Neidio i'r cynnwys

Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Eifion Wyn

Oddi ar Wicidestun
Ar Garbed o Bali Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill

gan William J Richards

Y Gwahodd

EIFION WYN.

GWYDDOM bellach faint yr alaeth
Pan y ciliodd yn y glyn,
Ond ein cysur yn ein hiraeth
Ni bu farw Eifion Wyn.

Syrthiodd gwerin dlawd i wylo
Aeth calonnau gwlad yn llyn,
Ond daw adlais i'n cysuro,
"Mynd i'r nef wnaeth Eifion Wyn."

Beth os yw ei Fenna'n unig
Ac yn methu deall hyn?
Iesu tirion a charedig,
Cofia briod Eifion Wyn.

Pan ddaw stormydd hydre'i chwythu
Yn henafol dderw'r glyn;
Cofia'n dyner y pryd hynny
Am Beredur Eifion Wyn.

Wrth y bedd ym mynwent Chwilog
Mae yr awen heddiw'n syn;
Ac o'r "ywen ddu ganghennog"
Hola serch am Eifion Wyn.

Llawer beddrod dinod harddwyd
Gyda marmor drud cyn hyn;
Codi colofn yn ei fywyd
Gredaf i wnaeth Eifion Wyn.


Ffug a rhodres ewch oddiwrtho,
Gwylaidd ydoedd, ac nis mynn;
Tra bo'r iaith ar dafod Cymro
Perchir enw Eifion Wyn.

Cerdda Cymru'n ddistaw heibio
Mynor costus feddau'r glyn;
Ond rhaid oedi'n hir i wylo
Uwch gorffwysfan Eifion Wyn.

"Yn yr Allt ar lannau Dwyfor,"
Crwydra rhywun heddiw'n syn;
Tra mae'i chalon yn dygyfor
Wedi colli Eifion Wyn.

1926.


Nodiadau

[golygu]