uwch, i natur a'i thlysineb,
Per folawd rydd i ganol tragwyddoldeb,
Gan syllu 'ngwydd trybelid anfeidroldeb,
Anturia hefyd ar adenydd crebwyll;
Mewn urddas ter, a hunanfeddiant hybwyll,
Dychwelyd wna o'i wibdaith bell a dwyfol,
Gan arllwy: ar ei genedl fri anfarwol.

Yr Efengylydd sanctaidd, y mae ef
Yn deyrn wladgarwr, dwg adnoddau'r nef

A'i holl ogoniant i ddyrchafu 'i wlad,
Ac yn lle'i gwarth fe ddyd sancteiddrwydd mâd;
Mae'n tywallt gemau'r nefoedd arni hi
Fo yn disgleirio coron aur ei bri;
Goleuni dwyfol sydd yn llanw'i lwybrau
A chenedl rodia wrth ei lewyrchiadau;
Trwy aeaf pechod traidd yn wanwyn serchog,
Ac ar ei ol fe edy haf toreithiog
O riniau'r nef. Mae'n difa ofnau prudd,
Ac ar eneidiau'n creu tragwyddol ddydd;
Eneiniog broffwyd Duw yw ef i'r wlad,
Yn traethu arfaeth ei drugaredd rad
Ar gyfer enaid: nef awdurdod fedd,
A gwyd ysbrydol feirw'n fyw o fedd
Pechodau; nerthoead dwyfol sy'n ei lwydd,
Cythreuliaid hefyd welwant yn ei wydd.
O fwnglawdd aur dihysbydd y Gwirionedd
Dwg amhrisiadwy drysor o ddwyfoledd
I'w rannu'n llawen idd ei anwyl wlaa,
Yr hwn drwy ei werthfawredd prid, a mad
A hawlia iddi balas anfarwoldeb
Ar fron y nef, yng nghanol pob tlysineb,
A golygfeydd tragwyddol urddas Duw,
O gyrraedd haint a chroesa o bob rhyw.
****
Yr un fo'n gweithio'n ddiflin dros ei wlad
Mewn ingoedd erddi ganai mewn mwynhad,
A thros ei bri a'i hawliau deimlai marw
Dirdynol dan bob poen yn fraint,—Ah! hwnnw
Yw'r glew wladgarwr, ac mae'i urddas tanbaid
Yn hawlio holl edmygedd llwyraf enaid.
1895.


DIWYGIWR NEWYDD.

MELYS yw moli oes a'i hymylon
Dan dyner wawrddydd o ddedwydd freuddwydion,
O dyna le sydd fel Eden lon.

O farw oes aur; ai ofer siarad
Mewn aeth ac hiraeth mewn ofn mewn cariad
Am danat ti sydd i ni'n fwynhad.

Onid Rhufeiniaid a'u harfau enwog
Greodd unoliaeth gerddai yn hwyliog
I gludo'n gwlad dan glog—o elyniaeth
Drwy wasanaeth i heuldir rhosynog.

Gelyn roes i galon rydd—ac amrwd
Gymru wladgar ddefnydd
O'i phoen, gwladgarwch mewn ffydd—dan ddwyf dw
Ddaw i greu'n hoyw ddiwygiwr newydd.

Rhoes ereill natur siriol—dynn i laid
Anial y materol;
A gwrida'r Groegwr hudol—a rhydd gân
O ganfod anian fel gwynfyd dynol.

Fyd di-loes: nid oes eisiau—diwygiad
Ar degwch a gwenau
Natur mi wn, tra mae hedd
I'm hanedd ac i minnau.

Onid swyn duwiesau yw
Hoen treiddiol natur heddyw;
Onid oes duwiau o hyd—yn troi Llan
Drygfyd o gwynfan yn drigfod gwynfyd

Allan o MSS. awdl y Diwygiwr.


BWTHYN PANTYCELYN.

I DY fwthyn bychan, golau,
Gwesgaist dragwyddoldeb mawr;
Troa'th gamrau lwybrau blodau
Ac arweinia'th lygad wawr;
Gwawr i'r Nef ymdeithio i Gymru;
Llwybrau i Gymru fynd i'r Nef;
Dest a'r wawrddydd wen a'r canu
Wedi'r nos a'r dymhestl gref.

O MSS. Pantycelyn.
1899.


Y DYN DA.

Ac er ym mlaen, ceir yma'i law,
O hyd dan bwn gofidiau byd;
A'i osgo ddwys, ei ysgwydd ddyd
I gludo beichiau drygau draw.



MR. WALDO LEWIS.
(Parch. Waldo Lewis, B.A., B.D., Caerfyrddin yn awr—pan yn Academy Pontypridd)

Tawel swyn mewn tlysineb—wna wawrddydd
Harddwch yn ei wyneb;
Un witty a rhydd, a phob tro
Dawn Waldo gwyd anwyldeb.


ENGLYNION, &c.,

Ddarllenwyd yn y Drill Hall, Pentre, ar gyflwyniad Anerchiad hardd i Peter Jones, M.B., gan weithwyr Glofa Ty'nybedw, am ei weithgarwch fel meddyg yn y lle hwn (ond yn awr yn Abergele, Gogledd Cymru). Hefyd, awrlais, pin ysgrifennu, 'n aur i gyd, a delw Napoleon a'i wraig, gan weithwyr a masnachwyr y Pentre, dydd Llun Mabon, Mai 7fed, 1894.

Jones y Meddyg myg a mad—geir heddyw'n
Gawr addien ei deimlad;
Mewn rhyfedd ymarweddiad
Geir ail i hwn? Mae'n gawr y wlad.

Hyf wron llawn o fawredd—a'i rodfa
Ar brydferth ffordd rhinwedd;
Mwyn wr glew a wnaeth mewn hedd
Gain redeg i anrhydedd.

Naf a luniodd nefol wenau—heb sen
Ar ei addien ruddiau;
A'i gu wên sydd yn gwiw wâu
Fyw loniant i filiynau.

Cu i'r claf ydyw, ac i'r clwyfedig
Un da ei anian a diwenwynig;
Coron o deyrnged ddihalogedig
Ga ar ei ben, addien gwiw wr boneddig;
Trwy yr holl fro. Ha! trig—gwiw barch helaeth
I'n cu wr odiaeth, hyfwyn, caredig.


Haeddwr parch heddyw barchir—a'i fawredd
Hyf eiriau wobrwyir;
Yn firain fe'i clodforir
Yn addien hardd heddyw'n wir.

Prydferth a derch anerchiad—a roddir
I'r hyddoeth gawr gwiwfad;
Yn fwyn rodd Ty'nbedw fad,
Cu arwydd yw o'u cariad.

Rhoi'n hygar wna'r Pentre'n wiwgu,—awrlais
Gwir lwyswiw,—prydferth—ddu;
Ha! wyr call, rhowch bin aur cu
Arf hoenus at 'sgrifennu.

Rhowch ddelw'r hen Napoleon
A'i wreigan fechan dirion;
Mae Jones yn wych Napoleon da,
Sef ar glefyda' dynion.

Hir oes gaffoch llawn moesau—duwioldeb,
Di-ldio i ddrygau;
A Gwiwner roddo'i gu wenau
Yn ei wir odiaeth gain radau,
I'ch diddan ddodi drwy'ch dyddiau
Yn dirion uwch cyfyngderau;
Byd o wyn boed i wâu—drwy'ch blynyddoedd
A di—ingoedd hyd angau.

Mai 7fed, 1894.


MR. DAVID THOMAS (Penofydd), TONYPANDY.

Gwr am ddal grym meddyliau—neu fesur
A'i fysedd benglogau
Yw Dafydd; dan ufudd—hau
Dirgelwch red i'r golau.

Ymenydd pan y mynaf—neu fy hun
Mewn hin—fynag cliriaf
A'u holl ddulliau ddeallaf
Os i wydd Dafydd nesaf.

[Cymerer y darlleniad hwn os mynner,—

Ymenydd pan y mynaf—a'm hanes
Mewnol a dirgelaf;
A'u holl, &c.]
24/1/1901.


CROESAWU Y PARCH. T. DAVIES, FFORDDLAS, I MORIAH, PENTRE.

Ior anwyl! rho i'r uniad—wen fwyndeg
Hen fendith dy gariad;
Ysgwyd law â'r croesawiad
Heddyw yw awr ein boddhad.

Os dirmyg a'i ystormydd—ga y brawd,
Boed gwybr iach ei grefydd
O law ei DDduw'n oleu ddydd,
Uwch ei ben yn wych beunydd.

Dywenydd i'r brawd anwyl,
Awel y nef lanwo'i hwyl;
Duw yn rhwydd: dyna'r weddi
Wna'i sedd yn fy mynwes i.


MARWNAD I'R DIWEDDAR EDWARD MEREDITH, GROCER, LLWYNPIA.
(Cystadleuol yn Nhonypandy, Mai, 1895)

O EDWARD anwyl! Duwies serch yn brudd
A dagrau sy'n eneinio'i enw glân;
Ac ar delynau Hiraeth, Awen sydd
O'i ol yn tarro'i galarnadol gân;
Ac i addurno'i feddrod, dagrau'n unig
Yw'r gemau sydd yn ddigon cysegredig.

Hen fynwent Capel Rhondda; gennym ni
Hoff oet o'r blaen; ond yn anrhaethol fwy
I'n golwg wyt yn awr, am fod y cu
Ddyngarwr gloyw yn dy gôl; a phwy
Na fyddai'n falch o'r fraint i roddi cusan
Edmygedd gwir i fedd y Cristion mwynlan.

Rhyw 'storm o chwerwedd ydoedd colli'r hawddgar
Edward Meredith; ond ar gymyl galar
Ymloywai'i holl rinweddau'n enfys glân
Yn creu llawenydd ac adfywio cân;
Fe fagwyd ef ar aelwyd bur, grefyddol
A hyn roes nod i'w fywyd yn ddilynol;
Ac os y bu i raddau'n hir cyn cyhoedd
Broffesu enw'r Iesu, gwylder ydoedd
Fel gwan sidanlen yn ei rwystro'n unig;
A phan symudwyd hon gan law garedig
Y dwyfol gariad, llwyr ymdaflodd ef
I wasanaethu Brenin glân y Nef;
Daeth allan yn llaw Ffydd i geisio hedd
Gan ddilyn Iesu drwy y dyfrllyd fedd;

Ac ym mhob modd fe ddyblodd ei ddiwydrwydd,
Gan weithio â'i holl enaid dros ei Arglwydd ;
A thrwy ddoethineb, gwnai ei hyfforddiadau
Mewn llwydd ragflaenu anymunol bethau.
I hedd Jerusalem bu'n darian addien
Yn cadw draw ddinystriol saethau cynnen;
A chan yr Eglwys codwyd ef yn hyglod
I'r ddiaconiaeth lân ym mraich Teilyngdod;
Ond distaw ydoedd ef yn gwneud ei waith
Fel planed fawr yn myned ar ei thaith;
Rhy lawn oedd ef o sylwedd pur, a mawrfri
I gadw twrf pan fyddai yn gweithredu.
Yr oedd ei duedd gref i waith yr Ior
Fel y dawelfwyn afon am y môr:
Trysordy glân o emau oedd ei galon,
Yr hon oedd gartref pan yn rhoi cynghorion
O amhrisiadwy werth; a'i gwmni braf
Yn siriol a boddhaus fel boreu haf.
Ei ymadroddion oent yn llawn firaethineb
Ac ynddynt wythi euraidd o ddoethineb ;
Yr oedd yn garwr pawb, a châr pawb hefyd,
A rhyfedd o garedig drwy ei fywyd;
Ac urddo llwybrau glân ei garedigrwydd
A wnai liliod gwynion o sancteiddrwydd;
Rhy hael oedd ef i omedd un cymwynas,
A'i galon ar ei rodd yn arllwys urddas;
Ac at bob "achos da" haelionus beunydd
I'r eithaf fu, 'n enwedig achos crefydd;
Ac fel ei galon, 'roedd ei dŷ'n agored
I dderbyn pawb â chroesaw pur, dihoced;
Ac yn arbennig garedigion Duw
A gweinidogion yr Efengyl wiw;
Ac er ei fod yn hawdd i'w drin, nid corsen
Yn ysgwyd dan bob awel oedd; ond derwen

Ar dir gwirionedd ledai'i grymus freichiau
Gan leddfu erch gorwyntoedd temtasiynau.
Masnachwr deheu oedd, yn llawn diwydrwydd,
Ac hefyd heb fradychu ei onestrwydd
Yn elwa cyfoeth, ac ni phlygai ef
Ger eilun Twyll pe syrthiai ser y Nef;
Llwyr-ymwrthodwr hefyd oedd yn wastad,
Ac yn ei fron llewyrchai goleu Profiad;
Yng ngwinllan Duw llydan-frig bren oedd ef
Mewn gwisg o ffrwyth, a thegwch haf y Nef,
A thesni "Haul Cyfiawnder" arno'n disgyn,
A'r "Gair" fel garddwr diwyd yn ei feithrin.
Bedyddiwr pur, a chastell cryf ei gredo
Ar graig y Gwir, ac ar ei furiau, dryllio
Wnai saethau Prawf yn chwilfriw; a gwir ddelw
O burdeb ydoedd ei gymeriad gloew;
Ac ym mhob rhinwedd 'roedd yn llawn disgleirdeb,
A theyrn ei holl rinweddau oedd duwioldeb;
Yr oedd duwioldeb fel afonig arian
Yn llifo drwy ei fywyd yn sancteiddlan;
Yr hon oedd yn ireiddio ei holl hanes,
A delw'r nef ddihalog yn ei mynwes;
Diamgen leygwr ydoedd drwy'n Cymanfa
Yn urddas ar Fedyddwyr pur Cwm Rhondda;
Ar bwyllgor Undeb hoff Bedyddwyr Cymru
Yr oedd yn aelod teilwng a diwegi.
Trwy ein hardaloedd 'roedd yn ddyn caruaidd,
Ac yn ei deulu'n heulwen fad, a mwynaidd;
Ond cafodd brofedigaeth lem, ac erch,
Wrth golli'i anwyl, ie, 'i unig ferch:
Yr ydoedd hyn yn gwmwl du ar wybren
Prydnawn ei fywyd, a machludodd heulwen
Ei einioes yntau ar ei hol, a galar
Fel nos enhuddodd nen ei deulu hawddgar.

Ond os yw corff ein Hedward yn y bedd
Yn pydru rhwng ewinedd Angau du;
Bydd ei goffâd yn ddwyfol dirf ei wedd
Dan arogl enaint ei rinweddau cu :
Goleuni bywyd glân lewyrcha'i enw,
A byw wna'i hanes ef er iddo farw.
(1895).

DR. REES ABERTAWE.

Hen gawr Ior, gyda'i drem graff,
O sorod welai seraff.



ENGLYN
Byrr-fyfyr, gyfansoddwyd i James Thomas, Ton (ei frawd yng nghyfraith), wrth ymweled âg ef, pan oedd yn glaf o'r gymalwst, dydd Mercher, Mai 9fed, 1894.

Iago hylon, o'r gwely,—ddyn odiaeth,
Hoew neidiwch yn gelfydd;
Waith erch gwyn heb ddim swyn sydd
Drwy ymboeni'n drwm beunydd.


ENGLYN
Byrr-fyfyr. gyfansoddwyd i'r James Thomas uchod, eto, wrth ymweled âg ef pan oedd wedi codi i'r llawr, bron cael adferiad llwyr o'r gymalwst.

Ar y llawr 'nawr yn wr llon—yr ydych
Wr odiaeth hyfrydlon;
Yn ddiail dan urdd hylon
Ga'i wrid hardd; y'ch gawr y Ton.


AWDL GOFFADWRIAETHOL AM WILLIAM BOWEN, CEFNCAEAU, LLANELLI.
BU FARW RHAG. 16, 1894, YN 50 MLWYDD OED.[1]

MAE angau fel llym awelon—odrist
Hydref yn difwyno'n
Natur ar ein cysuron—gan ddifa
Ein harwyr gora', er eu rhagorion.

Eto a'i chwa ddifaol—bwrw wnaeth
O bren yr hoedl ddynol
Arwr gwir a rhagorol—i lwm fedd
A thad o fawredd coeth a dyferol.

Am William yn drwm wylwn—o hiraeth
Chwerw; ond na feiwn
Yr Ion pur er ein pwn—mae'n ei groesau
Fudd a haul wenau, O! ymfoddlonwn.

O William! pur anwylyn—fy enaid
Oedd, fwynaf gâr dillyn;
Llon wr da yn llawn o'r dyn—yn byw lles.
A hynod achles i weiniaid dichlyn.

Cywiraidd wynder cariad—oedd urddau
Harddwch ei gymeriad;
Ardeb a lliw purdeb, llâd,
Im' roddai'i ymarweddiad.

Eirian oedd ei rinweddau—yn gemu
Cymyl amgylchiadau;
Beunydd i'w gilydd yn gwau—fel gloywon
A hynaws luon yr enfys liwiau.


Gem irwedd yn ei gymeriad―hudol
Ydoedd cydymdeimlad;
Ing efo'i hoff hatling fad
O'i gas lwydd gawsai luddiad.

Aneisior gymwynasydd
O hyfder oedd ef drwy ei ddydd,
Ac arddun a gwir ddyngarydd;
Tarian i fri'n tirion froydd—a'i daith
Yn deg fel y wawrddydd;
Un a Nef yn ei grefydd—gwas i ni
Yn byw i weini urddasrwydd beunydd.

Gostyngedig ddyn diddig, diddan,
Yn wers o gunaf wresog anian;
A heirdd berlau o dan urdd burlan
Wynfyda'i siriol fywyd seirian.

Rhyw hyf gawr o ddenol, eurfyg, arddunedd,
Ar bechod a'i fyddin lemfin hyd lwmfedd;
Ac eto'n wr union a gwir dirionwedd,
A dichlyn a hynod uwchlaw hunanedd.

Gweithiwr a myg athraw mawr
Oedd, a brwd ei ddibryder
Gain hyglod egni eglur;
Diflino, ddiwyd flaenawr
Ac uniawn fu'n Maescanner,
Byw hoenai bawb a'i wên bur.

Grasol wr, dengar iesin—hyfrydawl
Gadfridog ym myddin
Bur, hoff Duwioldeb a Rhin,
O lachar rawd ddilychwin.


Ei lân wynfaol enaid—er llesiant
Arllwysai wawl canaid;
Ac hyd y bedd caed, heb baid,
Ei degwch yn fendígaid.

Da wr hydrin dirodres—o fad rawd,
Tyfai drwy ei hanes
Flodau heirdd dan ddwyfol des—a gwên haul
Diwyro araul Cyfiawnder eres.

Heulwen fu yn ei deulu,—a nefawl
Nwyf oedd yn wasgaru;
Dihalog wr, delw gu—o ddwyfol
Urddau arhosol arwedd yr Iesu.

William anwyl,—ie, mwynwedd,
O'i dda rinwedd oedd wr enwog;
Ac yn heulog ei wyn haeledd
A'i dduwioledd yn ddihalog.

Ei bur dduwioldeb eirian—ymlifai
Mal afon o arian
Yn dwyn delw loyw, lan,
Y fwynaidd nef ei hunan.

Mirain ddaliai'i gymeriad—ir swynion
A rhosynau cariad;
'E gaiff ef barchus goffhad
A ddeil enwog ddylanwad.

Un tyner oedd yn taenu'i rin
Yn wyrdd—der crai i wreidd—der crin,
Haelionus wr a'i lawn o serch
O anian fwyn fel tirion ferch;

A'i ysbryd hoff fel asbri teg
Mehefin llon a'i chwaon chweg,
A dewr i'w Dduw fu drwy ei ddydd,
A hylawn fawl i'w enw fydd.

Ymddaliodd drwy 'stormydd olaf—Angau,
Yn yr ingoedd chwerwaf,
Wrth gywir nerth geiriau Naf.


Yn wr glew yn merw'r glyn—danghosodd—
Do, addien brofodd nad oedd wan bryfyn.


A'i law'n llaw gynnes Iesu—eirian aeth
I'r nef i gartrefu;
A'i enaid oedd yn gwynnu
Hen fin y ddofn afon ddu.

O anfad ing, nofio i dangnefedd
I hoff—fawr Ganan a'i pher ogonedd,
A wnaeth i lonwiw a bythol hoenedd
A rhinfawr hwyliau yr anfarwoledd.

Os nychodd, heb wyn iechyd,
Dan boen cyn gadaw ein byd,
Yr ochr draw, uwch oer droion,
Mewn hynt llwys, 'roedd mwyniant llon

Nefoedd Ior yn rhagorach—i'w olwg,
Anwylodd hi'n burach;
A mwynhaodd mewn hoywach
Hoenedd rydd ei hawyr iach.

William anwyl! ymhoena—fwy yn awr
O fewn nef ddidraha;
O dan dwf dy enw da—'n goffhaol,
Ac a bri siriol enwog bersawra.


ER COF AM WILLIAM BOWEN, CEFN CAEAU, LLANELLI.

Greulawn Angau! Greulawn Angau,
Paham daethost gyda'th gledd
I drywanu ein calonnau
A thrwy'th waith lofruddio'n hedd?
O erch golled! Do, fe gipiaist
Ffwrdd yr anwyl, anwyl un;
Tran amddifad fe'n gadewaist
Mwy o gael ei gwmni cun.

Gwag yw'r aelwyd, gwag yw'r eglwys,
Pob man welaf sydd mor brudd
A thrwy'r bwlch wnaed drwy ei golli
Ffrydia dagrau ar bob grudd:
Ow! machludodd haul y teulu,
'Rhwn a'u llywiai'n gain eu gwedd;
Calon Natur sydd yn torri
Wrth weld William yn ei fedd.

Yn yr eglwys yn Maescanner,
O'i gymeriad drwy ei oes.
Tynodd ddarlun mewn ysblander
O'r hoff Un fu ar y groes;
'Roedd yn flaenor uwch pob geudeb,
Ail i'r angel praff o'r nef;
Afon fwyn o wir dduwioldeb
Lifai yn ei roddion ef.

Rhagfyr, 1894.


ER COF AM ELIZABETH ANN ISAAC, PENTRE.

Ow beth sydd? Elizabeth syw,—y fun
Hyfwynaf, ddiledryw,
A gwir addien, geir heddyw
Yn y bedd heb hoenau byw.

Ym Moriah mor hoyw—heb wg croes.
Bu'n byw Crist, a'i gloyw
Fuchedd llon sydd dirion dw'—drwy y wlad
Yn der eneiniad i'w heirian enw.

Aneisior ddynes, hoyw, arddunol,
Fu'n wers i'r annuw mewn bywyd duwiol;
Ei hysbryd addas a'i naws brydweddol
Oedd drwy'i holl ddyddiau'n llawn nwyfau nefol;
Yn iesin deil ei rhiniol—goffâd hi
I'n bro ddiwyrni yn bur—addurnol.

Nwyf hylon o nefoledd—yn uniawn
Goronodd ei buchedd;
Mae hi'n awr yn mwynhau hedd.
Gwiw geinion y gogonedd.

Ei berr oes drwy bob croesau—yn drylwyr
Dreuliodd mewn nef olau;
Dybenodd ei du boenau
O donn haf glyd y Nef glâu.

Er colli llwyr ferch ddillyn—a odiaeth;
Riaint! Peidiwch achwyn;
I oror glau, aeth drwy'r glyn
O alaeth, at aur delyn.


Ac yn y nef canu wna—eich Lizzie
Uwch loesion a thraha,
Ac mewn hedd na ddiwedda,—â hoen rhydd,
Y dihefelydd Geidwad a fola.
1893.


BEDDARGRAFF WILLIAM BOWEN, CEFNCAEAU.

Ow! yma huna ein William mwynwedd
I'w deulu glynai'n dad haela', glanwedd;
Gweithiwr dihalog, athraw duwioledd,
Oedd flaenor anwyl o ddiflin rinwedd;
A chywir barch er y bedd—ga'i hanes,
Erys yn eres drwy'r oesau'n irwedd.

Rhagfyr 21, 1894.



CADEIRIAD EURWEDD, LLANELLI,
yn Maescanner, Dafen, ar ei fuddugoliaeth yn Llanddewibrefi.

Miwsig heno'n Maescanner—ga Eurwedd
Dania gariad llawer;
O enau miliwn moler
Eurwedd y bardd yn gerdd bêr.

Llanddewi-brefi brofodd——hwn i fod
Yn fardd—pymtheg drechodd;
Yn awenwr esgynodd
I drothwy i fyd wrth ei fodd.

Yn wir i ddyn, Eurwedd yw—y gwron
Gerir fwyaf heddyw
Am ei waith; ond yn fy myw
Gwr cadair, nid gwraig ydyw.

Awst, 1897.


ENGLYNION
ddarllenwyd yng nghyfarfod anrhegu Mr. Evan Stephen Jones, Mr. Evan Price, a Mr. John Millward, am ddwyn aelodau newyddion i Gyfrinfa Iforaidd T. ab Dewi, Hydref 31, 1896

Hedd a mwyniant ddymunwn—i estyn
Tysteb i'r rhai barchwn;
Ar y lluniau" darllenwn—bêr iaith bri
Ein henwog gewri, a'r "Freinlen" garwn.

Ein Ifan a fynn hefyd—lun ei wraig
Lon a rhydd yn wynfyd
I'w fwth hardd. Nef gyfoeth ddyd
Hwn iddo, a dedwyddyd.

Dwg ein Milward ganmoliaeth—yr wyl oll
A pher lais Iforiaeth;
A hedd a hud atom ddaeth—i roi'n llon
Ei lun a'i swynion am lawn wasanaeth.

Ifan arall fwyn yrrir—i fyw nef
Ein Hurdd, a'i fawl godir
Yn siwr iawn am amser hir,
Yn swyn ei "freinlen" synnir.

Hydref 31, 1896.


MARWNAD I'R DDIWEDDAR FEISTRES SARAH JANE DAVIES, GREENFIELD HOTEL, YSTRAD.[2]

I.
MAE ein hardal yn bruddglwyfus
O dan gledd yr angau du,
Wedi colli meistres Davies,
Y foneddes hynaws, gu;
Ac wrth gofio iddi syrthio
Pan yng nghanol bri ei hoes,
O pa un all beidio wylo
O dan ergyd drom y loes?

O yr addfwyn wraig anwylaf
Pam, O pam gadawodd ni?
Drwy ei cholli yn hiraethus
Collwn hefyd ddagrau'n lli;
O ti greulawn, greulawn angau,
Ai nid gwall oedd hyn i ti?
Cwympaist hi yn ei man gorau,
Erchyll yw dy weithred ddu.

Chwith yw'r syniad, trwm yw'r newydd
Roddi hon mewn oeraidd fedd;
Wylo'r ydym yn anedwydd,
Llofruddiedig yw ein hedd;
Mwy ni cheir di-ail gymdeithas
Buddiol yr angyles bur,
Fel gwir Gristion 'roedd yn addas,
Ac O! 'i cholli a bair gur.


Cŵyn yr awel, a gruddfannau
Chwerw-dost ein hardal ni,
Eto dorrant dêr ddistawrwydd
Yr alarus fynwent ddu;
Ac fel dwys ysbrydoedd beunydd
Hwy dramwyant yn ei chol,
Ac yn deisyf arni roddi
Meistres Davies fâd yn ol.

Pe gallasai dagrau lwyddo
I gael un yn ol o'r bedd,
Meistres Davies fyddai honno,—
Y goeth wyryf gain ei gwedd;
Ond na chwynwn,—ymfoddlonwn
I ewyllys Teyrn y Ne';
Rhwymwn hefyd bob amheuaeth
Ni wna hwnnw fo o'i le.

Prudd-alaru mae'r awelon
Wrth gusanu'i bedd yn gun;
A phan dyrr y bore tirion
Wylo wna y bedd ei hun;
Arni'r heulwen sy'n pelydru
I fywiogi'r briddell oer,
A daw'r gwanwyn gyda'í dlysni
O edmygedd i'w choroni,
Ac O! hefyd i'w harianu
Gyrru'n deg ei gwawl wna'r lloer.

Teimlwn ninnau bur anrhydedd
Wrth gusanu beddrod hon,
Ac er chwerwed yw ein galar
Braidd na wnawn ni hynny'n llon;
O wir barch at Meistres Davies
Parchwn y dywarchen brudd,
Ac â'n dagrau fel teg berlau
Fei haddurnwn nos a dydd.


Chwith yw eglwys Nebo hebddi,
Wylo mae a'i bron yn brudd;
Ramah ydyw hi mewn cynni,
Ocheneidiau dwysion rydd;
Rahel ydyw wedi colli
Plentyn fagwyd ar ei bron;
Prudd-der sydd yn ei hamgylchu,
Ac ni fynna fod yn llon.

Ond wrth gofio, ei duwioldeb
Y mae modd i lawenhau;
A thrwy hynny, beichiau trymion
Galar sydd yn ysgafnhau;
O paham y collwn ddagrau
Myned gartref wnaeth uwch clwy';
Ac yng ngwlad yr aur delynau
I'r hoff Iesu rhydd folawdau
Yn ddiangol rhag saeth angau;
Ni sy'n nod i'w saethau mwy.

II.
Awn yn ol yng ngherbyd Hiraeth
I'w gweld hi pan yn ei chryd;
Gwawr wir ddenol o athrylith
Brydferth ddawnsiai yn ei phryd;
Yr oedd rhywbeth yn ei thremiad
A chwareuai delyn serch,
Rhywbeth oedd uwchlaw desgrifiad,
Droai'n fwyn y mwyaf erch.

Fel mae'r wawr yn deg hysbysydd
O gyfodiad hardd yr haul,
Ac fel rhag-fynegir 'stormydd
Drwy sobreiddiwch pur y dail,
Felly hefyd ydoedd hithau
Pan yn wyryf ieuanc, lon;

Ei hatebion doeth, a'i geiriau
A'i mawr awydd am gael llyfrau
Inni'n amlwg a broffwydai
Am ddyfodol disglair hon.


Pan ydoedd hi'n un ieuanc, fwyn, a glanbryd,
Dilynodd Iesu drwy y "beddrod dyfrilyd ";
Yr oedd yn ŵyl, ond eto'n ddewr fel milwr
Yn y cyd-gladdiad" gyda'r hardd Waredwr;
Fel Timotheus, ei phroffes dda i'r diwedd
A gadwodd heb lychwino ei hanrhydedd;
Hi gymdeithasai gymaint gyda'r dwyfol
Fel nad yw'n rhyfedd iddi fyw mor dduwiol.
Yr oedd duwioldeb fel afonig arian
Yn llifo drwy ei bywyd yn sancteiddlan;
Fel Moses, pan ddaeth lawr o fynydd Sinai
A'i wyneb yn disgleirio, ydoedd hithau
Yn ei sancteiddrwydd euraidd a dihalog;
Drwy'i hoes yr oedd yn gannaid ac yn heulog.


Ac yn Nebo am flynyddau
Chwareu yr harmonium fu,
Ac O! tysteb dlos yn anrheg
Gan yr eglwys gafodd hi;
Ond gan Iesu'n wobrwy harddach
Telyn aur gadd Sarah Jane,
Gyda pherlog goron bywyd,
Lle nad a hi byth yn hen."

Yno, hefyd, mewn addfwynder
A'i chymeriad drwy ei hoes,
Tynnodd ddarlun mewn dillynder
O'r hoff Wr fu ar y Groes;
'Roedd ei geiriau doethion, addien,
Yn dwyn delw plentyn Rhi;
Ac yn wyn drwy'r ddu Iorddonen
Yn ddiangol nofiodd hi.


A rhy fawr oedd Meistres Davies.
Fyth i fod o hunan-fryd;
Ond yn ddigon mawr i blygu
Yn weinyddes ar bob pryd;
Rhy bur hefyd i erch ragrith
I ddifwyno'i buchedd wiw,
Ac un lawn o wir athrylith,
Yr hon dreuliodd yng ngwaith Duw.


Mor fwyn ag oen yn prancio ar y bryn.
Y gweithiai hithau dros yr Ior mor wyn;.
Ac yn ei theulu, O mor ddidwyll bu,
Yn neddfau Duw ei phlant hyfforddai'n gu;
A'i geiriau a'i gweithredoedd yn ddi-goll
Yn ddelw hardd o burdeb iddynt oll.
Yr oedd yn llawn elfennau y wir fam,
Ac O mor dyner gwyliai'r plant rhag cam;
Hi roddai o gyfiawnder ac o gariad purwyn
Ryw gerydd llym a chyngor tyner i bob plentyn;
Ac O yn hyn yr ydoedd hi yn gwan gysgodi
O fel mae'r Duwdod mawr ei hunan yn gweithredu;
A mwyach ar ei hol, y gŵr, a'r plant sy'n wylo
Mewn alaeth dwfn tra'u cyeur wedi'i oer wenwyno;
Ac am flynyddau yn yr ysgol ddyddiol
Hi fu yn goeth athrawes dra defnyddiol,
Yn llawn o bob gwybodaeth, ac O! braidd yn ddiwall,
Yr hwn fel ffynnon roddai hi i arall,
Nid elai ei dysg hi yn llai drwy hynny,
O! na, wrth roi, 'roedd hithau yn cynhyddu;
Yr oedd yn ddigon mawr i ddysgu'r mwyaf,
Ac hefyd ddigon bach i ddysgu'r lleiaf;
A! amheu'r wyf, a fu erioed ei hafal
I wneud peth mawr yn fach, i blant yr ardal


Ei ddeall; â doethineb medrai agor
Aur ddrysau eu meddyliau i gael trysor;
Ac yno, rhaid hir aros yn bryderus
Cyn ceir athrawes ail i Meistres Davies.


Gan wir burdeb ei chymeriad
A addurnwyd yn ferth iawn,
Ym mhob rhinwedd o'i gweithrediad,
Fyth ni welwyd un mor llawn;
Yr oedd tlysni a'i holl egni
Wedi urddo'i chorff yn fâd,
Fel am ddangos drwyddo'n eglur
Harddwch pur y nefol wlad.

Gwynder perffaith a seraffaidd
Ar ei hwyneb wnai ei sedd;
Ar ei phen 'roedd coron eirian
O lywethog brydferth wedd;
A'i dwy lygad hardd belydrog
Ddawnsient yn llawn tlysni pur,
Fel dwy seren fwyn ariannaidd
Yn ffurfafen meddwl clir.

Ond i'w henaid hi yn addurn
Yr oedd tlyeni cannaid Duw,
Yr hwn ydoedd yn disgleirio'n
Ei sancteiddrwydd llachar, byw;
Dlysni pur! nid allai angau
Lwydo hwn yng ngwaelod bedd,
Tlysni didwyll, ac heb frychau
I anurddo'i ddwyfol wedd.

Benyw dyner, ddoeth, ystyriol,
Eto'n danllyd dros y gwir;
Hefyd drwy ei rhodiad duwiol
Addurn oedd i Gymru bur;

Ffyddlawn hefyd oedd ei geiriau
I'w gweithredoedd heb nacad;
Ac yr oedd ei chalon gartref
Pan yn rhoi cynghorion mad.

Tarian byw oedd i'r anghenus,
Gadwai angen rhagddo, draw;
Rhoddion fyrdd yn dangnefeddus,
Roddodd iddo yn ei law;
Llifai drwy y rhoddion hynny
Afon o dduwioldeb pur,
Ac ni allai'r llymaf dlodi
Roddi un rhy isel iddi
Beidio'i arddel a'i wir garu;
Balm oedd hi esmwythai gur.


III.
Os cystudd trwm gadd hon cyn myned trwy
Yr afon ddu, a gloesion heb nacâd;
Yr ochr draw, mwynhaodd wedyn fwy
Ar dêr ogoniant prydferth dy ei Thad;
Ac yno mwyach mae'n y teulu nefol
Yn neithor deg yr Oen mewn hoen anfarwol.

Ond, er mor hoff yw'r Nef i lygad Ffydd;
(I ni maddeued y nefolaidd lu),
Daw'r dagrau ar ol hyn, ac am hardd ddydd
Y dwyfol wawl, fe welwn nifwl du.
Yn brudd alargan aeth ein cân felusber,—
Ein mwyniant a'n llawenydd aeth yn chwerwder.

Mewn alaeth, 'rym yn wylo uwch ei bedd,
Nid am fod un amheuaeth ynnom ni
Nad ydyw hi yn awr mewn dedwydd hedd
Yn canu'n iach dan nodded mwyn ein Rhi;
Ac anfarwoldeb yno mae'n anadlu
Ar lan afonydd bywyd gyda'r Iesu.


Yr oedd yn llawn o anian goeth, gerddorol,
A'i llais eosaidd beunydd yn ddeniadol;
Ai nid am fod gwir angen am berores
I ganu "Iddo Ef" mewn Gwynfa gynnes,
Y rhoddodd Duw'n llaw angau yr awdurdod
I ddwyn yr uniawn Feistres Davies hynod.

Yn awr, mae hi'n ei helfen fwyn yn canu;
I'n cartref, cyn bo hir, awn ninnau ati;
Ac O pwy wyr, pan awn drwy'r ddu Iorddonen
Na ddaw i'n cwrdd yn llaw y Ceidwad addien?

Os o hiraeth dygwyd Sarah—o'n gwydd,
Os ei chun gorff bydra;
Yn fwyn dwyf ei henw da—'n goffaol,
Ac yn bur siriol a gair bersawra.
1894.


MARW-GOFFA Y DIWEDDAR WILLIAM REYNOLDS, TREORCI.

OERGYD parlysol, O siomiant tra rhyfedd
Oedd colli'r hoff Reynolds ddefnyddiol a mwynwedd.
Yn eglwys Bethania bu'n aelod dilychwin,
Mewn gwneuthur daioni fe weithiodd yn ddiflin;
Am ysbaid bu'n flaenor yn llawn o dduwioldeb,
I'w gyfaill a'i elyn fe roddodd foddineb.

O ddifrif, yn ddiwyd y Beibl fyfyriai,
A'i ddeddfau gyflawnodd mor bell ag a allai.
Bu'n athraw am flwyddi'n yr Ysgol Sabbothol,
A gwersi ei ddosbarth eglurai'n ystyriol;
Un gwir ostyngedig, a hoff o gynghori,
Ei galon oedd gartref wrth geisio llesoli.
Os gweithiwr tlawd ydoedd, yr oedd yn haelfrydig
A dewr amddiffynwr rhag gwneud cam â'r ysig;
Edmygid ei rodiad gan ieuanc a hen,
Rhyw wylaidd wawr nefol belydrai drwy'i wên;
Bob amser ein William gai fendith a blas
Wrth blygu yn aml ger bron gorsedd gras;
Pań glywai ei frodyr yn ymbil à Duw
O'i lygaid ai'r dagrau pereiddiaf eu rhyw,
Nid dagrau o alar, ond dagrau o bur
Lawenydd, wrth weled cydnabod y Gwir;
Nid byw iddo'i hunan a wnaeth William fad,
Ond byw a'i holl awydd er codi ei wlad
O dlodi ac angen i gyfoeth a bri.
Dirwestwr, ac Ifor am flwyddi a fu,
Gwir wron dyngarol a fu drwy ei oes,
A'i fuchedd yn dangos duwioldeb a moes;

Ac yn ei hoff deula mor ddiwall bu ef
Yn dysgu pob plentyn yn neddfau y nef.

O weddw anwylaf, er rhoddi i orwedd
Dy wr tyner-galon yng nghanol y culfedd;
A thi lodes iouanc, a thithau lanc hefyd,
Er rhoddi'ch tad duwiol i orwedd mewn gweryd,
Na wylwch heb obaith, cewch eto'i gyfarfod
A bod gyda'ch gilydd am oesoedd diddarfod;
O sychwch eich dagrau, mae'r Iesu yn wastad
Yn briod i'r weddw a thad i'r amddifad.

Medi 19, 1894.


ER COF AM JAMES MORGAN, MAERDY,
Yr hwn gyfarfu â'i ddiwedd wedi gorffen ei dydd gwaith drwy syrthio yn ol i'r pwll,
Hydref, 1896.

Er nerth—Duw—ei obaith Iesu,
Y cyfiawn a obeithia pan byddo yn marw.

Cwynai awel lem yr Hydref
A machludai Haul y Dydd;
Genau'r glowr yn sibrwd gartref
Tra o'i waith yn dod yn rhydd;
Gartre yr oedd bwrdd taenedig,
Trem i gyd oedd priod cu;
Eto, cwympo'r ffrynd caredig
Fynnodd Ior o'r ddamwain ddu.


DAVID ISAAC JONES.
Plentyn bychan John a Hannah Jones, Albert Street, Pentre (Rhondda), yr hwn a fu farw yn blentyn dwyflwydd oed. (1898).

I.
FEBYN hawddgar: cofio'r ydym
Am ei gwmni lawer pryd,—
Cwmni oedd mor felys gennym
Melys er mewn chwerw fyd;
Pan oedd bywyd drwyddo'n wenau
Cyn bod ystyr i un siom;
Dyna awr prysurdeb angau,—
Dyna awr y galon drom.

II.
Wedi taro un mor hawddgar,
Gwelais angau dros y drws
Fel pe byddai yn edifar
Iddo daro un mor dlws;
Ond er tynnu'n ol y cleddy'
Ni rodd hynny'r clwyf i'w le;
Ef a ddeuai fel o'r dwymyn,
Nid y dwymyn o hono fe.

III.
Blodyn dyfai'r Byd i'r Nefoedd
Welwn yn ei dlysni ef;
Ond mae gormod o dymhestloedd.
Yn y byd i flodau'r nef;
Ac mae'n gysur i'w rieni
Heddyw ngwlad y cystudd mawr
Fod y blodyn eto'n gwenu.
Mewn prydferthach tecach gwawr.

Llun, Mai 30, 1898.


DYDD FY NGWLAD.

I.
Y MAE dydd fy ngwlad yn gwawrio;
Cenfydd hithau'r "Seren fore;"
"Byd dan flodau'n ymddisgleirio,"
Ac mae haul fy ngwlad yn rhywle.

II.
Gwn fod trefniad ac amseriad
Gan y nef wrth roi ergydion;
A chlyw meinglust dyner cariad
Ergyd Duw yn guriad calon.

1899.


GWELAIST.

GWELAIST y Nefoedd y tro cynta erioed,
Yn llewyrch gwallgof fellt ar lwybrau hedd,
Y llwybrau welsant wedyn lasnen haf.
1899.



BYWYD.

MAE'N cysgu yn dawel dawel mewn tywodyn;
Mae'n gwenu'n llygad tad mewn blodau;
Mae'n dysgu ei ganig gyntaf mewn aderyn,
Mewn dyn mae gyda'i wersi a'i chwarau.
1899.



HUNAN-ABERTH.

GWN nad yw fy llafur
O fewn y byd ond llwybr croes i natur,
Ewyllys yn ymblygu i Hunan-aberth;
Heb wlith ei waed wêl neb flodeuyn yn brydferth;
Heb Hunan-aberth ofer ydyw bywyd,
Heb Iesu ofer ydyw popeth hefyd.
1899.


MORDWYO I'R NEF.

Mi gofiaf am wladfawr sydd ym mhell,
Ddaw yn ei ol i Gymru ddiwedd oes,
I Gymru unig wlad ei galon ef,—
I Gymru deifl ei chysgod ar bob ton,—
Deifl drwy ei feddwl heulwen ar bob storm,
Ac felly y mordwyaf finnau i'r Nef.

1899.


AFONYDD.

I.
Mi welais afon gref yn tarddu yn Eden
A chenedlaethau arni yn donnau;
O danynt gwelais dawel fedd y wybren,
Ac mewn anialwch bedd ga hithau.

II.
Mi welaf darddell afon fwy 'Nghalfaria,
Mae gwirioneddau'n donnau ynddi;
'Dyw oesau'r ddaear ond y ffrydiau fedda;
Mae gwybren tragwyddoldeb drosti.

III.
Ar ol i'r ffrydiau i gyd ymarllwys iddi,
Tynn Duw ei lun mewn "dyfroedd tawel;"
Ca'r greadigaeth gyfan nofio drosti
I for o Dduw ar fraich yr awel.

IV.
Cerdd pob gwirionedd lwybr yr uchelderau
Tra'i gysgod tlws yn Nyffryn Amser;
'Dyw llwybrau oes at Ddelfryd ond cysgodau,
Ac yntau hed o hyd i'r pellder.


V.
Mae dyn a Duw'n ffynhonell ysbrydoliaeth
Y llygad wêl wirionedd beunydd;
Dwyfoldeb llawn o'r dynol a dynoliaeth
Sy'n fyw o'r dwyfol gyda'i gilydd.

VI.
"Nid dyn ond Duw," medd athro oes: "un ydyw
Y Tad a'r Mab," medd Athro'r oesau;
"Ei fod yn ddyn wna Dduw yn Dduw," medd Heddyw;
Heb Ymgnawdoliad Duw amherffaith fyddai.

1899.
Y chwech olaf allan o MSS. Pantycelyn.—GOL.


UFFERN.
Rhaniadau —I. Anghydgord. II. Euogrwydd. III. Cosp.

MAE'R ddinas—creadigaeth dyn ger llaw,
Ac uwch ei phen gwr Duw gyhoedda wae;
Un arall ddwed a deigryn ar ei rudd
Rhinweddau unwaith oedd ei drygau hi.
******
Y mae y blodyn bach ar lethr y bryn
Nad allodd siarad wrth y byd erioed,
Yn canu cân fy Nuw i'm henaid mwy.
Duw'n canu yw Distawrwydd.
******
Pa beth yw Pechod? Blys. A blysiau'r corph
Yn troi'n wallgofrwydd yn yr enaid mwy
Yw Uffern.
******
Ni fu Distawrwydd yn bodoli erioed.
Nid yw'r Distawrwydd ddydd i'r byd yn fedd
Ond Duw yn canu yn ei iaith ei hun
Yn canu yn ei adgyfodiad mawr.

(Anorffenedig).


IV. CERDDI SAESNEG.

MY LOVE'S DESIRE.

A MAIDEN dear to be all a heart;
A heart that from myself will never part,—
A heart to move in deepest satisfaction
To be a throb of heaven in every action,
Through every tempest this in rainbows gleams
A heart to love in deeds and love in dreams.

July 28, 1898, at Caecoryn, Cefncaeau, Llanelli.


MY NOBLE ENGLAND.[3]

My noble England—ever free and great!
For thee the wrinkled face of Fate
Grows young as Dawn with nobler manliness
Than ever was thy dream.

My noble toiling England! Should thick gloom.
Thy glorious Past entomb,
Be calm! For know thy godlike nobleness.
Lives ever. Keep thy dream.

My noble, noble England! Doubt no more!
Mourn not! the sweet, strong Faith of yore
Grows cold in death, and all earth's loveliness
Seems but a hollow dream.


Know thou, my England, all the outworn creeds
Thy beacons were to nobler deeds;
The truth which leaves them all to death's loneliness
Moves upward in thy dream.

And know, though suns should fade and pass away
Like withered leaves some day,
God faileth not nor Truth, and Holiness
Lives ever. Keep thy dream.

My noble England,—ever free and great!
For thee the wrinkled face of Fate
Grows young as Dawn with nobler manliness
Than ever was thy dream.


AWAKE, WILD WALES.[4]

AWAKE, Wild Wales! See God unfold.
The light that never leads astray,
See superstitions melt away,
And visions dawn with truth untold.

Awake, Wild Wales! Be great, for now
The Great One calls. Thine Arthur see
Ever to vaster majesty
Pass on. Awake, and follow thou.


Briwfwyd Rhyddiaeth Ben Bowen.

MABON'S DAY.

REST differs from laziness. The only trueheir of rest is labour. The creation is but the great battle-field of Life's contest. "The fittest survive" is the motto of being. Although in the midst of the great struggle of life, we find after all that labour is but a storm—clad tide swelling with a mighty rush towards the beautiful haven of rest. Labour is Life on the march to rest, which when reached is but a boundless fountain of revival and new life. The daisy stares the scorching sun through the day, but forgets the world, and enfolds itself in a dream of heaven under the rest of night. And everywhere, we find that rest is the beauty of labour, as meditation is the cream of study, which is but the "dreaming awake" of labour in the shady repose of Rest. And as mental labour requires rest so does physical. We mean rest as it is implied in the contrast between. meditation and sleep. And Mabon's Day is the colliers rest; though since established it has made an expanding growth in many directions, carrying with it its privileges to other classes of men. We are very sorry though to admit that often it is not used to the best advantage. But after all it opens the door before the heroes of the death—haunted paths underground to the life—giving grandeur of thought. We are glad to see so many Eisteddfodau, &c., held on this day, which derive the highest benefit from it. It was established to keep down the crushing supply of coal. It is therefore a reviving power and throws throbbing life to the welfare of mankind.

THE QUALITIES OF A SUNDAY
SCHOOL TEACHER.

EVERY life is a reason for its existence and in no way can God be void of comprehensible qualifications of being a Creator, while man can enter through the avenues of the beauties of Nature into the constructures of the Eternal Mind. Man is but a miniature of God, and the facts of his life are but doors ajar letting loose a few glimpses of his Inner Self—the underlying Life.

Man is on the way towards the goal of Life when he is God's answer to the "why" of the world, when he is a reason for being. And this is the fundamental truth and principle that breaks forth into beauty in the qualities of a Sunday School teacher.

First of all we shall note Punctuality when attending and constancy in giving attendance. We readily acknowledge that "there is a tide in the affairs of men, which taken at the flood leads on to fortune"; but when doing so, cannot we hear an intruding voice murmuring:—"The spur of the moment will do then." True. But we hope nobody thinks it to be so if we are not ready at the moment to set sail freely with the "tide of affairs." The want of punctuality sets a gap between man and success. And in possessing this great necessity of life a Sunday School teacher would do great good to his pupils in showing the worth and beauty of it in his actions before them. He should be thorough in explaining the verses before the class, but his thoroughness should be a blend of beauty with simplicity, especially if his class be made up of youth. But the fundamental thing in him we believe must be that he is himself a professing Christian, making his life the meaning and glory of his profession. Lacking this though possessing the others, what is it but to possess a "beautiful bow and arrow" while being without a strong arm to rise it, nor a clear piercing eye to direct the path of the arrow.

As a young one myself I feel that these are the most important, but not all of the qualities that should help me to success and above all to help me in sight of the beautiful Christian motto—To Live for others."

LLYFR DU BEN BOWEN.

DIDDOROL i lowyr ieuanc fy ngwlad fydd gwybod sut y treuliai Ben Bowen ei oriau hamdden fel llanc o lowr. Tymor y deg a'r deuddeg awr oedd hi, ac nid wyth awr fel y mae heddyw. Nid oes angen i mi ymhelaethau arno yn y lofa gyda'i lyfr Rhifyddeg, ei Destament bach, a'i garreg farddol, nac ychwaith am y modd y treuliai ddydd Llun Mabon. Digon yw dweyd y cysegrai y dydd hwn ar ei hyd i ddarllen a chyfansoddi barddoniaeth, os na ddigwyddai fod rhyw gyfarfodydd arbennig yn y lle. Gallwn enwi pryddestau cyfain a gyfansoddodd ar ddydd Llun Mabon. Croesawai doriad gwawr y dydd hwn bob mis.

Wele ei farn am y Dydd. Ysgrifennodd yn Saesneg yn y cyfnod hwn er mwyn ymarfer â'r Saesneg.

Y mae o'm blaen "lyfr nodiadau" am y cyfnod hwn. Hefyd, cloriau du sydd iddo, ond wynned yw'r adgofion a ddeffry ei gynnwys ynnof. Nodir yma y llyfrau a ddarllenai pan yn lowr bach, a cheir cipdrem ar ei ymdrech i ddod o hyd i baham a pha fodd pethau. Soniodd lawer am allor goch "Paham"—

Gwn am hafan lonydd
Credo tad a mam,
Gwn am forio i stormydd
Yr ofnadwy B'am.

"Gwn am boenus ameu
Sugna i ffwrdd fy ngwaed;
Colli weithiau'r goleu,
Weithiau lwybrau'm traed."


Hapus meddwl iddo ddod i wybod am doriad dydd Datguddiad hefyd—

"Ond mi wn am oleu
Llygad cariad ffydd,
Ddawnsia ar y bannau
Sy'n cofleidio'r dydd."


Beth ddarllennodd Ben Bowen pan yn lowr? Daeth cais neu ddau ataf ar i mi enwi y llyfrau a ddarllennodd yng ngwahanol gyfnodau ei fywyd. Hwyrach y gellid gwneud hyn am mai y peth cyntaf a wnelai a llyfr newydd oedd dodi ei enw arno a'r dydd y'i prynodd. Mynnai lyfr newydd bob Sadwrn tâl. Casglasai lyfrgell go dda pan yn lowr. Ond yr wyf yn crwydro oddiwrth lyfr du'r nodiadau. Ar y tudalen cyntaf ceir ei enw"B. Bowen, 160, High Street, Treorchy, Cwm Rhondda, Pontpridd, yw iawn berchenog y llyfr hwn," a'r dyddiad "Ionawr 5, 1893." Yna "Hanesion Ysgrythyrol," &c., gyda'r arwyddnod o lun llaw, yr hon a ddengys fod ganddo ef law gelfydd. Yna ceir enw a chyfeiriad cefnder iddo—"B. Rees, 3, Off Street, Vancouver, B.C., Canada." Yr oedd yn hoff o'r cefnder hwn, er nad oes air o'i hanes wedi cyrraedd Cymru ers blynyddoedd.

Ysgrif ar Jacob yw'r gyntaf sydd yn y llyfr, a cheir nodiad iddo ei darllen nos Fercher, Chwefror 15fed, 1893. Dilynir hon gan ysgrif ar Abraham—ei hanes a'i gymeriad. Yna cawn ysgrif ar Wyrthiau Crist sydd yn dangos manylder mawr. Ar ol hon cawn bregeth ar Hebreaid xi. 3 (rhan). Cynnwys hon, er ei bod yn fachgenaidd iawn lawer o bethau diddorol. Dilynir hi gan fraslun pregeth arall ar y testun "Pa faint gwell yw dyn na dafad?" Dengys hon gynnydd amlwg.

Wrth fynd rhagom ceir nodiadau ar rai o'r llyfrau diwinyddol a ddarllennodd. Y mae rhai o'i nodiadau yn Gymraeg a'r lleill yn Saesneg. Ai dyfyniadau ydynt neu nodiadau o'i eiddo ef ei hun, nis gallaf ddweyd gyda sicrwydd. Cymerer un Saesneg, er engraifft,—"One of the purest impulses a young man can have in life is the desire to give his parents reason to be proud of him." Tybed nad eill pobl ieuainc Cymru heddyw gael ysbrydiaeth o'r arwyddair hwn.

RHAI O'R LLYFRAU DDARLLENNODD BEN BOWEN PAN YN LOWR.

Y LLYFR diwinyddol cyntaf a nodir yn y llyfr du yw "Studies in Theology (Denny). Ysgrifennodd ei nodiadau arno yn Gymraeg gan mwyaf, a gwelir iddo ei ddarllen yn fanwl. Yn nesaf daw "Self Culture" (Rev. W. Unsworth). Ysgrifennodd ar hwn amryw dudalennau o nodiadau Saesneg. Cymerer un frawddeg ar antur—"Many doubts are born of impurity. Breathe on a glass and you cannot see through it."

Yna daw "The Theology of the Old Testament" gan W. H. Bennet, M.A. Ysgrifennodd yn helaeth ar hwn eto yn y Saesneg.

Dau lyfr Cymraeg ddaw nesaf, sef "Yr Iawn" a "Chysondeb y Ffydd," gan Dr. Edwards, y Bala. Mae'r nodiadau ar y rhai hyn yn Gymraeg, ac yn dangos cryn feistrolaeth ar lyfrau anodd.

Yn nesaf daw'r "Natural Law in the Spiritual World" (Drummond), a nodiadau Saesneg helaeth arno. Llyfr y cofiaf ef yn ei ganmol yn fawr yw, "Is God Knowable," gan J. Iverach, M.A.; bu darllen hwn yn gadarnhad i'w feddwl. "Helps to the Ministry" (Rouse, M.A., India), sydd yn dilyn. Y mae'r nodiadau yn Gymraeg. Daeth y llyfr hwn i'w law drwy y Parch. T. E. Waters, Mount Elim, Pontardawe, oedd yn ddyn ieuanc yn y Rhondda ar y pryd.

Yna daw "Athroniaeth Trefn Iachawdwriaeth," gyda nodiadau manwl yn Gymraeg. A'r llyfr olaf a nodwn yn awr yw "The Mind of the Master" (Ian Maclaren). Ceir ar hwn eto nodiadau manwl yn Saesneg yn dangos craffder mawr.

Dyna i ti, ddarllenydd ieuanc, enwau ychydig o ysgrifau cyntaf Ben Bowen ac enwau rhai o'r llyfrau diwinyddol a ddarllennodd ac a fyfyriodd yn fanwl pan yn grwt ieuanc, ac yn gweithio yn galed fel glowr ar y pryd.

Ysgrifennodd unwaith ar lyfr o'm heiddo ddihareb Saesneg mewn llawysgrif fras "Spare moments are the gold dust of time." A hynny oeddent iddo ef mewn gwirionedd. Unwaith y cydiai Ben Bowen mewn llyfr, nis gollyngai ef hyd nes y byddai wedi ei feistroli ac argraffu ei gynnwys ar ei gof.

Hoffai lyfr y byddai ymylon y dail heb eu torri, fel y gallai gael trem ar ei gynnwys wrth eu torri un ac un. Darllenai lawer yn y cyfnod hwn. Ymataliaf rhag enwi'r llyfrau barddoniaeth a ddarllennodd. Ni ymhelaethaf ychwaith ar yr awydd llosgedig oedd ynddo am bregethu. Dyna beth o gynnwys y "llyfr du."

Ai nid yw yn dangos yn eglur y llwybr gwyn i bobl ieuainc Cymru?




CAERNARFON
Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig. Cyf.,
Swyddfa "Cymru."

Nodiadau

[golygu]
  1. Awdl gyntaf Ben Bowen. Ysgrifennodd hi yn 1894, yn un ar bymtheg oed.
  2. Cystadleuol yn Eisteddfod Nebo, Ystrad, Ionawr laf, 1895.
  3. Ymddangosodd y gân hon yn y Diamond Fields Advertiser, Kimberley, Chwef. 25, 1902, o dan y penawd "Calm." Mr. L. M. Jones (Tal o Fon) ddaeth o hyd iddi, a derbynied fy niolch yn gynnes.—MYFYR HEFIN.
  4. Dau bennill o'r gân gyfansoddodd yn Kimberley—sydd hyd yn hyn ar goll, er chwilio ac ymholi llawer.—MYFYR HEFIN.

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.