Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Hwyrddydd Haf
Gwedd
| ← Yn yr Ysgol | Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill gan William J Richards |
Popeth Tlws → |
HWYRDDYDD HAF.
TROS ysgwydd bell y bryn anturia'r nos,
A thynn ei llenni tros ffenestri'r dydd,
Y fwyalch wedi odli alaw dlos
Yng nghyngerdd anian yn noswylio sydd.
Afrifed flodau a'u hamrannau 'nghau,
I huno'n esmwyth heb un arswyd blin,
Lledrithia angel i'r heddychol bau,
Ireiddia'r oll â'r gwlith tynera'i rin.
Mor fud yw popeth, nid oes mwyach dant
Na siffrwd awel yn y deilios chwaith,
Nid oes a glywir onid su y nant,
Ymdroella'n ddiog dros y graian llaith,
Tan lenni'r gwyll ddwyfoled yw yr hud
A Duw yn ymdaith yn y cread mud.
1927.