Neidio i'r cynnwys

Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Gwynt Mawr Hydre' 1927

Oddi ar Wicidestun
Y Gweddill Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill

gan William J Richards

Y Fodrwy

GWYNT MAWR HYDRE 1927.

Bu rhywun yn tramwy neithiwr,
Rhuai mewn rhwysg yn y cwm;
Welwyd erioed mor dymchwelwr
Ond 'roedd ei ymdaith yn drwm.

Hyrddiai y ddor megis gwallco,
Tynnai y llechi o'r tô;
Crwydryn digartre mohono
Ond teyrn yn meddiannu bro

Fe gofir ei fwyell hyllig
Ar dafod ardal yn hir
Cwympodd frenhinbren y goedwig
Heb ofyn i'r Meistir Tir.

1927.


Nodiadau

[golygu]