Neidio i'r cynnwys

Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Dau Angerdd

Oddi ar Wicidestun
Y Twyllwr Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill

gan William J Richards

Roli

DAU ANGERDD.

GWASG yn dynnach, dynnach Gwenno,
Gwrando nghariad ar fy nghwyn,
Teimla'r galon bura'n curo
Mewn hualau er dy fwyn;
Mae eigionnau yn dygyfor
Yn ei gwannaf guriad hi,
Wnei di heno daflu angor
Dy ffyddlondeb ar ei lli?

Tonnai'r gwaed i'w deurudd burlan,
A chyfrolau ym mhob ton,
Minnau'n darllen yn ei chusan
Ddyfned gofwy enaid hon;
Nid wy'n cofio a ddigwyddodd
Wedi hynny'r nef a'i gŵyr,
Ond eigionnau blin dawelodd
'Rol im ennill honno'n llwyr.

Tynnu mae'r hen gwpwl diddan,
Tua'r talar erbyn hyn,
Gwasgu llaw ac ambell gusan
Ar y siwrne tua'r glyn;
Gwasg yn dynnach, dynnach Gwenno,
Mae'r gorwelion yn neshau,
Hwylia'r bad i'r hafan heno,
Cawn y nefoedd eto'n dau.


Nodiadau

[golygu]