Neidio i'r cynnwys

Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Ar y Gornel

Oddi ar Wicidestun
Ar y Trothwy Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill

gan William J Richards

Hydre

AR Y GORNEL.

AR lawer cyfnos dawel
Hawdd cofio'r fintai iach,
Yn oedi ar y gornel
Cyn i gysgodion rhyfel
A thrystfawr sŵn y fagnel
Ddihuno'r pentre bach.

Fan hon daeth Deio'r Hafod
I gwrdd â'r Forfudd dlos,
Vr oriau difyr hynod
Giliasant megis cysgod
Gwn nad oedd le i drallod,
'Mhlith arwyr gwaun a rhos.

Mae bellach golofn yno
Ar ol yr heldrin hell,
Bob nos daw un i wylo
A darllen enw Deio
Sydd yn di-freuddwyd huno
Yn Saloneica bell.

1928.


Nodiadau

[golygu]