Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Cymdeithion
Gwedd
| ← Hyd yma | Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill gan William J Richards |
Tan y Lloer → |
CYMDEITHION.
RHUA'r corwynt yn y goedwig,
Cura'r cenllysg ar y tô;
Tra mae'r crinddail gwasgaredig
Yn amddifaid llwm ar ffo.
Teithia crwydryn llesg ei gamau
Yn erchylltra'r storom gref;
A goleua'r fellten ofnau
Ei ddiarffordd lwybrau Ef.
Gwn ei fod yn wrthodedig,
Heb gydymaith ar ei hynt,
Ond y crinddail gwasgaredig
A erlidir gan y gwynt.
1927.