Neidio i'r cynnwys

Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Rhoswen

Oddi ar Wicidestun
Yr Hen Dorrwr Beddau Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill

gan William J Richards

Chwith Atgo

"RHOSWEN."
(Ysgrifenwyd yn ei Halbum).

GENETHIG dyner, lednais fwyn,
Yn deilwng ferch yr awen,
Un a'i gwyleidd-dra yn eich dwyn.
I'w charu ydyw Rhoswen.

Geill hon yn fedrus lunio cân
(Mae hynny yn ei helfen),
Ond wedi'r oll cymeriad glân
Yw coron bywyd Rhoswen.

Boed llwybrau'r daith yn llawn o fflur
A'i hoes i gyd yn heulwen,
Mae'r nefoedd yn edmygu'r pur
Nodwedda fywyd Rhoswen.

Neu os daw'r groes a'r cwmwl du
I guddio glesni'r wybren,
Mi wn bydd engyl Duw yn llu.
Wrth law i gymorth Rhoswen.

1928.


Nodiadau

[golygu]