Neidio i'r cynnwys

Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Mewn Album

Oddi ar Wicidestun
Yr Ynys Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill

gan William J Richards

Y Postmon

MEWN ALBUM.

Dim ond rhosyn
Gwyn melyn
Ar y grwn;
Haul a chawod
Heb yn wybod
Baentiodd hwn.

Cân aderyn
Ar y brigyn,
Gyda'r wawr,
Yn y bore,
Ddaeth â gore
Duw i lawr.

Dim ond canu,
Dim ond gwenu
Ym mhob man;
A daw gwleddoedd
Gore nefoedd
Duw i'n rhan.

1928.


Nodiadau

[golygu]