Neidio i'r cynnwys

Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Hydre

← Ar y Gornel Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill

gan William J Richards

Dafydd Ifans →

HYDRE.

DAETH arlliw hydre weithion
Tros harddwch pur yr hâf
Ceir oriau tywyll hirion
Lle bu'r cyfnosau braf;
Bu machlud drud Mehefin
Yn euro'r llwybrau hyn,
Tra heddiw chwyth y ddrycin
Y crinddail lle y mynn.

Mae'r nyth o tan y bondo
Yn wâg 'rol colli'r gainc,
A'r plant feithrinwyd yno
Aeth i ddeheubarth Ffrainc;
Tra'r gwcw swynai 'nghalon
Cyn hynny aeth i ffwrdd,
Rho wybod hydre creulon
A gawn ni eto gwrdd?

Cei bellach daenu'r barrug
I edwi'r glân a'r tlws,
A dod bob bore'n sarrug
A d'oerwynt at fy nrws;
Os ydwyt lofrudd gwancus,
Mi wn na elli di
Byth ladd yr atgo melys
Sydd yn fy nghalon i.

1928.


Nodiadau

[golygu]