Neidio i'r cynnwys

Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Fin Hwyr

← Y Nwyd Anorthrech Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill

gan William J Richards

Y Stori →

FIN HWYR.

TRA syllai'r wenlloer dawel
I lygad glas y llyn.
Tra siffrwd tyner awel
Gyfrinach yn yr yun,
Mor agos ydyw'r anwel
Ar gyfnos braf fel hyn.

Cyfeiriais innau'n araf
At hendre nhad a mam,
Gwych gartre'r breuddwyd cyntaf
Bryd na choleddwn gam,
Er tloted yw fe'i caraf
A'r nefoedd wyr paham

Lle bu y garreg aelwyd,
Penliniais gyda'r nos,
Daeth gwynfa bore bywyd
Yn ôl i'r Eden dlos,
Ac engyl gwyn fy mreuddwyd
Hofrannai uwch y rhos.

Tan ledrith hwyrddydd tawel
A swyn y llannerch fud,
Canfyddais dyner angel
Yn gwylio mabol dud,
A theimlais hud yr anwel
Yn hendre'r breuddwyd drud.

1928.


Nodiadau

[golygu]