Neidio i'r cynnwys

Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Er Cof

Oddi ar Wicidestun
Chwith Atgo Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill

gan William J Richards

ER COF
Am y ddiweddar Mrs. Catherine Evans, gynt o'r "Mynachdy," Aberhosan.

I FYNWENT Aberhosan trof yn awr,
Er distyll deigryn parch ar lawer bedd;
Lle'r huna rhywrai mewn difreuddwyd hedd
Nes delo'r alwad i'r Gymanfa Fawr.

Mae'r galon bron llesteirio tan ei chlwy,
Wrth gofio'u rhoddi yn y graean llaith;
Tra mynn daioni dyfu yn y graith,
Nes hulio'r llwybrau a gerddasant hwy.

Wrth hundy Catrin Ifans, oedi'n syn,
Er dwyn i gof rinweddau'i bywyd hi;
Nes teimlo ei bod heddiw'n fwy ei bri
A gwawl ei heinioes faith yn brydferth wyn.

Meithrinodd er yn ifanc barch i Dduw,
A'i ordinhadau cysegredig Ef;
Prif nôd ei chalon ydoedd ennill Nef
Ar ben y daith, a hynny trwy ei byw.

Ba ryfedd hynny, wedi cofio'r trâs
Y deilliodd hi ohono'n 'more'i byd;
A chadwodd hon y traddodiadau'i gyd
Heb lithro unwaith i rigolau bâs.

Bu drws ei chartre beunydd led y pen,
Er estyn croeso brwd i'r Ysgol Sul;
Pan ydoedd rhagfarn a'i damcaniaeth gul
Yn poeri ar broffwydi wawdlyd sen.


Dewisodd gymar o'r un anian bur,
I ymladd brwydrau ac ystormydd certh,
Tra gwyddent ym mhob gofwy brofi nerth
Oedd anwel yn eu cynnal ym mhob cur.

I'r oedfa fore Saboth cerddai'r ddau,
A'r daith ddiarffordd ni chyfrifent hwy ;
Nid ydoedd rwystrau, bron na thorrent trwy
Mor dynn eu gafael fel nad oedd ryddhau.

Cynyddai'r teulu ar yr aelwyd glyd,
Cynyddai hefyd bryder tad a mam;
Rhag i'w hanwyliaid orfod goddef cam,
Wynebu'n eofn raid heb ofni'r byd.

Ond er y gofal a'r pryderu dwys,
A phopeth ychwanegwyd yn eu plith;
Rhaid oedd wrth grefydd iawn, nid digon rhith
I ddau o'u rhuddin hwy i roi eu pwys.

Meithrinwyd plant yn sŵn y gân a'r mawl,
A'r weddi hwyrol wedi gwaith y dydd ;
I'r aelwyd honno y teyrnasa ffydd
Nid oes i'r gelyn ei herfeiddiol hawl.

Ond mewn sydynrwydd collodd briod cu,
A thad gofalus i rai bach di-gefn ;
Tra llwyr fodlonodd Catrin yn y drefn
A gwelodd ddwyrain yn y cwmwl du.


Gwnaeth hon ei rhan a phwysodd ar y Gŵr
Yr ymddiriedodd ynddo fore oes;
Er profi llawer adwyth blin a chroes,
Bu Duw y teulu iddi'n gadarn Dŵr.

Hi welodd fagu'r plant heb eisiau dim,
A'u gwylio yn sefydlu yn y byd;
A'r grefydd honno fu'n y llinach cyd
A erys ynddynt hwythau'n fawr eu grym.



Mor hawdd noswylio wedi llafur blin,
A mynd o'r holl hualau'n berffaith rydd,
Cymhelri'r anial yn flasusfwyd sydd,
A'r holl drallodau cudd yn felys win.

Boed iti hedd yn dy anoddun gell,
Ym mro dy faboed gyda chyfoed gynt;
Tra yn yr Ywen clywaf sŵn y gwynt
Yn dadleu iti hawl mewn hafan well.

1927.



DOLGELLAU:
Argraffwyd gan Hughes Bros., Swyddfa'r
DYSGEDYDD

Nodiadau

[golygu]