Neidio i'r cynnwys

Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Aberystwyth

Oddi ar Wicidestun
Rhiniau'r Offrwm Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill

gan William J Richards

Wedi'r Storm

ABERYSTWYTH.

Yм miri'r dref a'r cynnwr,
'Does yno nemor swyn,
Mae'n well i enaid prydydd
Na gwymon, rug a brwyn;
Nid swynol glŷch y Cantre,
'A'r lawer nos ddistŵr,"
Chwaith ddenodd fy serchiadau
Wrth "ganu tan y dŵr."

Ar lwydion furiau'r castell
Mae cen canrifoedd hir,
Yn siffrwd cyfrinachau
'R gorffennol eto'n glir;
Mi wn y gallwn aros
Hyd angau ar y tŵr,
Heb fy hudoli ganddynt
"Na'r clychau tan y dŵr."

Nid cusan olaf Ystwyth
Ar fin y cefnfor maith,
Na thraddodiadau'r glannau
A aeth â 'nghalon chwaith;
'Rol gweld y ferch â'm carodd
Ar lawer nos ddistŵr,"
Ni chofiwn furiau'r castell
Na'r "clychau tan y dŵr."

1928.


Nodiadau

[golygu]