Neidio i'r cynnwys

Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Dafydd Ifans

Oddi ar Wicidestun
Hydre Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill

gan William J Richards

Yr Hen Dorrwr Beddau

DAFYDD IFANS.

WYF bellach wedi colli'r henwr mwyn,
A'r Cristion aeddfed (pwy amheua hyn?)
Tra gwypwyf yn fy ngalon fod y glyn
A'i fwrllwch oer cydrhyngom-ofer cŵyn;
Ond ucheneidiaf o eigionnau cur
O golli braffed enaid âg efô,
Tra erys yn anniflan yn y cô,
Berarogl esmwyth ei gymeriad pur.

Gwn iddo aru cwys i dalar oes
Heb wyro nemor (fel gwna ambell un),
A chau'i amrannau yn ei olaf hun
A'i bwys yn drwm ar fynwes Gŵr y Groes;
Onested ydoedd gwn yr hoffai'r nef
Weld cwysau lawer fel yr eiddo ef.

1928.


Nodiadau

[golygu]