Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Colli'r ffordd
Gwedd
| ← Yn yr Hwyr | Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill gan William J Richards |
Yr Ynys → |
COLLI'R FFORDD.
'ROEDD ei thad yn ŵr gweddol barchus,
A'i mam am wn i'n ddifai;
Fe'i magwyd mewn gobaith pryderus
Dynered a blodyn Mai.
Gadawodd ei chartre yng Nghymru
Am ferw y ddinas fawr;
A hwythau'r hen gwpwl yn mynnu
Ei chofio 'mhob gweddi'n awr.
Ymlusgodd blynyddoedd o bryder
Trwy'r bwthyn yn hedd y wlad;
A gofid yn ol ei hen arfer
Wargrymodd y fam a'r tad.
Hwy wyddent fod Duw yn y nefoedd
Yn gwrando holl gri Ei blant;
Ond beth wyddent hwy am y 'strydoedd
Mae'r diafol yn porthi chwant.
Fe'i gwelais yn hafddydd ugeinmlwydd
A barrug nos yn ei gwedd,
Canfyddais fod cysgod ei haflwydd
Yn dduach na nos y bedd.
Bu farw yn fun waradwyddus,
Cyn mynd o'r ymbil ar drai;
'Rol cychwyn o'r aelwyd gysurus
Dynered â blodyn Mai.
1928.