Neidio i'r cynnwys

Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Ar Garbed o Bali

Oddi ar Wicidestun
Y Pris Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill

gan William J Richards

Eifion Wyn

AR GARBED O BALI.

AR garbed o bali
Tan gysgod yr hwyr,
Gofynnais gan Sali
Ei chalon yn llwyr;
Er gwrido ei hwyneb
A throi ei phen draw,
Mi deimlais yr ateb
Yng ngwasgiad ei llaw.

'Roedd dwsmel awelon
Ym mrigau y coed,
A minnau a nghalon
Mor glaf ag erioed;
Daeth cri y gwylanod
Mal hiraeth o'r traeth
Ac euthum tan orfod
I'r eneth yn gaeth.

Cydgordiai fy nghalon
A chalon y ferch
Cusenais hi droeon,
Un rhyfedd yw serch;
A'i grudd fel y porffor
Yn swil meddai hi,
"O heno hyd elor
Dy eiddo wyf i."


Hebryngais y lanwedd
Hyd lwybyr y ddol,
A theimlwn yn rhyfedd
Wrth gerdded yn ol;
Ennillais fy Sali
A'i chalon yn llwyr,
Ar garbed o bali
Tan gysgod yr hwyr.

1928.


Nodiadau

[golygu]