Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Murmuron Atgo
| ← Y Stori | Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill gan William J Richards |
Rhiniau'r Offrwm → |
MURMURON ATGO.
Fy nhelyn hoff cyweiria eto'r tant
A distyll odlau fel y tyner wlith
Ireiddiai bob dechreunos flodeu'r ffrith,
Gerllaw y bwthyn bach ar fin y nant.
Anadla eilwaith yn y frodir bell
Ddihewyd hyfryd dy ifengaidd hoen,
Cyn gwybod profi o hualau poen
Ond sugno heiniog rawn dyfodol gwell.
Ceir amhrisiadwy werth mewn adwyth blin,
Tra byw o fewn ei fagwyr a'm tristâ,
Er profi mewn anobaith ambell chwa
Dry holl gymhelri'r cefnfor imi'n win.
Miraglau Duw sydd eto yn y wlad
Y siglwyd finnau gynt yn swn y mawl,
I gaddug fy anobaith rhithia gwawl
Y nef a brofais pan yn aer y stad.
I mi y tyfai'r blodau fyny'r cwm,
A grug y bannau yn eu porffor tlws;
Y fi oedd piau'r gornant basiai'r drws,
A chân uchedydd uwch y marian llwm.
Y fi oedd piau'r nythod yn y brwyn,
A'r gruglys aeddfed grynai wrth fy nhroed
Prydferthion drutaf daeár i mi roed,
Brefiadau defaid a dawnsfeydd yr ŵyn.
Ond rywsut cilio a'r fuannaf hawd
O ŵydd drycinoedd cethrin wnaethant oll;
A minnau wylaf am y "Wynfa Goll,"
O gyfoeth ienctid wedi mynd yn dlawd.
Er mynych grwydro geirwon lwybrau'r Groes
A chilio'r cyfan tros anychwel ffin,
Rhywelais obaith ym mhangfeydd y drin
Yn dadleu imi hawliau'r nef a ffoes.
O chollais lawer, mi ennillais fwy,
Eglurir hynny pan esbonia Duw,
Holl droeon garw'r byd wyf ynddo'n byw
Hyd hynny sugnaf win o'u hatgo hwy.